Neidio i'r prif gynnwy

2. Cymhwysedd

Newidiadau i’r Taliadau Cymorth mewn Argyfwng

O 1 Ebrill 2023 ymlaen bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael 3 taliad mewn cyfnod treigl o 12 mis. (Mae hyn yn cynnwys yr holl taliadau EAP a dderbyniwyd yn flaenorol o fewn y 12 mis diwethaf).

Bydd y 3 taliad hwn yn uwch o ran gwerth gyda chynnydd chwyddiant o 11% ar bob dyfarniad o’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng. Bydd y bwlch o 28 diwrnod rhwng dyddiadau ymgeisio yn gostwng i 7 diwrnod i bob ymgeisydd.

Bwriad y newidiadau hyn yw caniatáu defnydd olynol o’r gronfa dros gyfnod byr pan fo argyfwng. 

  • Bydd unrhyw gartref sydd â 1 person yn derbyn taliad o £56 trwy PAYPOINT.
  • Bydd unrhyw gartref sydd â 2 berson yn derbyn taliad o £67 trwy PAYPOINT.
  • Bydd unrhyw gartref sydd â 3 neu fwy o bobl yn derbyn taliad o £111 drwy BACS.

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Er mwyn cael grant, rhaid eich bod:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol, er enghraifft eich bod wedi colli eich swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf, neu heb unrhyw arian i brynu bwyd, nwy a thrydan
  • mewn sefyllfa o argyfwng ac angen cefnogaeth ariannol ar unwaith
  • yn byw yng Nghymru
  • dros 16 oed
  • heb unrhyw arian arall, er enghraifft cynilion, ac wedi ystyried pob math o fenthyciadau cyfreithlon a chyfrifol arall fel undebau credyd

Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)

Dim ond trwy bartner a gymeradwyir  y gallwch wneud cais am oergell, popty neu beiriant golchi dillad (nwyddau gwynion) a chelfi.

Rhaid i chi fodloni’r amodau grant a ganlyn:

  • yn byw yng Nghymru
  • dros 16 oed
  • heb fynediad at unrhyw arian arall ac wedi ceisio pob ffynhonnell fforddiadwy o gyllid er enghraifft arian gan undeb gredyd
  • nid  ydych yn preswylio mewn cartref gofal (oni bai eich bod yn cael eich ryddhau o fewn 6 wythnos)
  • nid ydych yn y carchar ar hyn o bryd (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau o fewn 6 wythnos)
  • nid ydych yn aelod o urdd grefyddol a gynhelir yn llawn
    Budd-daliadau

Derbyn un o'r budd-daliadau cymwys hyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceiswyr Gwaith ar sail incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
  • Elfen Credyd Gwarantedig o'r Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol

Bodloni un o’r amodau canlynol:

  • rydych yn gadael cartref gofal neu sefydliad (ysbyty, carchar neu ofal maeth) ar ôl 3 mis (o leiaf), i fyw'n annibynnol
  • rydych eisiau parhau i fyw yn y gymuned yn hytrach na gorfod mynd i sefydliad (ysbyty neu gartref gofal)
  • rydych yn sefydlu cartref ar ôl cyfnod o fyw yn ansefydlog
  • mae angen i chi symud gartref ar frys gan fod perthynas wedi chwalu neu oherwydd trais domestig
  • rydych yn mynd i ofalu am garcharor neu droseddwr ifanc a ryddhawyd ar drwydded dros dro