Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

Gall y canllawiau hyn helpu i ddatblygu a gweithredu polisïau a strategaethau gwrthfwlio, a dylid eu dwyn i sylw'r holl reolwyr, staff a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio mewn:

  • ysgol a gynhelir neu ysgol nas cynhelir neu leoliad
  • uned cyfeirio disgyblion
  • ysgol arbennig
  • lleoliad addysg heblaw yn yr ysgol

Gall hefyd fod o ddiddordeb i’r canlynol:

  • pwyllgorau rheoli
  • awdurdodau esgobaethol
  • gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a phlismona
  • sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc
  • plant a phobl ifanc a'u teuluoedd

Termau a ddefnyddir yn y canllawiau hyn

At ddibenion y canllawiau statudol hyn, mae diffiniadau penodol ar gyfer rhai termau. Trowch at adran ‘Diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn y canllawiau hyn’ cyn darllen y canllawiau hyn.

Yn y canllawiau hyn, mae’r term ‘rhaid’ yn golygu bod dyletswydd gyfreithiol i gyflawni camau gweithredu penodol neu ymatal rhag gwneud rhywbeth penodol.

Statws y canllawiau hyn

Dyma ganllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru. Mae’r canllawiau’n anstatudol ar gyfer ysgolion annibynnol a gallant eu cefnogi i fodloni’r safonau a nodir yn Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 a wnaed o dan adran 157 o Ddeddf Addysg 2002.

Mae’n rhaid i gyrff llywodraethu roi sylw i’r canllawiau statudol hyn wrth wneud y canlynol:

  • arfer eu swyddogaethau ynghylch y dull o reoli ysgol
  • gwneud trefniadau ar gyfer diogelu a hybu lles plant a phobl ifanc sy’n ddysgwyr yn yr ysgol
  • arfer eu swyddogaethau o ran hybu ymddygiad da a disgyblaeth dda mewn ysgolion

Rhagair gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Fy mlaenoriaeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw sicrhau bod ein plant yn cael profiadau cadarnhaol yn yr ysgol a'u bod yn ffynnu yn yr amgylchedd meithringar a chefnogol y mae'r ysgol yn ei gynnig. 

Yn anffodus, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, nid yw'r ysgol yn brofiad cadarnhaol i bob plentyn a pherson ifanc. Ni ddylai ein gwahaniaethau fyth fod yn rheswm i rywun gael ei fwlio neu ei gam-drin, ond eto mae ymddygiad bwlio’n parhau i fod yn broblem. Gall bwlio fod yn brofiad trawmatig i blant a phobl ifanc. Gall gael effaith wirioneddol, yn enwedig ar eu llesiant emosiynol a’u hiechyd corfforol. Gall trawma ac adfyd fod yn achos ac yn ganlyniad ymddygiad bwlio, gan atgyfnerthu pwysigrwydd diwylliant ysgol sy'n hybu cynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn.

Cyhoeddwyd canllawiau ‘Hawliau, Parch, Cydraddoldeb’ yn wreiddiol yn 2019, ac mae’r fersiwn ddiwygiedig hon yn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth a datblygiadau polisi ehangach i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol i’r heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc heddiw.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r disgwyliadau ar ysgolion ac awdurdodau lleol i atal, nodi ac ymateb i ymddygiad bwlio mewn ffyrdd sy’n seiliedig ar hawliau, yn ystyriol o drawma, ac yn gynhwysol.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw canolbwyntio ar gefnogi ysgolion i feithrin cydberthnasau cadarnhaol a pharchus ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’r canllawiau hyn sydd wedi’u diweddaru yn: 

Mae’r Cwricwlwm i Gymru bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob ysgol a gynhelir, a chan eraill sy'n darparu addysg i ddysgwyr 3 i 16 oed. Un o bedwar diben y cwricwlwm yw i blant a phobl ifanc fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus. Mae hyn yn cynnwys parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn elfen fandadol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n rhaid cynnwys dysgu sy’n datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dysgwyr o wahanol hunaniaethau, safbwyntiau a gwerthoedd, ac amrywiaeth o gydberthnasau, rhywedd a rhywioldeb, gan gynnwys bywydau LHDTC+.

Yn 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan (DYG) ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Mae’r fframwaith hwn yn cefnogi pob ysgol i fabwysiadu ‘dull ysgol gyfan’ ar gyfer llesiant emosiynol ac iechyd meddwl dysgwyr, athrawon, staff ysgol a chymuned ehangach yr ysgol. Bwriad y Fframwaith Dull Ysgol Gyfan yw cefnogi ysgolion, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau addysg, i wneud y canlynol:

  • adolygu eu sefyllfa o ran llesiant 
  • datblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau

Mae hefyd yn cefnogi ac yn ategu'r Cwricwlwm i Gymru, yn benodol y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Mae’r fframwaith yn nodi sut y dylai ysgolion weithio mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys y GIG a sefydliadau'r trydydd sector, i ddiwallu holl anghenion llesiant plant a phobl ifanc. 

Mae mynd i'r afael ag ymddygiad bwlio a'i effaith yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae’n bwysig anfon neges glir fod ymddygiad bwlio yn annerbyniol ac na fydd yn cael ei oddef. Dylid mynd i’r afael â phob digwyddiad mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma ac sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a chymorth ar gyfer yr holl ddysgwyr dan sylw. Rydym am i ysgolion fod yn lleoedd diogel yn emosiynol ac yn gorfforol, ac i bob dysgwr deimlo ei fod yn perthyn. Gall adfyd a thrawma, ni waeth ble mae plant a phobl ifanc yn eu profi, arwain at drallod emosiynol a niwed corfforol, a all barhau i gael effaith arnynt am weddill eu hoes heb y cymorth cynnar cywir. 

Rydym yn glir ynghylch y ffaith bod yn rhaid i ysgolion gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o gael eu bwlio. Rhaid iddynt hefyd weithio â’r rheini sy’n gyfrifol am ymddygiad bwlio i sicrhau eu bod yn deall y niwed a achosir ac y gellir dod o hyd i ffyrdd cadarnhaol ymlaen. Bydd rhoi’r canllawiau hyn ar waith yn effeithiol yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni’r nodau hyn. Gyda’i gilydd, mae’r disgwyliadau hyn yn rhoi parch, diogelwch ac ymdeimlad o berthyn wrth galon sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn atal ac yn ymateb i ymddygiad bwlio.

Lynne Neagle AS

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Rôl cyrff llywodraethu ysgolion

Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau effeithiol yn eu lle i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc.

Mae’r corff llywodraethu yn penderfynu beth mae’n dymuno i’r ysgol ei gyflawni, a dylai sefydlu’r fframwaith strategol drwy wneud y canlynol:

  • pennu nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol 
  • mabwysiadu polisïau i gyflawni’r nodau a’r amcanion hynny 
  • gosod targedau i gyflawni’r nodau a’r amcanion hynny
  • adolygu'r cynnydd at gyflawni’r nodau a’r amcanion

Mae corff llywodraethu'r ysgol yn nodi datganiad o egwyddorion ar gyfer hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, ac mae'n ofynnol iddo roi sylw i ganllawiau gan Lywodraeth Cymru wrth wneud ac adolygu'r datganiad ysgrifenedig o egwyddorion cyffredinol ar ddisgyblaeth yn yr ysgol. Bydd y pennaeth yn defnyddio'r datganiad hwn o egwyddorion i arwain gwaith gyda chymuned yr ysgol i benderfynu ar y mesurau manylach sy'n ffurfio polisi ymddygiad yr ysgol.

Dylai cyrff llywodraethu sicrhau bod polisïau sy’n mynd i’r afael â bwlio a gwahaniaethu yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol, gan hyrwyddo amgylchedd ysgol cwbl gynhwysol gydag agwedd dim goddefgarwch at ymddygiad bwlio a gwahaniaethu. Dylent ddefnyddio canllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru, fel y fframwaith cynhwysiant, llesiant, ymddygiad a phresenoldeb disgyblion, a sicrhau bod llywodraethwyr yn cael hyfforddiant priodol i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn.

Dylai cyrff llywodraethu ysgolion a llywodraethwyr ysgolion unigol weithredu â gonestrwydd ac uniondeb bob amser, a bod yn barod i egluro'r camau a gymerant a'u penderfyniadau i staff, dysgwyr, rhieni ac unrhyw un sydd â buddiant dilys yn yr ysgol.

Beth yw ymddygiad bwlio, ei gymhellion a’i oblygiadau ehangach

Cyd-destun

Mae bwlio yn ymddygiad dynol ymosodol cyffredin a gall hynny gael ei ddylanwadu gan ddicter, rhagfarn, dial neu ofni eraill sy’n wahanol. Mewn rhai achosion, mae bwlio yn ymddygiad a ddysgwyd i amddiffyn eu hunain. Mae’n ymddygiad camaddasol y gellir ei ddatblygu mewn ymateb i ddod i gysylltiad â phrofiadau niweidiol a thrawmatig. 

Canfuwyd mai’r Deyrnas Unedig yw un o’r gwledydd gwaethaf o ran boddhad plant a phobl ifanc â’u bywyd, a chyfeirir at ymddygiad bwlio fel un o’r pethau sy’n achosi hyn. Gall ymddygiad bwlio fod yn arwydd o anfanteision eraill sy’n bodoli ym mywyd plentyn neu berson ifanc, sy’n adlewyrchu diffyg boddhad yn gyffredinol â bywyd. 

Er gwaethaf gwaith gan ysgolion a gwasanaethau eraill, yn ogystal â mentrau'r llywodraeth, mae ymddygiad bwlio yn parhau i fod yn broblem. Fodd bynnag, nid mewn lleoliadau ysgol yn unig y deuir ar draws ymddygiad bwlio. Gall unigolion ddefnyddio platfformau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol hefyd i aflonyddu ar gyfoedion neu eu cam-drin.

Yn sgil bygythiadau digidol cynyddol a rhagfarnau ehangach a gaiff eu mynegi ar-lein ac all-lein, mae’n bwysig herio ymddygiad bwlio. 

Gall ymddygiad bwlio arwain at ynysu plant a phobl ifanc yn gymdeithasol a pheri iddynt deimlo’n unig. Gall hyn ddwysáu’r heriau eraill a all fod yn eu hwynebu a chreu rhwystrau i gysylltiad a chefnogaeth gadarnhaol.

Mae'r dystiolaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru yn dangos sut y gall profiadau yn ystod plentyndod effeithio ar allu rhywun i feithrin a chynnal cydberthnasau cadarnhaol ag eraill yn ystod plentyndod neu lencyndod, yn ogystal â phan fydd yn hŷn. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd cynorthwyo plant a phobl ifanc i feithrin cydberthnasau iach a pharchus.

Gall stigma a gwahaniaethu ynghylch iechyd meddwl gwael achosi ymddygiad bwlio. Yn yr un modd, gall ymddygiad bwlio gyfrannu hefyd at ddatblygu iechyd a llesiant meddyliol gwael. Mae mynd i’r afael â gwir achos ymddygiad bwlio yn aml yn gam hanfodol tuag at wella lles meddyliol plentyn neu berson ifanc. 

Os bydd ymddygiad bwlio yn amlwg mewn ysgol, ar-lein neu rywle arall, ni fydd yr un dysgwr yn gallu mwynhau ei hawliau yn llawn o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae hyn yn cynnwys ei hawl i fod yn ddiogel a chael addysg.

Ystadegau sy’n dangos graddfa’r bwlio

Mae miloedd o blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi dweud mai ymddygiad bwlio yw eu pryder mwyaf o hyd. Mae’n effeithio ar gymaint ohonynt, a dyna yw un o’r rhesymau pam bydd bwlio yn aml ar frig rhestrau o’r pryderon pennaf mewn arolygon. 

Mae galwadau gan blant a phobl ifanc i oedolion weithredu yn cael eu hategu gan amrywiaeth o waith ymchwil. Mae’r ymchwil hwn yn dangos effeithiau andwyol a pharhaol posibl ymddygiad bwlio, nid yn unig ar y plentyn neu’r person ifanc sy’n ei brofi, ond ar y rhai sy’n cymryd rhan yn y bwlio a’r gwyliedyddion hefyd. Gall effeithiau difrifol fod yn rhai tymor hir, gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant gwael. Mewn rhai achosion, gall rhieni ddewis tynnu eu plentyn o’r ysgol.

Mae Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd: Data Arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) 2023 i 2024 yn cynnwys ymatebion gan blant rhwng 11 a 16 oed. Cymerodd 130,000 o ddysgwyr ym Mlynyddoedd 7 i 11 ran, o 200 o ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Edrychodd yr arolwg ar brofiadau pobl ifanc o ymddygiad bwlio. Dywedodd bron 38% o bobl ifanc eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod y misoedd blaenorol, i fyny o 32% yn 2021. Mae canlyniadau'r arolwg yn uwch nag erioed o'r blaen, gyda mwy na 40% o ferched yn cael eu bwlio o'u cymharu â dros 30% o fechgyn.

Mewn ymateb i fwlio ar-lein, nododd 21% eu bod wedi cael eu bwlio ar-lein o leiaf unwaith neu ddwy yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd bwlio ar-lein yn sylweddol uwch ymhlith pobl ifanc a nododd nad oeddent yn uniaethu fel bachgen na merch (44%), o'u cymharu â bechgyn (17%) a merched (24%).

Roedd mwy o ddysgwyr o deuluoedd llai cefnog yn dweud eu bod wedi cael profiad o ymddygiad bwlio o’i gymharu â’r rhai o deuluoedd mwy cefnog.

Yn ystod cyfnod 2024 i 2025, darparodd Childline dros 6,600 o sesiynau cwnsela yn ymwneud â phryderon am ymddygiad bwlio. Roedd y sesiynau’n ymdrin â materion megis cam-drin geiriol, cam-drin corfforol, allgáu, ac aflonyddu ar-lein mewn sgyrsiau neu negeseuon grŵp. 

Ymddygiad bwlio a'r ysgol

Mae ymddygiad bwlio yn:

  • niweidio’r holl unigolion dan sylw
  • dod yn ganolbwynt profiad dysgwr o’i fywyd bob dydd
  • tanseilio diogelwch, llesiant a chyrhaeddiad
  • gallu arwain at ofid a theimlo’n anobeithiol ac yn unig
  • niweidio ethos ac enw da’r ysgol
  • andwyol i’r ysgol a’r gymuned ehangach
  • effeithio ar wyliedyddion a’r rhai sy’n gwybod ei fod yn digwydd yn yr ysgol

Gall newidiadau mewn cymdeithas, cymunedau a diwylliant, gan gynnwys effaith y cyfryngau cymdeithasol, ddylanwadu ar sut mae ymddygiad bwlio yn dod i’r amlwg mewn amgylchedd ysgol. Gall bod yn ymwybodol o dueddiadau ac ymddygiadau sy'n dod i'r amlwg fod o gymorth wrth ddatblygu strategaethau i fynd i'r afael â phob math o ymddygiad bwlio a’i atal.

Mae'n bwysig cofio nad yw'r rhan fwyaf o blant neu bobl ifanc yn dangos ymddygiad bwlio. Gall ymddygiad gofalgar a chadarnhaol ddod yn beth arferol gartref ac yn y gymdeithas os datblygir y diwylliant priodol mewn ysgol.

Mae ysgolion effeithiol yn mynd ati’n rhagweithiol i atal pob math o ymddygiad bwlio ac i liniaru’r effeithiau pan fydd yn digwydd. Maent yn gwneud hyn drwy fabwysiadu dulliau sy’n ystyriol o drawma fel ymarfer adferol a dad-ddwysáu, gan ganolbwyntio ar wneud iawn am niwed ac ailadeiladu ymddiriedaeth.

Dylai cymorth i blentyn neu berson ifanc sydd wedi cael ei fwlio gael ei lywio gan ei ddymuniadau a’i anghenion yn unol â Fframwaith Ymarfer Cymru sy’n Ystyriol o Drawma. Dylai pob ysgol roi sylw i fabwysiadu’r dull hwn. Mae hyn yn cynnwys addysgu plant a phobl ifanc a staff hyfforddi am barch, ymddygiad cadarnhaol, stereoteipiau a mynd i’r afael â rhagfarn, yn ogystal â meithrin hyder i herio iaith annerbyniol a mynd i’r afael â materion yn unol â phrotocolau’r ysgol.

Mae dull sy’n ystyriol o drawma yn canolbwyntio hefyd ar ddeall beth yw’r rheswm dros yr ymddygiad bwlio, er mwyn ei atal a lleihau niwed pellach. Mae’n bwysig cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff o’r canlynol:

  • y ffyrdd y gall adfyd a thrawma effeithio ar ymddygiad dysgwyr yn ogystal â’u gallu i feithrin cydberthnasau cadarnhaol â’u cyfoedion a staff 
  • sut mae adnabod ymatebion i drawma, fel tynnu’n ôl a bod yn or-wyliadwrus, mewn ymddygiad heriol

Mae hefyd yn golygu goruchwylio effeithiol er enghraifft, rhwng gwersi, amser egwyl ac amser cinio, a darparu mannau diogel ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed yn ystod y cyfnodau hyn.

Drwy weithredu dull sy’n seiliedig ar Drawma ac ACE, gall ysgol greu amgylchedd diogel, cefnogol a thosturiol, lle gall pob dysgwr ffynnu. Mae pecyn cymorth sefydliadol TrACE ac amrywiaeth o ddeunyddiau ac adnoddau ategol ar gael ar Hwb. Gweler yr adran ‘Bwlio ac iechyd meddwl a llesiant’ am ragor o wybodaeth.

Diffinio bwlio

Nid oes diffiniad cyfreithiol o fwlio yng Nghymru nac yn y Deyrnas Unedig ychwaith. Felly, mae’r diffiniad sy’n cael ei ddefnyddio yn y canllawiau hyn yn adeiladu ar egwyddorion a ddefnyddir yn eang sydd wedi cael eu sefydlu yn y Deyrnas Unedig ers 1993.

At ddibenion y canllawiau hyn, diffinnir bwlio fel: 

ymddygiad gan unigolyn neu grŵp sy’n brifo eraill yn fwriadol naill ai’n gorfforol neu’n emosiynol, a all gynnwys achosion unigol sy’n cael eu hailadrodd dros amser fel arfer.

Dylai ysgolion roi sylw i fabwysiadu’r diffiniad hwn. Mae’n hanfodol i ysgolion ddiffinio beth yw ystyr bwlio oherwydd bydd hynny’n sail i’w polisi gwrthfwlio, a dylai pawb, gan gynnwys pob aelod o staff a phob dysgwr, ddeall beth yw ystyr y diffiniad. Dylai'r diffiniad gael ei ddefnyddio ar gyfer dysgu proffesiynol, mewn gwaith gwrthfwlio rheolaidd gyda dysgwyr ac i gyfleu’r safbwynt yn glir i rieni. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y polisi yn glir ac yn gyson i gymuned gyfan yr ysgol. 

Dylid ymgynghori â dysgwyr wrth ddatblygu diffiniad yr ysgol o ymddygiad bwlio a’r polisi cysylltiedig sy’n ymwneud â sut mae’r ysgol yn herio ymddygiad bwlio. Dylid hefyd roi fersiwn o bolisi’r ysgol i ddysgwyr sy’n cynnwys esboniad clir a syml o’r diffiniad. 

Caiff bwlio ei fynegi trwy amrywiaeth o ymddygiadau niweidiol. Gall ddigwydd wyneb yn wyneb neu yn yr amgylchedd digidol. Gall gael ei gyflawni gan unigolyn neu gan grŵp, ond bydd fel arfer yn digwydd o flaen cynulleidfa i bwysleisio grym neu i ddod yn fwy poblogaidd. Gall gynnwys elfen o gyfrinachedd i sicrhau na fydd oedolion yn ymwybodol ohono.

Mae bwlio'n wahanol i ddadl, ymladd neu gweryl rhwng ffrindiau, oherwydd yn gyffredinol:

  • mae’n fwriadol
  • mae’n cael ei ailadrodd dros amser
  • mae anghydbwysedd neu anghydbwysedd ymddangosiadol mewn pŵer rhwng y plentyn neu’r person ifanc sy’n bwlio a’r unigolyn sy’n cael ei fwlio
  • mae bwlio yn creu teimladau o ofid, ofn, unigrwydd, cywilydd a diymadferthedd

Sut mae ymddygiad bwlio yn cael ei fynegi 

Mae sawl math o ymddygiad bwlio, gan gynnwys y canlynol.

Corfforol

Cicio, baglu rhywun, gwthio rhywun, anafu rhywun, difrodi eiddo rhywun, neu wneud ystumiau i godi braw ar rywun.

Geiriol

Gwawdio a galw enwau, sarhau, bygwth, bychanu neu godi braw. 

Emosiynol

Ymddygiad sydd wedi’i fwriadu i ynysu, rheoli, niweidio neu godi cywilydd ar rywun.

Anuniongyrchol

Gweithredoedd slei neu lechwraidd sy’n digwydd y tu ôl i gefn plentyn neu berson ifanc, neu roi sïon ar led.

Ar-lein

Defnyddio unrhyw fath o dechnoleg, gwasanaethau neu blatfformau ar-lein, er enghraifft gemau, cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau negeseua a fforymau. Gall ymddygiad bwlio ar-lein gynnwys ymddygiad bygythiol, cam-drin, aflonyddu, cywilyddio, allgáu, dynwared, difrod maleisus, rhannu delweddau neu fideos heb ganiatâd (gan gynnwys rhai sydd wedi'u cynhyrchu drwy ddeallusrwydd artiffisial) a gorfodaeth.

Ymosodedd at gydberthynas ag eraill

Ymddygiad bwlio sy'n ceisio niweidio cydberthynas neu statws cymdeithasol plentyn neu berson ifanc. Mae hyn yn cynnwys:

  • annog ei ffrindiau i droi cefn arno
  • manteisio ar anghenion dysgu ychwanegol neu salwch rhywun
  • targedu statws cymdeithasol neu ariannol ei deulu
  • ynysu rhywun neu godi cywilydd arno
  • achosi helynt yn fwriadol i rywun

Rhywiol

Cyffwrdd digroeso, bygythiadau, awgrymiadau, sylwadau a jôcs neu ensyniadau. Gall hyn hefyd gynnwys blacmel rhywiol, ‘pornograffi dial’ ac unrhyw gamddefnydd o luniau personol a rhywiol eglur o’r plentyn neu’r person ifanc sy’n cael ei dargedu. Pan fydd unrhyw rai o'r digwyddiadau hyn yn ymwneud â phobl rhwng 10 ac 17 oed yn unig, byddant yn cael eu hystyried fesul achos, a rhai yn cael eu trin fel mater diogelu a (neu) droseddol. Mae’r mater hwn yn cael sylw pellach yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Cysylltiedig â rhagfarn

Ymddygiad bwlio at ddysgwr neu grŵp o ddysgwyr oherwydd rhagfarn. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â stereoteipiau neu ragdybiaethau am hunaniaeth. Gall rhagfarn hefyd ymestyn y tu hwnt i'r Nodweddion Gwarchodedig a gall arwain at ymddygiad bwlio am amrywiaeth o resymau eraill megis statws cymdeithasol ac ariannol neu gefndir diwylliannol. Gweler yr adran am fwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn i gael rhagor o wybodaeth.

Sylwadau sarhaus a chellwair

Yn aml, bydd plant a phobl ifanc yn protestio trwy ddweud mai jôc neu gellwair oedd digwyddiad. Os bydd 2 ffrind sydd â grym cyfartal yn cellweirio â’i gilydd yn aml, ni ystyrir hynny’n ymddygiad bwlio. Os bydd un dysgwr yn defnyddio’r hyn y mae’n honni sy’n gellwair i fychanu neu fygwth dysgwr arall sydd heb rym i atal hynny ac mae'r weithred honno yn codi ofn arno, mae’n debyg y bydd hynny’n croesi’r ffin rhwng cellwair ac ymddygiad bwlio.

Elfennau nodweddiadol ymddygiad bwlio

Mae nifer o elfennau amlwg yn gysylltiedig ag ymddygiad bwlio. Maent yn cynnwys y canlynol: 

Bwriad i achosi niwed

Mae ymddygiad bwlio yn rhywbeth bwriadol, a’r bwriad yw achosi niwed. Bydd plant a phobl ifanc sy’n bwlio eraill yn aml yn gwybod sut yn union i fychanu neu frifo rhywun. Maent yn rhoi sylw i agweddau allweddol ar eu hedrychiad, eu personoliaeth neu eu hunaniaeth i sicrhau’r effaith a ddymunir. Byddant yn canfod yr agwedd sy'n rhoi grym iddynt dros yr unigolyn.

Canlyniad niweidiol

Caiff rhywun neu grŵp ei frifo yn gorfforol neu’n emosiynol. Gall hyn gynnwys:

  • gwneud iddynt deimlo’n unig, codi cywilydd arnynt neu wneud iddynt deimlo’n ofnus
  • gwneud iddynt gwestiynu eu hymdeimlad o’u hunanwerth

Gweithredoedd uniongyrchol neu anuniongyrchol

Gall ymddygiad bwlio gynnwys y canlynol:

  • ymddygiad ymosodol uniongyrchol, megis taro
  • gweithredoedd anuniongyrchol megis lledaenu sïon, datgelu gwybodaeth breifat am rywun, neu rannu delweddau personol iawn neu ‘ffugiad dwfn’ â phobl na fwriadwyd iddynt weld yr wybodaeth neu’r delweddau

Mae’r gweithredoedd hyn yn ffordd o reoli’r dysgwr arall. Pan fydd digwyddiadau’n ymwneud â phobl rhwng 10 ac 17 oed, byddant yn cael eu hystyried fesul achos. Bydd rhai yn cael eu trin fel mater diogelu a (neu) droseddol.

Ailadrodd

Mae ymddygiad bwlio fel arfer yn cynnwys gweithredoedd ailadroddus o ymddygiad negyddol neu ymddygiad ymosodol sy’n rheoli ac yn cam-drin yn emosiynol. Fel arfer, ni fydd gweithred ymosodol unigol, megis ymladd, yn cael ei hystyried yn ymddygiad bwlio. Fodd bynnag, gall unrhyw ddigwyddiad fod yn fan cychwyn ymddygiad bwlio sy’n datblygu wedi hynny. Dyna pam mae cofnodion o ddigwyddiadau mor werthfawr.

Grym anghyfartal

Mae ymddygiad bwlio yn cynnwys camddefnydd o rym gan un unigolyn neu grŵp sy’n cael eu hystyried yn fwy grymus, yn aml oherwydd eu hoedran, eu nerth corfforol, eu poblogrwydd neu eu gwydnwch seicolegol a’u braint.

Ymddygiad bwlio sy'n targedu cydberthynas ag eraill

Mae ymddygiad bwlio sy’n targedu cydberthynas ag eraill yn fath cudd o ymosodedd (neu ymddygiad gelyniaethus) lle mae cyfoedion yn gwneud niwed i ‘eraill trwy ddylanwadu ac amharu ar eu cydberthynas ag eraill yn fwriadol’ (‘Relational Bullying’ gan Stephanie Deverich, David A. Nelson et al.). Gallai'r gweithredoedd maleisus hyn fod yn anodd eu canfod oherwydd gall plentyn ymosod ar ei gyfoed ar lafar neu ar-lein ac esgus mai jôc oedd y cyfan. 

Dyma fathau o ymddygiad bwlio sy’n targedu cydberthynas ag eraill. 

Codi waliau (Stonewalling)

Codi waliau neu'r driniaeth dawel yw pan fo pobl yn anwybyddu ei gilydd. Os yw 2 blentyn yn ddig wrth blentyn arall, efallai y byddant yn dewis gwneud y pethau y maent fel arfer yn eu gwneud, gan anwybyddu'r plentyn arall yn llwyr.

