Sefydlwyd Uned Adolygu Caffael Cymru ar 24 Chwefror 2025 ochr yn ochr â chychwyn Deddf Caffael 2023.
Mae'r Uned yn goruchwylio cydymffurfedd ym maes caffael cyhoeddus i sicrhau bod y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023, a Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, yn cael eu mabwysiadu gan Awdurdodau Contractio Cymru.
Drwy sicrhau cydymffurfedd â rheolau caffael newydd, mae Uned Adolygu Caffael Cymru yn helpu i ddiogelu uniondeb caffael cyhoeddus a chydymffurfedd â chytundebau masnach perthnasol. Mae hefyd yn amddiffyn cyrff cyhoeddus rhag cyflenwyr annerbyniol.
Mae Uned Adolygu Caffael Cymru yn cynnig tri gwasanaeth craidd.
Gwasanaeth craidd
1. Gwasanaeth adborth ar gaffael newydd
Mae Gwasanaeth Adborth ar gyfer Cyflenwyr Llywodraeth Cymru wedi cael ei ailfrandio'n Wasanaeth Adborth ar Gaffael. Mae'r gwasanaeth yn parhau i gynnal ymchwiliadau anffurfiol i bryderon cyflenwyr am weithgareddau caffael Awdurdodau Contractio Cymru. Mae bellach yn cael ei gefnogi gan bwerau a nodir yn Neddf Caffael 2023.
Bydd proses etifeddiaeth y Gwasanaeth Adborth ar gyfer Cyflenwyr yn parhau i fod yn berthnasol i unrhyw gaffaeliadau a ddechreuodd o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
Darllenwch gwmpas a chylch gwaith y Gwasanaeth Adborth ar Gaffael ar gyfer y gwasanaeth hwn cyn cyflwyno ffurflen i godi problem.
- Cwmpas a chylch gwaith y Gwasanaeth Adborth ar Gaffael
- Codi Pryder gan Gyflenwr ynghylch Caffaeliad Penodol yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
- Uned Adolygu Caffael Cymru – Gwasanaethau Adborth: Hysbysiad preifatrwydd
2. Gwasanaeth cydymffurfedd caffael newydd
Mae'r Gwasanaeth Cydymffurfedd Caffael yn canolbwyntio ar ymchwilio i gydymffurfedd Awdurdodau Contractio Cymru â gofynion Deddf Caffael 2023. Yn wahanol i'r Gwasanaeth Adborth ar Gaffael, sy'n ymdrin â chaffaeliadau penodol, mae'r Gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ddiffyg cydymffurfio systemig a sefydliadol.
Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys protocolau, cwmpas ymchwiliadau a ffurflenni atgyfeirio yn cael ei chyhoeddi ar y wefan hon maes o law.
3. Gwasanaeth Gwaharddiadau a Rhagwaharddiadau newydd
Mae Gwasanaeth Gwaharddiadau a Rhagwaharddiadau Uned Adolygu Caffael Cymru yn diogelu caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n asesu a yw cyflenwyr yn bodloni'r meini prawf gwahardd statudol o dan Ddeddf Caffael 2023 ac, lle bo hynny'n briodol, yn cyfeirio achosion at Weinidog y Goron i ystyried eu cynnwys ar restr rhagwaharddiadau’r DU.
Am ragor o fanylion am y gyfundrefn wahardd, cyfeiriwch at Ddeddf Caffael 2023 a'r Canllawiau cysylltiedig ar Waharddiadau.
Hysbysiad o Wahardd Cyflenwr
O dan adran 59 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdodau Contractio Cymru hysbysu Gweinidogion Cymru o fewn 30 diwrnod o wahardd cyflenwr.
Mae'r gofyniad hysbysu hwn yn gymwys pan fo'r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig neu waharddadwy o dan y Ddeddf a phan fo:
- tendr yn cael ei anwybyddu neu gyflenwr wedi cael ei wahardd rhag caffael
- cyflenwr wedi'i nodi fel cyflenwr gwaharddedig neu gyflenwr gwaharddadwy oherwydd person â chyswllt neu is-gontractwr ac wedi disodli'r person â chyswllt neu'r is-gontractwr
- cais am gael eu derbyn i farchnad ddynamig yn cael ei wrthod, neu
- cyflenwr yn cael ei dynnu o farchnad ddynamig.
Er mwyn cefnogi'r gofyniad hwn, mae Uned Adolygu Caffael Cymru wedi datblygu ffurflen hysbysu ar-lein safonol i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei roi.
O dan adran 60 o'r Ddeddf, gall Gweinidogion Cymru ymchwilio i gyflenwyr i benderfynu a ydynt yn gyflenwyr gwaharddedig neu'n gyflenwyr gwaharddadwy a gallant gyfeirio'r achos at Weinidog y Goron i ystyried a ddylid cofnodi enw'r cyflenwr ar y rhestr rhagwaharddiadau.
Seiliau Diogelwch Gwladol
Pan fo gwaharddiadau’n ymwneud â diogelwch gwladol, rhaid i bob awdurdod contractio wneud yr atgyfeiriadau priodol i'r Uned Diogelwch Gwladol ar gyfer Caffael (NSUP).
Yn achos gwaharddiadau yn ôl disgresiwn (Atodlen 7, paragraff 14 – bygythiad i ddiogelwch gwladol), rhaid i awdurdodau Cymreig datganoledig hysbysu Gweinidog y Goron a chael cadarnhad ymlaen llaw gan y Gweinidog bod y darparwr neu is-gontractwr yn gyflenwr gwaharddadwy, ac y dylid terfynu'r contract.
Pan fydd cyflenwr wedi'i wahardd yn dilyn hyn, rhaid i Awdurdodau Contractio Cymru gydymffurfio ag adran 59 o'r Ddeddf a rhoi gwybod i Weinidogion Cymru o fewn 30 diwrnod i wahardd y cyflenwr.
Ffurflenni ac atgyfeiriadau
- Hysbysu Gweinidogion Cymru bod cyflenwr wedi’i wahardd
- Cyfeirio achos at Weinidog y Goron (seiliau diogelwch gwladol)
Bydd rhagor o wybodaeth am waharddiadau a phroses rhagwaharddiadau Uned Adolygu Caffael Cymru, gan gynnwys cwmpas yr ymchwiliad, yn cael ei chyhoeddi ar y wefan hon maes o law.
Caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol
Daeth Rheoliadau Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2026 i rym ar 25 Mawrth 2026, gyda rheoliad 6 yn dechrau ar 1 Ebrill 2026.
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gofynion manwl ar gyfer gweithredu Rhan 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Deddf PGChC), sy'n ymwneud â Chaffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol.
O dan Ddeddf PGChC, gall Gweinidogion Cymru ymchwilio i sut mae Awdurdod Contractio wedi cyflawni ei weithgareddau caffael cyhoeddus. Os ydych yn credu nad yw Awdurdod Contractio a restrir yn Atodlen 1 o'r Ddeddf wedi cyflawni ei ddyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol, gallwch fynegi pryder gan ddefnyddio "Caffael Cymdeithasol Gyfrifol: Ffurflen Mynegi Pryder".
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Mae'r dudalen hon sy'n ymdrin ag Uned Adolygu Caffael Cymru ynghyd â'i phrosesau manwl yn parhau i gael ei chwblhau gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a bydd y fersiwn derfynol ar gael maes o law.
