Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Daw data ar dlodi parhaus yng Nghymru o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae'n seiliedig ar set ddata arolwg hydredol Deall Cymdeithas. Yn eu hadroddiad Dynameg Incwm (Adran Gwaith a Phensiynau) maent yn diffinio person i fod mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o 4 blynedd yn olynol.

Mae'r ffigurau isod yn amodol ar ddiwygiadau yn y dyfodol i wella ansawdd data. Gellir casglu gwybodaeth newydd gan ymatebwyr sy'n effeithio ar eu data mewn blynyddoedd cynharach. Am y rheswm hwn, dylai defnyddwyr gyfeirio at adroddiad diweddaraf Dynameg Incwm yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer data ar gyfnodau blaenorol.

Y prif bwyntiau

  • Ar ôl talu costau tai roedd gan unigolyn yng Nghymru debygolrwydd o 14% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2020 a 2024 (ar ôl talu costau tai).
  • Mae’r tebygolrwydd o fod mewn tlodi parhaus yn amrywio yn ôl rhanbarth/gwlad. Yn Lloegr a'r Alban, roedd y ffigur yn 11%, ac yng Ngogledd Iwerddon 9% (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd gan blentyn yng Nghymru debygolrwydd o 23% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2020 a 2024 (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd hyn yn uwch na'r tebygolrwydd ar gyfer Lloegr (14%), yr Alban (17%) ac yng Ngogledd Iwerddon (13%).
  • Roedd gan oedolyn o oedran gweithio yng Nghymru debygolrwydd o 12% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2020 a 2024 (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd hyn yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban (10%) ac yng Ngogledd Iwerddon (9%).
  • Roedd gan bensiynwr a oedd yn byw yng Nghymru rhwng 2020 a 2024 debygolrwydd o 13% o fod mewn tlodi parhaus (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd hyn yn uwch na'r tebygolrwydd yn Lloegr, yr Alban (y ddau yn 9%), ac Gogledd Iwerddon (5%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gan fod yr ystadegau hyn yn seiliedig ar ddata arolwg, maent yn amcangyfrifon ac yn destun ansicrwydd. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli newid dros amser neu wahaniaethau rhwng is-grwpiau, a allai adlewyrchu amrywiad yn y gwaith samplu yn hytrach na gwahaniaethau gwirioneddol. Mae hyn yn arbennig o wir dros y tymor byr, ar gyfer grwpiau â meintiau sampl llai, a lle mae gwahaniaethau mewn pwyntiau canran yn fach. 

Mae pobl yn tynnu allan o arolwg a meintiau sampl bach yn debygol o fod wedi cyfrannu at yr anwadalrwydd diweddar yn y cyfraddau incwm isel parhaus ar gyfer plant yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Er bod y prif fesur yn defnyddio trothwy incwm canolrifol o 60%, mae amcangyfrifon ar 70% (sydd wedi'u cynnwys yn adroddiad dynameg incwm yr Adran Gwaith a Phensiynau) yn dangos tuedd fwy sefydlog. Mae hyn yn awgrymu bod llawer o blant yn byw mewn aelwydydd ag incymau sy’n agos at y trothwy o 60%, sy'n golygu y gall newidiadau bach yn y trothwy arwain at newidiadau cymharol fawr yn y cyfraddau tlodi parhaus.

Er mwyn mynd i'r afael â materion gan gynnwys pobl yn tynnu allan o arolwg, cyflwynwyd hwb i'r sampl ar gyfer y boblogaeth gyffredinol (Understanding Society) yn Nhon 14 (2022 a 2023). Bydd hyn yn bwydo i'r amcangyfrifon incwm isel parhaus o adroddiad 2028 ac mae eisoes wedi'i adlewyrchu mewn mesurau incwm canolrifol. Manylir ar effaith bosibl hyn yn adroddiad yr Adran Gwaith a Phensiynau. 

Mae diwygiadau pwysoli diweddar a wnaed gan berchnogion yr arolwg, Prifysgol Essex, wedi arwain at nifer anarferol o ddiwygiadau i rai ffigurau yn Nhon 14 (2022 a 2023). Mae diwygiadau pellach yn debygol pan fydd y don nesaf o ddata yn cael ei ryddhau.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ystadegau Cynhwysiant
Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099