Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw tlodi incwm cymharol?

Mae bod mewn tlodi incwm cymharol yn golygu byw ar aelwyd lle mae cyfanswm yr incwm o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif). Mae'r holl ffigurau yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â thlodi incwm cymharol yng Nghymru ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o'r adroddiad Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog (HBAI) a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Arolwg blynyddol o gartrefi a reolir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r Arolwg Adnoddau Teulu (FRS). Mae'n cynnig sail ar gyfer setiau data Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog (Adran Gwaith a Phensiynau), a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol ar incwm isel, gan gynnwys tlodi incwm cymharol, yn flynyddol.

Mae'r holl ddata yn yr adroddiad hwn yn ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n seiliedig ar yr Arolwg Adnoddau Teulu (Adran Gwaith a Phensiynau).

Fel yr eglurwyd yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn newid sut mae ystadegau'r Arolwg Adnoddau Teulu yn cael eu cynhyrchu i wella ystadegau tlodi. 

Y prif newid eleni yw bod gwybodaeth am brif fudd-daliadau'r wladwriaeth a chredydau treth bellach yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn hytrach nag ymatebion arolwg, er mwyn lleihau incwm coll neu incwm wedi'i danadrodd. Cyfeirir at y dull gwell hwn weithiau fel data gweinyddol cysylltiedig; a chyfeirir at y data nad yw'r newid wedi'i gymhwyso iddo fel data heb ei gysylltu.

Mae'r newid hwn yn berthnasol o flwyddyn ariannol sy'n dod i ben (FYE) 2022 ymlaen. O ganlyniad, mae'r cyfartaledd 3 blynedd cyntaf a gynhyrchir ar y sail newydd yn cwmpasu FYE 2021 i FYE 2023 (oherwydd materion sy'n effeithio ar FYE 2021).

Mae mesurau incwm isel allweddol ar ôl y pwynt hwn wedi newid, gan greu toriad yn y gyfres ddata yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022. Ni ddylai defnyddwyr wneud cymariaethau uniongyrchol o'r mesurau incwm isel ar draws y toriad hwn. Mae ein siartiau yn nodi'r toriad yn glir gyda llinell ddotiog, a cheir nodiadau esboniadol gyda'r tablau. 

Yn haf 2026 bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi ystadegau wedi'u diweddaru ar gyfer y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2019 i 2021, ac mae mwy o welliannau wedi'u cynllunio ar gyfer y blynyddoedd nesaf, sy'n golygu y dylai defnyddwyr fod yn barod ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol.

Yn sgil hyn, mae'r datganiad ystadegol hwn bellach yn cael ei ddosbarthu fel Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad yn hytrach nag Ystadegau Swyddogol Achrededig.

Mae adran 13 o'r adroddiad hwn yn darparu crynodeb o effaith symud i ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig.

Prif ganfyddiadau

  • Rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2023 a FYE 2025, roedd 22% o'r holl bobl yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol.
  • Mae canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru am y ddau ddegawd.
  • Yn gyffredinol, mae defnyddio data gweinyddol cysylltiedig wedi lleihau cyfraddau tlodi incwm cymharol ar gyfer gwahanol grwpiau gan un neu ddau bwynt canran o gymharu â'r dull blaenorol. Fodd bynnag, mae hyn yn amrywio o gynnydd bach iawn ar gyfer rhai ffigurau tlodi plant, i ostyngiad o bedwar pwynt canran ar gyfer tlodi pensiynwyr mewn un cyfnod. 
  • Mae patrymau yn yr amrywiad mewn tlodi incwm cymharol rhwng gwahanol grwpiau (megis oedran, statws economaidd a math o deulu) yn debyg i raddau helaeth i'r rhai a welwyd yn y blynyddoedd blaenorol.
  • Mae mesur newydd wedi'i gyflwyno ar gyfer tlodi materol dwfn. Rhwng y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2024 a 2025, roedd 10% o blant yng Nghymru mewn tlodi materol dwfn.

Ffigur 1: canran y bobl mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd y DU (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blynedd ariannol [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos bod canran y bobl sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn Lloegr ychydig yn is nag yng Nghymru ar 20% rhwng y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2023 a 2025. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon y ffigur oedd 17% a 14% yn y drefn honno.

[Nodyn 1]: Nid oes modd cymharu data o'r cyfnod o flynyddoedd ariannol 2023 i 2025 â chyfnodau blaenorol oherwydd bod data gweinyddol integredig wedi'i gyflwyno ar fudd-daliadau na ddefnyddiwyd o'r blaen.