Allgáu unigolion o'r grŵp

Allgau o’r grŵp yw lle gall aelod unigol gael ei gau allan o gymryd rhan mewn grŵp ac o holl weithgareddau'r grŵp, gan gynnwys sgyrsiau ar-lein. Mae hyn ychydig yn wahanol i godi waliau (y driniaeth dawel), oherwydd mae'n mynd gam ymhellach nag anwybyddu trwy sicrhau bod plentyn yn gwybod nad yw'n cael bod yn y grŵp.

Lledaenu sïon a chlecs

Yn aml, bydd plant yn dweud pethau am bobl eraill y tu ôl i'w cefnau, o fewn eu clyw neu ar-lein. 

Gwawdio

Mae gwawdio yn fath arall o fwlio geiriol sy'n targedu cydberthynas ag eraill. Gall ddigwydd ar-lein yn ogystal â chael ei ddweud wrth wyneb person. Mae'r gwawdio'n aml yn parhau, ac yn ffynnu hyd yn oed yn wyneb trallod.

Gwneud cyfeillgarwch yn amodol

Mae gwneud cyfeillgarwch yn amodol yn aml yn cael ei weld pan fydd yr ymadrodd, ‘Bydda i’n ffrind i ti, dim ond os...’ yn cael ei ddefnyddio. Drwy wneud cyfeillgarwch yn amodol, mae'n gwneud plant yn or-ofalus o gwmpas eu ffrindiau; y rhai y dylen nhw fod yn teimlo fwyaf cyfforddus â nhw.

Y gwahaniaeth rhwng ymddygiad annerbyniol ac ymddygiad bwlio

Er ei fod yn annerbyniol, nid yw rhai mathau o ymddygiad yn cael eu hystyried yn fwlio. Cydnabyddir y gall un digwyddiad unigol achosi trawma i ddysgwr a gwneud iddo bryderu y bydd dial yn digwydd neu y gwnaiff y bwlio ddigwydd eto yn y dyfodol. Dylai ymyriadau gael eu gweithredu yn syth, mewn achosion o ymddygiad bwlio neu yn achos unrhyw ymddygiad negyddol unigol arall. Dylai digwyddiadau unigol nad ydynt yn rhan o batrwm ailadroddus o ymddygiad bwlio gael eu trin fel ymddygiad amhriodol a dylid mynd i'r afael â nhw yn unol â pholisi ymddygiad yr ysgol mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn achosion na fyddent fel arfer yn cael eu hystyried yn ymddygiad bwlio.

Cweryl rhwng ffrindiau

Nid yw cweryl rhwng ffrindiau yn cael ei ystyried yn ymddygiad bwlio fel arfer. Fodd bynnag, gall ffrae rhwng ffrindiau waethygu a datblygu i fod yn achos o fwlio sy’n cael ei alluogi yn sgil y ffaith bod gan gyn-ffrindiau wybodaeth fanwl am ofnau a theimladau ansicr y naill a’r llall. Bydd plant a phobl ifanc sy’n cael eu targedu gan gyn-ffrindiau yn teimlo’r brad hwnnw i’r byw, a byddant yn aml yn cael eu harwahanu oddi wrth eu grŵp blaenorol o ffrindiau.

Ffrae neu anghytundeb

Ni ystyrir bod ffrae neu anghytundeb rhwng 2 blentyn neu berson ifanc yn ymddygiad bwlio fel arfer. 

Digwyddiad sy’n digwydd unwaith

Ymladd

Nid yw ymladd yn cael ei ystyried yn ymddygiad bwlio. Dylid mynd i’r afael â nhw yn unol â pholisi ymddygiad yr ysgol, oni bydd yn rhan o batrwm o ymddygiad sy’n awgrymu bod unigolyn arall yn cael ei dargedu yn fwriadol. Dylid atal ymosodiadau corfforol a mynd i’r afael â nhw ar unwaith; efallai y bydd yn briodol cynnwys yr heddlu mewn rhai achosion.

Digwyddiadau casineb

Oni bai fod digwyddiad casineb yn cael ei ailadrodd, ni fyddai fel arfer yn cael ei ystyried yn ymddygiad bwlio, ond gallai fod yn ymddygiad troseddol o hyd. Byddai angen delio â hyn yn unol â pholisi ymddygiad yr ysgol a pholisïau perthnasol eraill. Byddai angen i’r ysgol gynnwys yr heddlu os yw’n ymddangos bod trosedd wedi’i chyflawni.

Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos bod angen i ysgolion fynd i’r afael â phob digwyddiad y byddant yn cael ei hysbysu amdano a’i gofnodi. Dylai hyn ddatgelu unrhyw ddigwyddiadau sydd wedi’u cofnodi’n flaenorol a chaniatáu i asesiad ystyriol gael ei wneud. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch rhoi gwybod am ddigwyddiadau a’u cofnodi a’u monitro ar gael yn adran ‘Gwerthuso ac atebolrwydd’ y canllawiau hyn. 

Mae’n hanfodol bod pob achos o gasineb sy’n cael ei gymell gan ragfarn at Nodweddion Gwarchodedig unigolyn yn cael ei gofnodi’n gywir fel bod ysgolion yn gallu monitro patrymau ac atal gwahaniaethu. Bydd awdurdodau lleol yn monitro digwyddiadau casineb yn rheolaidd ac efallai y byddant yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion roi gwybod am y rhain i ddangos sut maent yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Beth sy’n cymell ymddygiad bwlio

Gall plant a phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad bwlio gael eu cymell oherwydd nifer o resymau. Efallai fod ganddynt ragfarnau yn erbyn grwpiau penodol yn y gymdeithas ehangach. Efallai fod y safbwyntiau rhagfarnllyd hyn wedi’u dylanwadu gan amrywiaeth eang o ffactorau, yn cynnwys y dylanwadau hyn: 

  • cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
  • gwerthoedd y gymuned a’r (neu’r) teulu
  • profiad personol blaenorol

Gall plant a phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad bwlio gael eu cymell gan awydd am y canlynol: 

  • pŵer a bod yn boblogaidd
  • perthyn i grŵp dethol cryf sydd ag ymdeimlad cryf o hunaniaeth a hunan-barch
  • osgoi cael eu bwlio eu hunain
  • gwneud iawn am fychanu, y maent eu hunain wedi’i ddioddef yn y gorffennol, a allai fod yn gysylltiedig ag angen ehangach ynghylch camdriniaeth, esgeulustod neu fath arall o niwed

Bwlio a diogelu

Gall rhai achosion o ymddygiad bwlio fod yn fater diogelu neu efallai y bydd angen i’r heddlu ymyrryd. Dylid mynd i’r afael ag ymddygiad bwlio fel mater amddiffyn plant o dan Ddeddf Plant 1989 pan fo ‘achos rhesymol i amau bod plentyn [neu berson ifanc] yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol’. Yn yr achos hwnnw, bydd yn rhaid i’r ysgol hysbysu adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol am eu pryderon.

Mae canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i greu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant. Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir), ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, a sefydliadau addysg bellach, roi sylw iddynt wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol (o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002).

Mae'r cysylltiad rhwng ymddygiad bwlio ac iechyd meddwl yn hysbys. Ar ei fwyaf eithafol, mae pobl ifanc wedi gwneud amdanynt eu hunain o ganlyniad i gael eu bwlio, felly mae brwydro yn erbyn hunanladdiad a hunan-niweidio mewn addysg yn faes blaenoriaeth. Yn 2019 gwnaethom gyhoeddi canllawiau ‘Ymateb i faterion hunan-niweidio a theimladau hunanladdol’ sy'n rhoi cyngor ymarferol ar sut i helpu dysgwyr. Maent yn cwmpasu dealltwriaeth gyffredinol o hunan-niweidio, arwyddion i gadw golwg amdanynt, awgrymiadau ar sut i gael y sgyrsiau perthnasol, a beth i'w wneud os byddant yn canfod bod dysgwr yn hunan-niweidio.

Fel rhan o waith datblygu Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cymru aethom ati i ddadansoddi tystiolaeth gan randdeiliaid, a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2024, er mwyn deall yn well y ffactorau allweddol sy'n sbarduno hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru, gan gynnwys ffocws ar blant a phobl ifanc. Mae Amcan 3 y strategaeth newydd yn disgrifio dull cymorth sy'n targedu'r rhai sydd ei angen fwyaf, ac mae'n cydnabod bod ysgolion yn lleoliad allweddol. Gwyddom fod rhai grwpiau mewn cymdeithas, gan gynnwys rhai plant a phobl ifanc, mewn mwy o berygl o hunan-niweidio, er enghraifft merched iau. Mae’n hanfodol bod ganddynt fynediad at gymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn pryd a lle mae ei angen arnynt.

Bwlio a llesiant emosiynol a meddyliol 

Mae’r Fframwaith Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSA) yn ceisio cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol da drwy gryfhau’r gydberthynas neu’r cydberthnasau rhwng:

  • athro a dysgwr
  • staff addysgu
  • uwch dîm arwain yr ysgol a staff ehangach yr ysgol 
  • yr ysgol a rhieni
  • yr ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'r ysgol 
  • yr ysgol a'r gymuned ehangach sy'n amgylchynu'r ysgol 

Caiff hyn ei gyflawni drwy ymgorffori llesiant da drwy addysgu yn ogystal â thrwy bob agwedd arall ar fywyd ysgol. Dylai ysgolion ddatblygu a gweithredu ethos sy'n gwerthfawrogi cynhwysiant, lle mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd, gan gyfrannu eu sgiliau a'u hadnoddau unigol er budd pawb. Dylent greu amgylchedd cefnogol lle mae plant a phobl ifanc, gyda chymorth athrawon sy'n gweithredu mewn diwylliant sydd hefyd yn gwerthfawrogi llesiant athrawon eu hunain, yn cael eu hannog i wneud y canlynol:

  • cyflawni eu potensial personol ac academaidd
  • ffynnu
  • dysgu a datblygu'n emosiynol

Mae ysgolion yn rhan o'r system gyfan ehangach o gymorth o amgylch plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae Fframwaith NYTH yn anelu at greu iaith a dealltwriaeth gyffredin o sut i gefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol babanod, plant a phobl ifanc. Mae'n dod ag iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a'r trydydd sector at ei gilydd mewn partneriaeth i roi ‘NYTH’ (acronym am Nerth, Ymddiried, Tyfu’n ddiogel a Hybu) o gymorth sy'n amgylchynu plant a'u teuluoedd. Mae hyn yn creu dull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant meddyliol sy'n ystyried pob agwedd ar fywyd y plentyn, gan gynnwys y pethau ehangach sy'n pennu iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Llesiant ar draws addysg yw un o'i egwyddorion craidd. 

Mae fframweithiau Dull Ysgol Gyfan (WSA) a NYTH yn gymar i’r llall; ac WSA yw’r dull a ddefnyddir i roi egwyddorion NYTH ar waith mewn ysgolion. Gyda’i gilydd, mae’r fframweithiau hyn yn:

  • darparu dull holistaidd o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant meddyliol plant
  • hyrwyddo eglurder, cydweithredu a pharhau i ymarfer ar draws pob sector

Mae'n bwysig bod holl staff yr ysgol yn gwybod am y Dull Ysgol Gyfan a'r camau sy'n cael eu cymryd gan yr ysgol i wella eu hiechyd meddwl a llesiant meddyliol eu hunain a’u dysgwyr. Dylai staff ysgol sy’n gyfrifol am gysylltu ag asiantaethau allanol, er enghraifft, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) neu elusennau sy'n gweithio gyda'r ysgol, rannu eu dealltwriaeth o fframwaith NYTH. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hefyd i fod yn genedl sy’n ystyriol o drawma a gwreiddio egwyddorion Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma ar draws gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol. Mae’r Fframwaith yn cynnig diffiniad Cymru o fod yn ystyriol o drawma, ac mae’n nodi 5 egwyddor, wedi’u hategu gan 4 lefel ymarfer sy’n disgrifio’r gwahanol rolau y gallai pobl a sefydliadau eu cael wrth gefnogi pobl y mae trawma yn effeithio arnynt. Mae gweithredu’r dull sy’n ystyriol o drawma ar lefel system a sefydliad yn galluogi pawb i ymateb i blant a phobl ifanc a’u cefnogi mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion unigol. 

Efallai y bydd plant a phobl ifanc wedi dod i gysylltiad â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a mathau eraill o drallod neu drawma. Gallai hyn fod yn eu cartref neu eu cymuned, lle mae trais yn cael ei normaleiddio, neu efallai y byddant wedi dod ar draws hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu. Dylai pob cymuned ysgol fabwysiadu dull sefydliadol sy’n seiliedig ar drawma a phrofiad niweidiol yn ystod plentyndod (TrACE). Ceir rhagor o wybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar Hwb. 

Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod addysg yn rhan hanfodol o'r system gysylltiedig wrth ystyried anghenion iechyd meddwl a llesiant meddyliol plant a phobl ifanc. Wrth gynnal ymgynghoriad ynghylch y strategaeth ddrafft, nododd pobl ifanc yn gyson fod profiad o gael eu bwlio yn fygythiad sylweddol i'w hiechyd meddwl a llesiant meddyliol. Roedd hyn yn cynnwys y profiad o gael eu bwlio ar-lein, a'r angen am fwy o gymorth ac amddiffyniad i bobl ifanc ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i ystyried y fframweithiau hyn yng nghyd-destun polisïau ac arferion yr ysgol ar gael yn adran ‘Strategaethau i atal ymddygiad bwlio’.

Ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn

Rhagfarn yn ei chyd-destun

Cyfeirir yn aml at ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn fel ‘bwlio sy’n ymwneud â hunaniaeth’; ‘bwlio gwahaniaethol’; ‘bwlio sy’n gysylltiedig â chasineb’; neu ‘fwlio sy’n seiliedig ar anghydraddoldeb’. Mae ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn yn aml yn adlewyrchu ac yn atgyfnerthu stereoteipiau a syniadau gwahaniaethol sy’n bresennol yn y gymdeithas ehangach. Gall y syniadau a’r agweddau hyn gynnwys gelyniaeth at bobl ar sail Nodweddion Gwarchodedig. Dyma’r Nodweddion Gwarchodedig (sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010):

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth 
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Nid oes unrhyw un o’r Nodweddion Gwarchodedig yn llai pwysig nag unrhyw un o’r gweddill. Weithiau, efallai y bydd gan unigolion fwy nag un Nodwedd Warchodedig, ac efallai y byddant yn dioddef ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn am nifer o resymau. 

Mae ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn hefyd yn ymestyn y tu hwnt i’r Nodweddion Gwarchodedig i ragfarnau am agweddau eraill ar hunaniaeth gan gynnwys: 

  • profiad o ofal
  • statws cymdeithasol
  • incwm teuluol
  • hunaniaeth genedlaethol
  • iaith
  • acenion
  • stereoteipiau rhywedd
  • edrychiad rhywun, er enghraifft pwysau neu liw gwallt

Gall ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn hefyd ymwneud â phrofiadau o dlodi. Mae hyn yn cynnwys rhagfarnau sy’n gysylltiedig ag incwm teulu neu effaith caledi ariannol ar fywyd bob dydd plentyn. Gall plentyn brofi bwlio pan nad yw’n gallu fforddio prydau ysgol neu wisg ysgol neu os nad yw’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n costio. I rai plant, gall byw mewn cartref heb wres na dŵr poeth digonol olygu nad ydynt yn gallu ymolchi eu hunain na golchi eu dillad. Gall yr amgylchiadau hyn achosi stigma a gallant arwain at ymddygiad bwlio sy’n achosi niwed emosiynol sylweddol.

Gall plant sydd â phrofiad o ofal hefyd fod yn agored i fwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn. Mae stigma cymdeithasol, trawma yn y gorffennol, ansefydlogrwydd eu sefyllfaoedd byw, a symud ysgol pan fydd dysgwyr eraill eisoes wedi setlo, yn cyfrannu at eu gwneud yn agored i gael eu bwlio. Gellid atal bwlio drwy bennu’r dysgwyr agored i niwed hyn yn ystod cyfnodau pontio pan fyddant yn agored i niwed, a darparu cymorth ychwanegol pan fo angen.

Delio â bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn

O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, mae rhwymedigaeth ar ysgolion i sicrhau bod camau priodol ac effeithiol yn cael eu cymryd i ddileu neu leihau anfanteision y mae plentyn neu berson ifanc yn eu hwynebu oherwydd eu Nodweddion Gwarchodedig.

Dylid herio pob math o ragfarn yn unol â'r polisi gwrthfwlio a'u hystyried fesul achos, gyda rhai yn cael eu trin fel mater diogelu a (neu) droseddol. Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddatblygu polisi gwrthfwlio ar gael yn adran ‘Strategaethau i atal ymddygiad bwlio’.

Mae ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn o unrhyw fath yn annerbyniol. Os cânt eu cymell gan ragfarn neu elyniaeth yn erbyn hunaniaeth ganfyddedig rhywun, gallai arwain at erlyniad fel trosedd gasineb. Os yw’r digwyddiad yn digwydd unwaith yn unig ac nad yw’n digwydd eto, nid yw’r digwyddiad fel arfer yn cael ei ystyried fel un sy’n cynnwys ymddygiad bwlio. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen i’r heddlu ymwneud â digwyddiad untro o hyd ac y bydd yn arwain at erlyniad. Dylid herio pob math o ragfarn yn yr ysgol gan ddefnyddio polisi mwyaf priodol yr ysgol. Os yw’n ymddangos bod trosedd gasineb wedi’i chyflawni, dylid rhoi gwybod i’r heddlu. 

Pan fydd ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn yn cael ei ailadrodd gan blentyn neu berson ifanc, p’un a fydd hynny’n cael ei gyfeirio at un unigolyn neu at grŵp o ddysgwyr, bydd hynny’n cael ei ystyried yn ymddygiad bwlio. 

Dylai ysgolion asesu poblogaethau lleol a phoblogaethau’r ysgol am unrhyw newidiadau diweddar a chyflym i sicrhau bod ffocws priodol ar eu dulliau o atal bwlio. Dylid ystyried y dysgwyr canlynol yn ofalus yng nghyd-destun strategaeth atal ymddygiad bwlio’r ysgol:

  • dysgwyr anabl
  • dysgwyr LDHTC+
  • dysgwyr o leiafrifoedd ethnig
  • dysgwyr o gefndir crefyddol
  • dysgwyr a all fod yn gwisgo’n wahanol oherwydd cefndiroedd diwylliannol a chrefyddol
  • dysgwyr sy’n siarad Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd ychwanegol 
  • dysgwyr ag anawsterau iechyd a lles emosiynol
  • dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Ymateb i bob math o ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn

Fel yn achos unrhyw ddigwyddiad sy’n ymwneud ag ymddygiad bwlio, mae’n bwysig gwneud yn siŵr y gwrandewir ar y plentyn neu’r person ifanc, a’i fod yn cael ei gymryd o ddifrif, a bod staff yn ei annog i roi gwybod amdano. Ni fydd bob amser yn amlwg bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei fwlio, ac ni fydd bob amser yn gofyn am gymorth. Bydd mabwysiadu dull caredig, empathig a thosturiol at bawb yn yr ysgol yn creu’r amgylchedd lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu gofyn am help, os oes ei angen arnynt. Bydd hefyd yn creu amgylchedd sy’n:

  • gallu helpu i atal ymddygiad bwlio drwy hyrwyddo parch at eraill
  • sicrhau diwylliant ac ethos sy’n adnabod ymddygiad niweidiol ac yn annog cymryd camau cyflym i gefnogi pawb sy’n gysylltiedig er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu

Nododd dysgwyr sydd â phrofiad o ofal, a rannodd eu profiadau o addysg gyda Llywodraeth Cymru, fod bwlio yn fater allweddol sydd wedi’i wreiddio mewn stereoteipiau a stigma sy’n gysylltiedig â’u profiad o ofal. Mae rhai dysgwyr sydd â phrofiad o ofal yn teimlo y dylai ysgolion addysgu dysgwyr eraill am sut beth yw cael profiad o ofal, heb enwi neb, oni bai eu bod wedi cael caniatâd penodol i wneud hynny. Nodwyd y gallai mynd i’r afael â stigma a herio stereoteipiau a rhagfarn helpu i sicrhau lefelau uwch o gefnogaeth a derbyn, a fyddai’n helpu i atal bwlio. Mae’r animeiddiad hwn yn tynnu sylw at rai o’r profiadau mae dysgwyr a fabwysiadwyd yng Ngogledd Cymru wedi’u rhannu ag Adoption UK.

Mae’r wybodaeth isod yn cynnwys rhai meysydd penodol i’w hystyried mewn perthynas ag ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn.

Ymateb uniongyrchol

Mae rhai ysgolion wedi datblygu neges gyson y gall pob aelod o staff ei defnyddio os ydynt yn clywed iaith, sylwadau neu ‘dynnu coes’ sy’n gwahaniaethu yn erbyn rhywun. Gellir ei defnyddio gydag unrhyw fath o iaith neu ymddygiad bwlio sy’n gwahaniaethu. Yn yr ysgolion hyn, mae brawddeg benodol wedi cael ei datblygu ar gyfer pob ymarferydd, tîm bugeiliol, aelod staff cymorth ac aelod staff cyswllt i’w defnyddio mewn ymateb i ddigwyddiadau. Gall y frawddeg hon ei gwneud yn glir: 

  • bod yr hyn sydd wedi cael ei glywed yn annerbyniol
  • bod lle i bob plentyn neu berson ifanc yn yr ysgol, a bod ganddo’r hawl i gael ei drin yn gyfartal ac â pharch
  • y bydd yr ymarferydd yn mynd i’r afael â hyn cyn gynted ag y bo’n briodol

Mae’r ymateb uniongyrchol hwn yn sicrhau ffordd gyson i’r staff fynd ati’n hyderus i roi terfyn ar gam-drin geiriol yn gyflym ac yn effeithiol. Mae’n bwysig wedyn trafod ymhellach â’r plentyn neu’r person ifanc a ddefnyddiodd yr iaith hon er mwyn esbonio pam mae’r iaith hon yn gwahaniaethu, yn fygythiol neu’n niweidiol, a pham nad oes lle iddi yn yr ysgol nac mewn cymdeithas. Gall ymarferwyr ddefnyddio eu crebwyll o ran a yw’n fwy priodol mynd i’r afael â hyn ar unwaith, er enghraifft yn y dosbarth, neu’n nes ymlaen, er enghraifft, drwy ofyn i’r dysgwr aros yn y dosbarth ar ddiwedd y wers.

Cefnogi newid ymddygiad

Wrth ymateb i ymddygiad bwlio, dylai ysgolion hefyd weithio gyda’r plentyn neu’r person ifanc sy’n arddangos yr ymddygiad i’w helpu i’w newid ar lefel unigol. Lle mae’r ymddygiad bwlio neu’r aflonyddu yn gysylltiedig â rhagfarn, dylai’r gwaith hwn hefyd herio’r rhagfarn sydd wrth wraidd yr ymddygiad. Er mwyn bod mor effeithiol â phosibl, caiff y gwaith hwn ar lefel unigol gyda’r plentyn neu’r person ifanc sy’n arddangos ymddygiad bwlio ei atgyfnerthu gan waith pellach ar draws y lleoliad cyfan i herio gwahaniaethu, gan gynnwys drwy’r cwricwlwm.

Cymorth llesiant

Dylai lleoliadau sefydlu cymorth llesiant rheolaidd yn awtomatig os bydd dysgwr yn rhoi gwybod am ymddygiad bwlio neu aflonyddu sy’n gysylltiedig â rhagfarn. Dylai ymarferwyr benderfynu ar y cymorth mwyaf priodol sydd ar gael o fewn eu lleoliad, gan gynnwys cymorth bugeiliol rheolaidd yn newis iaith y plentyn a chymorth gan wasanaethau’r ysgol a (neu) allanol. Mae’n hanfodol defnyddio dull sy’n ystyriol o drawma i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael eu bwlio. Rhaid i holl staff yr ysgol fod yn oedolion rydych chi’n ymddiried ynddynt fel bod y plentyn neu'r person ifanc yn gwybod:

  • ei fod yn cael ei gredu
  • ei fod yn cael ei glywed
  • y bydd cymorth ar gael os bydd yn gofyn amdano

Cyfarfodydd trafod ac adolygu rheolaidd

Fel ymateb i ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn, dylai ysgolion drefnu cyfarfodydd bob hyn a hyn gyda’r plentyn neu’r person ifanc sydd wedi profi’r ymddygiad i drafod ei lesiant a holi a yw’r ymddygiad bwlio neu’r aflonyddu yn parhau. Os yw’n parhau, gellir sefydlu ymyriadau pellach ar gyfer pob parti. Ni ddylai ysgolion ddisgwyl i’r plant neu’r bobl ifanc roi gwybod am y broblem eto yn awtomatig. Yn aml, mae lefel absenoldeb plant a phobl ifanc sy’n profi ymddygiad bwlio yn uwch. Felly, os yw’n absennol, gofalwch ofyn iddo, yn gynnil, a yw’n profi ymddygiad bwlio neu unrhyw fath arall o aflonyddu.

Defnyddio data i gynllunio dulliau ataliol

Yn ogystal ag ymateb i’r unigolyn, mae’n bwysig adlewyrchu profiadau bywyd plant a phobl ifanc yn y broses o ddatblygu dulliau ataliol drwy’r cwricwlwm a pholisïau ehangach. Maent wedi tynnu sylw’n gyson at y ffaith eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion ymarferwyr i fynd i’r afael yn systematig â gwahaniaethu yn y ffordd hon. Mae adrannau ar gofnodi ac atal ymddygiad bwlio ac aflonyddu yn amlinellu sut y gellir cyflawni hyn. 

Ymddygiad bwlio sy'n ymwneud â dysgwyr anabl a (neu) ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Diffinio anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol

Mae’r adran ‘Termau a ddefnyddir yn y ddogfen hon’ yn cynnwys diffiniadau o’r termau hyn at ddibenion y canllawiau hyn. Dylid nodi y bydd rhai plant a phobl ifanc sy’n dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond nid Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac i’r gwrthwyneb, ond mae’n debygol y bydd nifer sylweddol o blant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys gan y ddwy ddeddf hyn. 

Materion allweddol ar gyfer dysgwyr anabl a (neu) ddysgwyr ag ADY sy'n profi ymddygiad bwlio

Mae adroddiadau gan Mencap a'r Anti-Bullying Alliance yn dangos bod plant a phobl ifanc anabl a (neu) ddysgwyr ag ADY yn fwy tebygol o fod â phrofiad o gael eu bwlio na'u cyfoedion. Canfu ymgynghoriad ‘Gobeithion i Gymru’ Comisiynydd Plant Cymru 2023 fod plant anabl yn fwy tebygol na’u cyfoedion o ddweud eu bod yn cael eu bwlio. Dylai ysgolion fod yn rhagweithiol o ran atal hyn. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio nad yw pob dysgwr anabl a’r (neu'r) rhai ag ADY yn cael eu bwlio.

