Neidio i'r prif gynnwy

3. Wneud cais

Newidiadau i’r Taliadau Cymorth mewn Argyfwng

O 1 Ebrill 2023 ymlaen bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael 3 taliad mewn cyfnod treigl o 12 mis. (Mae hyn yn cynnwys yr holl taliadau EAP a dderbyniwyd yn flaenorol o fewn y 12 mis diwethaf).

Bydd y 3 taliad hwn yn uwch o ran gwerth gyda chynnydd chwyddiant o 11% ar bob dyfarniad o’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng. Bydd y bwlch o 28 diwrnod rhwng dyddiadau ymgeisio yn gostwng i 7 diwrnod i bob ymgeisydd.

Bwriad y newidiadau hyn yw caniatáu defnydd olynol o’r gronfa dros gyfnod byr pan fo argyfwng. 

  • Bydd unrhyw gartref sydd â 1 person yn derbyn taliad o £56 trwy PAYPOINT.
  • Bydd unrhyw gartref sydd â 2 berson yn derbyn taliad o £67 trwy PAYPOINT.
  • Bydd unrhyw gartref sydd â 3 neu fwy o bobl yn derbyn taliad o £111 drwy BACS.

Defnyddiwch y gwasanaeth yma i:

  • wneud cais am Daliad Cymorth mewn Argyfwng
  • wneud cais am Daliad Cymorth i Unigolion
  • wneud cais ar ran rhywun arall (partneriaid cofrestredig yn unig)

Cyn i chi ddechrau

Ni allwch chi wneud cais am grant os ydych:

  • eisoes wedi cael grant yn y 7 diwrnod diwethaf
  • eisoes wedi derbyn 3 grant yn y flwyddyn ddiwethaf

Gallwch hefyd wneud cais drwy'r post neu dros y ffôn drwy'r manylion ar ein tudalen Cysylltu â ni, neu gael cymorth gan un o'n sefydliadau partner.