Plant mewn tlodi incwm cymharol

Yng Nghymru, roedd 32% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn FYE 2023 i FYE 2025. Mae'r ffigur hwn wedi cynyddu ychydig o’r 30% yn y cyfnod diwethaf (ffigur diwygiedig ar gyfer y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn FYE 2021 i FYE 2023). Fodd bynnag, byddwch yn ofalus wrth gymharu newid dros y tymor byr oherwydd gall tueddiadau fod yn gyfnewidiol oherwydd meintiau sampl bach. Mae'r cynnydd hwn o ddau bwynt canran o fewn yr ystod o amrywiad tymor byr nodweddiadol a welir ar gyfer y mesur hwn, ac nid yw'n ystadegol arwyddocaol.

Ffigur 2: canran y plant mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd y DU (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos bod canran y plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn Lloegr ychydig yn is nag yng Nghymru ar 29% rhwng y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2023 a 2025. Yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban y ffigur oedd 21% a 19% yn y drefn honno.

[Nodyn 1]: Nid oes modd cymharu data o'r cyfnod o flynyddoedd ariannol 2023 i 2025 â chyfnodau blaenorol oherwydd bod data gweinyddol integredig wedi'i gyflwyno ar fudd-daliadau na ddefnyddiwyd o'r blaen.

Ffigur 3: canran y bobl o bob grŵp oedran yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3: Siart llinell sy'n dangos mai plant yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol a phensiynwyr yw'r grŵp oedran lleiaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. 

[Nodyn 1]: Nid oes modd cymharu data o'r cyfnod o flynyddoedd ariannol 2023 i 2025 â chyfnodau blaenorol oherwydd bod data gweinyddol integredig wedi'i gyflwyno ar fudd-daliadau na ddefnyddiwyd o'r blaen.

Mae hynny hefyd yn wir ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU. Rheswm posibl am hyn yw bod oedolion â phlant yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu yn gweithio llai o oriau oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.

Oedolion oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol

  • Roedd 21% o oedolion oedran gweithio yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol am y cyfnod FYE 2023 i FYE 2025, sef yr un canran â'r cyfnod blaenorol (FYE 2022 i FYE 2024).
  • Mae hyn yn uwch na’r hyn a welwyd yn Lloegr (19%), yr Alban (18%) a Gogledd Iwerddon (13%) ar gyfer y cyfnod diwethaf.

Pensiynwyr mewn tlodi incwm cymharol

  • Roedd 11% o bensiynwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2023 a 2025, a dyma'r un ganran â'r cyfnod blaenorol (ffigur diwygiedig ar gyfer y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2022 i 2024).
  • Yn Lloegr a’r Alban roedd canran y pensiynwyr sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn 13%; ac yng Ngogledd Iwerddon y ffigur oedd 8%.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data ar gyfer un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol (18: Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU: wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn).

Mae carreg filltir wedi'i chysylltu â'r dangosydd cenedlaethol hwn: lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig penodol (sy’n golygu mai hwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny, erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050.

Deiliadaeth tai

Ffigur 4: canran y bobl yn ôl deiliadaeth tai yng Nghymru, a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), FYE 2023 i FYE 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 4: Siart bar sy'n dangos bod pobl mewn tai rhent cymdeithasol (39%) a thai rhent preifat (38%) yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na'r rhai mewn tai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr (14%). 

Fodd bynnag, wrth ystyried yr holl bobl yng Nghymru mewn tlodi (680,000), roedd y rhan fwyaf o'r bobl hynny yn byw mewn tai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr (43%) ac yna tai rhent cymdeithasol (31%) a thai rhent preifat (27%). Efallai nad yw'r canrannau hyn yn gwneud cyfanswm o 100% oherwydd talgrynnu.

Statws economaidd a’r math o gyflogaeth

Er y dylid bod yn ofalus gyda dehongliad oherwydd y nifer fach o aelwydydd a chafodd eu samplu, roedd plant oedd yn byw ar aelwyd ddi-waith yn parhau i fod â risg uwch o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 55%) o’i gymharu â phlant yn byw ar aelwyd a oedd yn gweithio (ar 28%) yn FYE 2023 i FYE 2025.

Ar gyfer aelwydydd a oedd yn gweithio, roedd gwahaniaeth amlwg hefyd rhwng y tebygolrwydd o dlodi i blant ar aelwydydd lle’r oedd yr holl oedolion yn gweithio (22%) o’u cymharu ag aelwydydd lle’r oedd rhai oedolion (ond nid pob un) yn gweithio (47%).

Ffigur 5: canran y plant yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl statws economaidd yr aelwyd, cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart far wedi’i stacio 100% sy’n dangos, yn ystod y cyfnod diweddaraf, bod 74% o blant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd a oedd yn gweithio (tua 160,000 o blant).

