Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddais ddatganiad ynglŷn â'r dull arloesol o lywodraethu ffederal sy'n cael ei ddatblygu gan Gynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen.

Cefais gyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r ddau gyngor yn ddiweddar, ac mae'n bleser gennyf adrodd bod y dull gweithredu hwn yn parhau i fod o fudd i'r ddau gyngor, a'i fod yn dangos hyblygrwydd ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i helpu arweinwyr lleol i ddod o hyd i'r atebion gorau i'w hamgylchiadau.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r ddau gyngor wedi parhau i weithio'n gyflym i ddyfnhau eu trefniadau ar y cyd, ac ar yr un pryd diogelu sofraniaeth, hunaniaeth, a mandad democrataidd y ddau awdurdod unigol yn llawn. Mae'r model hwn yn galluogi'r ddau gyngor i elwa ar arbenigedd a rennir, a gwella gwydnwch a chapasiti i gynllunio ar gyfer y tymor hir.

Mae manteision cynnar a chalonogol yn dod i'r amlwg o'r model llywodraethu ffederal. Trwy alinio arweinyddiaeth a rhannu arbenigedd, mae'r cynghorau wedi dechrau cael gwared ar ddyblygu, gan leihau dibyniaeth ar arbenigedd a brynir o'r tu allan drwy eu bod yn gallu manteisio ar wybodaeth broffesiynol a rennir. Mae arbedion effeithlonrwydd yn cael eu hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol a rheng flaen. Mae symud tuag at fodelau llywodraethu a risg cydnaws - sy'n tynnu ar y gorau o'r ddau gyngor - yn gwella ansawdd yr wybodaeth a'r sicrwydd a roddir i aelodau etholedig. Nid buddion ariannol yn unig yw’r buddion hyn; maent yn gwella'r defnydd o werth cyhoeddus ac yn sicrhau sail fwy cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau.

Rwy'n croesawu ffordd dryloyw ac agored y ddau gyngor o fynd i'r afael â'r gwaith hwn. Mae eu heglurder gyda staff, undebau llafur, trigolion, a phartneriaid wedi cryfhau ymddiriedaeth ac wedi darparu enghraifft gadarn o bartneriaeth gymdeithasol ar waith. Mae hwn yn ddull gweithredu sy'n seiliedig ar ddysgu. Nid yw'r model terfynol wedi'i bennu eto, ac rwy'n croesawu eu creadigrwydd wrth archwilio'r hyn sy'n gweithio orau o ran gwasanaethu eu cynghorau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) hefyd yn bartner pwysig wrth ddatblygu'r model hwn, gan ddarparu cefnogaeth a sicrhau bod y dysgu sy'n deillio o'r dull gweithredu hwn yn cael ei rannu ar draws llywodraeth leol. Gan weithio gyda phartneriaid, mae'r cynghorau wedi ymrwymo i weithredu mewn modd sy'n gwireddu buddion, ac rwy'n siŵr y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru a thu hwnt yn gwylio hynt y gwaith hwn â diddordeb.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio'n adeiladol gyda'r ddau gyngor wrth i'r model hwn aeddfedu. Ein nod cyffredin yw creu system sy'n galluogi arloesi o fewn y fframwaith deddfwriaethol. Rwy'n hapus i gefnogi eu hymdrechion arloesol i ychwanegu cyflymder a thryloywder i'r ymdrechion hyn, drwy ddarparu cyfraniad o £400,000 ar gyfer y flwyddyn 2025-26.

Hoffwn ddiolch i'r ddau gyngor, eu swyddogion, eu haelodau, a'u partneriaid am yr arweinyddiaeth y maen nhw wedi'i dangos. Mae eu gwaith yn parhau i gyfrannu dysgu gwerthfawr at waith llywodraeth leol wrth inni barhau i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt adeiladu gwasanaethau cadarn, cynaliadwy, a gwydn.