Rhoi gwybod am Awdurdod Contractio nad yw wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.
Cynnwys
Crynodeb
Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gosod dyletswyddau ar Awdurdodau Contractio Cymru i gyflawni caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd. Mae'r dyletswyddau hyn yn berthnasol pan fydd Awdurdod Contractio yn cynllunio, yn cynnal, yn dyfarnu neu’n rheoli contract cyhoeddus fel y'i diffinnir yn y Ddeddf (Adrannau 21–24).
Gall Gweinidogion Cymru ymchwilio i sut mae awdurdod contractio wedi cyflawni caffael cyhoeddus. Gall hyn fod yn ymwneud â chaffael penodol neu ei weithgareddau caffael yn fwy cyffredinol o dan y Ddeddf (Adran 41).
Gall rhanddeiliaid hysbysu Gweinidogion Cymru am bryderon ynghylch sut mae Awdurdod Contractio wedi mynd i'r afael â chaffael sy’n dod o dan y Ddeddf.
Caffael Cymdeithasol Gyfrifol: Mae Ffurflen Hysbysu Pryder ar gyfer rhanddeiliaid sy'n credu nad yw Awdurdod Contractio a restrir yn Atodlen 1 Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol.
Mae'r ffurflen hon yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael yr wybodaeth angenrheidiol i gefnogi tryloywder, cydymffurfiaeth a dysgu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Nodyn pwysig i gyflenwyr
Os yw eich pryder yn ymwneud yn benodol â chaffael o dan Ddeddf Caffael 2023, cysylltwch â Gwasanaeth Adborth Caffael Uned Adolygu Caffael Cymru. Y Gwasanaeth Adborth Caffael yw'r unig bwynt cyswllt i gyflenwyr sy'n dymuno:
- Mynegi pryderon ynghylch caffael penodol y maent yn rhan ohono, neu y maent yn bwriadu cymryd rhan ynddo.
- Rhoi gwybod am bryderon ynghylch cydymffurfiaeth awdurdod contractio â Deddf Caffael 2023.
- Rhoi gwybod am bryderon ynghylch cydymffurfio â rheolau contract neu fframwaith.
Cyflwyno pryder
Trwy gyflwyno'r ffurflen, rydych chi'n cadarnhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth.