Gall dysgwyr anabl a (neu) ddysgwyr ag ADY a dysgwyr byddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fod yn fwy agored i ymddygiad bwlio oherwydd:

  • agweddau negyddol tuag at blant anabl neu blant ag anabledd dysgu
  • diffyg dealltwriaeth o wahanol amhariadau a chyflyrau
  • efallai na fyddant yn sylweddoli eu bod yn cael eu bwlio, ac felly na fyddant yn rhoi gwybod am y peth
  • efallai eu bod yn gwneud gwaith gwahanol neu’n cael cymorth ychwanegol yn yr ysgol
  • efallai na fyddant yn teimlo bod y polisïau a’r gweithdrefnau sydd ar gael i ddod o hyd i gymorth yn hygyrch iddynt, ac nad ydynt yn gallu cyfleu eu profiad a’u hanghenion yn effeithiol 
  • maent yn ei chael hi’n anoddach rhagweld ymddygiad pobl eraill, dehongli iaith y corff neu fynegiant yr wyneb, a dyfalu beth maent yn ei feddwl neu’n ei deimlo
  • efallai eu bod yn fwy unig nag eraill oherwydd eu hamhariad neu eu cyflwr, a hynny oherwydd agweddau, diwylliant a rhwystrau 
  • efallai ei bod hi’n anoddach iddynt wneud ffrindiau o ganlyniad i agweddau, diwylliant a rhwystrau 
  • efallai eu bod yn cyfathrebu, yn rhyngweithio ac yn deall y byd mewn gwahanol ffyrdd 
  • gallant hefyd fod yn profi ymddygiad bwlio ac adfyd yn y cartref neu’r gymuned a methu â rhoi gwybod os na chymerir unrhyw gamau ac mae ofn dial arnynt
  • efallai na fydd eu hanghenion cymorth yn cael eu diwallu gartref chwaith 
  • efallai y byddant yn profi llawer o newidiadau, er enghraifft, treulio cyfnodau mewn gwahanol leoliadau, gyda gwahanol weithwyr proffesiynol, symud o ysgol brif ffrwd i ysgol arbennig, neu dreulio cyfnodau o amser yn cael cymorth meddygol

Gall ymddygiad bwlio at ddysgwyr anabl a’r (neu’r) rheini sydd ag ADY a dysgwyr byddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fod ar ffurf unrhyw un o’r mathau traddodiadol o ymddygiad bwlio, megis cyfeillgarwch amodol, ond gall hefyd gynnwys mathau penodol o ymddygiad fel ecsbloetio a thwyllo.

Cyfeillgarwch amodol

Yn yr achosion hyn, bydd grŵp yn caniatáu i blentyn neu berson ifanc gredu ei fod wedi cael ei dderbyn yn rhan o’r grŵp o gyfeillion. Fodd bynnag, efallai bydd y grŵp yn defnyddio’r plentyn neu’r person ifanc neu’n pennu amod i ganiatáu iddo fod yn rhan o’r grŵp. Gallent hyd yn oed wneud y plentyn neu’r person ifanc yn destun eu jôcs, ei ddefnyddio i fynd ar negeseuon neu hyd yn oed ei orfodi i gyfranogi mewn gweithgareddau troseddol iddynt. 

Ymddygiad bwlio ecsbloetiol

Yn yr achosion hyn, bydd yr ymddygiad bwlio’n digwydd trwy fynd ati’n fwriadol i orfodi’r plentyn neu’r person ifanc i brofi rhywbeth na all ei oddef. Er enghraifft, os yw plentyn neu berson ifanc yn neilltuol o sensitif i synau neu arogleuon, gall yr ymddygiad bwlio ecsbloetiol gynnwys gwneud synau uchel i'w ddychryn dro ar ôl tro, neu'n taenu bwyd dros ei waith. Y nod yn y pen draw yw herian y plentyn neu’r person ifanc i gael stŵr oherwydd bydd y straen a brofir ganddo yn cynyddu, ac yn y pen draw, bydd yn cael ffrwydrad o ddicter a (neu) yn dial.

Ymddygiad bwlio twyllodrus

Yn yr achosion hyn, mae’r plentyn neu’r person ifanc sy’n arddangos ymddygiad bwlio yn twyllo plentyn neu berson ifanc nad yw efallai’n sylweddoli beth sy’n digwydd i ddechrau. Efallai y bydd yn credu bod y plentyn, y person ifanc arall neu’r grŵp o blant neu bobl ifanc yn ei hoffi a’u bod yn ffrindiau. Gallai’r plentyn neu’r person ifanc gael ei gamarwain i fod yn rhan o gydberthynas ag eraill sy’n ei beryglu’n sylweddol, a gallai'r ymddygiad bwlio fod yn rheolaethol iawn.

Ymateb i ymddygiad bwlio sy'n ymwneud â dysgwyr anabl a (neu) ddysgwyr ag ADY

Dylai ysgolion fynd i’r afael ag ymddygiad bwlio mewn modd holistaidd, ac ar yr un pryd, ystyried anghenion ac amgylchiadau unigol dysgwyr anabl a (neu) rai ag ADY. O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, mae gan ysgolion gyfrifoldeb hefyd i sicrhau bod camau priodol ac effeithiol yn cael eu cymryd i ddileu neu leihau anfanteision y mae dysgwyr yn eu hwynebu oherwydd eu hanableddau neu ADY.

Y Model Cymdeithasol o Anabledd

Yn 2002 mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd fel sail i’w gwaith ar anabledd yng Nghymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i’n cymdeithas gael gwared ar y rhwystrau sy'n ei hatal rhag hyrwyddo tegwch i bobl anabl.

Mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cynnig persbectif gwahanol ar anabledd gan nodi:

‘…bod anabledd yn cael ei achosi gan y ffordd y mae cymdeithas yn cael ei threfnu, yn hytrach na chan amhariad neu wahaniaeth unigolyn. Mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn edrych ar ffyrdd o gael gwared ar rwystrau sy'n cyfyngu ar ddewisiadau bywyd i bobl ag amhariadau neu wahaniaethau. Pan fydd rhwystrau’n cael eu dileu, gall pobl anabl fod yn annibynnol ac yn gyfartal yn y gymdeithas, a bydd ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.’

Mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn nodi'r gwahaniaeth pwysig rhwng amhariad ac anabledd. Mae’n cydnabod bod pobl ag amhariadau yn cael eu hanalluogi gan rwystrau sy’n bodoli’n gyffredin mewn cymdeithas.

Nid methu cerdded sy’n atal unigolyn rhag mynd i mewn i adeilad heb gymorth, ond bodolaeth grisiau sy’n anhygyrch i ddefnyddiwr cadair olwyn. Caiff anabledd ei greu gan gymdeithas ac mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ei gwneud yn ofynnol i gymdeithas gael gwared ar bob rhwystr i sicrhau cydraddoldeb i bawb. 

Mewn ysgolion, mae cael gwared ar rwystrau i ddysgwyr anabl a datblygu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol yn elfen allweddol o gynllun effeithiol i sicrhau cydraddoldeb i ddysgwyr anabl a pholisi gwrthfwlio effeithiol.

Sefydlwyd Tasglu Hawliau Pobl Anabl mewn ymateb i'r adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’. Ei bwrpas oedd dod ag aelodau ynghyd i fynd i'r afael â'r annhegwch a'r rhwystrau sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl.

Gan weithio'n unol ag egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd, lluniodd y Tasglu argymhellion ar y cyd â mwy na 350 o randdeiliaid allanol, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, a nifer fach o ysgolion. Mae’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035 yn nodi'r camau gweithredu a'r canlyniadau tymor hwy sydd eu hangen i sicrhau newid cadarnhaol i bob plentyn ac oedolyn anabl yng Nghymru.

Nododd y gweithgor Plant a Phobl Ifanc yr angen i greu amgylchedd sy’n fwy cynhwysol drwy fynd i’r afael â’r canlynol:

  • profiadau plant anabl o ymddygiad bwlio
  • ableddiaeth (gwahaniaethu a rhagfarn gymdeithasol yn erbyn plant ac oedolion anabl)

Gall ymddygiad bwlio gael effeithiau dinistriol ar hunan-barch ac iechyd meddwl plentyn. Mae mynd i'r afael ag ableddiaeth yn hanfodol i feithrin diwylliant o barch, cynhwysiant a chyfranogiad.

Ymddygiad bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig

Mae ymddygiad bwlio homoffobig a deuffobig yn fathau penodol o ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn. Mae’n cael ei gymell gan ragfarn yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Gall unrhyw blentyn neu berson ifanc brofi bwlio homoffobig a deuffobig. Nid gweithredoedd penodol yw'r hyn sy'n ei nodweddu, ond yr agweddau a'r credoau negyddol ynghylch pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n sail iddynt.

Mae ymddygiad bwlio trawsffobig yn fath penodol o ymddygiad bwlio sy’n cael ei gymell gan ragfarn yn erbyn pobl draws. Gall unrhyw blentyn neu berson ifanc brofi ymddygiad bwlio trawsffobig, gan gynnwys dysgwyr cisryweddol. Weithiau, gall plant neu bobl ifanc nad ydynt yn cydymffurfio o ran eu rhywedd brofi achosion o fwlio trawsffobig. Gall plant a phobl ifanc hefyd brofi achosion o fwlio trawsffobig os bydd aelod o'u teulu neu ffrind yn unigolyn traws neu anneuaidd. Nid gweithredoedd penodol yw'r hyn sy'n ei nodweddu, ond yr agweddau a'r credoau negyddol ynghylch pobl draws sy’n sail iddynt.

Dylai ysgolion ymgorffori gwaith gwrthfwlio yng nghyd-destun ehangach ffordd o weithio sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol er mwyn sicrhau cydberthynas barchus ac iach ag eraill, ac atal trais fel rhan o ddull ysgol gyfan o ddathlu gwahaniaeth. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori materion LHDTC+ ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion a gynhelir. Mae’n orfodol i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn LHDTC+ gynhwysol i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Fel sy'n wir am unrhyw fath o ymddygiad bwlio neu aflonyddu, bydd angen i ymarferwyr ystyried rhannu gwybodaeth yn ofalus a rhannu gwybodaeth â rhieni fel y bo’n briodol. Y rheswm am hynny yw efallai na fydd plant a phobl ifanc yn rhoi gwybod am ymddygiad bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn os credant y bydd hynny'n arwain yn awtomatig at gynnwys eu rhiant. Weithiau mae hynny er mwyn amddiffyn rhieni, yn enwedig os ydyn nhw neu aelodau o'r teulu hefyd wedi bod yn destun rhagfarn yn y gorffennol.

Mewn achosion o ymddygiad bwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig, neu pan fo ymddygiad bwlio'n canolbwyntio ar agwedd ar hunaniaeth LHDTC+ person ifanc, efallai y bydd gan y person ifanc bryderon ynghylch sut y bydd ei riant yn ymateb. Gall hyn fod yn wir p'un a yw'r person ifanc yn LHDTC+ ai peidio, ond gall hyn fod yn arbennig o berthnasol pan nad yw person ifanc eisiau datgelu ei rywioldeb i'w rieni. Felly, mae angen i ymarferwyr fod yn ofalus a sensitif o ran sut maent yn rhannu gwybodaeth â rhieni mewn perthynas ag ymddygiad bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn.

Sylwadau sarhaus homoffobig, deuffobig a thrawsffobig a ddefnyddir yn lle sylwadau sarhaus eraill neu a ddefnyddir yn anuniongyrchol

Mewn ysgolion lle mae plant a phobl ifanc yn credu na chânt eu herio pan fyddant yn defnyddio sylwadau sarhaus a (neu) weithredoedd homoffobig, deuffobig a (neu) drawsffobig, mae’n bosibl y byddant yn defnyddio iaith neu weithredoedd o’r fath tuag at eraill y maent yn eu targedu am resymau eraill, megis ADY neu hil, crefydd neu ddiwylliant. Gall y sylwadau sarhaus homoffobig, deuffobig a (neu) drawsffobig gael eu defnyddio yn lle’r iaith a’r (neu’r) gweithredoedd y maent yn gwybod y byddent yn debygol o gael eu herio am eu defnyddio, megis sylwadau sarhaus hiliol.

Mewn ysgolion, gall iaith a gweithredoedd homoffobig, deuffobig a thrawsffobig tuag at blentyn neu berson ifanc amrywio’n sylweddol iawn, a gellir eu defnyddio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol er mwyn:

  • gwneud hwyl am eu pennau neu eu bychanu 
  • eu sarhau am fod ganddynt rieni, perthnasau neu ffrindiau LDHTC+
  • beirniadu neu wawdio eu gweithredoedd oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol 
  • awgrymu bod rhywbeth yn annerbyniol 
  • codi ofn neu wneud iddynt deimlo’n anghyfforddus 
  • bwlio trwy awgrymu eu bod yn LDHTC+ (mae hyn yn cynnwys lledaenu sïon neu hel clecs) 
  • bwlio am nad ydynt yn cydymffurfio â normau rhywedd 

Mae rhywfaint o’r deunydd yn yr adran hon wedi'i addasu gyda chaniatâd cyhoeddwyr 'That's So Gay! Challenging Homophobic Bullying' Gan Jonathan Charlesworth. Ers hynny, mae’r cynnwys wedi cael ei ddiwygio a’i ddiweddaru yn How to Stop Homophobic and Biphobic Bullying: A Practical Whole-School Approach (2020).

Ymateb i ymddygiad bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig

Mae angen bod yn sensitif iawn wrth ymateb i achosion o ymddygiad bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Gall teulu’r plentyn neu’r person ifanc dan sylw ymateb mewn ffyrdd sy’n peri rhagor o drallod i’r plentyn neu’r person ifanc oherwydd pwysau’r gymuned, safbwyntiau homoffobig, deuffobig a (neu) drawsffobig, neu efallai oherwydd nad ydynt yn ymwybodol o gyfeiriadedd rhywiol eu plentyn.

Dylai ysgolion weithio gyda theuluoedd i sicrhau bod y cymorth priodol, ar yr adeg briodol, yn cael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw.

Ymddygiad bwlio ar sail rhywedd

Mae ymddygiad bwlio ar sail rhywedd yn seiliedig ar agweddau a fynegir yn rheolaidd mewn ffyrdd sy’n diraddio, yn peri ofn ac yn (neu’n) niweidio person arall yn seiliedig ar agweddau ystradebol at rywedd. Gall bwlio ar sail rhywedd fod yn gorfforol, ar lafar neu’n seicolegol, a gall ddigwydd ar-lein ac all-lein. Gall plant a phobl ifanc a ystyrir gan eraill fel rhai nad ydynt yn cydymffurfio â’r prif rolau rhywedd neu’r stereoteipiau gael eu targedu gan y math hwn o ymddygiad bwlio. Gall pob plentyn a pherson ifanc ei brofi. 

Gall stereoteipiau rhywedd wneud i blant a phobl ifanc deimlo eu bod yn gorfod ymddangos mewn ffordd benodol fel eu bod yn cydymffurfio â disgwyliadau cymdeithas a mabwysiadu ymddygiadau er mwyn gwneud hynny, ac ymddwyn mewn ffordd sy’n cael ei derbyn yn gymdeithasol yn ‘wrywaidd’ neu’n ‘fenywaidd’. Gall hyn gyfrannu at ymddygiad bwlio ar sail rhywedd, lle caiff plant a phobl ifanc eu bwlio os nad ydynt yn cydymffurfio â’r disgwyliadau.

Dyma enghreifftiau o ymddygiad bwlio sy’n seiliedig ar rywedd:

  • targedu plentyn neu berson ifanc oherwydd nad yw ei steil gwallt, ei ddillad neu agwedd arall ar ei edrychiad yn cydymffurfio â disgwyliadau rhywedd dominyddol
  • targedu plentyn neu berson ifanc am nad yw ei ddiddordebau, ei hobïau neu ei ymddygiad yn cydymffurfio â stereoteipiau rhywedd
  • defnyddio iaith, bygythiadau neu drais i ddiraddio, bychanu neu ddychryn plant a phobl ifanc am nad ydynt yn cydymffurfio â disgwyliadau rhywedd dominyddol

Ymddygiad bwlio rhywiaethol

Gall plant a phobl ifanc hefyd brofi ymddygiad bwlio ar sail eu rhyw. Gall fod gorgyffwrdd rhwng ymddygiad bwlio ar sail rhyw (priodoleddau biolegol) ac ymddygiad bwlio ar sail rhywedd (disgwyliadau cymdeithasol).

Gall y plentyn neu’r person ifanc sy’n profi ymddygiad bwlio rhywiaethol fod, ond nid bob amser, o ryw gwahanol i’r plentyn neu’r person ifanc sy’n ymddwyn fel bwli. Hynny yw, gallai menyw gael ei bwlio gan ddysgwyr gwrywaidd, neu gallai bachgen gael ei fwlio gan ddysgwyr benywaidd. 

Mae agweddau cymdeithasol o ran casineb at fenywod yn cael eu cynnal gan anghydraddoldeb strwythurol, y gellir ei ystyried yn un o achosion sylfaenol rhywfaint o fwlio rhywiaethol. Gellir atgyfnerthu hyn drwy agweddau’r cyfryngau, y gymuned a’r teulu.

Dyma enghreifftiau o ymddygiad a all fod yn rhan o ymddygiad bwlio rhywiaethol: 

  • defnyddio iaith rywiaethol i ddiraddio neu ddychryn unigolyn neu grŵp gan awgrymu bod un rhyw yn well neu’n israddol, er enghraifft defnyddio iaith gasineb i ddisgrifio menywod
  • bygythiadau neu drais yn cael eu defnyddio i ddiraddio, bychanu neu ddychryn plant a phobl ifanc ar sail eu rhyw
  • defnyddio iaith mewn ffordd ddifrïol, er enghraifft defnyddio’r geiriau ‘benywaidd’ neu ‘ferch’ fel sarhad

Aflonyddu rhywiol ac ymddygiad bwlio rhywiol

Mae ymddygiad bwlio rhywiol yn seiliedig ar agweddau a fynegir yn rheolaidd mewn ffyrdd sy’n diraddio, yn dychryn ac yn (neu’n) niweidio person arall oherwydd ei ryw neu ei rywedd. Caiff ei nodweddu ar brydiau gan ymddygiadau rhywiol amhriodol dro ar ôl tro gan gynnwys aflonyddu, cyffwrdd amhriodol, ‘uwchsbecian’ a ‘lawrsbecian’, sydd i gyd yn droseddau, a defnyddio iaith rywiaethol sy’n codi cywilydd. Mewn achosion prin, gall trais gael ei ddefnyddio.

Gall ymddygiad bwlio rhywiol fod yn gorfforol, ar lafar neu’n seicolegol, a gall ddigwydd ar-lein ac all-lein. Gall y mathau o ymddygiad gynnwys sylwadau rhywiol awgrymog neu ensyniadau gan gynnwys sylwadau sarhaus am enw da rhywun o safbwynt rhywiol neu ddefnyddio iaith rywiol sydd wedi’i chynllunio i israddio, bychanu neu ddychryn rhywun. Gall gynnwys rhannu delweddau rhywiol eglur ar-lein (gan nifer o bobl ar brydiau), gorfodaeth neu gyffwrdd rhywiol digroeso. 

Yn aml iawn, mae agweddau rhywiaethol neu stereoteipiau o ran rhywedd yn sail i ymddygiad bwlio rhywiol hefyd. Mae ymddygiad bwlio rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn dermau a ddefnyddir yn gyfnewidiol yn aml mewn ysgolion a chaiff ymddygiad bwlio rhywiol ei ystyried yn aml yn fath o aflonyddu rhywiol. P’un a fydd digwyddiad yn cael ei ystyried yn ymddygiad bwlio rhywiol neu’n aflonyddu rhywiol, dylai ysgolion fynd i’r afael â’r mater trwy gyfrwng eu polisi gwrthfwlio, eu polisi ymddygiad neu eu polisi diogelu (pa un bynnag sy’n cael ei ystyried yn fwyaf priodol). 

Ymateb i ymddygiad bwlio rhywiol

Gall bwlio rhywiol effeithio ar fechgyn a merched. Fodd bynnag, mae merched a menywod ifanc yn cael eu niweidio amlaf gan ymddygiad bwlio rhywiaethol a rhywiol sy'n seiliedig ar ryw. Dylai ysgolion drin pob achos o ddifrif.

Dylai ysgolion ystyried y gall pob plentyn a pherson ifanc fod mewn perygl o brofi ymddygiad bwlio rhywiol neu rywiaethol sy’n seiliedig ar ryw, yn enwedig pan fydd eraill yn credu nad ydynt yn cydymffurfio â’r prif rolau rhywedd neu’r stereoteipiau. 

Mae Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg: cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn nodi’r gwaith strategol sy’n cael ei wneud i atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion.

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn thema drawsbynciol fandadol i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 3 ac 16 oed yng Nghymru. Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi camau dysgu sy'n briodol i ddatblygiad y dysgwyr, ac mae hyn yn cynnwys dysgu am gydberthnasau iach, cadw'n ddiogel ar-lein ac all-lein, a bod yn hyderus i godi materion gydag oedolion cyfrifol.

Ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â hil, crefydd a diwylliant

Mae’r math hwn o ymddygiad bwlio yn disgrifio amrywiaeth o ymddygiad corfforol a seicolegol niweidiol, sy’n gwneud i rywun deimlo’n ddigroeso, fod wedi’i wthio i’r ymylon, fod wedi’i gau allan, neu’n ddiymadferth oherwydd ei liw, ei ethnigrwydd, ei ffydd (yn cynnwys diffyg ffydd), neu ei darddiad cenedlaethol. 

Mae’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn y DU, gan gynnwys ysgolion, yn defnyddio’r diffiniadau gweithredol o hiliaeth a digwyddiad hiliol. Cafodd y termau hyn eu cynnig yn adroddiad Ymchwiliad Stephen Lawrence yn 1999. 

Roedd yr adroddiad wedi diffinio hiliaeth fel ‘ymddygiad neu eiriau neu arferion sy’n rhoi pobl dan anfantais neu’n rhoi mantais iddynt oherwydd eu lliw, eu diwylliant neu eu tarddiad ethnig’. Roedd yn diffinio digwyddiad hiliaeth fel ‘unrhyw ddigwyddiad yr ystyrir ei fod yn hiliol gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall’. 

Mathau o hiliaeth

Yn hanesyddol, mae’r term ‘hiliaeth’ wedi cael ei ddefnyddio mewn amgylchiadau pan gaiff lliw a golwg corfforol eu hystyried yn nodweddion arwyddocaol o wahaniaeth. Fodd bynnag, mae elfen ddiwylliannol wedi bodoli bron iawn bob amser hefyd. 

Mae hiliaeth yn ymwneud â lliw croen yn parhau i fod yn gyffredin, ac mae’n rhaid i ysgolion barhau i fod yn wyliadwrus o hynny a’i herio. Ond ceir mathau o hiliaeth hefyd, sy’n ymwneud yn bennaf â diwylliant, arferion, crefydd ac ethnigrwydd. Mae’n rhaid i ysgolion fynd i’r afael â’r rhain hefyd a’u hatal. 

Dylai ysgolion ystyried, er enghraifft, y canlynol.

Gwahaniaethu yn erbyn pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Gall pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr brofi stereoteipiau camarweiniol a niweidiol ac maent wedi bod yn destun profiadau hanesyddol a rhwng y cenedlaethau o ormes, gwahaniaethu, trais a thrawma. Mae llawer o’r stereoteipiau yn dal wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ymwybyddiaeth ac agweddau’r cyhoedd yn y DU, ac ar draws Ewrop. Gall sylwadau negyddol yn y cyfryngau waethygu rhagfarn ymhellach. 

Mae ethnigrwydd Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi’i warchod o dan nodwedd ‘Hil’ yn Neddf Cydraddoldeb 2010, ac mae rhagfarn at bobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn hiliaeth. 

Rhagfarn yn erbyn mudwyr

Mae trafodaethau gwleidyddol ac adroddiadau yn y cyfryngau ynghylch mewnfudo wedi gwaethygu tensiynau rhwng cymunedau ac wedi creu hinsawdd heriol i fudwyr yn y DU. Mae tuedd i ddefnyddio iaith sy’n dad-ddyneiddio wrth drafod mewnfudo, er enghraifft geiriau megis ‘heidio’ a ‘mewnlifo’. Yn aml iawn, caiff mudwyr eu portreadu fel bygythiad neu straen ar gyllid cyhoeddus, a chaiff eu cymhellion dros ymgartrefu yn y DU eu cwestiynu yn rheolaidd. Mae’r cyfryngau a rhai rhethreg wleidyddol hefyd yn golygu bod diffyg dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng mudwyr, ceiswyr noddfa, ffoaduriaid a’u hawl i fod yng Nghymru. Mae hyn wedi arwain at bobl yn dweud wrth blant a phobl ifanc a allai fod wedi cael eu geni yn y DU i rieni sydd â statws ffoadur i ‘fynd adref’ (sy’n golygu rhywle ar wahân i’r DU). Mae hefyd wedi arwain at y geiriau ‘anghyfreithlon’ neu ‘mudwr’ yn cael eu defnyddio fel sarhad hiliol neu senoffobig i’w disgrifio oherwydd bod ganddynt liw croen neu wisg wahanol yn ôl eu ffydd.

Mae’n rhaid i ysgolion fod yn wyliadwrus o’r naratifau niweidiol hyn ac ystyried sut y gallai eu gweithredoedd feithrin cysylltiadau da a helpu i ddileu gwahaniaethu. Dylai ysgolion hefyd fod yn ymwybodol y gall plant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches neu’n ffoaduriaid fod wedi cael profiadau trawmatig yn eu gwlad wreiddiol, yn ystod eu taith i’r DU, ac yn ystod eu cyfnod o geisio lloches yn y DU. Bydd rhai hefyd yn derbyn gofal os ydynt wedi cyrraedd y DU heb rieni na theulu ac efallai na fyddant yn derbyn cefnogaeth teulu na gofal sy’n briodol yn ddiwylliannol. Gall achosion o ymddygiad bwlio ddyfnhau trawma a chynyddu'r perygl o fod yn agored i niwed. Mae’r bobl ifanc hyn yn profi trawma hiliol, stigma a chywilydd, a fydd yn gofyn am gymorth sy’n seiliedig ar drawma hiliol a diwylliannol ac ymyriadau sy’n ddiwylliannol gymwys a phriodol. Mae tarddiadau cenedlaethol neu ethnig wedi’u cynnwys yn nodwedd ‘Hil’ Deddf Cydraddoldeb 2010.

Gwrthsemitiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) o wrthsemitiaeth yn llawn a heb gymhwyso. Dyma’r diffiniad: Canfyddiad penodol o Iddewon ydy gwrthsemitiaeth, a gellir ei fynegi fel casineb at Iddewon. Cyfeirir ffurfiau rhethregol a chorfforol gwrthsemitiaeth at unigolion Iddewig neu unigolion nad ydynt yn Iddewig a (neu) eu heiddo, at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig. Yn ogystal ag ymateb pan fydd gwrthsemitiaeth yn digwydd, mae gan ysgolion rôl bwysig o ran atal gwrthsemitiaeth. Gall hyn fod drwy ddysgu’n rhagweithiol am wrthsemitiaeth a’i gwahanol ffurfiau a hefyd drwy addysg sensitif a phriodol am yr Holocost. Gall ysgolion hefyd sicrhau bod y cwricwlwm yn cynrychioli Iddewiaeth mewn ffordd gadarnhaol yn ogystal â chynnwys cyfraniadau pobl a chymunedau Iddewig yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Gelyniaeth gwrth-Fwslimaidd (a elwir hefyd yn Islamoffobia)

Mae gelyniaeth gwrth-Fwslimaidd (a elwir fel arall yn Islamoffobia) yn cyfeirio at elyniaeth at Fwslimiaid neu Islam sy’n arwain at wahaniaethu yn erbyn unigolion a chymunedau Mwslimaidd. Nid yw’r termau hyn wedi’u diffinio’n gyfreithiol ar hyn o bryd. Serch hynny, mae aelodau o’r gymuned Fwslimaidd yn ein hysgolion yn profi effeithiau’r rhagfarn hon. Dylai ysgolion gyfrannu at y gwaith o wrthwynebu rhagfarn a gelyniaeth gwrth-Fwslimaidd o fewn eu cylchoedd dylanwad eu hunain. Nid yw’r elyniaeth hon o reidrwydd yn ymwneud â chredoau crefyddol Islamaidd penodol a gall yn hytrach geisio atgyfnerthu stereoteipiau rhagfarnllyd am grwpiau a gwadu hawliau cyfartal a pharch at bobl o gefndir Islamaidd. 

