Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn trin eich data.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Bydd angen i Uned Adolygu Caffael Cymru gasglu rhywfaint o wybodaeth bersonol gennych os byddwch yn dewis defnyddio'r gwasanaeth adborth hwn. Llywodraeth Cymru fydd y rheolwr ar gyfer y wybodaeth hon, a byddwn yn ei phrosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni.

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn ein helpu i nodi meysydd i'w gwella ym maes caffael yn y sector cyhoeddus a sicrhau bod caffael yng Nghymru yn cydymffurfio â'r rheolau a nodir yn y ddeddfwriaeth gaffael.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data

Gellir rhannu data personol, lle bo angen, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, panel o arbenigwyr a benodir i ymchwilio i dorri rheolau cylchol, a, lle bo'n briodol, gyda'r awdurdod contractio Cymru sy'n gysylltiedig â'ch ymholiad.

Lle nad yw data personol wedi'i gael yn uniongyrchol gennych chi, efallai ei fod wedi'i ddarparu gan rywun a oedd yn ymateb i gais gan Uned Adolygu Caffael Cymru.

Os ceir gwybodaeth gan sefydliad nad yw wedi'i nodi uchod, byddwn yn gallu nodi a chadarnhau enw'r sefydliad hwnnw.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data

Bydd eich data personol yn cael ei gadw am gyfnod o dair blynedd o'r dyddiad y bydd eich pryder neu ymholiad wedi'i gwblhau.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn am wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, ac i ofyn am gopi o'r data personol hwnnw.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gywiro unrhyw anghywirdebau yn eich data personol heb oedi.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gwblhau unrhyw ddata personol anghyflawn, gan gynnwys drwy ddatganiad atodol.

Mae gennych yr hawl i ofyn am ddileu eich data personol os nad oes cyfiawnhad mwyach dros eu prosesu.

Mae gennych yr hawl mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, lle mae cywirdeb yn cael ei herio) i ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol.

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol lle caiff ei brosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o unrhyw ddata personol rydych chi wedi'i ddarparu, ac i hyn gael ei ddarparu mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei ddarllen gan beiriant.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Uned Adolygu Caffael Cymru (WPRU)

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Data Protection Officer

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113