Neidio i'r prif gynnwy

1. Crynodeb

Newidiadau i’r Taliadau Cymorth mewn Argyfwng

O 1 Ebrill 2023 ymlaen bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael 3 taliad mewn cyfnod treigl o 12 mis. (Mae hyn yn cynnwys yr holl taliadau EAP a dderbyniwyd yn flaenorol o fewn y 12 mis diwethaf).

Bydd y 3 taliad hwn yn uwch o ran gwerth gyda chynnydd chwyddiant o 11% ar bob dyfarniad o’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng. Bydd y bwlch o 28 diwrnod rhwng dyddiadau ymgeisio yn gostwng i 7 diwrnod i bob ymgeisydd.

Bwriad y newidiadau hyn yw caniatáu defnydd olynol o’r gronfa dros gyfnod byr pan fo argyfwng. 

  • Bydd unrhyw gartref sydd â 1 person yn derbyn taliad o £56 trwy PAYPOINT.
  • Bydd unrhyw gartref sydd â 2 berson yn derbyn taliad o £67 trwy PAYPOINT.
  • Bydd unrhyw gartref sydd â 3 neu fwy o bobl yn derbyn taliad o £111 drwy BACS.

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng os ydych:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Ni allwch ei ddefnyddio i dalu biliau parhaus nad ydych yn gallu fforddio eu talu.

Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)

Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw'n annibynnol yn ei gartref neu eiddo yr ydych chi neu'r unigolyn yn symud iddo.

Beth y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Gellir defnyddio’r grant hwn i gael:

  • oergell, popty neu beiriant golchi a 'nwyddau gwyn' eraill
  • dodrefn i'r cartref megis gwelyau, soffas a chadeiriau