Wrth gofnodi digwyddiadau o ymddygiad bwlio hiliol, dylai ysgolion ystyried bod angen cael categorïau penodol ac ar wahân i nodi sail yr ymddygiad bwlio hiliol. Gall y categorïau gynnwys cefndir crefyddol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a ffoaduriaid, ceiswyr noddfa a mudwyr. Mae’r adran ‘Gwerthuso ac atebolrwydd’ yn y canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am adrodd, cofnodi a monitro trefniadau.

Rydym yn gwybod bod ymddygiad bwlio yn aml yn cael ei ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn ar sail hil, crefydd neu ddiwylliant gwirioneddol neu ganfyddedig rhywun. Wrth wraidd ymddygiad bwlio o'r fath y mae'r farn bod rhai pobl yn wahanol neu'n fath ‘arall’ o bobl. Drwy eu ‘haralleiddio’ drwy sylwadau a sarhad, daw'n haws gweld unrhyw grŵp fel grŵp ar wahân a'i ddad-ddyneiddio. Gall hyn ddileu tosturi. Mae rôl ysgolion o ran helpu plant a phobl ifanc i deimlo fel petaent yn perthyn yn hynod o werthfawr wrth greu cymdeithas gydlynol. Nid yw plant ifanc iawn yn gweld gwahaniaeth nes eu bod yn dysgu neu’n mabwysiadu agweddau a rhagfarnau a allai fod yn bresennol o’u cwmpas.

Ymateb i ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â hil, crefydd neu ddiwylliant

Dylai ysgolion weithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd a chymunedau i sicrhau bod y cymorth priodol, ar yr adeg briodol, yn cael ei ddarparu i blant a phobl ifanc er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw. O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, dylai ysgolion wneud y canlynol:

  • cofnodi gwybodaeth a fydd yn helpu i lunio rhan o’u dyletswydd o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gasglu, dadansoddi a chyhoeddi gwybodaeth am eu cynnydd o ran cyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • sicrhau bod camau priodol ac effeithiol yn cael eu cymryd i ddileu neu leihau anfanteision y mae plant neu bobl ifanc yn eu hwynebu oherwydd eu Nodweddion Gwarchodedig

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi nifer o gamau sy'n ceisio sicrhau bod gwrth-hiliaeth yn cael ei sefydlu o fewn system addysg Cymru.

Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u hysgolion, yn cael eu hannog i roi gwybod am hiliaeth. Pan fyddant yn gwneud hynny, mae’n bwysig eu bod yn gallu cael gafael ar gymorth sy’n ystyriol o drawma ac sy’n ddiwylliannol gymwys. Mae rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn rhan allweddol o'r broses o roi ymatebion priodol a chadarn i hiliaeth ar waith. Mae'n helpu ysgolion i gynllunio dulliau ataliol a chefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn cymuned wrth-hiliol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau bod hyfforddiant gwrth-hiliol a'r broses o ddatblygu sgiliau ac adnoddau i gefnogi ymarferwyr addysg i fod yn ymwybodol o drawma hiliol yn brofiad parhaus a chydweithredol gydag elfen o werthuso, yn hytrach na'i fod yn brofiad unigol, prin, rhagnodedig.

Mae penodi hyrwyddwyr Tegwch ac Amrywiaeth yn un ffordd o ddangos i gymuned gyfan yr ysgol bod cydraddoldeb yn cael ei gymryd o ddifrif. 

Ymddygiad bwlio mewn cyd-destun ar-lein 

Mae cydbwyso defnyddio technoleg mewn addysg â phryderon am niwed ar-lein a'r effaith ar lesiant dysgwyr yn hanfodol. Mae ysgolion yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r strategaethau i gael pen ffordd yn y byd digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol. 

I lawer o blant a phobl ifanc, nid oes llawer o wahaniaeth rhwng eu bywydau ar-lein a’u bywydau all-lein. Maent yn ‘frodorion digidol’, sy’n tyfu i fyny gan ddefnyddio technoleg a’r cyfryngau cymdeithasol fel rhan naturiol o’u bywydau bob dydd. Fodd bynnag, gall mynediad at ddyfeisiau a phrofiadau ar-lein amrywio’n sylweddol. 

Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gosod dyletswyddau newydd ar blatfformau a gwasanaethau ar-lein i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag cynnwys niweidiol sy’n anaddas i’w hoedran ac mae’n darparu llwybrau cliriach ar gyfer rhoi gwybod am bryderon. Fodd bynnag, mae ei effeithiolrwydd yn dibynnu ar ba mor dda mae platfformau’n gweithredu’r cyfrifoldebau hyn. Mae ysgolion yn parhau i chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o arwain dysgwyr at ymddygiad diogel a pharchus ar-lein.

Er bod modd camddefnyddio technoleg i hwyluso ymddygiad bwlio traddodiadol, fel sarhau neu ledaenu sïon, mae hefyd yn darparu ffyrdd ychwanegol o fwlio a bychanu eraill. Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae ymddygiad bwlio ar-lein yn aml yn barhad o fwlio sy’n digwydd wyneb yn wyneb, ond gall hefyd ddigwydd ar ei ben ei hun. 

Mae'r gallu i weithredu'n ddienw ar-lein yn arwain yn aml at ymddygiad afreolus a chreulon a fyddai'n llai tebygol wyneb yn wyneb. Gall newid y ddynameg bŵer draddodiadol a welir mewn bwlio all-lein. Mae'r gynulleidfa helaeth sy'n bodoli ar gyfer deunydd ar-lein yn golygu y gall digwyddiadau unigol o gam-drin ar-lein ddatblygu'n gyflym yn ymddygiad bwlio, er enghraifft, drwy ailbostio, rhannu a gwneud sylwadau. 

Yn aml mae ymddygiad bwlio ar-lein yn treiddio'n haws i bob rhan o fywyd, ac i ofod preifat y dioddefwr. Gall fod yn anodd hefyd tynnu'r deunydd sy'n cael ei bostio ar-lein oddi yno. Mae hyn yn golygu y gall barhau i effeithio ar y plentyn neu’r person ifanc ymhell ar ôl y digwyddiad. Mae cyfathrebu digidol yn gadael trywydd, sy'n darparu tystiolaeth o fwlio. Gall hyn fod yn gadarnhaol ac yn negyddol, gan y gall helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad bwlio ond mae hefyd yn golygu bod y cynnwys niweidiol yn cael ei gofnodi.

Gall ymddygiad bwlio ar-lein ac all-lein groesi pan fydd digwyddiadau sy'n dechrau wyneb yn wyneb yn parhau ar-lein, neu pan fydd aflonyddu ar-lein yn arwain at wrthdaro wyneb yn wyneb. Mae yna enghreifftiau lle ffilmiwyd achosion o ymddygiad bwlio a ddechreuodd all-lein, ac yna bod y rheini wedi'u postio ar-lein, gan waethygu'r sefyllfa. Mae plant a phobl ifanc yn nodi bod nodweddion canlynol ymddygiad bwlio ar-lein yn creu gofid mewn ffordd arbennig:

  • gall y gynulleidfa fod yn ddi-ben-draw
  • gall ddigwydd yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg, ac ni ellir dianc rhagddo
  • gall ddod gan bobl nad yw'r dioddefwr yn eu hadnabod, ond bydd y rhan fwyaf o achosion yn cynnwys cyfoedion y byddant yn eu hadnabod
  • mae technoleg yn ei gwneud yn haws storio delweddau a negeseuon fel y gellir eu gweld dro ar ôl tro

Sut mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi diogelwch ar-lein 

Mae cymhwysedd digidol yn gyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ynghyd â llythrennedd a rhifedd, o fewn y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion a gynhelir. Mae gan y Fframwaith Cymhwysedd Digidol 4 llinyn sydd yr un mor bwysig â'i gilydd. Sef:

  • Dinasyddiaeth
  • Rhyngweithio a chydweithio
  • Cynhyrchu
  • Data a meddwl yn gyfrifiadurol

Mae llinyn ‘Dinasyddiaeth’ yn canolbwyntio ar weld plant a phobl ifanc yn datblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i gyfrannu’n gadarnhaol at y byd digidol o’u cwmpas. Mae hyn yn cynnwys diogelu eu hunain ar-lein. Mae’r llinyn yn cynnwys yr elfennau canlynol: 

  • Hunaniaeth, delwedd ac enw da
  • Iechyd a lles
  • Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth
  • Ymddygiad ar-lein a bwlio ar-lein

Bydd y sgiliau sy’n cael eu datblygu drwy’r llinyn hwn yn helpu plant a phobl ifanc i fynd ati'n feirniadol i werthuso eu lle yn y byd digidol, i sicrhau eu bod yn barod i ymdrin ag agweddau cadarnhaol a negyddol bod yn ddinesydd digidol.

Mae llinyn 'Rhyngweithio a chydweithio' hefyd yn caniatáu i blant a phobl ifanc archwilio dulliau cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a negeseua gwib. Yn ogystal ag ystyried sut i storio data, bydd plant a phobl ifanc yn edrych ar oblygiadau deddfau data a sut i rannu gwybodaeth yn briodol.

Mae'r dirwedd ddigidol sy'n esblygu'n gyflym a'r technolegau sy'n datblygu yn creu cyfleoedd a risgiau. Mae’r adran ‘Cadw'n Ddiogel Ar-lein’ ar Hwb wedi'i chynllunio i wella diogelwch ar-lein ym myd addysg. Mae'n cynnig ystod eang o adnoddau, canllawiau a hyfforddiant i helpu'r gymuned ysgol gyfan i gael gwybodaeth gyson am y tueddiadau a'r pryderon diogelwch diweddaraf, a cheisio cymorth pan fydd ei angen arnynt. 

Ymateb i fwlio ar-lein

Dylai ysgolion ymdrin ag ymddygiad bwlio ar-lein lle mae hynny’n effeithio ar lesiant plant a phobl ifanc yn yr ysgol. Pan fydd angen, dylai ysgolion gyfeirio achos at yr asiantaeth neu’r gwasanaeth priodol. Rhaid cymryd camau mewn achosion sy’n ymwneud â phryder diogelu. Dylai pob aelod o staff gael hyfforddiant rheolaidd ynghylch diogelu dysgwyr a diogelwch ar-lein.

Mae gohebiaeth ar-lein a symudol yn gadael trywydd digidol. Mae cadw tystiolaeth yn hanfodol. Dylai ysgolion gofio y gall tystiolaeth gael ei dileu neu ddiflannu o blatfformau ar-lein ar unrhyw adeg. Gall cynnwys gael ei ddileu gan unigolion neu ar gais gan weinyddwyr corfforaethol platfformau cyfryngau cymdeithasol. Mae tynnu ciplun o’r sgrin yn ddull defnyddiol o gadw tystiolaeth. Dylai ysgolion gofnodi digwyddiadau fel rhan o’u harferion diogelu ehangach. Mewn rhai achosion, gall rhagor o dystiolaeth ddod i’r amlwg yn ddiweddarach ac efallai y bydd yn angenrheidiol ailedrych ar hanes cyfan yr achos unwaith yn rhagor. Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau ynghylch cofnodi gwybodaeth yn yr is-adran 'Rhoi gwybod am fwlio, ei gofnodi a’i fonitro' o'r canllawiau hyn.

Mae gan ysgolion rymoedd i ddisgyblu plant a phobl ifanc am bethau sy’n digwydd ar-lein oddi ar y safle, a grymoedd i chwilio plant a phobl ifanc neu atafaelu eu ffonau symudol os byddant wedi gweithredu’n groes i bolisi ymddygiad neu bolisi gwrthfwlio’r ysgol ac mai atafaelu yw'r gosb ddisgyblu am weithredu fel y gwnaethant.

Ymddygiad bwlio mewn cyd-destun ar-lein

Mae cydbwyso defnyddio technoleg mewn addysg â phryderon am niwed ar-lein a'r effaith ar lesiant dysgwyr yn hanfodol. Mae ysgolion yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r strategaethau i gael pen ffordd yn y byd digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol. 

I lawer o blant a phobl ifanc, nid oes llawer o wahaniaeth rhwng eu bywydau ar-lein a’u bywydau all-lein. Maent yn ‘frodorion digidol’, sy’n tyfu i fyny gan ddefnyddio technoleg a chyfryngau cymdeithasol fel rhan naturiol o’u bywydau bob dydd. Fodd bynnag, gall mynediad at ddyfeisiau a phrofiadau ar-lein amrywio’n sylweddol. 

Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gosod dyletswyddau newydd ar lwyfannau a gwasanaethau ar-lein i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag cynnwys niweidiol sy’n anaddas i’w hoedran ac mae’n darparu llwybrau cliriach ar gyfer rhoi gwybod am bryderon. Fodd bynnag, mae ei effeithiolrwydd yn dibynnu ar ba mor dda mae llwyfannau’n gweithredu’r cyfrifoldebau hyn. Mae ysgolion yn parhau i chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o arwain dysgwyr at ymddygiad diogel a pharchus ar-lein.

Er bod modd camddefnyddio technoleg i hwyluso ymddygiad bwlio traddodiadol, fel sarhau neu ledaenu sïon, mae hefyd yn darparu ffyrdd ychwanegol o fwlio a bychanu eraill. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhannu delweddau neu fideos heb ganiatâd, (gweler y canllawiau ar ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth)
  • ffrydio byw
  • defnyddio apiau negeseuon dienw
  • aflonyddu ar rywun ar-lein
  • creu delweddau neu fideos gan ddefnyddio technolegau AI cynhyrchiol

Mae ymddygiad bwlio ar-lein yn aml yn barhad o fwlio sy’n digwydd wyneb yn wyneb, ond gall hefyd ddigwydd ar ei ben ei hun. 

Mae'r gallu i weithredu'n ddienw ar-lein yn arwain yn aml at ymddygiad afreolus a chreulon a fyddai'n llai tebygol wyneb yn wyneb. Gall newid y ddynameg bŵer draddodiadol a welir mewn bwlio all-lein. Mae'r gynulleidfa helaeth sy'n bodoli ar gyfer deunydd ar-lein yn golygu y gall digwyddiadau unigol o gam-drin ar-lein ddatblygu'n gyflym yn ymddygiad bwlio, er enghraifft, drwy ailbostio, rhannu a gwneud sylwadau. 

Yn aml mae ymddygiad bwlio ar-lein yn treiddio'n haws i bob rhan o fywyd, ac i ofod preifat y dioddefwr. Gall fod yn anodd hefyd tynnu'r deunydd sy'n cael ei bostio ar-lein oddi yno. Mae hyn yn golygu y gall barhau i effeithio ar y plentyn neu’r person ifanc ymhell ar ôl y digwyddiad. Mae cyfathrebu digidol yn gadael trywydd, sy'n darparu tystiolaeth o fwlio. Gall hyn fod yn gadarnhaol ac yn negyddol, gan y gall helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad bwlio ond mae hefyd yn golygu bod y cynnwys niweidiol yn cael ei gofnodi.

Gall ymddygiad bwlio ar-lein ac all-lein groesi pan fydd digwyddiadau sy'n dechrau wyneb yn wyneb yn parhau ar-lein, neu pan fydd aflonyddu ar-lein yn arwain at wrthdaro wyneb yn wyneb. Mae yna enghreifftiau lle ffilmiwyd achosion o ymddygiad bwlio a ddechreuodd all-lein, ac yna bod y rheini wedi'u postio ar-lein, gan waethygu'r sefyllfa. Mae plant a phobl ifanc yn nodi bod nodweddion ymddygiad bwlio ar-lein (gweler isod) yn creu gofid mewn ffordd arbennig:

  • gall y gynulleidfa fod yn ddi-ben-draw
  • gall ddigwydd yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg, ac ni ellir dianc rhagddo
  • gall ddod gan bobl nad yw'r dioddefwr yn eu hadnabod, ond bydd y rhan fwyaf o achosion yn cynnwys cyfoedion y byddant yn eu hadnabod
  • mae technoleg yn ei gwneud yn haws storio delweddau a negeseuon fel y gellir eu gweld dro ar ôl tro

Sut mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cefnogi diogelwch ar-lein 

Mae cymhwysedd digidol yn gyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ynghyd â llythrennedd a rhifedd, o fewn y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion a gynhelir. Mae gan y Fframwaith Cymhwysedd Digidol 4 llinyn sydd yr un mor bwysig â'i gilydd. Sef:

  • Dinasyddiaeth
  • Rhyngweithio a chydweithio
  • Cynhyrchu
  • Data a meddwl yn gyfrifiadurol

Mae llinyn ‘Dinasyddiaeth’ yn canolbwyntio ar weld plant a phobl ifanc yn datblygu’r sgiliau a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i gyfrannu’n gadarnhaol at y byd digidol o’u cwmpas. Mae hyn yn cynnwys diogelu eu hunain ar-lein. Mae’r llinyn yn cynnwys yr elfennau canlynol: 

  • Hunaniaeth, delwedd ac enw da
  • Iechyd a lles
  • Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth
  • Ymddygiad ar-lein a bwlio ar-lein

Bydd y sgiliau sy’n cael eu datblygu drwy’r llinyn hwn yn helpu plant a phobl ifanc i fynd ati'n feirniadol i werthuso eu lle yn y byd digidol, i sicrhau eu bod yn barod i ymdrin ag agweddau cadarnhaol a negyddol bod yn ddinesydd digidol.

Mae llinyn 'Rhyngweithio a chydweithio' hefyd yn caniatáu i blant a phobl ifanc archwilio dulliau cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a negeseua gwib. Yn ogystal ag ystyried sut i storio data, bydd plant a phobl ifanc yn edrych ar oblygiadau deddfau data a sut i rannu gwybodaeth yn briodol.

Mae'r dirwedd ddigidol sy'n esblygu'n gyflym a'r technolegau sy'n datblygu yn creu cyfleoedd a risgiau. Mae’r adran ‘Cadw'n Ddiogel Ar-lein’ ar Hwb wedi'i chynllunio i wella diogelwch ar-lein ym myd addysg. Mae'n cynnig ystod eang o adnoddau, canllawiau a hyfforddiant i helpu'r gymuned ysgol gyfan i gael gwybodaeth gyson am y tueddiadau a'r pryderon diogelwch diweddaraf, a cheisio cymorth pan fydd ei angen arnynt. 

Ymateb i fwlio ar-lein

Dylai ysgolion ymdrin ag ymddygiad bwlio ar-lein lle mae hynny’n effeithio ar lesiant plant a phobl ifanc yn yr ysgol. Pan fydd angen, dylai ysgolion gyfeirio achos at yr asiantaeth neu’r gwasanaeth priodol. Rhaid cymryd camau mewn achosion sy’n ymwneud â phryder diogelu. Dylai pob aelod o staff gael hyfforddiant rheolaidd ynghylch diogelu dysgwyr a diogelwch ar-lein.

Mae gohebiaeth ar-lein a symudol yn gadael trywydd digidol. Mae cadw tystiolaeth yn hanfodol. Dylai ysgolion gofio y gall tystiolaeth gael ei dileu neu ddiflannu o lwyfannau ar-lein ar unrhyw adeg. Gall cynnwys gael ei ddileu gan unigolion neu ar gais gan weinyddwyr corfforaethol platfformau cyfryngau cymdeithasol. Mae tynnu ciplun o’r sgrin yn ddull defnyddiol o gadw tystiolaeth. Dylai ysgolion gofnodi digwyddiadau fel rhan o’u harferion diogelu ehangach. Mewn rhai achosion, gall rhagor o dystiolaeth ddod i’r amlwg yn ddiweddarach ac efallai y bydd yn angenrheidiol ailedrych ar hanes cyfan yr achos unwaith yn rhagor. Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau ynghylch cofnodi gwybodaeth yn yr is-adran Rhoi gwybod am fwlio, ei gofnodi a’i fonitro o'r canllawiau hyn.

Mae gan ysgolion rymoedd i ddisgyblu plant a phobl ifanc am bethau sy’n digwydd ar-lein oddi ar y safle, a grymoedd i chwilio plant a phobl ifanc neu atafaelu eu ffonau symudol os byddant wedi gweithredu’n groes i bolisi ymddygiad neu bolisi gwrthfwlio’r ysgol ac mai atafaelu yw'r gosb ddisgyblu am weithredu fel y gwnaethant.

Y gyfraith sy’n ymwneud ag ymddygiad bwlio yn ogystal â gweithdrefnau a strategaethau cysylltiedig

Nid oes diffiniad cyfreithiol o fwlio, ond gellir defnyddio deddfwriaeth ehangach i fynd i’r afael ag achosion penodol o ymddygiad bwlio. 

Mae deddfwriaeth wedi’i sefydlu yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol sy’n ceisio gwarchod hawliau plant a phobl ifanc i fyw bywyd heb unrhyw gamdriniaeth a niwed, gan gynnwys ymddygiad bwlio. Mae'r confensiynau rhyngwladol a'r ddeddfwriaeth bresennol sy’n berthnasol i ymddygiad bwlio yng Nghymru yn cynnwys y canlynol:

  • Deddf Amddiffyn Plant 1978 (fel y’i diwygiwyd) 
  • Deddf Trefn Gyhoeddus 1986
  • Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988
  • Deddf Plant 1989
  • Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
  • Deddf Addysg 1996
  • Deddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997 
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Deddf Addysg 2002
  • Deddf Troseddau Rhywiol 2003 (fel y’i diwygiwyd)
  • Deddf Plant 2004
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
  • Deddf Llywodraeth Cymru 2006
  • Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006
  • Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
  • Deddf Cydraddoldeb 2010 
  • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
  • Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Troseddau Difrifol 2015
  • Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
  • Deddf Dedfrydu 2020
  • Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

Mae’r is-adrannau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am rai o’r darnau hyn o ddeddfwriaeth.

Deddfwriaeth graidd ar ddiogelu ac addysg

Dyma’r dyletswyddau statudol sylfaenol sy’n cael eu rhoi ar ysgolion ac awdurdodau lleol.

Deddf Addysg 2002

Mae Deddf Addysg 2002 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol i ddiogelu plant a phobl ifanc a hybu eu lles.

Deddf Plant 1989

Gall rhai achosion o ymddygiad bwlio fod yn fater amddiffyn plant neu ddatgelu mater o’r fath. Dylid mynd i’r afael ag ymddygiad bwlio fel mater amddiffyn plant o dan Ddeddf Plant 1989 pan fo ‘achos rhesymol i amau bod plentyn neu berson ifanc yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol.’ Mae’n rhaid hysbysu’r aelod o staff yn yr ysgol sy’n gyfrifol am amddiffyn plant am y pryderon hyn, ac yna dylid rhoi gwybod i wasanaethau cymdeithasol plant yr awdurdod lleol amdanynt. Mae’r cyfrifoldeb hwn bellach yn cwmpasu digwyddiadau ymddygiad bwlio ar-lein os bydd hynny’n effeithio ar lesiant plant a phobl ifanc yn yr ysgol.

Deddf Plant 2004

Mae Deddf Plant 2004 yn gosod dyletswydd statudol ar bob awdurdod sy'n darparu gwasanaethau plant i gydweithio â rhanddeiliaid ac asiantaethau partner i ddarparu gwasanaethau integredig a gwella ymyriadau ataliol a chynnar i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd.

Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006

O dan adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (‘Deddf 2006’), mae’n rhaid i bennaeth ysgolion a gynhelir benderfynu ar fesurau i wneud y canlynol:

  1. hybu, ymhlith dysgwyr, hunanddisgyblaeth ac ystyriaeth briodol i awdurdod
  2. annog ymddygiad da ac atal pob math o ymddygiad bwlio ymhlith dysgwyr
  3. sicrhau bod safon ymddygiad dysgwyr yn dderbyniol
  4. sicrhau bod dysgwyr yn cwblhau unrhyw dasg y mae'n rhesymol ei rhoi iddynt mewn cysylltiad â'u haddysg
  5. rheoleiddio ymddygiad dysgwyr

Wrth benderfynu ar fesurau o’r fath, mae’n rhaid i’r pennaeth weithredu yn unol â’r polisi ymddygiad, rhywbeth y mae Deddf 2006 yn nodi y dylai pob ysgol ei sefydlu. Dylid nodi'n glir ym mholisi gwrthfwlio ysgol weithdrefnau sy'n amlinellu sut y bydd yn mynd i'r afael ag ymddygiad bwlio a strategaethau ar gyfer herio bwlio. Rhaid cyfleu'r mesurau hyn i'r holl ddysgwyr, staff yr ysgol, a rhieni. Mae’n rhaid i’r pennaeth fynd ati i fabwysiadu’r polisi, a dylid hysbysu pob dysgwr, rhiant ac athro amdano ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.

O dan adran 89 o Ddeddf 2006, gall penaethiaid benderfynu ar fesurau i reoleiddio ymddygiad dysgwyr pan na fyddant ar safle’r ysgol neu pan na fyddant o dan reolaeth neu oruchwyliaeth aelod o staff. Mae hyn yn bwysig iawn mewn cysylltiad ag ymddygiad bwlio ar-lein, sy’n digwydd y tu allan i’r ysgol yn aml ond yn gallu effeithio’n gryf iawn ar fywyd ysgol y dysgwyr sy’n ei ddioddef.

Mae adran 94 o Ddeddf 2006 hefyd yn darparu amddiffyniad i staff ysgolion wrth atafaelu eitemau gan ddysgwyr, megis ffonau symudol, os ydynt yn cael eu defnyddio i fynd yn groes i bolisi ymddygiad a (neu) wrthfwlio yr ysgol, ac yn cael eu hatafaelu fel cosb ddisgyblu. 

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Mae’r Cod Ymddygiad Wrth Deithio Statudol (y Cod Teithio) a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn nodi gofynion penodol sy’n gysylltiedig ag ymddygiad dysgwyr wrth deithio. Ymhlith gofynion y Cod Teithio i bob teithiwr mae ‘peidiwch byth â bwlio dysgwyr eraill’ a ‘parchwch eraill (gan gynnwys gyrrwr y bws)’. 

Diben y Cod Teithio yw hyrwyddo diogelwch wrth deithio, drwy nodi cyfres o safonau ymddygiad ledled Cymru, i bob dysgwr, beth bynnag fo’r modd o deithio dan sylw. Mae hyn yn cynnwys:

  • bysiau contract
  • bysiau cyhoeddus
  • trenau cyhoeddus
  • cerdded
  • tacsis
  • sgwteri
  • beiciau modur
  • beicio
  • teithiau mewn car

Mae’n gymwys i bob dysgwr o dan 19 oed (neu ddysgwyr sydd wedi cyrraedd 19 oed, ond a ddechreuodd gwrs pan oeddent o dan 19 oed ac sy’n parhau i ddilyn y cwrs hwnnw).

Mae canllawiau’r Cod Teithio yn nodi’r fframwaith ar gyfer y gyfundrefn gosbau o fewn y Cod Teithio, sy’n darparu ar gyfer tynnu'r hawl i gael cludiant am ddim neu gludiant a gymorthdelir am gyfnodau penodol o amser os bydd dysgwr yn camymddwyn ar gludiant i ddysgwyr.

