Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a phwrpas

Mae Adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal corff a enwir yn Gyngor Partneriaeth Cymru (y Cyngor Partneriaeth). 

Mae Adran 73 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru greu Cynllun Llywodraeth Leol (y Cynllun), sy’n dangos sut maent yn cynnig cynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru wrth arfer eu swyddogaethau. Mae'r adran honno hefyd yn mynnu bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar sut cafodd y cynigion yn y Cynllun eu gweithredu bob blwyddyn. 

Mae'r Cyngor Partneriaeth yn parhau i wasanaethu fel ymgorfforiad o'r Cynllun a'r fforwm statudol ar gyfer trafodaeth gydweithredol ar faterion allweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r gweithgareddau mwyaf arwyddocaol a'r cynnydd a wnaed gan y Cyngor Partneriaeth yn ystod y cyfnod Ebrill 2022 i Fawrth 2026. 

Mae'r adroddiad hwn rhoi tystiolaeth o hynt ac effaith gwaith partneriaeth ar flaenoriaethau cyffredin megis y newid yn yr hinsawdd, symleiddio system fudd-daliadau Cymru, mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant ar draws ein cymunedau, a dyfodol ein systemau iechyd a gofal. 

Mae aelodaeth y Cyngor Partneriaeth yn cynnwys Gweinidogion Cymru, Arweinwyr pob un o’r 22 cyngor, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru fel cymdeithasau cynrychioliadol llywodraeth leol Cymru, y Parciau Cenedlaethol, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, GIG Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub. Mae'r arsylwyr yn cynnwys TUC Cymru, Archwilio Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Er nad oes gofyniad statudol i ymgynghori ar yr adroddiad hwn, mae wedi'i rannu â CLlLC, ac fel papur ar gyfer y Cyngor Partneriaeth ar 9 Mawrth 2026. Mae barn CLlLC ac aelodau'r Cyngor Partneriaeth wedi llywio'r adroddiad cyhoeddedig hwn.

Gellir gweld agendâu a chofnodion pob cyfarfod Cyngor Partneriaeth yn ystod y cyfnod a gwmpesir yn yr adroddiad hwn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Sicrhau bod y Cyngor Partneriaeth yn berthnasol ac yn effro i flaenoriaethau allweddol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Mae'r berthynas rhwng llywodraeth genedlaethol, awdurdodau lleol a phartneriaid cyhoeddus a'r trydydd sector yn hanfodol er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru.

Mae’r Cyngor Partneriaeth yn darparu ar gyfer trafodaethau agored a thryloyw ar flaenoriaethau a heriau cyffredin gwasanaethau cyhoeddus, a hynny mewn lleoliad partneriaeth ffurfiol. Mae agendâu, papurau a chofnodion y cyfarfodydd ar gael yn gyhoeddus ar wefan Llywodraeth Cymru (Gweler Atodiad A). Gall y cyhoedd fynd i’r cyfarfodydd os ydynt dymuno.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac aelodau'r Cyngor Partneriaeth i sicrhau perthnasedd parhaus agendâu'r Cyngor Partneriaeth, gan gynnwys drwy gyd-ddatblygu blaengynllun gwaith. Felly mae'r fforwm yn parhau i ddarparu cyfleoedd amserol a phenodol i drafod blaenoriaethau a heriau mewn ffordd a all ysgogi gwelliant ac ymgorffori gwaith partneriaeth ymhellach.

Nododd yr Ymchwiliad COVID-19 yn ei adroddiad Modiwl 2, 2A, 2B a 2C ym mharagraff 14.26 ei fod yn ‘annog ei ddefnydd [y Cyngor Partneriaeth] yng Nghymru mewn unrhyw bandemig yn y dyfodol i hwyluso ymgysylltu a chyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru’. Mae hyn yn adeiladu ar y rôl a chwaraeodd y Cyngor Partneriaeth fel elfen allweddol o'r ymgysylltiad rheolaidd, tryloyw a chydweithredol rhwng llywodraeth genedlaethol a lleol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19.

