Mesurau perfformiad blynyddol Teuluoedd yn Gyntaf: Mis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025
Adolygiad cryno o sut mae'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi bod yn perfformio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'n rhoi pwyslais ar atal problemau a rhoi cymorth yn gynnar, ac mae'n gweithio gyda'r teulu cyfan er mwyn atal problemau rhag troi'n argyfwng. Mae'r rhaglen yn hyrwyddo'r broses o ddatblygu systemau cymorth amlasiantaethol i sicrhau bod cymorth pwrpasol ar gael i deuluoedd pan fydd ei angen arnynt.
Dyma brif elfennau Teuluoedd yn Gyntaf:
- Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF), sy'n darparu gwerthusiad cynhwysfawr ar sail cryfderau o anghenion teuluoedd.
- Tîm o Amgylch y Teulu, sy'n dwyn ynghyd ystod eang o weithwyr proffesiynol i weithio gyda theulu er mwyn eu helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.
- Prosiectau a gomisiynir yn strategol, a ddatblygir mewn ymateb i anghenion lleol a chymunedol a nodir, a gallant gynnwys ymyriadau rhianta, cymorth iechyd meddwl i deuluoedd, a chefnogaeth i bobl ifanc.
- Dyrannu cyllid i'w wario ar gymorth arloesol i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan anabledd. Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu sut i wario'r elfen hon yn eu hardaloedd.
Mae awdurdodau lleol yn amrywio o ran y mathau o gymorth y maent yn eu comisiynu, a faint o arian a fuddsoddir yn elfennau amrywiol rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Maent yn gwneud penderfyniadau buddsoddi yn seiliedig ar ddadansoddiad o anghenion eu poblogaeth leol.
Mae gan y rhaglen gyfres o Fesurau Perfformiad Cenedlaethol i helpu i ddarparu rhagor o dystiolaeth o effaith y rhaglen ar draws Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r prosiectau strategol. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar y mesurau perfformiad hynny sy'n berthnasol i gyflawni'r rhaglen yn eu hardal nhw yn unig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu diffiniadau o'r mesurau perfformiad cenedlaethol ochr yn ochr â rhai enghreifftiau o sut y gallai awdurdodau lleol farcio unigolyn neu deulu yn llwyddiannus yn eu herbyn. Nid yw'r enghreifftiau hyn yn hollgynhwysfawr, ac felly mae'r mesurau o lwyddiant yn erbyn y mesurau perfformiad yn oddrychol i bob awdurdod lleol, ac nid yw pob awdurdod lleol yn adrodd yn erbyn pob mesur perfformiad. Gellir adrodd ar unigolion neu deuluoedd o safbwynt mwy nag un mesur perfformiad cenedlaethol.
Mae'r awdurdodau lleol yn casglu'r data gan ddefnyddio templed gan Lywodraeth Cymru, ac yn adrodd i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.
Er mwyn peidio â datgelu unrhyw unigolion, mae'r data wedi'i dalgrynnu i'r pump agosaf. Cyfrifir cyfansymiau a chanrannau gan ddefnyddio'r ffigurau crai, ac efallai y bydd yn ymddangos nad yw'r swm yn cyfateb i 100%.
Prif bwyntiau
Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) wedi lleihau 8% rhwng 2023-24 (21,675) a 2024-25 (20,050).
Arweiniodd tua hanner yr atgyfeiriadau JAFF at deuluoedd yn cwblhau asesiad JAFF yn 2024-25, gan ddilyn tuedd debyg i flynyddoedd blaenorol.
Cafwyd gostyngiad bach yn nifer y cynlluniau gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) a lofnodwyd rhwng 2023-23 a 2024-25, o 9,260 i 9,170.
Gwelwyd gostyngiad hefyd yn nifer y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben rhwng 2023-24 a 2024-25, o 9,305 i 8,825.
Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn llwyddiannus, allan o'r cyfan a ddaeth i ben, wedi aros yn gyson dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae ar lefel debyg yn 2024-25 (61%).
