Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd bod 246,500 o fentrau'n weithredol yng Nghymru, gan gyflogi tua 1.1 miliwn o bobl.
  • Roedd y rhan fwyaf o fentrau gweithredol yn fusnesau bach a chanolig eu maint gyda 0 i 249 o weithwyr. Roeddent yn cyfrif am 99.3% o gyfanswm y mentrau yng Nghymru yn 2025. Roedd microfusnesau (0 i 9 o weithwyr) yn cyfrif am 94.6% o gyfanswm y mentrau yng Nghymru.
  • Roedd 37.7% o gyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru o fewn mentrau mawr (y rhai sydd â 250 neu fwy o weithwyr), o'i gymharu â 40.2% ar gyfer y DU cyfan.
  • Ers 2003 bu Gostwng o 3.9 pwynt canran yng nghyfran y gyflogaeth mewn mentrau mawr.
  • Roedd tua 0.7% o fentrau byw yng Nghymru a pherchentyaeth tu allan i’r DU. Roedd y rhain yn cynrychioli 15.9% o’r gyflogaeth.
  • Roedd amrywiad sylweddol rhwng sectorau diwydiant, gyda swyddi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a pysgota wedi eu dominyddu gan ficrofusnesau (81.6%) a chyflogaeth yn y diwydiannau cynhyrchu wedi eu crynhoi yn y band maint mwyaf (49.5%).

Manylion cyswllt

Ystadegau yr Economi
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 25/2026

Image