Wrth i ni fynd i mewn i gyfnod newydd ar ôl cyd-ddatblygu a lansio Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru, bydd y Cyngor Partneriaeth yn parhau i ddarparu llwyfan i alluogi ac ymgorffori'r egwyddorion a'r ffyrdd o weithio ymhellach fel partneriaid dibynadwy.

Y prif faterion a’r cynnydd a drafodwyd gan y Cyngor Partneriaeth yn ystod y cyfnod hwn

Yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2026, ystyriodd y Cyngor Partneriaeth ystod o faterion allweddol sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys eitem sefydlog ar y Newid yn yr Hinsawdd, ystod o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a heriau mawr sy'n wynebu cymunedau ledled Cymru. 

Eitem sefydlog: newid yn yr hinsawdd

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn eitem sefydlog yng nghyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth. Sefydlodd y Cyngor Partneriaeth y Panel Strategaeth Hinsawdd Llywodraeth Leol (y Panel Strategaeth) i roi arweiniad, datblygu ymrwymiadau llywodraeth leol ar gyfer ‘Cyllideb Carbon Sero Net Cymru 2’ a chefnogi cynghorau i fynd ar drywydd yr ymrwymiadau hynny. Roedd y Panel Strategaeth Hinsawdd yn gyfrifol am adrodd yn ôl ar gynnydd. 

Mae’r trosolwg ar draws y sectorau a ddarperir gan y Cyngor Partneriaeth yn arwain at her ddefnyddiol a dysgu yn ehangach o waith y Panel Strategaeth gyda gwersi y mae modd eu cymhwyso ar draws sefydliadau sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, neu eu cynnal mewn partneriaeth.

Mae’r Panel Strategaeth yn goruchwylio pedwar grŵp datgarboneiddio sy’n cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu hymrwymiadau yng nghynllun Sero Net Cymru a grŵp a sefydlwyd i ystyried mesurau addasu a chydnerthedd, ar gyfer gwasanaethau’r cyngor ac ar gyfer y gymuned ehangach. Mae diweddariadau rheolaidd ar waith y grwpiau hyn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiadau cynnydd i aelodau'r Cyngor Partneriaeth. 

Mae'r Panel Strategaeth hefyd wedi adrodd i'r aelodau ar waith gyda chronfeydd pensiwn llywodraeth leol i archwilio cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad effaith yn seiliedig ar le (PBII) a all gefnogi economïau a chymunedau lleol mewn ffyrdd cynaliadwy.

Fel rhan o ddiweddariadau'r Panel Strategaeth rheolaidd, gwnaed asesiad mewn perthynas â chynnydd gan gynghorau yn erbyn map trywydd y sector cyhoeddus i gyflawni sero net, cynllun Sero Net Cymru, a Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd i Gymru, gan bwysleisio'r angen am gyllid hirdymor a rheoleiddio cefnogol i alluogi a hwyluso gwaith lliniaru ac addasu gan awdurdodau lleol.

Mae'r Cyngor Partneriaeth hefyd wedi cael cyflwyniad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU.  

Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at ddyfodol pawb yng Nghymru ac yn creu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol, gan fynd i'r afael â'r heriau digynsail rydym yn eu hwynebu. Mae'n canolbwyntio ar ffyrdd y gallwn wella bywydau pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r Cyngor Partneriaeth wedi creu fforwm cydweithredol i hwyluso trafodaeth a darparu cefnogaeth ar ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r ymrwymiadau hyn yn y Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys:

  • parhau i adolygu'r partneriaethau rhanbarthol
  • lleihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol
  • Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr
  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (bellach yn Ddeddf)
  • y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
  • yr Economi Sylfaenol

Materion eraill a drafodwyd mewn cyfarfodydd 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r Cyngor Partneriaeth wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar nifer o faterion perthnasol eraill, ac wedi'u trafod, gan gynnwys:

  • costau byw
  • system a siarter budd-daliadau Cymru
  • dyfodol ein system iechyd a gofal a phwysau’r gaeaf
  • Gweithio mewn partneriaeth o fewn Plismona a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru
  • Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
  • Cynllun Cartrefi i Wcráin yng Nghymru
  • cyflwyno'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)
  • adferiad economaidd, twf gwyrdd a diwygio cynllunio
  • gwaith rhanbarthol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 

Yn ogystal, fe wnaeth y cyn Brif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, hefyd annerch aelodau’r Cyngor Partneriaeth yn y cyfarfod ar 13 Mawrth 2024, wrth iddo fyfyrio ar ei gyfnod fel Prif Weinidog a phwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

Yn y cyfarfod ar 17 Mawrth 2025, arweiniodd Eluned Morgan AS, y Prif Weinidog, drafodaeth ar oblygiadau'r newid yn llywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â chyllid, diwygio lles a'r cyfleoedd a'r heriau i Gymru.