Mae cyfran y plant mewn tlodi a oedd yn byw mewn aelwydydd lle roedd yr holl oedolion yn gweithio wedi cynyddu o 30% yng nghyfnod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2023 (y cyfnod cymharol cynharaf) i 45% yng nghyfnod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025. Yn yr un modd, mae'r gyfran a oedd yn byw mewn aelwydydd lle roedd rhai ond nid pob oedolyn yn gweithio wedi gostwng o 45% i 29%. Mae plant mewn aelwydydd lle nad oes oedolion yn gweithio wedi cyfrif yn gyson am oddeutu chwarter y rhai mewn tlodi dros y cyfnod hwn.

Ffigur 6: canran yr oedolion oedran gweithio yn ôl math o gyflogaeth yr aelwyd yng Nghymru, a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), FYE 2023 i FYE 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 6: Siart far sy’n dangos bod 41% y bobl oedran gweithio a oedd yn byw ar aelwydydd heb waith yn byw mewn tlodi yn FYE 2023 i FYE 2025 o gymharu â 8% o oedolion o oedran gweithio sy'n byw mewn cartrefi lle roedd yr holl oedolion yn gweithio.

Mae byw gyda phobl sy'n gweithio yn lleihau'r tebygolrwydd o dlodi. Mae'r risg honno’n cael ei lleihau'n arbennig os bydd pob oedolyn yn gweithio'n amser llawn. Fodd bynnag, gan fod aelwydydd lle nad oes neb yn gweithio yn gymharol brin, roedd y rhan fwyaf o oedolion oedran gweithio mewn tlodi yn byw mewn aelwydydd sy'n gweithio. Roedd 63% o oedolion oedran gweithio mewn tlodi yn byw mewn aelwydydd lle roedd rhai neu bob oedolyn yn gweithio yng nghyfnod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025. Mae hyn wedi cynyddu o 52% yng nghyfnod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2023.

Nodweddion teuluol

Ffigur 7: canran y bobl ym mhob math o deulu yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), FYE 2023 i FYE 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 7: Siart far sy’n dangos, yn ystod y cyfnod FYE 2023 i FYE 2025:

  • Mai aelwydydd unig rieni oedd y math o deulu a oedd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 45%).
  • Roedd 25% o aelwydydd cwpwl gyda phlant, 24% o aelwydydd dynion sengl a 23% o aelwydydd menywod sengl mewn tlodi incwm cymharol.

Mae'r risg o fod mewn tlodi ar gyfer teuluoedd rhiant unigol wedi cynyddu o 37% yng nghyfnod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2023 i 45% yng nghyfnod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025. Roedd y risg ar gyfer pob math arall o deuluoedd yn gymharol sefydlog dros y cyfnod hwn.

Pa fath o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi?

Tua degawd yn ôl, roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd â phlant. Fodd bynnag, mae'r patrwm bellach yn llai clir gyda chyfran debyg o'r rhai sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw ar aelwydydd â phlant a heb blant.

Ffigur 8: y bobl yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl y math o aelwyd, FYE 2023 i FYE 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 8: Siart gylch sy’n dangos, o’r bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol, bod 54% mewn aelwydydd gyda phlant, 34% mewn aelwydydd heb blant a 12% mewn aelwydydd pensiynwyr.

Roedd plant a oedd yn byw ar aelwydydd lle’r oedd y plentyn ieuengaf rhwng 0 a 4 oed yn cyfrif am 60% yr holl blant a oedd mewn tlodi incwm cymharol yn FYE 2022 i FYE 2025.

Ffigur 9: canran y plant yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl nifer y plant ar yr aelwyd, FYE 2023 i FYE 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 9: Siart bar sy'n dangos bod hanner y plant a oedd yn byw mewn aelwydydd lle roedd tri neu fwy o blant mewn tlodi incwm cymharol rhwng y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2023 a 2025. Mae hyn o'i gymharu â 26% o blant sy'n byw mewn aelwydydd dau blentyn a 22% sy'n byw mewn aelwydydd un plentyn.

Ethnigrwydd

Roedd aelwydydd lle'r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r rhai sydd â phennaeth aelwyd o grŵp ethnig gwyn. Am y cyfnod FYE 2021 i FYE 2025:

  • Roedd tebygolrwydd o 48% bod pobl gyda phennaeth aelwyd o grŵp Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol.
  • Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 19% i'r bobl gyda phennaeth aelwyd o grŵp ethnig gwyn.
  • Fodd bynnag, oherwydd bod gan y mwyafrif helaeth o aelwydydd yng Nghymru bennaeth aelwyd sydd o grŵp ethnig gwyn, roedd y rhan fwyaf o bobl (89%) a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn dod o aelwydydd o’r fath.