Efallai y bydd amgylchiadau lle nad yw’n briodol mynd i’r afael ag ymddygiad y dysgwr drwy’r Cod Teithio. Yn yr achosion hyn, dylai ysgolion weithio gyda’u hawdurdod lleol, rhieni a gwasanaethau eraill megis gweithwyr iechyd proffesiynol, yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol. Gall ymddygiad bwlio fod yn enghraifft o hyn.

Dylai’r Cod Teithio fod yn rhan o bolisïau ymddygiad a gwrthfwlio yr ysgol. Dylid ymdrin ag unrhyw gamymddwyn, gan gynnwys ymddygiad bwlio, yn ystod y daith i’r ysgol neu oddi yno drwy ddefnyddio’r polisi mwyaf priodol, megis polisïau ymddygiad neu gwrthfwlio’r ysgol, neu drwy weithredu’r Cod Teithio. 

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Cod ADY Cymru, a’r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.

O dan y Ddeddf ADY, mae gan blant a phobl ifanc ag ADY hawl i gael cynllun statudol o’r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU) sy’n nodi’r ADY a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n angenrheidiol i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae’r egwyddorion sy’n sail i’r system ADY yn cynnwys:

  • addysg gynhwysol a dull ysgol gyfan o ddiwallu ADY
  • adnabod, ymyrryd ac atal yn gynnar
  • cydweithio ac integreiddio gwasanaethau

Mae’r system anghenion dysgu ychwanegol hefyd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar hawliau felly mae barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn, rhiant y plentyn neu’r person ifanc wrth galon y gwaith o gynllunio a darparu cymorth.

Cyfraith cydraddoldeb, hawliau a gwrth-wahaniaethu

Dyma’r fframweithiau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu amddiffyniad rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth i ddysgwyr sydd ag un o’r Nodweddion Gwarchodedig sy’n cael eu nodi yn Neddf 2010. 

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gymryd camau i wella sefyllfa dysgwyr sydd â Nodweddion Gwarchodedig gwahanol. Mae’n ofyniad cyfreithiol, o dan Ddeddf 2010, y mae’n rhaid i ysgolion yng Nghymru ei gyflawni. Gellir ei defnyddio fel dull o fynd i’r afael ag ymddygiad bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn a gweithredu ar lefel yr ysgol gyfan.

Mae 3 nod i'r ddyletswydd gyffredinol, ac mae gan bob un gysylltiadau clir ag egwyddor gwrthfwlio. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion yng Nghymru roi sylw dyledus i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
  • hyrwyddo cydraddoldeb a chyfleoedd
  • meithrin cysylltiadau da ar draws pob Nodwedd Warchodedig

Er mwyn cyflawni 3 nod y ddyletswydd gyffredinol, mae 3 cyfres o ddyletswyddau penodol gan ysgolion:

  • i gasglu, dadansoddi a chyhoeddi gwybodaeth am eu cynnydd o ran cyflawni 3 nod Deddf 2010
  • i benderfynu ar amcanion penodol a mesuradwy y byddant yn ymdrechu i'w gweithredu dros y blynyddoedd nesaf er mwyn cyflawni’r 3 nod, a chyhoeddi’r amcanion hyn

ac wrth gyflawni’r ddwy gyfres gyntaf o ddyletswyddau penodol:

  • ymgysylltu â phobl sydd â buddiant dilys, gan gynnwys yr holl staff, rhieni, dysgwyr, grwpiau lleol, sefydliadau, ac unigolion fel y bo'n briodol

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch cydymffurfio â’r ddarpariaeth hon wedi'i hamlinellu yn adran ‘Gwerthuso ac atebolrwydd’ y canllawiau hyn. 

Deddf Hawliau Dynol 1998

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi’r hawliau a’r rhyddid sylfaenol sydd gan bawb yn y DU. Mae’n ymgorffori’r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yng nghyfraith ddomestig Prydain. Daeth y Ddeddf Hawliau Dynol i rym yn y DU ym mis Hydref 2000.

Mae Deddf 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus barchu a gwarchod hawliau dynol unigolion. Mae’r cyrff hyn yn cynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, a chyrff eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn 

Yn 2004, mabwysiadodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) fel sail i'w holl waith polisi mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yng Nghymru. 

Mae adran 64 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar ysgolion, lleoliadau a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, i hyrwyddo gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rhai sy'n darparu sesiynau addysgu a dysgu. 

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 

Yn 2011, cymeradwyodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) (‘Mesur 2011’), a oedd yn cryfhau’r dull sy’n seiliedig ar hawliau ac yn ychwanegu ato. Gosododd ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i ofynion CCUHP wrth arfer unrhyw un o’u swyddogaethau.

Mae Mesur 2011 yn sail i'r fframwaith a'r gwerthoedd ar gyfer ysgolion. Mae gan blant a phobl ifanc hawl i fod yn ddiogel a hawl i gael addysg. 

Mae dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus sy’n cyfrannu at wireddu hawliau plant a phobl ifanc fel y'u nodir yn CCUHP a Mesur 2011. 

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

Diben Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yw:

  • hyrwyddo, gwarchod a sicrhau bod pob person ag anableddau’n gallu mwynhau pob hawl ddynol a rhyddid sylfaenol yn llawn ac yn gyfartal
  • hyrwyddo parch at eu hurddas cynhenid

Mae pobl anabl yn cynnwys pobl ag amhariadau corfforol, meddyliol, deallusol neu synhwyraidd hirdymor, a all, ynghyd â rhwystrau amrywiol, eu hatal rhag cymryd rhan lawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill.

Dyma egwyddorion CCUHPA:

  • parch at urddas cynhenid, ymreolaeth unigolion gan gynnwys y rhyddid i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain, ac annibyniaeth pobl
  • peidio â gwahaniaethu
  • sicrhau bod pobl yn gallu cymryd rhan a chael eu cynnwys yn llawn ac yn effeithiol yn y gymdeithas
  • parch at wahaniaeth a derbyn pobl anabl fel rhan o amrywiaeth ddynol a’r ddynoliaeth
  • cyfleoedd cyfartal
  • hygyrchedd
  • cydraddoldeb rhwng y rhywiau
  • parch at alluoedd plant a phobl ifanc anabl wrth iddynt ddatblygu, a pharch at hawl plant a phobl ifanc anabl i gadw eu hunaniaeth

Troseddau sy'n berthnasol i ymddygiad bwlio

Gallai rhai mathau o ymddygiad bwlio ar-lein fod yn droseddau o dan ystod o wahanol ddeddfau. 

Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988

Mae adran 1 o Ddeddf 1988 yn ei gwneud yn drosedd anfon llythyr, gohebiaeth electronig neu eitem arall sy’n anweddus, yn ffiaidd iawn neu’n fygythiol at rywun arall gan fwriadu i hynny achosi trallod neu bryder iddo.

Deddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997

Mae Deddf 1997 yn berthnasol i rywbeth sydd wedi digwydd dro ar ôl tro (ar fwy na 2 achlysur). Mae adran 1 yn gwahardd ymddygiad sy’n gyfystyr ag aflonyddu ar rywun arall lle mae’r person yn gwybod neu y dylai wybod ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu. Mae adran 2 yn darparu tramgwydd troseddol lle mae rhywun yn euog o aflonyddu, ac mae adran 3 yn darparu rhwymedi sifil ar gyfer y sawl sy’n dioddef yn sgil aflonyddu o dan adran 1. Mae adran 4 yn darparu trosedd fwy difrifol, sef rhywun yn gwneud i rywun arall ofni, ar o leiaf 2 achlysur, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn. Gall llys sifil roi gwaharddeb i atal unigolyn rhag ymddwyn mewn modd sy’n gyfystyr ag aflonyddu ac, yn dilyn euogfarn o drosedd o dan adrannau 2 neu 4, bydd gorchmynion atal ar gael i amddiffyn targed y drosedd.

Deddf Amddiffyn Plant 1978

O dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1978 (fel y’i diwygiwyd) a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 mae’n anghyfreithlon creu, lledaenu neu feddu ar ddelweddau anweddus o blentyn o dan 18 oed.

Deddf Troseddau Difrifol 2015

Mae adran 67 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 yn ychwanegu trosedd newydd at Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, yn adran 15A, sy’n gwneud cyfathrebu rhywiol â phlentyn yn drosedd. O dan y gyfraith newydd, mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sydd dros 18 oed yng Nghymru a Lloegr anfon neges rywiol eglur at blentyn neu geisio annog y plentyn i anfon rhywbeth rhywiol eglur ei hun.

Deddf Diogelwch Ar-lein 2023

Mae Rhan 10 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn cyflwyno troseddau newydd sy'n ymwneud ag annog neu hwyluso hunan-niweidio difrifol, seiberfflachio, anfon gwybodaeth ffug a fwriedir i achosi niwed nad yw'n fân niwed, cyfathrebu bygythiol, camddefnyddio delweddau o natur bersonol, a throlio epilepsi. Mae'r troseddau hyn yn uniongyrchol berthnasol i'r unigolion sy'n anfon negeseuon o'r fath.

Os bydd staff ysgolion neu rieni yn credu y gallai trosedd fod wedi cael ei chyflawni, dylent ofyn i’r heddlu am gymorth.

Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015

Mae Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar ysgolion mewn perthynas ag agenda ‘Prevent’. Mae’n rhaid i ysgolion ddangos eu bod yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu denu at derfysgaeth drwy sefydlu polisïau diogelu cadarn i nodi'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd mewn perygl, a phan fydd yn ofynnol, ymyrryd cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn berthnasol yng nghyd-destun bwlio oherwydd gall plant a phobl ifanc sydd wedi’u hynysu, sy’n cael eu herlid a (neu) sydd oherwydd unrhyw reswm arall yn credu nad ydynt yn perthyn, fod yn fwy tebygol o gael eu denu gan y sawl sy’n dymuno eu recriwtio a meithrin perthynas amhriodol â nhw. Mae 3 modiwl hyfforddi ar gael ar-lein, Cwrs ymwybyddiaeth, Cwrs atgyfeiriadau a Chwrs Croeso i’r Channel.

Deddfwriaeth ehangach sy'n cefnogi hawliau plant yng Nghymru

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i rym ym mis Ebrill 2016, gyda'r nod o wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n gwneud i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am:

  • y tymor hir 
  • gweithio’n well â phobl, cymunedau a’i gilydd 
  • ceisio atal problemau a defnyddio dull sy'n fwy cydgysylltiedig

Mae i'r Ddeddf 7 nod llesiant, gan greu gweledigaeth i (ymhlith pethau eraill) wneud Cymru yn iachach, yn fwy cyfartal, yn gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn fwy cydnerth. 

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn nodi y gall Gweinidogion Cymru bennu 5 math o safon mewn rheoliadau: safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi, safonau gweithredu, safonau hybu, a safonau cadw cofnodion. Er mai Gweinidogion Cymru sy'n pennu'r safonau Cymraeg, mater i Gomisiynydd y Gymraeg yw penderfynu pa safonau y mae’n rhaid i gorff gydymffurfio â nhw.

Rhagor o wybodaeth i gefnogi ymdrechion i gydymffurfio â chyfrifoldebau diogelu

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan ar ddiogelu plant mewn amgylchiadau diogelu penodol i'w defnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar y pynciau a ganlyn:

  • Diogelu plant rhag cam-drin ar-lein
  • Diogelu plant lle mae pryderon am ymddygiad rhywiol niweidiol
  • Diogelu plant rhag cael eu radicaleiddio

Mae'r holl ganllawiau ymarfer ar gael ar Diogelu Cymru, sef gwefan Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid

Mae’r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, gan ddefnyddio dull hawliau ‘rhoi plant yn gyntaf’. Mae hyn yn golygu gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n ystyriol o drawma yn hytrach na’r gwasanaeth, gan ddiwallu anghenion unigol plant yn y system gyfiawnder neu blant sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r system.

Mae’r Glasbrint yn tynnu sylw at sut mae gweithgareddau atal ac ymyrryd yn gynnar a gyflawnir gan Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a phartneriaid wedi lleihau’n sylweddol nifer y bobl ifanc sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol. Mae gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yn gweithio gyda phlant lle mae pryderon ynghylch ymuno â’r system cyfiawnder ieuenctid. Nid yw hyn bob amser yn golygu bod troseddu wedi digwydd, gan y gall gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid hefyd weithio gyda phlant sydd wedi cwblhau gorchymyn llys, ond y mae angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol arnynt. Mae gwaith ataliol yn wirfoddol ac mae’n dibynnu ar sgiliau a galluoedd gweithwyr proffesiynol i ymgysylltu â phlant a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae’r Fframwaith Atal ym maes Cyfiawnder Ieuenctid yn elfen allweddol o’r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid. Mae nifer o wasanaethau ar gael sy’n helpu i annog plant i roi’r gorau i droseddu a symud at fywyd di-drosedd sy’n rhoi boddhad iddynt. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau datganoledig ‘prif ffrwd’ fel addysg, gofal iechyd a gwasanaethau ieuenctid, yn ogystal â gweithgarwch atal mwy penodol sy’n cael ei ddarparu gan dimau arbenigol mewn awdurdodau lleol. 

Mae’r fframwaith yn rhoi darlun holistaidd, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o’r hyn sy’n gweithio i atal plant rhag dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol a sut mae gweithgarwch o wahanol sectorau yn dod at ei gilydd i gefnogi hyn. Mae’r fframwaith, sydd wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phartneriaid datganoledig a rhai heb eu datganoli, yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig. Mae’n adlewyrchu’r cyd-destun strategol a gweithredol yng Nghymru, a sefyllfa unigryw cyfiawnder ieuenctid a sut mae’n gorgyffwrdd â systemau a gwasanaethau cyfiawnder sy’n ymwneud â lles plant. Mae’r fframwaith yn ategu amrywiaeth o waith atal ehangach sy’n cael ei wneud gan Uned Atal Trais Cymru a Byrddau Cyfiawnder Troseddol Cymru. 

Strategaethau i atal ymddygiad bwlio

Pwysigrwydd dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol

Y man cychwyn i atal bwlio yw strwythurau ysgol gyfan cryf. Mae dull ysgol gyfan, sy’n seiliedig ar drawma ac ymarfer sy’n seiliedig ar ACE, yn hanfodol. Bydd dulliau gweithredu sy’n cael eu datblygu ar y cyd â staff, rhieni a phartneriaid cymunedol, sy’n cael eu rhoi ar waith dros amser, ac sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd, yn fwy effeithiol na chynlluniau annibynnol. Mae cydweithredu’n golygu gweithio gyda phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd ar y strategaeth, polisi neu ddulliau gwrthfwlio yn hytrach na gofyn eu barn ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud.

Dylai ymyriadau fod yn rhan o ethos ehangach ysgol sy’n hyrwyddo empathi, parch a disgwyliadau cyson, ac sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru a dull yr ysgol o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, y mae’n rhaid i ysgolion eu hadolygu’n barhaus.

Dylai ysgolion ystyried sefydlu arweinydd neu dîm gwrth-fwlio sy’n gyfrifol am gydlynu’r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau a chadw cofnod ohonynt. Mae hyn yn cynnwys monitro ymyriadau a ddefnyddir, trefniadau adrodd ac anghenion hyfforddi, yn enwedig o ran bwlio ar sail rhagfarn ac ymddygiad ar-lein. Mae hefyd angen cymorth ar staff i ddeall eu rôl mewn perthynas â digwyddiadau ar-lein a allai ddigwydd y tu allan i oriau ysgol.

I gyflawni dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, dylai ysgolion:

  • cael arweinyddiaeth foesol gref gan y pennaeth, uwch arweinwyr eraill a’r corff llywodraethu, sy’n modelu gwerthoedd a disgwyliadau uchel, ac felly arwain drwy esiampl drwy osod gwerth ar iechyd a llesiant emosiynol
  • sefydlu hinsawdd a diwylliant lle bydd dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn ystyried eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, sy’n hybu CCUHP a CCUHPA o ran holi'r plentyn neu'r person ifanc ac yn gwrando arnynt
  • cael dealltwriaeth gadarn o iechyd a llesiant dysgwyr a dulliau effeithiol o fonitro a gwerthuso hyn
  • darparu cwricwlwm sy’n diwallu anghenion dysgwyr (nawr ac yn y dyfodol), sy’n cael ei weithredu drwy gyfrwng profiadau dysgu sy’n helpu ac yn herio dysgwyr mewn perthynas â’u hiechyd a’u llesiant
  • sefydlu a chynnal gofal, cymorth ac arweiniad cryf ac ymatebol
  • creu amgylchedd sy’n hybu iechyd a llesiant drwy weithredu pecyn trawma ac ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i’r sefydliad (mae hyn yn cynnwys lle i chwarae ac ymlacio, sicrhau manteision mwyaf dysgu yn yr awyr agored, cyfleusterau toiledau addas, cefnogi bwyd a diod iach a sicrhau diogelwch y safle)
  • sicrhau bod cyfathrebu a chydweithio effeithiol yn digwydd â rhieni 
  • cefnogi cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer pob aelod o staff, sydd wedi’u teilwra i'w hanghenion a’u cyfrifoldebau

Beth ddylid ei ystyried cyn dewis dull gweithredu

Dylai ysgolion bob amser fabwysiadu dull ysgol gyfan o hybu ymddygiad cadarnhaol rhwng staff a dysgwyr, a pharch rhwng unigolion, fel rhan o’u dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant. Dylai’r dull hwn gael ei blethu drwy holl weithgarwch yr ysgol, gan greu amgylchedd sy’n annog ymddygiad cadarnhaol ac sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad annerbyniol. Bydd hyn yn helpu i greu amgylchedd cynhwysol a deniadol lle bydd dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn barod i ddysgu. 

Datblygu polisi gwrth-fwlio

Dylai ysgolion ddatblygu eu polisi gwrth-fwlio fel dogfen bolisi ar wahân. Fodd bynnag, dylai gysylltu â pholisi ymddygiad yr ysgol, y mae’n rhaid i ysgolion eu cael yn ôl y gyfraith. Dylai polisïau a gweithdrefnau gefnogi a hyrwyddo dull gweithredu sy’n seiliedig ar drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Dylai polisïau gwrth-fwlio ysgolion amlinellu’r canlynol:

  • gweledigaeth a gwerthoedd yr ysgol
  • defnyddio’r diffiniad o ymddygiad bwlio a amlinellir yn y canllawiau hyn
  • pam mae atal a herio ymddygiad bwlio yn bwysig
  • sut eir ati i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad bwlio 
  • sut bydd gwaith gwrthfwlio yn cael ei ymgorffori yn y cwricwlwm yn hytrach na chael sylw mewn digwyddiad blynyddol yn unig (megis yn ystod wythnos gwrthfwlio)
  • sut caiff staff, dysgwyr, rhieni a llywodraethwyr yr ysgol eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r polisi sy’n ystyriol o drawma
  • arwyddion a allai awgrymu bod gan blentyn neu berson ifanc brofiad o gael ei fwlio
  • sut bydd ymddygiad bwlio yn cael ei atal, gan gynnwys wrth deithio i’r ysgol ac oddi yno
  • pryd bydd yr ysgol yn gweithredu mewn ymateb i ymddygiad bwlio ar-lein a’r tu allan i’r ysgol
  • sut bydd yr ysgol yn ymateb i achosion 
  • sut i roi gwybod am ymddygiad bwlio
  • beth y gall dysgwyr ei ddisgwyl
  • yr hyn y gall rhieni, cymuned yr ysgol ac eraill ei ddisgwyl
  • sut bydd digwyddiadau’n cael eu cofnodi a’u monitro
  • sut gall dysgwyr a (neu) rieni, cymuned yr ysgol ac eraill uwchgyfeirio’r mater yn briodol os nad ydynt yn credu bod eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif 
  • sut byddwch yn gwerthuso ac yn adolygu’r polisi a’r strategaeth

Pwysigrwydd cynnwys dysgwyr 

Heb gyfranogiad y plant a’r bobl ifanc mewn ysgol, nid yw strategaethau gwrthfwlio yn debygol o lwyddo. Dylai ysgolion ymgysylltu’n llawn â dysgwyr ar bob cam o waith gwrth-fwlio. 

Ymhlith y cwestiynau defnyddiol y gallai ysgolion eu gofyn cyn gweithredu strategaethau gwrthfwlio mae:

  • A yw dysgwyr yn deall beth yw ystyr bwlio?
  • A yw dysgwyr yn deall y gallant roi gwybod am fathau eraill o ddigwyddiadau sydd ddim yn fwlio?
  • Sut gall dysgwyr roi gwybod am bryder neu ymddygiad bwlio, ac a yw’r dulliau hyn yn effeithiol ac yn cael eu defnyddio?
  • A yw awgrymiadau a sylwadau dysgwyr wedi cael eu hystyried wrth ddatblygu’r strategaeth hon?
  • A yw dysgwyr wedi cael eu paratoi’n llawn at lansio strategaeth newydd?

Pwysigrwydd ymgysylltu â rhieni

Mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu, gartref ac yn yr ysgol, ynghylch datblygu a chynnal cydberthnasau sy'n dangos parch. Dyma’r conglfaen y mae ymddygiad cadarnhaol yn seiliedig arno.

Mae gan rieni ran bwysig i’w chwarae, fel rhan o gymuned yr ysgol, wrth gymryd cyfrifoldeb dros ymddygiad eu plentyn y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol, ac mae’r un yn wir am ysgolion. 

Mae gwaith partneriaeth rhwng yr ysgol a rhieni i gynnal safonau uchel o ran ymddygiad ac i annog parch a charedigrwydd tuag at bobl eraill yn hanfodol. 

Gall materion sy'n ymwneud â phresenoldeb, ymddygiad a gwaharddiadau gael effaith ar lesiant plant. Gall atal pryderon presenoldeb ac ymddygiad rhag gwaethygu, drwy'r cymorth cywir, gynnal ymgysylltiad dysgwyr â'u haddysg. 

Sut i ymgysylltu â rhieni

Dylai ysgolion ymgysylltu â rhieni, gan ystyried y canlynol wrth ddatblygu a chyflwyno strategaeth wrthfwlio: 

  • A ydynt yn ymwybodol o’r strategaeth newydd neu’r strategaeth bresennol? 
  • A ydynt yn gwybod sut byddai’r ysgol yn dymuno iddynt roi gwybod am unrhyw bryderon, a sut i fynd ati’n briodol i uwchgyfeirio materion os na fyddant yn fodlon â chanlyniad eu pryder gwreiddiol?
  • A ydynt yn gwybod pwy y gallant siarad â nhw i fynegi pryder am ymddygiad bwlio a pha dystiolaeth y dylent ei darparu?
  • A ymgysylltwyd â nhw i gefnogi eu plant a chynnal gweledigaeth a gwerthoedd yr ysgol?

Mae amrywiaeth o dechnegau y gall ysgolion eu defnyddio i annog rhieni i ymgysylltu:

  • ffurflenni adborth ar-lein
  • cyfarfodydd grŵp gyda staff a rhieni
  • nosweithiau rhieni i helpu teuluoedd i gefnogi eu plant i ddysgu, yn ogystal â rhoi cyfle i rieni gynnig adborth o ansawdd ynghylch cynnydd eu plentyn a’r amgylchedd dysgu
  • cynllunio gweithgareddau y gall dysgwyr weithio arnynt gyda’u teuluoedd
  • anfon negeseuon yn ddigidol
  • anfon negeseuon adref drwy eu plant

Pan fo pawb yn deall bod rhagfarn a gwahaniaethu’n annerbyniol, mae’n helpu i ddelio â digwyddiadau pan fyddant yn digwydd. Os bydd rhieni’n anfodlon â’r modd y mae’r ysgol wedi ymdrin ag achos o ymddygiad bwlio y gwnaethant roi gwybod amdano, dylid rhoi gwybod iddynt am y drefn gwynion.

Mae ymgysylltu â theuluoedd yn elfen allweddol o ddull Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau Datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd mewn Ysgolion Bro sydd wedi'u cyhoeddi yn nodi sut mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu clywed a'u gwerthfawrogi mewn Ysgol Fro. Caiff eu hanghenion, ac anghenion eu plant, eu deall a'u diwallu. Cânt eu hannog i chwarae rhan weithredol yn nysgu eu plant, a'u cefnogi i ddefnyddio a gwella'r amgylchedd dysgu yn y cartref yn y ffordd orau, gan gynnwys nodweddion ffisegol y cartref, ond hefyd ansawdd y cymorth dysgu y maent yn ei ddarparu eu hunain. Mae'r canllawiau’n nodi rhai o'r ffyrdd y gall ysgolion ddatblygu eu darpariaeth ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd. Maent yn cynnig trosolwg i annog trafodaeth, a dolenni at ganllawiau perthnasol eraill lle y bo'n briodol.

Sicrhau bod y polisi yn effeithiol

Dylai strategaeth wrthfwlio effeithiol amlinellu sut mae’r ysgol yn bwriadu cydlynu ei gwaith gwrthfwlio fel rhan o’i dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Dylai gynnwys datblygu amrywiaeth holistaidd o ymyriadau, sy’n cynnwys atal, nodi ac ymateb i ymddygiad bwlio a’i herio.

Dylai'r dull cyffredinol a ddefnyddir gan yr ysgol fod yn glir i bawb, a dylid egluro canlyniadau a sancsiynau teg a chyson. Dylai’r polisi ategu gweledigaeth a gwerthoedd yr ysgol yn glir ac amlinellu amcanion cydraddoldeb yr ysgol i gyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dylid diweddaru’r polisi’n rheolaidd gan wneud adolygiad llawn a diweddariadau perthnasol o leiaf bob 3 blynedd, neu’n gynt na hynny, gan ystyried mentrau newydd neu newidiadau ehangach mewn polisi. Fel rhan o’r adolygiad, dylid ymgynghori ag aelodau o gymuned yr ysgol, gan gynnwys staff, dysgwyr, rhieni ac asiantaethau a sefydliadau cymorth, megis y gwasanaeth nyrsys ysgolion. Yn dilyn achos difrifol o ymddygiad bwlio, efallai y bydd ysgolion yn dymuno adolygu eu polisi a’u strategaeth a gwneud newidiadau perthnasol.

Fel rhan o ddull yr ysgol o ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu rheolaidd, dylai staff gael hyfforddiant rheolaidd ynghylch eu polisi a’u gweithdrefnau gwrthfwlio, gan gynnwys hyfforddiant mewn perthynas ag unrhyw dueddiadau newydd neu bryderon sy’n dod i’r amlwg yn yr ysgol. Yn ystod eu cyfnod cynefino, dylid tynnu sylw pob aelod newydd o staff at y polisi, y dull a ddefnyddir gan yr ysgol a sut caiff y gweithdrefnau eu gweinyddu. Dylai goruchwylwyr meysydd chwarae, awr ginio a chludiant ysgolion, ynghyd â gweinyddwyr ysgolion fod yn llwyr ymwybodol o’r polisi a’r gweithdrefnau y dylent eu dilyn.