Mae canran yr unigolion neu deuluoedd â chanlyniad llwyddiannus a adroddwyd yn erbyn pob mesur perfformiad wedi aros yn uwch na 50% o'r rhai y gweithiwyd gyda nhw yn 2024-25, ac eithrio dau fesur: plant ysgol gynradd sydd wedi gwella eu presenoldeb ysgol, sydd wedi gostwng o 63% yn 2023-24 i 30% yn 2024-25, a teuluoedd a effeithiwyd gan anabledd sydd wedi nodi gwelliant yn eu gwytnwch teuluol, sydd wedi cynyddu ers 2023-24, ond wedi aros yn is na 50%, o 34% i 45% yn 2024-25.
Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd a'r Tîm o Amgylch y Teulu
Gostyngodd nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer Fframwaith Teulu Asesu ar y Cyd (JAFF) yn 2024-25, ar ôl bod yr uchaf erioed ar gofnod yn 2023-24. Roedd 20,050 o atgyfeiriadau ledled Cymru yn 2024-25, a oedd yn ostyngiad o 8% ers 2023-24, pan oedd nifer yr atgyfeiriadau yn 21,675. Roedd is-set o'r atgyfeiriadau hyn ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd. Arhosodd nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer y teuluoedd hyn yn gyson â'r blynyddoedd blaenorol yn 2024-25, gan gynyddu ychydig i 2,850 o 2,835 yn 2023-24.
Arweiniodd tua hanner yr atgyfeiriadau JAFF at deuluoedd yn cwblhau asesiad JAFF yn 2024-25, gan ddilyn tuedd debyg i flynyddoedd blaenorol; gwelwyd gostyngiad bach yn nifer yr asesiadau JAFF a gwblhawyd yn 2024-25, o 10,920 yn 2023-24 i 10,865 yn 2024-25. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd yn nifer yr asesiadau JAFF a gwblhawyd ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd, o 2,330 yn 2023-24 i 2,460 yn 2024-25. Roedd hyn yn cyfrif am 86% o deuluoedd ag anghenion yn ymwneud ag anabledd a atgyfeiriwyd am asesiad JAFF.
Gostyngodd nifer y cynlluniau gweithredu Tîm o amgylch y Teulu (TAF) a lofnodwyd yn 2024-25 i 9,170, o 9,260 yn 2023-24, er eu bod wedi cynyddu'n gyffredinol rhwng 2013-14 a 2022-23. Mae nifer yr asesiadau TAF a gwblhawyd ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd hefyd wedi cynyddu'n gyffredinol, o 2,260 yn 2023-24 i 2,250 yn 2024-25.
Gostyngodd nifer y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn 2024-25 o 9,305 yn 2023-24 i 8,825. Roedd nifer y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben dros yr un cyfnod ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd yn dilyn tuedd debyg, gan ostwng o 2,210 yn 2023-24 i 2,065 yn 2024-25.
Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn llwyddiannus wedi bod yn gyson dros y degawd blaenorol, ac arhosodd yn debyg yn 2024-25 (61%), gostyngiad bach o gymharu â 62% yn 2023-24. Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn llwyddiannus ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd hefyd wedi aros yn gyson dros yr un cyfnod, gan godi i 68% yn 2024-25, o 65% yn 2023-24.
Mesurau Perfformiad Cenedlaethol
Yn 2024-25, arhosodd canran yr unigolion neu deuluoedd â chanlyniad llwyddiannus a adroddwyd yn erbyn pob un o'r Mesurau Perfformiad Cenedlaethol yn uwch na 50% o'r rhai y gweithiwyd gyda nhw, ac eithrio dau fesur: plant ysgol gynradd sydd wedi gwella eu presenoldeb ysgol, sydd wedi gostwng o 63% yn 2023-24 i 30% yn 2024-25, a teuluoedd a effeithiwyd gan anabledd sydd wedi nodi gwelliant yn eu gwytnwch teuluol, sydd wedi cynyddu ers 2023-24, ond wedi aros yn is na 50%, o 34% i 45% yn 2024-25.