Gweler tablau HBAI a gynhyrchwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer data’r DU yn ôl grŵp ethnig (gan gynnwys dadansoddiadau pellach yn ôl ethnigrwydd).

Anabledd

Yn ôl data'r arolwg, caiff pobl anabl eu dehongli fel pobl sy’n adrodd bod ganddynt unrhyw gyflwr corfforol neu feddyliol neu salwch y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy, ac sy’n cyfyngu ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, boed ychydig neu lawer iawn. Mae hynny’n unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb.

Ffigur 10: canran y rhai a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), yn ôl anabledd yn y teulu ac oedran, yn y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2023 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 10: Siart bar sy'n dangos bod y rhai sy'n byw mewn aelwydydd lle roedd anabledd yn y teulu yn fwy tebygol o fod mewn tlodi ar gyfer pob grŵp oedran ac eithrio pensiynwyr.

Banciau bwyd a diogelwch bwyd

Rhwng FYE 2023 a FYE 2025 roedd dros hanner (53%) y bobl y mae eu pennaeth aelwyd wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yn byw mewn tlodi incwm cymharol.

Dywedodd bron i 1 o bob 10 (9%) o'r holl bobl mewn tlodi incwm cymharol eu bod wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn cymharu â 4% o'r boblogaeth gyffredinol. 

Mae'r FRS yn cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud â diogelwch bwyd cartref. Mae diogelwch bwyd yn rhywbeth ar wahân i ddefnydd banciau bwyd ac mae'n deillio o wybodaeth am fynediad, agwedd ac ymddygiad y cartref tuag at fwyd dros y 30 diwrnod diwethaf. Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, mae cartrefi wedi'u grwpio'n bedwar categori diogelwch bwyd: uchel, ymylol, isel ac isel iawn. Ceir rhagor o wybodaeth ar ddiogelwch bwyd yn yr adroddiad methodoleg.

Ffigur 11: canran o'r holl bobl, oedolion oedran gweithio a phlant ym mhob categori diogelwch bwyd ar gyfer y rhai mewn tlodi incwm cymharol a'r boblogaeth gyffredinol, FYE 2023 i FYE 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart far bentwr 100% sy'n dangos bod y rhai mewn tlodi incwm cymharol yn llai tebygol o fod mewn cartrefi â sicrwydd bwyd uchel o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. Yn y boblogaeth gyffredinol roedd 72% o blant, 82% o oedolion mewn oedran gweithio a 82% o'r holl bobl mewn aelwydydd â diogelwch bwyd uchel rhwng FYE 2023 a 2025. Mae hyn yn cymharu â 54% o blant, 65% o oedolion oedran gweithio a 64% o'r holl bobl mewn tlodi incwm cymharol. 

Sylwch nad yw data pensiynwr yn cael ei gyflwyno yn y ffigur uchod oherwydd maint sampl isel. Roedd 95% o bensiynwyr yn byw mewn cartrefi â diogelwch bwyd uchel. Mae hyn yn golygu bod 5% o bensiynwyr yn byw mewn cartrefi â diogelwch bwyd ymylol, isel neu isel iawn.

Mudwyr

Roedd pobl mewn aelwydydd lle roedd pennaeth yr aelwyd yn fudwr (y rhai a anwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig) yn fwy tebygol o fod mewn tlodi o'i gymharu â'r rhai sy'n byw mewn aelwydydd â phennaeth nad yw'n ymfudo. Rhwng FYE 2021 a 2025 roedd 34% o bobl mewn aelwydydd â phennaeth aelwyd mudol mewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu â 20% o'r rhai mewn aelwydydd dan arweiniad pobl nad ydynt yn ymfudwyr.

Mae hyn yn debyg i gyfradd Lloegr (33%) a'r Alban (33%) ac yn uwch na Gogledd Iwerddon (21%). 

Tra bod gan bobl mewn aelwydydd yr oedd eu pennaeth aelwyd yn fudwr gyfradd uwch o dlodi o'i gymharu â'r rhai nad ydynt yn fudwyr maent yn cyfrif am ddim ond 14% o'r rhai mewn tlodi incwm cymharol oherwydd y nifer gymharol fach o fudwyr yng Nghymru.

Cyfeiriadedd rhywiol

Roedd y gyfradd tlodi ychydig yn is ar aelwydydd lle'r oedd pennaeth yr aelwyd yn heterorywiol o'i gymharu ag aelwydydd lle'r oedd pennaeth yr aelwyd yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu'n meddwl amdano'i hun fel rhywbeth heblaw heterorywiol. 