Ni ddylai’r polisi gwrth-fwlio gyd-fynd â pholisi ymddygiad yr ysgol yn unig, dylai hefyd gyd-fynd ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a pholisïau gorfodol ehangach yr ysgol fel:

  • diogelu
  • presenoldeb
  • defnydd derbyniol o TGCh
  • diogelwch ar-lein
  • ymddygiad wrth deithio
  • gwaharddiadau
  • gwaith asiantaethau ehangach sy’n cefnogi’r dysgwr a’r ysgol 

Bydd gofalu bod polisïau yn gyson â’i gilydd yn helpu ysgolion i sicrhau bod ganddynt ddull ysgol gyfan wrth ymdrin â materion sy'n cwmpasu mwy nag un elfen. Er enghraifft, pan fydd dysgwr yn absennol o'r ysgol, dylai ysgolion weithio gyda'r dysgwr a'i rieni ochr yn ochr â swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a swyddogion lles addysg, lle bo hynny'n briodol, i benderfynu ar natur yr absenoldeb. Os canfyddir nad yw'r dysgwr yn dymuno dod i’r ysgol oherwydd ymddygiad bwlio, blaenoriaeth bennaf yr ysgol fydd mynd i’r afael â’r achos sydd wrth wraidd yr absenoldeb. Os bydd polisïau amrywiol mewn ysgol yn cael eu hysgrifennu gan unigolion neu grwpiau gwahanol, dylid eu harchwilio i sicrhau nad ydynt yn cynghori’n groes i’w gilydd gan greu anghysondeb. Dylai pob polisi ryngweithio’n llyfn ac yn gyson â'i gilydd, gan ddefnyddio’r un diffiniadau, yr un derminoleg a’r un gwerthoedd. 

Rhannu’r polisi gwrth-fwlio 

Dylai'r polisi gwrthfwlio fod yn hysbys i bob aelod o staff sy’n addysgu a staff cymorth, dysgwyr a rhieni. Dylai ysgolion gyhoeddi'r polisi ar wefan yr ysgol. Lle nad yw hyn yn opsiwn, dylai ysgolion amlinellu’n glir sut y gellir cael gafael arno. Gall ysgolion hefyd fabwysiadu dull lle mae'r polisi, neu elfennau penodol ohono, ar gael i ddysgwyr yn ddigidol neu fel copïau caled. Gall hyn helpu i sefydlu’r polisi fel rhan o ddiwylliant yr ysgol a sicrhau bod y neges yn cyrraedd cartrefi dysgwyr hefyd. 

Dylai ysgolion fod yn ystyriol iawn o’r mathau o ymddygiad sy’n cael eu hybu yn eu lleoliadau. Dylid rhoi sylw i ymddygiad a gweithredu cadarnhaol, gan bwysleisio beth y dylai dysgwyr fod yn ei wneud, yn hytrach na chanolbwyntio ar ymddygiad negyddol a diwylliant sy’n pwysleisio beth na ddylid ei wneud.

Dylai ysgolion sicrhau bod cyfathrebiadau’n hygyrch ac yn ystyrlon i bob dysgwr. Gall hyn gynnwys addasu dulliau cyfathrebu yn ôl yr angen, er enghraifft, efallai y bydd angen ar rai dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i wybodaeth gael ei chyfleu gan ddefnyddio dulliau amgen fel cymhorthion gweledol neu straeon cymdeithasol. Dylai gwybodaeth fod yn hawdd ei defnyddio ac ar gael yn yr ieithoedd a ddefnyddir ar draws cymuned yr ysgol.

Cyn lansio strategaeth gwrth-fwlio newydd, dylai ysgolion wneud y canlynol: 

  • ymgysylltu’n helaeth â chymuned yr ysgol i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn berthnasol, a’u diweddaru’n rheolaidd
  • gosod amcanion clir a realistig ynghylch beth mae’r strategaeth yn ceisio ei gyflawni (dylid ymgymryd â gweithgareddau gwella ymwybyddiaeth i hyrwyddo’r amcanion hyn ymhlith staff a dysgwyr)
  • os bydd angen hynny, darparu hyfforddiant ynghylch sut i weithredu amcanion y strategaeth

Camau y gallai fod angen i ysgolion eu cymryd i fynd i’r afael ag ymddygiad bwlio

Dylai ysgolion ystyried cymhellion wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ymddwyn fel bwlis. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall a mynd i’r afael ag achos sylfaenol yr ymddygiad a helpu i newid hynny, a thrwy hynny leihau achosion pellach o ymddygiad bwlio. Dylent hefyd ystyried ai profiadau’r plentyn neu’r person ifanc ei hun yn ei gartref neu yn ei gymuned ei hun yw gwraidd y broblem, sy’n golygu bod yr ymddygiad naill ai wedi cael ei ddysgu neu ei normaleiddio, neu ei fod yn ymateb i’w trallod a’i drawma ei hun. Gall hyn arwain at yr angen i gynnwys gwasanaethau eraill i gefnogi’r plentyn a’r person ifanc a’i deulu. 

Lle gall ymddygiad bwlio adlewyrchu agweddau teuluoedd, mewn cymdeithas neu agweddau a fynegir yn y cyfryngau, weithiau bydd angen i ysgolion herio’r agweddau hyn gyda chymuned ehangach yr ysgol y tu hwnt i’r achos unigol o fwlio sydd i’w weld yn yr ysgol.

Pŵer iaith wrth herio bwlio

Mae dadl ynghylch yr iaith a ddefnyddir wrth sôn am ymddygiad bwlio. Mae defnyddio iaith sy’n cynnwys geiriau sarhaus ac ymosodol fel ‘cicio allan’ neu ‘brwydro’ bwlio yn cael ei herio. Ni phrofwyd bod hyn yn llwyddo i leihau ymddygiad bwlio yn effeithiol. Yn hytrach, mae’n atgyfnerthu’r syniad fod gan y bwlis rym, sy’n gwneud i ddysgwyr ddymuno bod yn aelod o’r grŵp ‘pwerus’ yn hytrach nag yn un o'r 'dioddefwyr'. Y nod yw creu cymuned barchus lle mae ei haelodau yn dysgu byw ochr yn ochr â’i gilydd heb ymddygiad ymosodol.

Wrth gyfeirio at y rolau a chwaraeir mewn ymddygiad bwlio, bydd angen i ysgolion fabwysiadu termau safonol at ddibenion adrodd. Fodd bynnag, mae’n well peidio â labelu plant a phobl ifanc fel ‘dioddefwr’, ‘bwli’ neu ‘gyflawnwr’. Efallai y bydd ysgolion yn dymuno mabwysiadu terminoleg ‘feddalach’ oherwydd:

  • bydd dysgwyr yn aml yn cael eu hannog i ‘gasáu bwlio’, a gall hynny gael ei ddehongli fel casáu unigolion sy’n bwlio
  • mae ‘bwli’ yn label y gall plentyn neu berson ifanc ei fewnoli a cheisio’i wireddu, neu fe all lesteirio ei allu i newid ei ymddygiad
  • mae peidio â labelu rhywun yn fwli yn rhoi cyfle iddynt newid eu hymddygiad annerbyniol a defnyddio eu grym neu eu gallu i arwain trwy ddulliau eraill
  • er nad yw pobl yn hoffi ymddygiad rhywun sy’n ymddwyn mewn ffordd sy’n bwlio neu ei fod yn annerbyniol, nid ydynt yn cael eu casáu fel unigolyn

Yn yr un modd, efallai y bydd ysgolion yn dymuno mabwysiadu terminoleg ‘feddalach’ yn ymwneud â dioddefwyr ymddygiad bwlio oherwydd:

  • gall labelu dysgwyr yn ‘ddioddefwyr’ wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu hynysu a gall amharu ar eu hymdeimlad o berthyn
  • gall defnyddio’r term dioddefwr wneud i rywun ymddangos yn wan, a bydd llawer o blant a phobl ifanc yn eu hosgoi rhag ofn iddynt hwythau gael eu hystyried yn yr un modd
  • efallai y bydd rhai plant neu bobl ifanc sydd â phrofiad o ymddygiad bwlio yn dechrau credu mai nhw sydd ar fai ac yn dechrau gweld eu hunain fel dioddefwr

Ymddygiad y tu allan i’r ysgol neu’n ymwneud â ffonau

Mae adran 89(5A) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn rhoi pŵer statudol i benaethiaid reoleiddio ymddygiad dysgwyr yn yr amgylchiadau hyn ‘i’r graddau sy’n rhesymol’. Gall ymddygiad bwlio fod yn un enghraifft o ble mae penaethiaid yn defnyddio’r pŵer hwn. Yr ysgolion eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu beth sy’n rhesymol o dan eu hamgylchiadau penodol nhw.

Er bod ysgolion yn gallu rheoleiddio ymddygiad penodol oddi ar safle'r ysgol, megis ymddygiad bwlio, bydd y sefyllfa yn cael ei thrafod gyda'r dysgwr, a bydd cam addas yn cael ei weithredu a'i adolygu.

Gall staff ysgol ofyn i ddysgwyr ddatgelu neges neu ddangos cynnwys arall iddynt ar eu ffôn at ddibenion canfod a yw ymddygiad bwlio wedi digwydd. Os bydd y neges testun neu’r ddelwedd yn weladwy ar y ffôn, gall staff weithredu mewn ymateb i hynny. Os yw polisi ymddygiad yr ysgol yn caniatáu hynny yn benodol, gall aelod o’r staff chwilio drwy’r ffôn ei hun os bydd amheuaeth resymol bod y dysgwr wedi tramgwyddo. Cynghorir staff i beidio byth â chwilio drwy ffôn dysgwr heb i aelod priodol arall o staff fod yn bresennol. Y ffordd orau o wneud hyn yw gyda’r arweinydd diogelu dynodedig neu’r rheolwr TGCh. Dylent baratoi nodyn ysgrifenedig yn nodi:

  • y dyddiad
  • yr amser
  • pwy oedd yn bresennol
  • pwrpas chwilio
  • unrhyw dystiolaeth ynghylch pam fod angen gwneud hyn

Mae’n hanfodol bod polisi gwrthfwlio ac ymddygiad yr ysgol yn ymdrin yn drylwyr â’r materion hyn.

Gwreiddio cynhwysiant a pharch drwy’r Cwricwlwm i Gymru

Mae gwreiddio gwaith yn nyluniad y cwricwlwm sy’n mynd i’r afael yn gynyddol â chydberthnasau, ymddygiad cadarnhaol a gwytnwch yn fwy effeithiol na gwersi untro.

Mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn rhoi'r cyfle i bob ysgol yng Nghymru gynllunio a mabwysiadu eu cwricwlwm eu hunain. Mae'n annog ysgolion i greu eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer eu dysgwyr yng nghyd-destun y pedwar diben a'r dysgu a ddiffinnir ar lefel genedlaethol.

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a llesiant. Elfennau sylfaenol y maes yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a llesiant emosiynol a chymdeithasol.

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn fandadol o fewn y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion a gynhelir, a'i nod yw cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag niwed. Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi camau dysgu sy'n briodol i ddatblygiad y dysgwyr, ac mae'n cynnwys ystod o faterion fel cydberthnasau iach, cadw'n ddiogel, ar-lein ac all-lein, a bod yn hyderus i godi materion gydag oedolion cyfrifol.

Nod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yw lleihau pob math o ymddygiad bwlio a gwahaniaethu, a chefnogir dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o natur ac effaith gymdeithasol, emosiynol, corfforol a chyfreithiol ymddygiad niweidiol, ac ymwybyddiaeth o gyfreithiau sydd ar waith i amddiffyn rhag gwahanol fathau o wahaniaethu, trais, cam-drin, esgeuluso ac aflonyddu.

Mae'r rhan o'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n ymwneud â 'Grymuso, Diogelwch a Pharch' yn nodi'r gofyniad i ysgolion gefnogi dysgwyr i ddatblygu empathi, caredigrwydd a thosturi tuag at ei gilydd, a'u grymuso â'r hyder i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael os ydynt yn poeni am eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch pobl eraill.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi cael ei ddatblygu i gynnwys pob dysgwr, gyda’r adran galluogi dysgu yn tynnu sylw at bwysigrwydd rôl yr oedolyn sy’n galluogi i wneud y canlynol:

  • gosod disgwyliadau ar gyfer dysgu drwy greu amgylcheddau sy’n ddiogel yn emosiynol lle gall dysgwyr fynegi a rheoli eu teimladau a’u hymddygiad yn gadarnhaol
  • sicrhau bod dysgwyr yn gallu ymdopi ag ansicrwydd a newid, gan eu cefnogi drwy drawsnewidiadau ac arferion bob dydd
  • talu sylw ac ymateb i ddiddordebau a dewisiadau dysgwyr, gan eu hannog i wneud penderfyniadau a’u helpu i ddeall y gallai pobl eraill fod â gwahanol feddyliau a theimladau

Drwy werthfawrogi cyfathrebu pob dysgwr, mae oedolion sy’n galluogi dysgu yn meithrin hyder ac yn cydnabod bod cyfathrebu’n datblygu’n unigryw i bob plentyn, gan gefnogi diogelwch emosiynol. Maent hefyd yn cryfhau’r cysylltiad rhwng cartref y dysgwr a’r gymuned ehangach, gan groesawu profiadau’r gorffennol a’r presennol i feithrin ymdeimlad o berthyn, ar yr un pryd â hyrwyddo cynwysoldeb a pharch at hunaniaeth yn niwylliant amrywiol Cymru.

Teilwra ymyriadau 

Efallai na fydd plant ifanc a phobl ifanc sy’n ymddwyn fel bwlis drwy sarhau pobl eraill yn deall bob amser beth yw’r niwed maent wedi’i achosi, ac efallai mai ailadrodd beth maent wedi’i glywed gartref neu yn y gymuned y maent. Gall gwaith adferol sensitif ac addysg fod yn effeithiol yn yr achosion hyn. Gellir defnyddio gweithgareddau grŵp i ystyried pam mae rhai geiriau yn annerbyniol, yn ogystal â chyfarfodydd gyda rhieni, a ddylai gael eu hatgoffa o werthoedd yr ysgol. Gall ymgysylltu effeithiol â rhieni er mwyn datblygu gwerthoedd a strategaeth wrthfwlio’r ysgol o’r dechrau cyntaf hefyd annog dysgwyr a’u teuluoedd i fabwysiadu’r gwerthoedd a rennir yn y gymuned ehangach.

Pan fydd pobl ifanc yn cyrraedd llencyndod, maent yn fwy tebygol o gael eu dylanwadu gan eu cyfoedion. Dylai ymyriadau ddigwydd ar lefel yr ysgol gyfan felly, gan gynnwys holl ddysgwyr ysgol neu leoliad addysg er mwyn i'r farn brif ffrwd gael ei chlywed.

Dulliau wedi'u targedu

Dylai ysgolion fabwysiadu a chynnal dull ysgol gyfan, er mwyn meithrin diwylliant ysgol cefnogol a gwerthoedd a rennir. Gall gweithredu’r dull hwn, gan gynnwys trwy gyd-gynhyrchu â’r rheini sydd â phrofiad bywyd, fod yn allweddol i alluogi a grymuso dysgwyr i feithrin a chynnal y sgiliau cymdeithasol a fydd yn caniatáu iddynt reoli perthynas ag eraill a sicrhau y gallant ymateb i ymddygiad bwlio mewn ffordd briodol, ac os bydd angen hynny, mewn ffordd gref a phendant. Mae’r dull hwn o ymdrin ag ymddygiad bwlio yn caniatáu i’r pwnc gael ei gyflwyno’n raddol mewn ffordd briodol, yn hytrach na chael ei drafod mewn gwers sy’n digwydd unwaith. Ar draws y cwricwlwm, gall defnyddio llenyddiaeth, deunydd clyweledol, drama, cerddoriaeth, trafodaethau ac ymweliadau ag ysgolion a thripiau o'r ysgol helpu i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr.

Mae mentrau wedi’u targedu yn gyfle i atgyfnerthu diwylliant ysgol cadarnhaol a chynhwysol. Gall hyn gynnwys diwrnodau ymwybyddiaeth, gweithdai, cyfeirio dysgwyr at ffynonellau penodol, a sesiynau galw heibio, ynghyd â chynnwys y gymdogaeth ehangach a defnyddio amrywiaeth o sefydliadau i addysgu dysgwyr ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Ni ddylai ysgolion gael eu cyfyngu i ddyddiadau sydd wedi’u neilltuo'n benodol ar gyfer gweithgareddau atal bwlio wrth fynd ati i gyflwyno mentrau sydd wedi'u targedu. Mewn gwirionedd, mae cyfyngu trafodaethau ar faterion cydraddoldeb neu wahaniaethu i ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu a’u hysbysebu yn unig yn golygu bod cyfleoedd niferus i fanteisio ar gyfleoedd dysgu digymell, megis straeon newyddion, yn cael eu colli. 

Disgwyliadau o ran ymddygiad ac ymdrin ag achosion o gamymddwyn yn yr ysgol a'r tu allan i’r ysgol 

Nodi disgwyliadau o ran ymddygiad

Dylai polisïau effeithiol ynghylch ymddygiad yn yr ysgol, gwrthfwlio a disgyblaeth nodi’n glir beth yw’r disgwyliadau o ran ymddygiad cadarnhaol gan ddysgwyr y tu allan i’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad ar weithgareddau a drefnir gan yr ysgol gan gynnwys y canlynol:

  • lleoliadau profiad gwaith
  • ymweliadau addysgol a digwyddiadau chwaraeon
  • ymddygiad ar y ffordd i’r ysgol ac oddi yno
  • ymddygiad ar-lein
  • ymddygiad wrth wisgo gwisg ysgol (os o gwbl) mewn man cyhoeddus

Beth ddylai ysgolion ei ystyried wrth ddelio â chamymddwyn

Mae’n rhaid i ysgolion weithredu’n rhesymol mewn perthynas â disgwyliadau ynghylch ymddygiad dysgwyr ac mewn perthynas ag unrhyw fesurau a bennir er mwyn rheoleiddio ymddygiad dysgwyr pan fyddant y tu allan i’r ysgol a heb fod o dan reolaeth neu ofal cyfreithlon aelod o staff ysgol. Dylai ysgolion benderfynu beth i’w ystyried wrth benderfynu a yw rheol neu sancsiwn yn rhesymol mewn achos penodol. Gall herio ymddygiad bwlio fod yn enghraifft o adeg pan fydd ysgolion yn rhoi’r ddarpariaeth hon ar waith. Byddai'n synhwyrol i ysgol ystyried y ffactorau canlynol (efallai nad ydynt oll yn berthnasol i bob digwyddiad): 

  • difrifoldeb y camymddwyn
  • a oedd y dysgwr neu’r dysgwyr dan sylw yn gwisgo gwisg yr ysgol neu a ellid bod wedi ei adnabod neu eu hadnabod yn rhwydd fel aelod neu aelodau o’r ysgol
  • i ba raddau fyddai’r ymddygiad dan sylw yn arwain at ôl-effeithiau o ran rhedeg yr ysgol yn drefnus a (neu) i ba raddau y gallai fod yn fygythiad i ddysgwr arall neu aelod o'r staff (er enghraifft ymddygiad bwlio at ddysgwr arall neu sarhau aelod o’r staff)
  • a ddigwyddodd y camymddwyn dan sylw ar y ffordd i'r ysgol neu o'r ysgol (dylai ysgolion mewn cydweithrediad â'u hawdurdod lleol ystyried a ddylid gosod sancsiynau o dan y cod ymddygiad teithio neu'r polisi ymddygiad ysgol wrth fynd i'r afael â chamymddwyn ar y daith i'r ysgol ac oddi yno) 
  • a ddigwyddodd y camymddwyn dan sylw y tu allan i gatiau’r ysgol neu yng nghyffiniau’r ysgol
  • a ddigwyddodd y camymddwyn pan oedd y dysgwr ar brofiad gwaith, yn dilyn cwrs addysg bellach fel rhan o un o raglenni’r ysgol neu’n cymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon gydag ysgol arall (pan fyddai disgwyl i’r dysgwr weithredu fel llysgennad ar ran yr ysgol)
  • a oedd y dysgwr neu’r dysgwyr yn chwarae triwant 
  • a ddigwyddodd y digwyddiadau ar-lein yn ystod oriau ysgol neu y tu allan i oriau ysgol
  • i ba raddau mae enw da’r ysgol wedi cael ei niweidio

Sut y dylai ysgolion ddelio â chamymddwyn

Mae achos cryf dros addysgu’r dysgwr yn y lle cyntaf. Deall y rhesymau y tu ôl i ymddygiad ddylai fod y cam cyntaf, a dylai cyfyngiadau mwy ffurfiol fod yn ddewis olaf, ar ôl rhoi cynnig ar ddulliau adferol. Byddai hyn hefyd yn wir os yw’r dysgwr wedi bod yn cam-drin pobl eraill, yn cynnwys aelodau’r cyhoedd, wrth deithio i’r ysgol ac oddi yno. Fodd bynnag, byddai’n fwy heriol i ddisgyblu dysgwr am gam-drin rhywun sydd heb unrhyw gysylltiad â’r ysgol ar y penwythnos. Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu na ddylai ysgolion ddangos unrhyw ddiddordeb. Gall cyswllt rhwng yr ysgol, rhieni a phobl yn yr awdurdod lleol a’r gymuned ehangach sy’n gyfrifol am fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a bwlio fod yn arbennig o berthnasol yn y cyd-destun hwn. 

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i ysgolion gysylltu pa bynnag ffactorau y byddant yn penderfynu eu defnyddio â set o amcanion cyffredinol sy’n nodi’n glir pam maent yn gweithredu polisi i reoleiddio ymddygiad, gan gynnwys strategaethau i herio bwlio a hyrwyddo cydberthnasau sy'n dangos parch y tu allan i'r ysgol. Gallai’r amcanion hyn gynnwys y canlynol: 

  • cynnal trefn dda ar gerbydau cludiant ac wrth gerdded neu seiclo i’r ysgol ac oddi yno, yn ystod ymweliadau addysgol neu mewn lleoliadau eraill megis profiad gwaith neu gyrsiau mewn colegau 
  • sicrhau bod dysgwyr yn ymddwyn mewn ffordd nad yw’n fygythiad i iechyd na diogelwch y dysgwyr, y staff nac aelodau o’r cyhoedd 
  • rhoi sicrwydd i ddysgwyr a allai deimlo eu bod yn cael eu bygwth neu eu brawychu gan ymddygiad lleiafrif bychan o’u cyfoedion neu yn poeni am ddieithriaid 
  • rhoi sicrwydd i aelodau’r cyhoedd ynghylch sut mae’r ysgol yn gofalu am ddysgwyr ac yn eu rheoli, ac felly amddiffyn enw da’r ysgol 
  • sicrhau bod aelodau unigol o staff yn cael eu hamddiffyn rhag ymddygiad niweidiol gan ddysgwyr yr ysgol pan na fyddant ar safle’r ysgol 

Bydd llawer o weithgareddau estynedig ysgolion yn digwydd y tu allan i safle'r ysgol. Gellir ymdrin ag ymddygiad yn ystod unrhyw weithgareddau o’r fath yn yr un modd ag yn achos unrhyw weithgaredd arall sy’n digwydd ar safle’r ysgol. Byddai’n rhesymegol ymdrin ag ymddygiad yn ystod gweithgareddau estynedig a gynhelir y tu allan i safleoedd ysgolion sydd heb eu goruchwylio gan staff yr ysgol yn yr un modd ag ymddygiad yn ystod lleoliadau addysg bellach, mewn colegau neu ar brofiad gwaith. 

Sut y bydd ysgol yn gwybod bod strategaeth yn effeithiol

Pan gaiff strategaeth ei chyflwyno, bydd cylch o ymarfer ystyriol yn cychwyn, gan fesur y sefyllfa ar yr adeg honno er mwyn darparu llinell sylfaen y gellir ei defnyddio i feincnodi cynnydd. Dylai ysgolion gynnal ymarfer hunanwerthuso i geisio adborth gan staff a dysgwyr er mwyn mesur faint o fwlio sy’n digwydd ar y pryd. Mae arolygon yn ddull defnyddiol o gasglu’r wybodaeth hon.

I ganfod pa mor effeithiol yw strategaeth ysgol, mae’n bwysig ymgynghori â phawb sy’n cyfrannu at weithredu’r strategaeth. Mae angen i ddysgwyr gymryd rhan ymarferol yn y broses o ddatblygu, gweithredu ac adolygu gweithgarwch. Mewn rhai ysgolion, efallai y bydd staff yn credu bod y strategaeth yn gweithio’n dda, ond y rhan fwyaf o ddysgwyr yn mynegi barn wahanol. I sicrhau bod strategaeth mor effeithiol ag y bo modd, mae angen consensws ei bod yn gweithio. Mae hyn yn golygu trafodaeth gyson rhwng staff a dysgwyr. Un cwestiwn allweddol y dylid ei holi’n rheolaidd yw ‘A ellid ei gwella mewn unrhyw ffordd?’ Gallai rhai dulliau weithio’n well o dan rai amgylchiadau. Efallai na fydd syniadau da yn llwyddiannus oherwydd yr angen i wneud newidiadau bach, ond pwysig.

Enghraifft o hyn oedd ysgol a oedd wedi mynd i gryn drafferth i hyfforddi cefnogwyr cyfoedion, ac yna sylweddoli nad oedd neb wedi cyflwyno adroddiad am 2 dymor. Canfu’r ysgol honno fod yr ystafell a neilltuwyd i blant er mwyn gallu cwrdd a sgwrsio â'r cefnogwyr cyfoedion yn cael ei galw'n ‘bowlen bysgod’ gan ddysgwyr, oherwydd bod y paneli gwydr yn golygu eu bod yn hynod o weladwy yno. Cadwodd y plant draw. Nid oeddent yn defnyddio’r ystafell, nid oherwydd bod y gefnogaeth a gynigiwyd yn annigonol, ond oherwydd y cyfleuster anaddas a ddarparwyd.

Pwysigrwydd monitro digwyddiadau o ymddygiad bwlio

Mae monitro ymddygiad bwlio yn galluogi ysgol i nodi patrymau ymddygiad a faint o ymddygiad bwlio sy’n digwydd. Mae hyn yn ei dro yn eu galluogi i gymryd camau i herio ymddygiad annerbyniol ac ymddygiad bwlio. Ysgolion sy’n defnyddio prosesau monitro sydd yn y sefyllfa orau i allu addasu eu polisïau gwrthfwlio yn effeithiol i ymateb i dueddiadau a materion penodol. 

Gellir defnyddio data i ddangos tystiolaeth o gynnydd fel rhan o waith hunanwerthuso a chynllun datblygu'r ysgol, gan helpu ysgolion i:

  • ddeall y sefyllfa bresennol a lle y dylent ganolbwyntio ymdrechion
  • cyflawni’r nodau cydraddoldeb y maent wedi’u gosod fel ysgol
  • mesur a dangos llwyddiant
  • cyflawni eu rhwymedigaethau cyffredinol a phenodol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran ‘Gwerthuso ac atebolrwydd’.

Pam fod posibilrwydd na fydd strategaethau gwrthfwlio yn lleihau bwlio

Efallai y bydd ysgolion yn canfod mai’r agwedd fwyaf heriol ar leihau ymddygiad bwlio yw sicrhau y gellir datrys achosion yn dda. Os bydd dysgwyr yn mynegi pryderon ac yna yn canfod na fydd ymyriadau yn gwneud unrhyw wahaniaeth, neu’n gwaethygu’r sefyllfa, byddant yn colli ffydd. Mae gwerthusiadau yn datgelu’n rheolaidd mai dyma’r elfen wannaf o strategaeth ysgol.

Efallai nad yw ysgolion sy’n dweud nad oes unrhyw ymddygiad bwlio yn digwydd yno wedi llwyddo i ennyn hyder eu dysgwyr. Efallai y bydd eu mecanweithiau adrodd neu eu hymatebion hefyd yn aneffeithiol. Efallai nad yw'r dysgwyr yn teimlo eu bod yn ddiogel mynegi eu pryderon, neu fod rhieni wedi tynnu’r dysgwyr o’r ysgol mewn ymateb i’r ymddygiad bwlio. Efallai y bydd ysgolion sy’n dweud nad oes ganddynt unrhyw achosion o ymddygiad bwlio yn cael eu herio drwy’r broses arolygu i gadarnhau pa ddulliau mae’r ysgol yn eu defnyddio i sicrhau llesiant dysgwyr a’u bod yn cael eu cynnwys. 