Is-grŵp Cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru

Mae’r Is-grŵp Cyllid yn is-grŵp o’r Cyngor Partneriaeth a dyma’r prif fforwm ar gyfer trafodaethau sy’n ymwneud â’r Setliad Llywodraeth Leol a’r fframwaith ariannol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys trethi lleol a diwygio cyllid. Mae’n darparu’r oruchwyliaeth wleidyddol ar gyfer newidiadau i fformiwla’r setliad i lywodraeth leol. 

Mewn cyfarfod arbennig ym mis Ionawr 2024, darparodd yr Is-grŵp Cyllid fforwm ar gyfer trafodaeth ar y gwaith i leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, yn benodol mewn perthynas â lleihau nifer y grantiau refeniw a delir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Roedd trafodaethau yn canolbwyntio ar gyfleoedd i ddadneilltuo neu gydgrynhoi grantiau, ac i symleiddio gweinyddu'r grantiau hynny a oedd yn weddill.

Parhaodd cyfarfodydd diweddarach yr Is-grŵp Cyllid i adolygu cynnydd ar ddadneilltuo neu gydgrynhoi grantiau penodol, a'r gwaith parhaus i annog cysondeb a chymesuredd yn y dull gweithredu. 

Mae agendâu a chofnodion cyfarfodydd yr Is-grŵp Cyllid ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cytundeb Partneriaeth Strategol

Yng nghyfarfod y Cyngor Partneriaeth ar 7 Gorffennaf 2025, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet am y Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru (y Cytundeb) a lofnodwyd yng Nghynhadledd CLlLC ym mis Mehefin.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod llofnodi'r Cytundeb yn gam sylweddol o ran cryfhau'r berthynas gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Mae'n ffurfioli sut y gweithiodd y ddau faes llywodraeth gyda'i gilydd fel partneriaid dibynadwy, gan nodi rolau a chyfrifoldebau clir i gefnogi partneriaeth sefydlog a pharhaol.

Sefydlodd y Cytundeb set o egwyddorion cyffredin i lywio cydweithio, gan adeiladu ar y dull cydweithredol a ddatblygwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Ailddatganodd ymrwymiad cyffredin i gydraddoldeb, cynhwysiant, a mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau iechyd. Nododd hefyd feysydd allweddol ar gyfer cydweithredu parhaus fel datblygu amrywiaeth mewn arweinyddiaeth a mynd i'r afael â cham-drin sy'n cael ei gyfeirio at bobl mewn gwleidyddiaeth neu'r gweithlu sector cyhoeddus.

Y Camau Nesaf

Adolygu’r Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol

Adolygwyd y Cynllun ddiwethaf yn 2017. Cynigir adolygu'r Cynllun yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026, gan ei ddiweddaru i gyd-fynd â'r Cytundeb Partneriaeth Strategol. Byddai'r Cynllun diwygiedig yn cael ei ystyried i'w gymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol. 

Cynigir y bydd Cylch Gorchwyl Cyngor Partneriaeth Cymru yn cael ei adolygu gan aelodau i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. 

Mae CLlLC yn gwerthfawrogi Cyngor Partneriaeth Cymru ac yn edrych ymlaen at feithrin perthynas dda â'r weinyddiaeth nesaf.

Diolchiadau

Diolchir i aelodau Cyngor Partneriaeth Cymru am eu hymrwymiad i waith y Cyngor ac am gyfrannu eu harbenigedd i drafodaethau am heriau mwyaf Cymru, wrth geisio sicrhau’r canlyniadau gorau i gymunedau a phobl ledled Cymru.

Atodiad a

Mae holl bapurau cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.