Rhwng FYE 2023 a 2025 roedd 23% o bobl mewn aelwydydd lle'r oedd pennaeth yr aelwyd yn heterorywiol mewn tlodi o gymharu â 25% o bobl mewn aelwydydd lle roedd pennaeth yr aelwyd yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu'n meddwl amdanynt eu hunain fel rhywbeth heblaw heterorywiol.

Nid oes data ar gyfeiriadedd rhywiol pennaeth yr aelwyd ar gyfer 23% o aelwydydd mewn tlodi incwm cymharol. Y rheswm am hyn yw naill ai nad oedd pennaeth yr aelwyd yn bresennol yn y cyfweliad (ac felly ni ofynnwyd y cwestiwn) neu ei fod wedi dewis peidio â rhoi ateb. Roedd 18% o'r rhai yn y grŵp hwn mewn tlodi.

Tlodi materol dwfn

Fel yr amlinellir yn Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth y DU, Our Children, Our Future: Tackling Child Poverty (Swyddfa'r Cabinet), mae'r mesur tlodi materol dwfn newydd wedi'i ddatblygu i gynnwys plant sy'n profi lefel ddyfnach o dlodi na'r rhai a nodir yn yr ystadegau tlodi incwm cymharol. 

Mae'r mesur tlodi materol dwfn yn seiliedig ar amddifadedd materol, yn benodol p’un nad oes gan deuluoedd o leiaf 4 allan o 13 eitem amddifadedd materol hanfodol. Ceir rhestr lawn o'r eitemau hyn yn yr adroddiad Deep material poverty: Financial year ending 2024

Bydd yn cymryd tan y gwanwyn 2027 cyn i ni gael y cyfartaledd tair blynedd a ddefnyddir fel arfer i gynhyrchu amcangyfrifon cadarn ar gyfer dadansoddiadau manwl fel ar gyfer gwledydd.Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd y metrig newydd hwn, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi’r amcangyfrifon cyntaf o dlodi materol dwfn ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU yn adroddiad eleni, fel cyfartaledd dwy flynedd sy’n cwmpasu’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2024 hyd at y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025.

Yng Nghymru, roedd 10% o blant mewn tlodi materol dwfn ar gyfer y cyfnod rhwng y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2024 a 2025. Mae hyn yn cyfateb i 67,000 o blant o'r 650,000 o blant sy'n byw yng Nghymru. Mae hyn yn cymharu â 14% o blant yn Lloegr, 11% o blant yn yr Alban a 7% o blant yng Ngogledd Iwerddon.

Effaith integreiddio data arolwg a gweinyddol

Mae'r adran hon yn darparu siartiau a phwyntiau bwled i ddangos effaith cysylltu data gweinyddol ar y mesurau allweddol i Gymru ar gyfer incwm isel cymharol. Sylwch mai'r defnydd o ddata gweinyddol yw'r prif reswm bod data ar gyfer blynyddoedd ôl-gyfres (o'r blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2021 i 2023) wedi'i ddiweddaru o'r cyhoeddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025. Mae nifer fach o newidiadau eraill wedi'u gwneud i'r ôl-gyfres ar yr un pryd â'r gwelliannau hyn (gweler adroddiad gwybodaeth ansawdd a methodoleg diweddaraf HBAI yr Adran Gwaith a Phensiynau) ond mae effaith y newidiadau eraill hyn ar fesurau incwm isel yn llawer llai.

Mae'r siartiau tueddiadau canlynol yn dangos yr amcangyfrifon blaenorol yn seiliedig ar ddata heb ei gysylltu fel llinell solet, a'r amcangyfrifon newydd sy'n cynnwys data gweinyddol cysylltiedig fel llinell doredig, at ddibenion cymharu. Yr unig ddau gyfnod sydd â'r ddau fath o amcangyfrif hyd yn hyn yw'r blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2021 i 2023, a'r blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2022 i 2024, ac ar gyfer y pwyntiau data hynny mae'r bwlch rhwng y llinellau solet a thoredig ar y siart yn dangos effaith y diwygiad.

Ffigur 12: canran y bobl o bob grŵp oedran yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai), amcangyfrifon yn seiliedig ar ddata sydd wedi neu heb ei gysylltu, cyfartaleddau tair blynedd ariannol

Image

Disgrifiad o ffigur 12: Siart llinell sy'n dangos bod y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon sy'n defnyddio data gweinyddol cysylltiedig a data nad yw wedi’i gysylltu ar gyfer y rhai mewn tlodi incwm cymharol o fewn un neu ddau bwynt canran. Ar gyfer pensiynwyr, mae'r amcangyfrifon ar gyfer incwm cymharol sy’n defnyddio data gweinyddol cysylltiedig tua phedwar pwynt canran yn is (o tua 16% i tua 12%).

Gwybodaeth am yr ansawdd a’r fethodoleg

Ceir crynodeb o wybodaeth ynghylch beth i gadw mewn cof wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar dudalen y gyfres ar dlodi incwm cymharol.

Mae'n bwysig cofio bod y ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r FRS sy'n seiliedig ar sampl fach i Gymru (tua 1,200 o aelwydydd yn FYE 2025). Rydym yn cynghori gofal wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn gan nad yw'r rhain yn debygol o fod yn ystadegol arwyddocaol.

I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: methodoleg.

Trawsnewid ystadegau’r Arolwg Adnoddau Teulu

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud gwelliannau i’r ystadegau dros y blynyddoedd nesaf, sy’n golygu y bydd rhai data yn cael eu hadolygu ac na fydd modd ei cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Mae'r gwelliannau yn cynnwys cysylltu data budd-daliadau a data enillion gweinyddol â chofnodion arolwg i leihau tanadrodd incwm a diweddaru'r ffordd y mae'r ystadegau yn cael eu graddio i gyfansymiau poblogaeth (a elwir yn bwysoli).

Bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno’n raddol, gyda rhai ffigurau’n newid wrth i bob gwelliant newydd gael ei gyflwyno. Ar gyfer rhyddhau data 2026, bydd data gweinyddol yn disodli data arolwg wrth fesur incwm ar gyfer y mwyafrif o fudd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). . Bydd hyn yn lleihau'r tanadrodd o fudd-daliadau a welir ar hyn o bryd yn yr arolwg (ac felly HBAI) ac yn gwella ansawdd data yn y ddwy set ddata.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud y newid hwn mewn dau gam dros y misoedd nesaf, a dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau dros amser tra bo’r diwygiadau fesul cam hyn yn cael eu cyflwyno:

  • ar 26 Mawrth 2026, ar yr un pryd â chyhoeddi’r data newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025, byddant yn cyhoeddi ystadegau wedi’u diweddaru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 hyd 2024
  • yn ystod haf 2026 byddant yn cyhoeddi ystadegau wedi’u diweddaru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 hyd 2021

Bydd hyn yn golygu, erbyn haf 2026, y bydd cyfres amser HBAI sydd wedi'i gysylltu â data gweinyddol ar gael o'r blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2019 i 2025.

Mae'r gwelliant hwn yn golygu y bydd mesurau incwm isel allweddol, gan gynnwys nifer/cyfran y bobl a nodwyd eu bod mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer pob grŵp ac ym mhob blwyddyn o'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 (ym mis Mawrth 2026) ac o'r o'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 (yn haf 2026), yn newid. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn golygu y bydd toriad strwythurol yn y gyfres HBAI ar y pwyntiau hyn, ac rydym yn cynghori defnyddwyr i beidio â gwneud cymhariaeth uniongyrchol o newidiadau mewn incwm ar draws y toriad. Os oes angen cymariaethau ar draws y toriad, dylai defnyddwyr ddilyn y cyngor a nodir yn adroddiad Cefndir, Gwybodaeth a Methodoleg HBAI (yr Adran Gwaith a Phensiynau).

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau a ddisgrifir yn y blog hwn yn strategaeth rhyddhau'r Arolwg Adnoddau Teulu (yr Adran Gwaith a Phensiynau) a strategaeth rhyddhau HBAI (yr Adran Gwaith a Phensiynau). Rydym hefyd wedi cyhoeddi blog y Prif Ystadegydd sy'n crynhoi'r newidiadau sydd ar ddod i’r ystadegau tlodi.

Gwaith maes yr Arolwg Adnoddau Teulu yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025

Yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025, gwnaeth gwaith maes yr arolwg barhau gyda chyfweliadau wyneb yn wyneb yn cael eu defnyddio fel y brif ffordd o gwblhau'r arolwg. Cadwyd cyfweliad dros y ffôn fel dewis arall yn seiliedig ar ddewis yr aelwyd ac argaeledd cyfwelydd. Ledled y DU yn gyffredinol, cafodd 89% o aelwydydd yr Arolwg Adnoddau Teulu eu cyfweld wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025.

Effaith y pandemig coronafeirws (COVID-19)

Cafodd gweithrediadau gwaith maes ar gyfer yr FRS FYE 2021 eu newid yn gyflym mewn ymateb i COVID-19 a'r mesurau a gyflwynwyd o ran iechyd y cyhoedd. Cafodd sawl ffactor effaith ar gyfraddau ymateb ac nodweddion ymatebwyr i'r arolwg.

Argymhellir na ddylid defnyddio data FYE 2021 i ddadansoddi data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar lefel islaw'r DU gan fod y cyfuniad o samplau llai o faint a gogwydd ychwanegol yn golygu nad yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws.

Nid yw unrhyw bwyntiau data sy'n rhychwantu cyfnod FYE 2021 yn cynnwys data arolwg FYE 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae hyn yn golygu bod amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 mlynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy'n hepgor data arolwg FYE 2021.

Oherwydd y flwyddyn ddata coll ac effaith y pandemig ar gyfraddau ymateb arolygon, roedd maint y sampl yn llai nag arfer yn y ddau gyfnod FYE 2021 a FYE 2022, a gyhoeddwyd llynedd. Mae hyn yn golygu bod y data ar gyfer y cyfnodau hyn yn fwy anwadal, ac mae angen dehongli newidiadau mawr yn ofalus.

‌Ceir rhagor o wybodaeth am waith maes yr FRS yn adroddiad Cefndir a Methodoleg FRS (Adran Gwaith a Phensiynau), ac mae dogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg HBAI (Adran Gwaith a Phensiynau) yn rhoi rhagor o fanylion am gyfansoddiad sampl FRS.

‌Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i gynghori defnyddwyr y dylid dehongli'r newidiadau mewn amcangyfrifon dros y blynyddoedd diwethaf gan gadw mewn cof y gwahaniaethau mewn dulliau casglu data ar draws y cyfnod a'r effaith a gafodd hyn ar gyfansoddiad y sampl. ‌Gellir dod o hyd i fanylion am hyn yn yr adroddiadau technegol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiadau ystadegol sy'n ymwneud â'r pandemig.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r DU)

Mae’r ystadegau swyddogol hyn wedi’u hachredu’n Ystadegau Gwladol mewn blynyddoedd blaenorol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Ystadegau Gwladol yw ystadegau swyddogol achrededig sy'n bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus. 

Cânt eu hachredu yn Ystadegau Gwladol yn dilyn adolygiad annibynnol gan gangen reoleiddio'r Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig, sef y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Daw'r data sydd gennym ar gyfer tlodi incwm cymharol o adroddiad Aelwydydd islaw'r Incwm Cyfartalog (HBAI) a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ystadegau, ac wedi gwneud nifer o welliannau. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at adroddiad diweddaraf HBAI ar wefan gov.uk. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (Office for Statistics Regulation) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Bydd y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r ystadegau tlodi yn arwain at well data yn y tymor hir. Fodd bynnag, oherwydd bod y newidiadau hyn yn dal i fynd rhagddynt, mae’r ffigurau yn llai sicr nag arfer a byddant yn cael eu hadolygu yn y dyfodol wrth i ddulliau barhau i wella. Mae’r ansicrwydd hwn yn fwy pan fydd y data yn cael eu dadansoddi islaw lefel y DU.

Er mwyn bod yn agored ac yn glir gyda defnyddwyr, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y gall ein hystadegau tlodi ar gyfer Cymru gael eu labelu dros dro fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad . Mae hyn yn nodi y gellir defnyddio’r data o hyd, ond bod y ffigurau yn destun adolygiad wrth i’r newidiadau barhau i gael eu hymgorffori. 

Rydym wedi ymrwymo i helpu defnyddwyr i ddeall y datblygiadau ac i ddehongli newidiadau’n briodol. Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag, dylai defnyddwyr gymryd gofal wrth ddehongli tueddiadau cyn ac ar ôl y newid a bod yn barod ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol. 

Mae’r un dull yn cael ei gymryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd allbynnau HBAI ar lefel y DU a gynhyrchir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i gael eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Fel y nodwyd yn eu rhaglen waith reoleiddio, mae'r OSR yn bwriadu cynnal adolygiad cydymffurfiaeth o ystadegau yr Adran Gwaith a Phensiynau yn seiliedig ar yr arolwg trawsnewidiol.

Model cymdeithasol o anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r Arolwg Adnoddau Teulu yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

‌Lluniwyd yr ystadegau hyn o ddata Aelwydydd islaw Incwm Cyfartalog sy'n deillio o'r Arolwg Adnoddau Teuluol, y ddau wedi'u rheoli gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). ‌Caiff cyhoeddiadau eu hysbysebu ymlaen llaw bedair wythnos cyn eu cyhoeddi ac yn cael eu rhyddhau ar y cyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod data ar gael i bob defnyddiwr ar yr un pryd.

Mae’n bosib y bydd anghysondebau bach yn anaml rhwng ffigurau cyfatebol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a DWP ynglyn â thlodi incwm cymharol. Mae hyn oherwydd gwahaniaeth yn y ffordd y cyfrifir cyfraddau ar gyfer setiau data sy'n cael eu cyfuno ar draws sawl blwyddyn.