Os na fydd gan blant a phobl ifanc hyder y gwnânt lwyddo i sicrhau canlyniad da pan fyddant yn rhoi gwybod am beth sy’n digwydd iddynt, byddant yn tueddu i gadw’n dawel. Canfu Comisiynydd Plant Cymru fod ‘ymddiriedaeth’ yn thema a oedd yn cael ei mynegi’n rheolaidd gan blant. Daeth yn amlwg bod gallu siarad â rhywun y gellir ymddiried ynddo yn allweddol wrth fynd i’r afael ag ymddygiad bwlio.

Ymateb pan fydd ymddygiad bwlio yn digwydd

Mae’n rhaid i ysgolion gydymffurfio â’u dyletswydd gyfreithiol i ddiogelu a hybu lles dysgwyr ac unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol eraill. Dylai penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion sicrhau bod yr holl athrawon a’r staff gweinyddol yn ymwybodol o bolisi gwrthfwlio eu hysgol a’r gweithdrefnau y dylid eu dilyn os bydd dysgwr yn dweud ei fod yn cael ei fwlio. Hefyd, dylid cyfathrebu’n glir â dysgwyr a rhieni gan hyrwyddo tryloywder o ran delio ag ymddygiad bwlio.

Dylai staff gofio y gall dysgwr droi at unrhyw aelod o staff y mae’n ymddiried ynddo. Bydd hyfforddiant a diweddariadau rheolaidd ar gyfer staff yn sicrhau eu bod yn fwy parod a hyderus i sylwi ac ymateb pan fydd ymddygiad bwlio yn bresennol. Dylai'r holl staff ddeall gweithdrefnau eu hysgol sy’n amlinellu’r camau y dylid eu dilyn i ymdrin ag ymddygiad bwlio, a dylid eu gweithredu yn gyson ac yn deg. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y caiff yr un weithdrefn ei dilyn pan fydd dysgwr yn hysbysu staff am brofiad o gael ei fwlio, pwy bynnag fydd yr aelod o staff y bydd y dysgwr yn troi ato. 

Mae strategaethau llwyddiannus yn darparu fframwaith cyson ynghyd ag opsiynau yn ôl y sefyllfa. Mae bwlio yn ymddygiad cymhleth, a dylai'r ymateb fod yn briodol, gan ddilyn canllawiau fframwaith safonol ar yr un pryd. Dylai strategaeth wrthfwlio ysgol ganolbwyntio ar y plentyn, ac ni ddylid colli golwg ar anghenion y dysgwr, ni waeth ai nhw yw’r plentyn neu’r person ifanc sy’n cael ei fwlio, sy’n ymddwyn fel bwli neu sy’n wyliedydd. Os bydd yr ymateb yn rhy gyffredinol, yn rhy lawdrwm neu os na fydd yn ddigon diffuant, gall yr effaith fod yn groes i’r hyn a fwriedir. 

Bydd ysgolion effeithiol yn defnyddio pob digwyddiad fel cyfle i ddysgu. Rôl yr ysgol yw meithrin a helpu dysgwyr i ddeall eu bod yn y broses o ddysgu er mwyn tyfu'n ddinasyddion gwybodus at y dyfodol.

Gwneud gwaith gyda phob parti

Ochr yn ochr â'r cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o gael eu bwlio, dylai ysgolion hefyd gydnabod bod angen rhoi help, cymorth a chyfleoedd i’r rhai sy’n ymddwyn fel bwlis hefyd er mwyn iddynt allu newid eu hymddygiad fel rhan o ddull cyfiawnder arferol. Gall bwlio fod yn arwydd o broblem fwy yn yr ysgol, yn y cartref neu mewn agwedd arall ar fywyd plentyn neu berson ifanc. Gall materion fel trais, cam-drin domestig, rhieni yn cosbi, esgeulustod, cam-drin, profedigaeth neu rieni yn gwahanu ddod i’r amlwg wrth weithio gyda dysgwyr sy’n ymddwyn fel bwlis. Dylai staff gael eu paratoi mewn ffordd briodol ar gyfer datgeliadau o’r fath fel rhan o hyfforddiant ehangach, megis hyfforddiant diogelu. Bydd ysgolion sydd â diwylliant agored a phrotocolau diogelu da yn ymateb i bob unigolyn sy’n ymddwyn fel bwli. 

Dylai ysgolion hefyd gefnogi gwyliedyddion ymddygiad bwlio. Efallai y bydd plant a phobl ifanc sy’n gweld ymddygiad bwlio yn digwydd ac yn gwneud dim i helpu neu i atal y sefyllfa yn teimlo’n wael neu’n euog am hynny yn ddiweddarach. Mae gwyliedyddion sy'n chwerthin neu’n ymuno yn yr ymddygiad bwlio mewn perygl o ddatblygu i fod yn fwlis eu hunain. Dylai ysgolion sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n wyliedyddion ymddygiad bwlio yn deall bod ganddynt y pŵer i herio hynny, naill ai drwy ymyrryd, os byddant yn teimlo ei bod yn ddiogel gwneud hynny, neu drwy hysbysu aelod o staff neu oedolyn y maent yn ymddiried ynddo yn syth. 

Mae’n bwysig addysgu dysgwyr drwy eu helpu i ddatblygu gwydnwch personol drwy ymarfer y sgiliau datrys problemau a phendantrwydd sydd eu hangen arnynt i herio ymddygiad annerbyniol, cadw eu cam eu hunain a chadw cam eu cyfoedion a theimlo’n ddiogel. 

Dulliau o roi gwybod am fwlio

Gall dysgwyr ddatgelu digwyddiad neu achosion o ymddygiad bwlio mewn amrywiol ffyrdd, ac i unigolyn y maent yn ei ystyried yn oedolyn dibynadwy. Dylai ysgolion fynd ati eu hunain i gynnig amrywiol ffyrdd i ddysgwyr roi gwybod am ymddygiad bwlio. Gall y rhain gynnwys:

  • cefnogwyr cyfoedion neu ‘gyfeillion’ wedi’u hyfforddi
  • lle tawel a phreifat i siarad
  • arweinwyr bugeiliol a staff gwrthfwlio ar gael ar adegau allweddol
  • nyrsys neu gwnselwyr ysgol
  • cardiau 'Rwy'n dymuno i'm hathro (neu i’m hathrawes) wybod'
  • blychau adborth 

Gwrando effeithiol

Gellir gwrando'n effeithiol ar y rhai sy'n ymddwyn fel bwlis ynghyd â'u haddysgu am sgiliau ymwneud ag eraill. Dylid rhoi arweiniad iddynt i allu adnabod ac ymdopi â theimladau anodd, a dysgu sgiliau cyfathrebu cadarnhaol.

Mae plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ymddygiad bwlio yn tueddu i deimlo’n ddi-rym. Un o’r camau cyntaf wrth ymateb i ddigwyddiadau yw adfer eu gallu i wneud dewisiadau drostynt eu hunain. Gan ddefnyddio technegau gwrando effeithiol, gall staff (neu gyd-ddysgwr) helpu’r plentyn neu’r person ifanc i deimlo ei fod yn gwneud rhywbeth am y broblem. Pan fydd y plentyn neu’r person ifanc sy’n cael ei dargedu yn siarad, ewch ati’n bwyllog i gydnabod y dicter neu’r gofid y mae'n ei deimlo. Os bydd angen amser arno i brosesu ei feddyliau neu gyfleu’r stori, ceisiwch beidio â’i ruthro. Ni ddylid rhoi pwysau na disgwyliad ar ddysgwyr i esgusodi ymddygiad bwlio. Dylai staff gofio y gallai dod i roi gwybod am yr hyn sy’n digwydd ofyn am gryn dipyn o ddewrder. Dylid diolch i’r dysgwyr am roi gwybod am y broblem. Dylid rhoi gwybod i ddysgwyr hefyd beth fydd y camau nesaf mewn ymateb i’w pryderon. Fe wnaiff hyn helpu i gynnig sicrwydd iddo bod ei bryderon yn cael eu cymryd o ddifrif. 

Ystyried y lleoliad

Dylai staff ystyried yr amgylchedd lle cynhelir trafodaethau ynghylch ymddygiad bwlio gyda dysgwyr. Gall sicrhau bod y lleoliad yn niwtral ac yn cynnig digon o breifatrwydd olygu’r gwahaniaeth rhwng parodrwydd ac amharodrwydd dysgwr i drafod. Dylai staff eistedd ar yr un lefel â’r dysgwr sy’n sôn am ei brofiad o ymddygiad bwlio. Gall gosod cadeiriau ar ychydig o ongl yn hytrach nag yn union gyferbyn â’i gilydd hefyd helpu i leihau unrhyw ymdeimlad ymwybodol neu anymwybodol o wrthdaro neu wrthwynebiad. Sicrhewch breifatrwydd er mwyn atal dysgwyr eraill rhag clywed beth sy’n cael ei ddweud neu weld cyfarfod yn cael ei gynnal, ond i sicrhau arfer gorau o ran diogelu, dylai fod yn bosibl i staff eraill arsylwi’r cyfarfod. 

Cadw tystiolaeth

Pan fo hynny’n bosibl, dylid annog dysgwyr sy’n cael eu bwlio i gadw tystiolaeth o’r gweithgarwch. Gall tystiolaeth gynnwys bygythiadau neu ddelweddau a gaiff eu hanfon ar-lein neu all-lein drwy gyfrwng negeseuon, sgyrsiau, nodiadau neu ddelweddau, dillad neu eitemau eraill sydd wedi’u difrodi, nodiadau neu sgyrsiau ar-lein. Efallai y bydd gwyliedyddion hefyd yn gallu darparu datganiad tyst neu dystiolaeth ychwanegol. Dylid nodi’r dyddiadau a’r amseroedd pan ddigwyddodd pethau. Gellir cadw cipluniau o sgriniau fel tystiolaeth ar-lein.

Delio ag ymddygiad bwlio a’i effeithiau 

Mae ymddygiad bwlio yn niweidio hunan-barch iach, gan ddisodli credoau cadarnhaol unigolion amdanyn nhw eu hunain ac annog credoau sy’n gysylltiedig â chywilydd, ffieidd-dod, beirniadaeth, analluogrwydd, diffyg grym a diymadferthedd. Wrth benderfynu ar y camau nesaf i wella hunan-gred y dysgwr sy’n rhoi gwybod ei fod yn cael ei fwlio, dylai staff geisio cynnwys penderfyniadau a wneir gan y dysgwr ei hun pan fo hynny’n briodol. Efallai y bydd staff am gynnig rhai dewisiadau, oni bai bod gwneud hynny yn golygu risg o dystiolaeth o niwed sylweddol. Mewn achos felly, dylai staff ddilyn gweithdrefnau diogelu eu hysgol. Gall y dewisiadau a gynigir i’r plentyn neu’r person ifanc gynnwys:

  • Sut y gellid ymdrin â’r digwyddiad?
  • P’un a ddylid rhoi ystyriaeth fanylach i wneud newidiadau i daith bresennol y dysgwr i’r ysgol ac oddi yno?
  • P'un a hoffai'r dysgwr gael help gan gyfoedion, oedolyn dibynadwy, gweithgaredd grŵp fel clwb neu weithgaredd amser cinio?

Gall ymyriadau ddigwydd ar lefel dosbarth, ar lefel grŵp blwyddyn, neu gyda’r unigolion sy’n gysylltiedig â'r ymddygiad bwlio yn unig.

Mae amrywiaeth o ddulliau ymyrryd ar gael y gall ysgolion ddewis eu defnyddio. 

Dyma rai enghreifftiau o’r rhain.

Cyfryngu

Mae hyn yn golygu helpu’r plentyn neu’r person ifanc sy’n cael ei fwlio a’r plentyn neu’r person ifanc sy’n ymddwyn fel bwli i siarad am y mater a chytuno ar ateb.

Dulliau adferol

Yn seiliedig ar werthoedd, sy’n gwahaniaethu rhwng yr unigolyn a’r ymddygiad. Maent yn annog atebolrwydd ac yn ceisio unioni unrhyw niwed a achosir mewn sefyllfa.

Meithrin gwydnwch 

Cryfhau gallu'r dysgwyr i ymdopi, addasu neu ddod dros achos o fwlio neu wynebu trawma, straen neu ddioddef arall yn effeithiol. Arfogi dysgwyr â sylfaen gadarn neu wydnwch emosiynol drwy sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn.

Cefnogaeth gan gymheiriaid

Mae cymorth gan gyfoedion yn ymwneud â sicrhau bod plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn a’u cynnwys gan ddysgwyr eraill. Gall helpu unigolion i deimlo eu bod yn perthyn mewn ysgol, a gall fod yn ffactor pwysig wrth leihau ymddygiad bwlio a gwrthdaro. Gellir annog hyn drwy ddulliau ffurfiol ac anffurfiol mewn ysgolion.

Sancsiynau gan yr ysgol

Gall ysgolion ddefnyddio sancsiynau disgyblu, fel y nodir yn eu polisïau, i fynd i’r afael ag ymddygiad bwlio. Bydd canlyniadau'r ymddygiad bwlio yn adlewyrchu difrifoldeb y digwyddiad fel bod eraill yn gweld bod ymddwyn fel bwli yn annerbyniol.

Mae amryw o raglenni y gall ysgolion eu mabwysiadu i fynd i’r afael ag ymddygiad bwlio. Mater i ysgolion unigol yw penderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael ag ymddygiad bwlio a rhoi polisïau gwrth-fwlio ar waith yn eu hysgol. Mae hyn yn cynnwys pa raglenni, os o gwbl, y maent yn dewis eu defnyddio i gefnogi’r ddarpariaeth hon.

Mae cyfleoedd dysgu rheolaidd ar gael ar gyfer dosbarth neu grŵp blwyddyn cyfan, y gellir eu gweithredu heb grybwyll enw’r sawl a roddodd wybod am y bwlio. Bydd hyn yn amddiffyn yr unigolyn rhag dial.

Wrth ddarparu ymyriadau, dylid ystyried yr effaith ar y dysgwr unigol, ac ni ddylid tynnu dysgwr sy’n cael ei dargedu o’r ysgol. Er y gallai hyn ddiogelu’r dysgwr rhag rhagor o niwed uniongyrchol, gallai niweidio ei hunan-barch a’i lesiant emosiynol, a grymuso’r plentyn neu’r person ifanc sy’n ymddwyn fel bwli. Mae hefyd yn anfon neges bod yr ymddygiad bwlio yn dderbyniol, mae’n tarfu ar addysg y plentyn neu’r person ifanc, a gallai ei gwneud yn anoddach iddo ailintegreiddio. Nid yw’n strategaeth addas, felly, i fynd i’r afael ag achos sylfaenol y broblem nac yn darparu ateb gwirioneddol. 

Os ystyrir ei bod yn briodol, gallai’r ysgol gynnig darpariaeth ar y safle (ar gyfer y naill ddysgwr neu’r llall) er mwyn rhoi llonydd i’r plentyn neu’r person ifanc y mae’r ymddygiad bwlio yn effeithio arno. Dylai ysgolion wneud pob ymdrech i ofalu bod dysgwr sy’n cael ei fwlio yn gallu mynychu’r ysgol ac yn teimlo’n ddiogel i wneud hynny.

Ystyriaethau allweddol pan nad yw’n ymddangos bod yr ymyriad yn gweithio

Nid yw’n gynhyrchiol parhau i ddefnyddio ymyriad i ymdrin ag achos o ymddygiad bwlio os na fydd y dull gweithredu wedi llwyddo. Os na fydd ymyriad yn llwyddo fel y dylai, dylid rhoi cynnig ar ddulliau gweithredu eraill. Ni ddylai ysgolion ystyried bod y mater wedi’i ddatrys ar sail cwblhau’r ymyriad, os bydd y canlyniad yn aflwyddiannus. 

Os yw achos yn barhaus neu os rhoddir gwybod yn gyson am yr un plentyn neu berson ifanc sy’n ymddwyn fel bwli at eraill, mae angen ymateb gwahanol. Efallai na fydd rhai dulliau gweithredu yn addas ar gyfer achosion penodol. Er enghraifft, os bydd anghydbwysedd grym yn ddigon difrifol i wneud i’r plentyn neu’r person ifanc sy’n cael ei fwlio ofni’r plentyn neu’r person ifanc sy’n ymddwyn fel bwli, efallai na fydd yn ddoeth defnyddio dulliau adferol tan yn ddiweddarach pan fydd gwaith wedi’i wneud i roi sylw i'r cydbwysedd grym. 

Gall achosion sy’n parhau er gwaethaf ymdrechion i’w datrys beri gofid aruthrol i ddysgwyr a’u rhieni. Pan fydd ysgol yn ymateb gan ddweud ei bod wedi dilyn ei pholisi gwrthfwlio, mae’n bosibl y bydd sefyllfa ddiddatrys. Bydd yr ysgol yn mynnu ei bod yn ymdrin â’r mater ond nid yw'r plentyn neu'r person ifanc a’i rieni yn gweld unrhyw welliant yn y sefyllfa. 

Ni fydd ymddygiad anodd yn gwella mewn ffordd gyson bob amser. Gallai wella am ychydig ac yna gymryd cam yn ôl. Efallai na fydd hynny’n awgrymu nad yw’r dull yn llwyddo, ond y dylid parhau i’w ddefnyddio, ei gryfhau neu ei newid ychydig. Os na fydd yn llwyddo o gwbl, dylid llunio cynllun newydd.

Os bydd achosion yn anodd eu datrys, bydd adolygiadau a chyfathrebu rheolaidd rhwng pob parti yn hanfodol i sicrhau bod ymyriadau yn gweithio’n briodol. 

Gall cynlluniau gynnwys gwaith i’w wneud gan y teulu yn y cartref. Efallai y bydd ysgolion am atgoffa rhieni y dylent gefnogi gwerthoedd yr ysgol. Os mai yn y cartref neu'r gymuned y mae ffynhonnell ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn, dylid cydnabod hynny a cheisio cymorth yn yr ardal leol. 

Ymateb i agweddau niweidiol 

Mewn rhai achosion, gall bwlio sy’n gysylltiedig â rhagfarn waethygu os nad yw agweddau niweidiol yn cael eu herio, ac mae rhai dysgwyr yn dod yn fwy agored i safbwyntiau eithafol. Mae dyletswydd Prevent Llywodraeth y DU yn ofyniad cyfreithiol i sefydliadau addysgol ddiogelu dysgwyr rhag cael eu denu at derfysgaeth neu eithafiaeth drwy herio ideolegau radical.

Fel rhaglen ymyrraeth gynnar, nod Prevent yw atal pobl rhag troi’n derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae’n eistedd ochr yn ochr â dyletswyddau diogelu sydd wedi hen ennill eu plwyf i weithwyr proffesiynol amddiffyn pobl rhag amrywiaeth o niwed arall, fel camddefnyddio sylweddau, cymryd rhan mewn gangiau, a chamfanteisio corfforol a rhywiol. Mae Prevent yn ceisio ymyrryd yn gynnar a sicrhau bod pobl sy’n agored i gael eu radicaleiddio i derfysgaeth yn cael eu cefnogi fel y byddent o dan brosesau diogelu. 

Hawl rhieni a dysgwyr i gwyno 

Ar ôl hysbysu’r ysgol am fater sy’n ymwneud ag ymddygiad bwlio, os bydd dysgwr neu ei rieni yn teimlo nad yw’r ysgol wedi cymryd y mater o ddifrif neu heb ymateb i’w pryder i safon foddhaol, gallant gyflwyno cwyn ffurfiol. 

O dan Adran 29 o Ddeddf Addysg 2002, mae’n ofynnol i lywodraethwyr ysgolion sefydlu gweithdrefn gwyno a rhoi cyhoeddusrwydd iddi, gan sicrhau y gall unrhyw un sydd â buddiant yn yr ysgol gyflwyno cwyn, a bod yn ffyddiog y caiff ei hystyried yn briodol a heb oedi.

Rhaid i bolisi cwynion ysgol fod ar gael gan yr ysgol neu gorff llywodraethu'r ysgol pan ofynnir amdano. Mae’n rhaid i’r polisi egluro’r broses i’w dilyn i gyflwyno cwyn fel bod yr achwynydd yn deall sut bydd corff llywodraethu’r ysgol yn ymdrin â’r mater. 

Yn unol ag egwyddorion CCUHP, dylid rhoi gwrandawiad i bob plentyn a pherson ifanc a’u trin â pharch. Dylai ysgolion sicrhau bod dysgwr sy’n gwneud cwyn wedi deall yn llawn beth sydd wedi'i nodi ar y ffurflen gwyno ac unrhyw benderfyniadau neu weithredoedd a allai ddeillio o hynny.

Dylid cofnodi gwybodaeth er mwyn galluogi'r ysgol i wneud y canlynol:

  • deall natur y gŵyn yn glir
  • hysbysu’r achwynydd yn rheolaidd am y sefyllfa ddiweddaraf o ran yr ymateb i’w gŵyn
  • gwneud addasiadau rhesymol i amserlenni os yw’r gŵyn yn gymhleth 
  • cadw cofnod cywir o’r gŵyn a’r broses a ddilynir
  • monitro hynt cwyn
  • cofnodi beth sydd wedi cael ei wneud a beth sydd angen ei wneud
  • darparu tystiolaeth i ddangos bod y gŵyn wedi cael ei hystyried yn briodol
  • cofnodi gwybodaeth y gellir cyfeirio ati yn y dyfodol, gan gofio y gall achosion o ymddygiad bwlio ailddigwydd, felly dylai darlun llawn fod ar gael
  • nodi patrymau neu themâu sy’n codi dro ar ôl tro mewn cwynion, i lywio prosesau ehangach i wella’r ysgol
  • llunio adroddiadau ynghylch cwynion ar gyfer llywodraethwyr yr ysgol ac eraill

Mae’n rhaid trin pob cwyn yn deg, yn agored ac yn ddiduedd. Dylai ysgolion ymchwilio i'r pryderon a godir a gwneud penderfyniad yn gyflym.

Gwerthuso ac atebolrwydd

Rhoi gwybod am fwlio, ei gofnodi a'i fonitro

Pan fydd ysgolion yn casglu data am achosion o ymddygiad bwlio, byddai’r rhan fwyaf o’r data hwn yn ddata personol yn unol â diffiniad deddfwriaeth diogelu data fel Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yr UE a Deddf Diogelu Data 2018 y DU (DPA).

Dylai fod gan ysgolion ddulliau yn eu lle i roi gwybod am ymddygiad bwlio a'i gofnodi, gan eu cyfathrebu’n glir i gymuned gyfan yr ysgol. Dylai'r wybodaeth y mae ysgolion yn ei chofnodi a’i monitro ymwneud yn uniongyrchol â’i ddiffiniad o ymddygiad bwlio a darpariaethau ehangach sydd wedi’u hamlinellu yn eu strategaeth a’u polisi gwrthfwlio. Dylai awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol eraill i fabwysiadu ffordd safonol o gofnodi a rhoi gwybod am ymddygiad bwlio.

Mae cynnal cofnodion yn effeithiol yn galluogi ysgolion i wneud y canlynol:

  • adolygu digwyddiad
  • gwirio a oes adroddiadau eraill yn ymwneud â’r dysgwyr dan sylw
  • defnyddio’r hyn a gofnodir i gynllunio mewn ffordd holistaidd a gwybodus

Mae monitro ymddygiad bwlio yn galluogi ysgol i nodi patrymau ymddygiad a faint o ymddygiad bwlio sy’n digwydd. Yna, dylai ysgolion weithredu’n rhagweithiol i'w herio, cefnogi’r dysgwyr dan sylw, a sicrhau bod modd datrys y mater. 

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i bob ysgol benodi Swyddog Diogelu Data i sicrhau bod yr ysgol yn ymwybodol o’i rhwymedigaethau o dan GDPR a Deddf Diogelu Data 2018 ac yn gallu eu cyflawni. Mae Llywodraeth Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn disgwyl i ysgolion gydweithio â’u Swyddog Diogelu Data i sicrhau bod yr holl ddata personol yn cael eu prosesu’n gyfreithlon, a bod hawliau unigolion yn cael eu diogelu’n briodol. 

Mae cyfrifoldebau ehangach ar ysgolion i gasglu a monitro data, gan gynnwys data ynghylch ymddygiad bwlio. Mae’r sail gyfreithiol i brosesu data wedi’i hamlinellu yn Erthygl 6 GDPR (cyfreithlondeb prosesu) ac Erthygl 9 GDPR (prosesu categorïau arbennig o ddata personol). Rhaid i ysgolion benderfynu ar sail gyfreithiol cyn mynd ati i brosesu unrhyw wybodaeth am ymddygiad bwlio. Bydd angen i ysgolion sicrhau hefyd nad ydynt yn casglu mwy o ddata na’r hyn sy’n ofynnol, a bod ganddynt amserlen glir ar gyfer cadw’r wybodaeth. Bydd angen i fanylion ynghylch prosesu gwybodaeth ar gyfer mesurau gwrthfwlio gael eu hadlewyrchu yn yr wybodaeth sydd gan bob ysgol ynghylch prosesu teg. Bydd gofyn i ysgolion unigol gynnal asesiadau o effaith ar ddiogelu data wrth benderfynu pa ddata y mae angen iddynt eu casglu, i sicrhau bod hynny’n gymesur a bod unrhyw gamau priodol a allai fod yn angenrheidiol i liniaru risgiau i hawliau unigolion yn cael eu cymryd.

Ers mis Ebrill 2011, mae gan bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion ac awdurdodau lleol, rwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Yng Nghymru, mae dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus i wneud y canlynol:

  • datblygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol
  • casglu, dadansoddi a chyhoeddi gwybodaeth am y cynnydd y maent yn ei wneud o ran cyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Lle bo hynny’n briodol yn ôl y gyfraith, dylai ysgolion gofnodi pob achos o ymddygiad bwlio, gan amlinellu’r mathau penodol o ymddygiad bwlio, yn cynnwys ymddygiad bwlio sy’n ymwneud â’r Nodweddion Gwarchodedig. Dylai ysgolion fonitro prosesau yn rheolaidd, ynghyd â chanlyniad pob achos a gofnodir. Dylai hyn gynnwys p’un a oes cwyn ffurfiol wedi’i wneud mewn ymateb i’r ffordd y mae’r ysgol wedi ymdrin ag achos o ymddygiad bwlio, neu p’un a yw rhiant wedi tynnu ei blentyn o’r ysgol yn sgil yr ymddygiad bwlio. Fe wnaiff hyn alluogi ysgolion i addasu eu polisïau gwrthfwlio i ymateb i dueddiadau penodol a materion sy’n dod i’r amlwg yn gyflym ac yn effeithiol. Mae’n debygol y bydd hyn yn ddefnyddiol i ysgolion yng nghyd-destun eu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gallai’r wybodaeth hon gael ei defnyddio gan ysgolion hefyd wrth adolygu eu hamcanion cydraddoldeb a monitro effaith eu polisïau gwrthfwlio.