Ar gyfer y mwyafrif o'r mesurau perfformiad heblaw plant ysgol gynradd sydd wedi gwella eu presenoldeb ysgol, roedd canran y rhai y gweithiwyd gyda nhw a adroddodd ganlyniad llwyddiannus yn 2024-25 yn debyg i'r flwyddyn flaenorol. Parhaodd y cynnydd yn nifer yr unigolion neu deuluoedd y gweithiwyd gyda nhw yn 2023-24, o’i gymharu â 2022-23, i mewn i 2024-25, er bod nifer y canlyniadau llwyddiannus wedi aros ar lefel debyg i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn wedi arwain at ostyngiadau mawr yng nghanran yr unigolion neu deuluoedd â chanlyniad llwyddiannus o’i gymharu â 2022-23.
Yn 2024-25, y mesur perfformiad cenedlaethol â'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus oedd gwell lles emosiynol/meddyliol, lle nodwyd 24,500. Roedd hyn yn cynrychioli 77% o gyfanswm nifer yr unigolion neu'r teuluoedd y gweithiwyd gyda nhw o safbwynt y mesur perfformiad cenedlaethol hwn. Y mesur perfformiad gyda'r ganran uchaf o lwyddiant oedd rhieni sy'n elwa ar ymyrraeth rhianta (86%).
Ffigur 1: Canran yr unigolion neu'r teuluoedd llwyddiannus o'r cyfanswm y gweithiwyd gyda nhw o safbwynt pob mesur perfformiad cenedlaethol, 2024-25
Disgrifiad o ffigur 1: Siart bar llorweddol sy'n dangos, o'r 14 Mesur Perfformiad Cenedlaethol, mai rhieni sy'n elwa ar ymyrraeth rhianta oedd â'r ganran uchaf o unigolion neu deuluoedd llwyddiannus o'r cyfanswm nifer y gweithiwyd gyda nhw yn 2024-25, sef 86%. Y ganran isaf oedd 30%, ar gyfer teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan anabledd a nododd welliant mewn gwytnwch teuluoedd. Mae'r siart wedi'i threfnu o'r mesur perfformiad sydd â'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus i'r mesur perfformiad sydd â'r nifer isaf o gyfranogwyr llwyddiannus.
Ffynhonnell: Data ymyriadau Teuluoedd yn Gyntaf, a gasglwyd oddi wrth awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru, 2024-25
Materion Ansawdd Data
Mae ymyriadau Teuluoedd yn Gyntaf yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, ac felly efallai na fydd modd cymharu'r ffigurau yn uniongyrchol.
Mae'r data'n dangos yn glir bod rhai anghysondebau yn parhau ar draws rhai metrigau, yn ôl pob tebyg oherwydd amrywiadau mewn dulliau dehongli wrth adrodd ac arferion lleol.
Nid yw pob awdurdod lleol yn adrodd yn erbyn pob mesur perfformiad, a gellir adrodd ar unigolion neu deuluoedd o safbwynt mwy nag un mesur perfformiad cenedlaethol. Mae’n bosib fod nhw wedi eu cyfrif fwy nag unwaith, er enghraifft os ydynt wedi defnyddio gwasanaethau ar fwy nag un achlysur neu dros wahanol chwarteri.
Yng Ngwynedd, nid yw'r ymyriadau sy'n ymwneud ag anabledd yn defnyddio asesiadau JAFF na chynlluniau gweithredu TAF; yn hytrach mae asesiadau eraill yn cynnwys sgyrsiau 'yr hyn sy'n bwysig' ac mae ymyraethau priodol yn cael eu llunio yn unol â hynny.
Cesglir data ychwanegol ar unigolion sy'n gysylltiedig â phrosiectau a gomisiynwyd gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf. Nid yw'r data hwn wedi'i gynnwys yn y cyhoeddiad hwn oherwydd pryderon ynghylch ansawdd y data.