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr ac ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol ac yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Ansawdd

Caiff data HBAI eu rheoli a'u prosesu gan ystadegwyr o'r Adran Gwaith a Phensiynau gydag ystadegwyr o Lywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill yn darparu gwiriadau sicrhau ansawdd ychwanegol. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn dadansoddi data Cymru yr HBAI ymhellach i ddarparu manylion ychwanegol. Cyhoeddir y canlyniadau hyn fel cyfartaledd o dair i bum mlynedd i wella cywirdeb. Ni chaiff canlyniadau sy'n seiliedig ar lai na chant o ymatebion eu cynnwys, ac mae'r rhai sydd â llai na dau gant yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad ac yn cael eu nodi fel ffigurau ansawdd isel mewn tablau cysylltiedig. 

Er mwyn mynd i'r afael â thanadrodd ar incwm budd-daliadau a gwella ansawdd amcangyfrifon incwm, o'r cyhoeddiad hwn ar y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025, mae data gweinyddol wedi'i integreiddio i'r Arolwg Adnoddau Teulu i ddisodli'r ymatebion arolwg ar gyfer prif fudd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau a CThEM. Bydd hyn yn lleihau'r tanadrodd ar fudd-daliadau a welir ar hyn o bryd yn yr Arolwg Adnoddau Teulu (ac felly HBAI) ac yn gwella ansawdd y data yn y ddwy set ddata. Sylwer nad yw'r tanadrodd ar fudd-daliadau wedi'i ddileu’n llwyr, er bod ymchwil yr Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau ar sut i gyflawni hyn gyda datblygiadau pellach yn y dyfodol. 

Yn gyffredinol, gellir cymharu’r ffigurau rhwng cenhedloedd yn uniongyrchol a hefyd y newidiadau dros amser. Fodd bynnag, fel y nodwyd, dylid trin cymariaethau dros amser â gofal ychwanegol oherwydd y newidiadau a gyflwynwyd i'r fethodoleg o'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021. 

Yn gyffredinol, gellir cymharu'r ffigurau rhwng y cenhedloedd yn uniongyrchol, a'r newidiadau dros amser. Fodd bynnag, dylai cymariaethau ystyried unrhyw gafeat a nodir (e.e. effaith ffyrdd gwahanol o gasglu data yn ystod y pandemig). 

Cafodd y ffigurau cyhoeddedig a gyflwynir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael a chan ddefnyddio eu sgiliau dadansoddi a'u barn broffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys dilysu gofalus ac annibynnol o bob elfen o'r broses lunio a drafftio gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. 

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd y set ddata sylfaenol yn adroddiad gwybodaeth ansawdd a methodoleg diweddaraf yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gwerth

Drwy gyhoeddi'r data hyn, ein nod yw rhoi tystiolaeth i weinidogion, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid allanol ynghylch tlodi, a hysbysu'r cyhoedd yn ehangach.

Fel y soniwyd uchod, yn ogystal â datganiad cyntaf y data hyn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, cyhoeddir dadansoddiadau pellach o ddata Cymru yr HBAI gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru, gan adlewyrchu nodweddion aelwydydd allweddol a nodweddion gwarchodedig pan fo meintiau samplau yn caniatáu amcangyfrifon gweddol gadarn.

Yn ystod y tair flynedd ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn maint sampl FRS yng Nghymru yn dilyn hwb a ariennir gan Lywodraeth Cymru o'r sampl. Oherwydd hyn, rydym wedi ymestyn ein hystod o ddadansoddiadau pellach o ddata HBAI ar gyfer Cymru i gynnwys data tlodi newydd ar gyfer Cymru ynglŷn â:

  • defnydd banc bwyd
  • statws diogelwch bwyd
  • statws ymfudwr
  • cyfeiriadedd rhywiol

Mae'r ystadegau a'r ffigurau wedi cael eu cyflwyno a'u cyhoeddi mewn fformat hygyrch yn unol â deddfwriaeth hygyrchedd. Mae'r ffigurau yn yr adroddiad hwn hefyd ar gael ar ffurf taenlen ddogfen agored hygyrch (ODS) ac ar wefan StatsCymru

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol:

(18) Canran y bobl sy'n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o'i chymharu â chanolrif y DU: mesur ar gyfer plant, pobl oedran gweithio a'r rheini oedran pensiwn.

Ceir gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Yn y bwletin hwn, mae dangosydd 18: Tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU, yn cyfateb i un garreg filltir:

Ceir gwybodaeth bellach i helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol
Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 24/2026