Mater i ysgolion unigol yw penderfynu pa ddata a gwybodaeth y maent yn eu casglu yng nghyd-destun y materion penodol sy'n berthnasol i'w hysgol ac yn unol â gofynion cyfraith diogelu data. Dylai hyn gael ei wneud drwy:

  • gweithredu cylch parhaus o gofnodi, monitro a dadansoddi data ar lefel yr ysgol ynghylch gwybodaeth wrthfwlio
  • defnyddio data gwrthfwlio ar lefel yr ysgol i nodi meysydd blaenoriaeth er mwyn sicrhau gwelliant ar draws yr ysgol
  • cymryd camau i wneud y gwelliannau hynny, gan sicrhau bod y cylch gwella yn parhau
  • dadansoddi data fel rhan o broses hunanwerthuso

Mae Estyn yn tynnu sylw at y ffaith mai hunanwerthuso, yn hanesyddol, yw’r maes gwannaf mewn arolygiadau o ysgolion. Mae gan bob ysgol feysydd y gallant eu gwella. Dylai prosesau hunanwerthuso a gwella, wedi’u hategu gan ddiwylliant cydweithredol agored a gonest, fod yn nodwedd annatod a pharhaus o’r gwaith ym mhob ysgol, beth bynnag fo’r perfformiad neu’r sefyllfa gyfredol. Mae hon yn broses adeiladol, a dylid ei hymgorffori yn y diwylliant a’i derbyn yn frwdfrydig gan staff i sicrhau gwelliant at y dyfodol.

Drwy gyfrwng gwerthuso rheolaidd, bydd ysgolion yn ymateb i’r tueddiadau yn eu hysgol a’u cymuned. Bydd yn haws bod yn ymwybodol o’r gwelliannau sydd eu hangen neu’r newidiadau y dylid eu gwneud i weithdrefnau os bydd ysgolion yn ymwybodol o newidiadau yn eu cyd-destun.

Diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn y ddogfen hon

Addysg ddewisol yn y cartref

Mae Addysg ddewisol yn y cartref yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pryd mae rhieni’n addysgu eu plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol.

Aflonyddu

Ceir diffiniad o aflonyddu yn Adran 26 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae aflonyddu’n digwydd pan fydd unigolyn yn ymddwyn mewn ffordd annymunol sy’n gysylltiedig â Nodwedd Warchodedig, a phwrpas yr ymddygiad neu ei effaith yw mynd yn groes i urddas yr unigolyn arall neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus iddo. Gall aflonyddu hefyd fod ar ffurf ymddygiad rhywiol digroeso neu ymddygiad sy’n gysylltiedig ag ailbennu rhywedd.

Anabledd a pherson anabl

Mae gan berson anabledd os 

  1. oes gan y person nam corfforol neu feddyliol; a
  2. bod y nam yn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r person i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd

Mae cyfeiriad at berson anabl yn gyfeiriad at berson sydd ag anabledd. (Adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010).

Anneuaidd

Rhywun anneuaidd yw rhywun y mae ei rywedd y tu allan i’r syniad deuaidd gwrywaidd neu fenywaidd traddodiadol o rywedd.

Anghenion Dysgu Ychwanegol 

Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn anableddau neu anawsterau dysgu (boed yr anhawster dysgu’n deillio o gyflwr meddygol neu fel arall), sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (Adran 2 Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018).

Bwlio ar-lein

Mae bwlio ar-lein yn disgrifio pob math o ymddygiad bwlio drwy dechnoleg, sydd hefyd yn cael ei alw’n seiberfwlio.

Ceisiwr lloches

Ceisiwr lloches yw unigolyn sydd wedi ffoi rhag erledigaeth yn ei famwlad, sydd wedi cyrraedd gwlad arall, ac wedi rhoi gwybod i’r awdurdodau pwy ydyw ac wedi arfer yr hawl gyfreithiol i wneud cais am loches. Bydd yr unigolion hyn yn disgwyl canlyniad eu cais am loches.

Croestoriadedd

Mae croestoriadedd yn gysylltiedig â’r ffordd y mae gwahanol fathau o wahaniaethu (hynny yw, trin unigolyn yn annheg oherwydd ei Nodweddion Gwarchodedig) yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd. 

Cyfeiriadedd rhywiol

Mae cyfeiriadedd rhywiol yn golygu cyfeiriadedd rhywiol person at berson o’r un rhyw â nhw, person o’r rhyw arall, neu berson o’r naill ryw neu’r llall (Adran 12 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010). Gallai pobl ddefnyddio’r termau heterorywiol, hoyw, deurywiol, lesbiaidd neu syth i ddisgrifio eu cyfeiriadedd rhywiol. 

Cynhwysol

Mae cynhwysol yn cyfeirio at y broses o gryfhau gallu’r system addysg i estyn allan at bob dysgwr. Mae ysgol gynhwysol yn cydnabod pa mor bwysig yw amrywiaeth a gwahaniaeth ar draws hunaniaethau a bod yr amrywiaeth hon yn ffynhonnell o gryfder ac yn sylfaenol i gymdeithas gydlynol, deg a chyfiawn.

Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol

Mae Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn cyfeirio at ddarpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i, yr hyn sydd ar gael yn gyffredinol i eraill o’r un oedran mewn:

  1. ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru
  2. sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru
  3. mannau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin.

Mae Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ar gyfer plentyn o dan dair oed yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath (Adran 3 Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018).

Ddim yn cydymffurfio o ran rhywedd

Mae ddim yn cydymffurfio o ran rhywedd yn disgrifio person nad yw ei ymddygiad, ei edrychiad na’i hunanfynegiant yn cydymffurfio â’r disgwyliadau diwylliannol a chymdeithasol cyffredinol am rywedd.

Dulliau adferol

Mae dull adferol yn ffordd o fynd i’r afael â gwrthdaro gan ganolbwyntio ar ddatrys y niwed sydd wedi cael ei wneud. Mae’n cynnwys pob parti dan sylw.

Estyn

Estyn yw’r arolygwr annibynnol addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n darparu atebolrwydd cyhoeddus i ddefnyddwyr gwasanaeth ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru drwy arolygiad. 

Y prif resymau dros gynnal arolwg yw:

  • gwerthuso ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant
  • nodi cryfderau a meysydd i’w gwella
  • cefnogi darparwyr ar eu taith at ragoriaeth
  • rhoi gwybod i rieni a’r gymuned ehangach am ansawdd yr addysg a ddarperir

Mae Estyn yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru a Medr o ddatblygu polisi cenedlaethol drwy gynnig cyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gesglir drwy weithgarwch arolygu ac adolygiadau thematig. Mae Estyn hefyd yn helpu i feithrin gallu i wella’r system addysg a hyfforddiant yng Nghymru drwy eu hadroddiadau rheolaidd a thrwy rannu astudiaethau achos ac arferion gorau.

Ffoadur

Mae ffoadur yn berson sydd y tu allan i wlad ei genedligrwydd, oherwydd ofn cadarn o gael ei erlid am resymau hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol, neu farn wleidyddol, ac nad yw’n fodlon manteisio ar warchodaeth y wlad honno oherwydd ofn o’r fath.

Gelyniaeth gwrth-Fwslimaidd (a elwir hefyd yn Islamoffobia)

Er nad yw hwn yn ddiffiniad ffurfiol y cytunwyd arno, mae gelyniaeth wrth-Fwslimaidd yn cyfeirio at stereoteipio Mwslimiaid mewn modd rhagfarnllyd. Math o ragfarn wedi’i dargedu at y rhai sy’n cael eu hystyried yn Fwslimiaid neu’n Islam yn gyffredinol. Gall yr elyniaeth hon fod yn fath o drosedd casineb crefyddol neu wahaniaethu heb gyflawni trosedd.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn cyfeirio at drin unigolyn yn wahanol o’i gymharu â pherson arall oherwydd Nodwedd Warchodedig. Rhaid i amgylchiadau fod yn ddigon tebyg i’r person arall sy’n cael ei drin yn well er mwyn gallu gwneud cymhariaeth ddilys. Mae’n cynnwys gwahaniaethu oherwydd yr ystyrir bod gan rywun Nodwedd Warchodedig neu pan wahaniaethir yn erbyn rhywun oherwydd ei fod yn gysylltiedig â rhywun arall sydd â Nodwedd Warchodedig.

Gwrth-hiliaeth

Mae gwrth-hiliaeth yn golygu mynd ati i ganfod a chwalu’r systemau, y strwythurau a’r prosesau sy’n arwain at ganlyniadau cwbl wahanol i grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae’n golygu cydnabod ein bod ni, hyd yn oed pan nad ydym yn ystyried ein hunain yn ‘hiliol’, drwy wneud dim byd, yn gallu cyfrannu at ganiatáu i hiliaeth barhau. Nid yw’n ymwneud â ‘thrwsio’ pobl neu gymunedau ethnig lleiafrifol, ond yn hytrach trwsio systemau di-fudd ac sydd ar brydiau wedi niweidio pobl ethnig leiafrifol hyd yn oed. Mae’n ymwneud â gweithio gyda chryfderau ac arweinyddiaeth sylweddol pobl ethnig leiafrifol a defnyddio eu profiadau bywyd o ran sut rydym, gyda’n gilydd, yn llunio ac yn cyflawni. Mae’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol. (Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol).

Gwrthsemitiaeth

Canfyddiad penodol o Iddewon ydy gwrthsemitiaeth, a gellir ei fynegi fel casineb at Iddewon. Cyfeirir ffurfiau rhethregol a chorfforol gwrthsemitiaeth at unigolion Iddewig neu unigolion nad ydynt yn Iddewig a (neu) eu heiddo, at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.

Gwydnwch personol

Gwydnwch personol yw’r gallu i addasu, ymdopi a goroesi adfyd, straen, trawma neu heriau sylweddol, yn hytrach na chael eu llethu ganddynt, sy’n cynnwys ymddygiad y gellir ei ddysgu a newidiadau mewn meddylfryd i gynnal llesiant a thyfu o brofiadau anodd. Nid yw’n ymwneud ag osgoi caledi ond ei lywio’n effeithiol drwy ddysgu o rwystrau, aros yn gadarnhaol, cynnal cysylltiadau, a datblygu strategaethau ymdopi.

Gwyliedydd

Gwyliedydd yw rhywun sy’n bresennol, boed ar-lein neu all-lein, mewn digwyddiad neu achos o ymddygiad bwlio ond nad yw’n cymryd rhan nac yn ymyrryd.

Gyda phrofiad o ofal

Plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yw’r rheini sydd:

  • wedi derbyn gofal yn flaenorol gan yr awdurdod lleol (er enghraifft, plant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu sydd mewn trefniant Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig)
  • yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ar hyn o bryd (er enghraifft, plant mewn gofal maeth neu breswyl).

Hil

Mae hil yn cynnwys lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol (Adran 9 Deddf Cydraddoldeb 2010).

LHDTC+

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, cwiar neu sy’n cwestiynu. Mae’r symbol + yn cyfeirio at lythrennau eraill y gellir eu hychwanegu i gynrychioli hunaniaethau eraill, gan gynnwys anneuaidd.

Mudwr

Mudwr yw unrhyw un a gafodd ei eni y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond sydd wedi dod i’r DU am resymau gwaith, astudio neu resymau eraill.

Plant a phobl ifanc

Mae plant a phobl ifanc yn cyfeirio at y rheini sydd o dan 18 oed, yn unol â’r diffiniad o ‘blant’ yn Neddf Plant 1989.

Pobl sy’n ceisio noddfa

Mae pobl sy'n ceisio noddfa yn derm cyffredinol sy’n cyfeirio at ffoaduriaid neu geiswyr lloches o unrhyw gefndir. Mae hyn er mwyn mynd i’r afael â’r rhethreg annynol a all ddigwydd wrth gyfeirio at bobl yn ôl y statws mewnfudo a roddwyd iddynt.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) 

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn brofiadau llawn straen sy’n digwydd yn ystod plentyndod sy’n gallu:

  • achosi niwed uniongyrchol i blentyn (er enghraifft, cam-drin rhywiol neu gorfforol)
  • effeithio ar yr amgylchedd y maent yn byw ynddo (er enghraifft, tyfu i fyny mewn cartref lle mae trais domestig)

(Bellis et al 2016)

Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar 10 profiad niweidiol yn ystod plentyndod sy’n digwydd yn amgylchedd y cartref neu’r teulu ac mae’n dangos y cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’r risg o ganlyniadau iechyd a chymdeithasol gwael ar draws cwrs bywyd lle nad oes ffactorau amddiffynnol, na chymorth hygyrch. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn enwedig nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn gysylltiedig ag ymddygiad camaddasol, gan gynnwys mabwysiadu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd. Mae amrywiaeth o anawsterau eraill y gall plant a phobl ifanc eu profi; ac mae rhai ohonynt yn drawmatig. Mae’r rhain yn cynnwys hiliaeth, gwahaniaethu, anghydraddoldebau strwythurol a ffactorau economaidd-gymdeithasol ehangach.

Rhyw

Mae rhyw yn cael ei briodoli i unigolyn ar sail nodweddion rhyw sylfaenol (organau cenhedlu) a swyddogaethau atgynhyrchu (Adran 11 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010).

Rhywedd

Mae rhywedd yn derm a ddefnyddir i gyfeirio at a yw rhywun yn ystyried ei hun yn fenyw, yn wryw neu’n anneuaidd. Gall rhywedd hefyd gyfeirio at y normau a’r gwahaniaethau cymdeithasol a diwylliannol sydd gan wahanol gymdeithasau ynghylch sut mae pobl yn ymddwyn, yn edrych neu’n gwisgo. Mae pobl yn aml yn cael ymdeimlad pwysig o hunaniaeth o ran y rhain, ond gallant hefyd barhau i wynebu gwahaniaethu, anghydraddoldebau a niwed.

Tegwch

Mae tegwch yn cyfeirio at driniaeth deg a diduedd, gan gynnwys triniaeth gyfartal neu wahaniaethol i unioni anghydbwysedd mewn hawliau, credoau, iaith, rhwymedigaethau a chyfleoedd.

Trawma

Mae trawma’n cyfeirio at unrhyw brofiad sy’n annymunol ac sy’n achosi, neu sydd â’r potensial i achosi, trallod a (neu) bryder. Gall profiadau o’r fath lethu ein gallu i ymdopi, ac arwain at effeithiau negyddol parhaol. Gall trawma ddeillio o un digwyddiad, neu gyfres barhaus o ddigwyddiadau a phrofiadau, sy’n digwydd dros gyfnod o amser.

Trawsryweddol

Term ambarél yw trawsryweddol a ddefnyddir i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, neu lle mae gwrthdaro rhwng eu rhywedd a'r categori rhyw y cawsant eu cofrestru ynddo adeg eu geni. Mae rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu bod yn dod o dan ambarél traws, ond nid pob un.

Mae Adran 7 Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu’r rheini â'r Nodwedd Warchodedig o ailbennu rhywedd os yw’r unigolyn yn bwriadu cyflawni, wrthi’n cyflawni neu wedi cyflawni proses (neu ran o broses) i ailbennu ei rywedd drwy newid nodweddion ffisiolegol neu nodweddion eraill ei ryw.

Ymddwyn mewn ffordd sy’n gorfodi ac yn rheoli

Mae ymddwyn mewn ffordd sy’n gorfodi ac yn rheoli yn cyfeirio at ymddygiad creulon y mae person yn ei ddefnyddio i frifo, rheoli neu ddychryn rhywun arall (y dioddefwr). Mae hyn yn fath o gam-drin domestig. Mae’r camdriniwr yn bychanu’r dioddefwr, yn defnyddio trais a (neu) fygythiadau, neu’n dychryn ac yn codi ofn ar y dioddefwr. Maent yn gwneud hyn er mwyn gallu rheoli’r dioddefwr a gwneud iddo wneud pethau nad yw eisiau eu gwneud. Mae’r ymddygiad hwn yn aml yn digwydd gydag ymddygiadau camdriniol eraill, gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol ac ariannol a gall ddigwydd ar-lein hefyd.

Ysgol

Mae’n golygu:

(a) ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol

(b) ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig

(c) ysgol feithrin a gynhelir

(d) uned cyfeirio disgyblion

Ystyriol o drawma 

Mae ystyriol o drawma yn ddull sy’n cydnabod y gallai unrhyw un fod wedi profi trawma yn eu bywyd ac mae’n ceisio osgoi ymddygiad a rhyngweithio sy’n ail-drawmateiddio. Mae’n cydnabod bod gan bawb rôl o ran hwyluso cyfleoedd a chyfleoedd bywyd i bobl y mae trawma ac adfyd yn effeithio arnynt. Mae’n ddull lle mae unigolyn, sefydliad, rhaglen neu system yn sylweddoli effaith eang trawma ac yn deall llwybrau posibl ar gyfer gwella a goresgyn adfyd a thrawma fel unigolyn neu gyda chefnogaeth pobl eraill, gan gynnwys cymunedau a gwasanaethau.

Rhagor o gymorth a chyngor

Bullies Out

Elusen gwrthfwlio sydd wedi'i lleoli yng Nghymru sy'n gweithio gydag unigolion, ysgolion a cholegau, yn ogystal â lleoliadau ieuenctid a chymunedol.

Mae'r elusen yn cynnig gwasanaeth e-fentora ar-lein.

Anti-bullying Alliance

Cynghrair o sefydliadau ac unigolion sy'n darparu gwybodaeth i ysgolion, rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc ar bob agwedd ar ymddygiad bwlio.

Kidscape

Elusen gwrth-fwlio sy'n darparu ymyriadau gyda phlant ac yn gweithio gydag ysgolion a'r gymuned.

The Diana Award

Canolfan adnoddau a chymorth ar-lein i bobl ifanc, rhieni, gofalwyr ac addysgwyr i gyrchu gwybodaeth.

Llinellau cymorth a gwasanaethau cymorth

Cyffredinol

Y Samariaid

Elusen gofrestredig sy'n anelu at ddarparu cymorth emosiynol i unrhyw un mewn trallod emosiynol trwy ei llinell gymorth ffôn am ddim, e-bost, sgwrs fyw, a gwasanaethau eraill.

Rethink

Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth sy’n darparu cyngor ymarferol ar ystod eang o bynciau fel mynediad at iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, triniaethau iechyd meddwl, a chyfreithiau, a chyngor i ofalwyr.

Mencap

Mae Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar hawliau pobl ag anabledd dysgu.

Meic

Gwasanaeth llinell gymorth sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

Childline

Mae Childline yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol ac mae ar gael unrhyw adeg, ddydd neu nos, lle gallwch siarad am unrhyw beth.

Kooth

Gwasanaeth cymorth iechyd meddwl digidol sy'n darparu mynediad hawdd i blant a phobl ifanc i gymuned ar-lein o gyfoedion a thîm o gwnselwyr profiadol.

Llinell alw CALL

Llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer Cymru sy'n cynnig gwybodaeth am gymorth emosiynol a gwybodaeth am iechyd meddwl a materion cysylltiedig.

Rhieni a gofalwyr

Family Lives

Gwasanaeth llinell gymorth gyfrinachol i deuluoedd sy'n cynnig cymorth emosiynol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol. Gellir cysylltu â’r llinell gymorth ar 0808 800 2222.

Parent Zone

Mae’n cynnig gwasanaethau ac adnoddau i rieni a theuluoedd i wella canlyniadau i blant yn y byd digidol.

Young Minds

Llinell gymorth i rieni a gofalwyr sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gydag iechyd meddwl neu lesiant meddyliol eich plentyn neu berson ifanc. Gellir cysylltu â’r llinell gymorth ar 0808 802 5544.

Ysgolion a gweithwyr proffesiynol

Cyngor y Gweithlu Addysg

Cyngor y Gweithlu Addysg yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae wedi cyhoeddi gwybodaeth benodol am y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, gan nodi safonau ar gyfer athrawon, arweinwyr, cynorthwywyr addysgu, a chynorthwywyr addysgu lefel uwch.

Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein Gweithwyr Proffesiynol (POSH)

Wedi'i gweithredu gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU mae'r llinell gymorth hon yn llwyr ymroddedig i gefnogi holl aelodau o'r gymuned sy'n gweithio gyda neu ar gyfer plant gydag unrhyw broblemau diogelwch ar-lein. Gellir cysylltu â’r llinell gymorth ar 0344 381 4772 neu dros e-bost.

Cadw'n ddiogel ar-lein

Mae’r adran Cadw’n Ddiogel Ar-lein ar wefan Hwb yn eich galluogi i roi gwybod am gynnwys neu weithgarwch niweidiol rydych chi wedi ei brofi neu ei weld ar-lein. 

Pecyn Cymorth TrACE Hyb ACE Cymru

Mae Pecyn Cymorth Sefydliadau sy’n Ystyriol o Drawma ac ACE (TrACE) Hyb ACE Cymru yn ganllaw ymarferol i gefnogi sefydliadau ar eu taith TrACE. Mae’n adnodd allweddol ar gyfer gweithredu Fframwaith TrACE yn effeithiol.

Rhwydweithiau cyngor a chymorth

Cyffredinol 

Internet Watch Foundation 

Mae gwefan Internet Watch Foundation yn caniatáu i chi roi gwybod am ddelweddau neu fideos ar-lein rydych yn amau eu bod yn dangos plant yn cael eu cam-drin yn rhywiol.

Canolfan Cymorth Casineb Cymru (Cymorth i Ddioddefwyr)

Mae gwefan Canolfan Cymorth Casineb Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i chi roi gwybod am droseddau casineb a chael cymorth wedi’i deilwra. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth pwrpasol i blant a phobl ifanc.

Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein

Mae gwefan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein yn caniatáu i chi roi gwybod am achosion a amheuir o gam-drin plant yn rhywiol, camfanteisio neu gam-drin rhywiol ar-lein.

NSPCC

Mae llinell gymorth yr NSPCC yn caniatáu i chi roi gwybod am achosion o gam-drin ac esgeuluso plant. Gallwch hefyd ofyn am gyngor os ydych chi'n poeni am blentyn ac yn ansicr beth i'w wneud. 

Adoption UK Cymru

Mae Adoption UK Cymru yn darparu cymorth a gwasanaethau ledled Cymru ac yn gweithio ar y cyd â’u partneriaid yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae gan Adoption UK wybodaeth i ysgolion ynglŷn â chefnogi plant a oedd yn arfer derbyn gofal i ffynnu yn yr ysgol. 

Plant a phobl ifanc

Mental Health Matters

Elusen gofrestredig sy’n darparu gwasanaethau cymorth a chwnsela i hyrwyddo llesiant.

Head above the Waves

Sefydliad nid-er-elw sy'n codi ymwybyddiaeth ac yn cynnig cyngor ar gyfer iselder a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc.

Voices From Care Cymru 

Mae Voices From Care Cymru yn sefydliad cenedlaethol sydd wedi ymrwymo i gynnal hawliau a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. 

Ysgolion

Gweithredu Addysgol sy'n Herio Homoffobia (EACH)

Elusen sy'n cynnig gwasanaeth cyfrinachol ar gyfer adrodd am fwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Mae hefyd yn cynnig gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori.

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Elusen gwrth-hiliaeth sy'n cynnig hyfforddiant addysgol, gweithdai, adnoddau a gweithgareddau, sydd wedi'u cynllunio i addysgu pobl ifanc ac oedolion am achosion a chanlyniadau hiliaeth.

Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost

Sefydliad rhynglywodraethol sy'n gweithio i helpu pobl i gofio, deall a dysgu am yr Holocost a hil-laddiad y Roma yn well fel y gallwn adeiladu byd heb hil-laddiad.

Gov.uk

Drwy gov.uk, gallwch gael gafael ar ystadegau ynghylch troseddau casineb a chael mynediad at gyrsiau hyfforddiant ar ddyletswydd Prevent. 

Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru

Ers 2017, cenhadaeth Hyb ACE Cymru yw galluogi a chefnogi sefydliadau a chymunedau i wneud newidiadau sy’n gwneud Cymru’n arweinydd byd-eang o ran atal, lliniaru a mynd i’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a thrawma a’u heffaith sylweddol. Ei nod yw herio a thrawsnewid ffyrdd o weithio a chreu newid cymdeithasol i dorri cylch hirdymor profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, adfyd a thrawma. Mae Hyb ACE Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi gweithio gyda’r sector cyhoeddus a thu hwnt i sicrhau bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a’u heffeithiau posibl ar hyd cwrs bywyd yn cael eu deall ledled Cymru. 

Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma

Mae'r Fframwaith yn cefnogi dull cydlynol a chyson o ddatblygu a gweithredu arferion sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r rheini sydd ei angen fwyaf. Cafodd ei gyhoeddi yn 2022, cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan bobl a sefydliadau o bob cwr o Gymru a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’r fframwaith yn cael ei roi ar waith gan y ddau sefydliad arweiniol, Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru gyda chefnogaeth Grŵp Llywio Cymru sy’n Ystyriol o Drawma

Fframwaith Cymru Heb Drais

Mae fframwaith strategol Cymru Heb Drais yn amlinellu’r elfennau allweddol sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymysg plant a phobl ifanc, drwy ddull gweithredu iechyd y cyhoedd, system gyfan. Mae’r 9 strategaeth yn ganolog i’r Fframwaith hwn ac maent yn cynnwys enghreifftiau o ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â mesurau newid system i atal trais gan ddefnyddio dull sy’n ystyriol o drawma. 

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Pecyn Cymorth Beth sy’n Gweithio

Mae’r pecyn cymorth wedi’i lunio i helpu ysgolion i roi ymyriadau ar waith sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gwella llesiant emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff yr ysgol. Mae’n rhoi crynodeb o effeithiolrwydd gwahanol ymyriadau. Mae manylion yr ymyriadau ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Hwb.

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) 

Dangosfwrdd rhyngweithiol sy'n cyflwyno canlyniadau arolwg wedi'u diweddaru ar iechyd a llesiant plant oedran ysgol uwchradd yng Nghymru.

Niwrowahaniaeth Cymru

Mae’n darparu amrywiaeth o adnoddau i ysgolion a cholegau i geisio gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth.

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth 

Mae wedi cyhoeddi canllaw byr i ymddygiad bwlio ac mae’n rhestru rhai ffyrdd y gall athrawon helpu.

Arall

Llinell Gymorth Beat

Mae’n cynnig gwasanaeth sy’n darparu cyngor a chymorth cyfrinachol i unigolion y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt, ond hefyd ar ddelwedd y corff a chyngor a chefnogaeth i ddisgyblion ac athrawon.

The Children’s Society

Mae adroddiad o'r enw ‘The Good Childhood Report 2024’ yn dangos y tueddiadau diweddaraf mewn llesiant plant, ac yn rhannu ymchwil sy'n ceisio deall sut mae pobl ifanc yn teimlo am wahanol agweddau ar eu bywydau.

Comisiynydd Plant Cymru

Mae’n cynnig gwasanaeth sy'n rhannu cyngor a chymorth i bobl ifanc neu'r rhai sy'n gofalu amdanynt os ydynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.

Mae adroddiad o'r enw 'Stori Sam' yn benllanw ymgynghoriad ar raddfa fawr gyda dros 2,000 o blant a phobl ifanc a bron i 300 o weithwyr proffesiynol am brofiadau cyfoes o ymddygiad bwlio yng Nghymru.

Plant yng Nghymru

Corff aelodaeth ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru.

UNICEF

Mae’n gweithio i amddiffyn hawliau pob plentyn gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig a'r rhai anoddaf eu cyrraedd.

Just Like Us

Mae adroddiad cyhoeddedig o'r enw ‘Growing Up LGBT+: the impact of school, home and coronavirus on LGBT+ young people’ yn taflu goleuni ar yr heriau anghymesur y maent yn eu hwynebu a ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd i wella bywydau pobl ifanc LHDT+ ledled y DU.

Sefydliad Lucy Faithfull

Mae’n cynnig llinell gymorthchyngor i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n poeni am ymddygiad rhywiol, gan gynnwys arweiniad ar berthnasoedd iach a ffiniau.

Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU)

Mae’n darparu pecyn cymorth gydag adnoddau a gwybodaeth i helpu ysgolion i ddeall effaith trawma, cefnogi dysgwyr yr effeithir arnynt, a chreu amgylcheddau dysgu cynhwysol a diogel.

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r canlynol: