Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ers lansio platfform Everyone’s Invited (Saesneg yn unig), adolygiadau dilynol gan Estyn ac ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae gennym ymwybyddiaeth lawer gwell erbyn hyn o gyffredinrwydd achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ein hysgolion. Rydym yn gwybod bod rhai plant a phobl ifanc yn wynebu risg uwch, er enghraifft plant a phobl ifanc LHDTC+ a’r rhai hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae cymhlethdod y ffaith bod y profiadau hyn yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys yr effaith ar eu dysgu, eu cydberthnasau, eu hiechyd meddwl a’u rhagolygon bywyd tymor hwy, yn gwaethygu’r sefyllfa ymhellach.

Gall aflonyddu rhywiol ddigwydd unrhyw le, gan gynnwys ar-lein. Mae’n fater cymdeithasol, y mae angen ymateb iddo mewn modd cymdeithasol. Yn ddi-au, mae gan leoliadau addysg ran holl bwysig i’w chwarae yn hyn, wrth addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd ymddygiad ac agweddau parchus. Gall aflonyddu rhywiol hefyd fod yn rhan o gontinwwm o ymddygiad sy’n galluogi achosion o gam-drin drwy lywio normau cymdeithasol a diwylliannau problemus.

Hawliau plant

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’i gynnwys fel rhan o ddeddfwriaeth Cymru ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (www.legislation.gov.uk). Mae’r CCUHP yn gweithredu fel fframwaith i ni lunio polisïau i sicrhau ein bod i gyd yn parchu hawliau plant i gael eu hamddiffyn rhag trais ac achosion o gam-drin.

Mae hawliau dynol yn un o themâu trawsgwricwlaidd Cwricwlwm i Gymru.

Dylai dysgwyr brofi eu hawliau drwy gydol eu haddysg a dylent feithrin dealltwriaeth hanfodol o sut mae eu profiad addysgol yn cefnogi eu hawliau. Gall ysgolion a lleoliadau ddatblygu’r profiad hwn drwy weithredu ar sail hawliau plant. Un o egwyddorion allweddol y dull gweithredu hwn yw hawliau plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu dysgu a’u profiad ehangach yn yr ysgol. Fodd bynnag, dylid cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ac oedolion gydweithio i ddatblygu a chynnal cymuned ysgol neu leoliad yn seiliedig ar:

  • gydraddoldeb
  • urddas
  • parch
  • dim gwahaniaethu 
  • cyfranogi

Mae hyn yn cynnwys dysgu ac addysgu mewn ffordd sy’n parchu hawliau ymarferwyr a dysgwyr ac sy’n hyrwyddo lles.

Bydd y cynllun gweithredu hwn yn cael effaith a chyfraniad cadarnhaol at sicrhau bod y CCUHP yn realiti i blant yng Nghymru, ac i erthyglau canlynol y CCUHP yn benodol:

  • erthygl 2 (dim gwahaniaethu)
  • erthygl 12 (i’w lais gael ei glywed mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno)
  • erthygl 19 (cael ei amddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod)
  • erthygl 28 (cael addysg)
  • erthygl 34 (cael ei gadw’n ddiogel rhag camdriniaeth rywiol) 
  • erthygl 36 (cael ei gadw’n ddiogel rhag niwed i’w ddatblygiad)
  • erthygl 39 (cael cymorth arbennig os yw wedi cael ei gam-drin)

Gall aflonyddu rhywiol fod yn brofiad trawmatig. Felly, mae’n bwysig bod lleoliadau addysg yn mabwysiadu dull sy’n ystyriol o drawma wrth ymdrin ag achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion neu unrhyw brofiadau eraill trawmatig a niweidiol yn ystod plentyndod. Gallai gweithredu mewn ffordd nad yw’n ystyriol o drawma waethygu trawma’r dioddefwr neu achosi trawma newydd iddo.

Mae diddordeb cynyddol mewn ysgolion, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch mewn dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma. Er mwyn helpu i ddatblygu arferion cyson a da mewn gwasanaethau yng Nghymru, comisiynodd Llywodraeth Cymru waith i ddatblygu fframwaith ymarfer sy’n ystyriol o drawma i Gymru. Mae Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma (traumaframeworkcymru.com) yn ceisio helpu pawb yng Nghymru i ddeall yr effaith y gall trawma ei chael a rolau pawb wrth gefnogi’r rhai hynny yr effeithiwyd arnynt.

Mae’r Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma wedi pennu 5 egwyddor ymarfer a 4 lefel ymarfer, ac mae’n debygol y bydd gwahanol aelodau o staff o fewn lleoliad addysgol yn gweithredu ar wahanol lefelau o fewn hyn. Fodd bynnag, gallai fod o fudd i bob aelod o staff o leiaf fod yn ‘ymwybodol o drawma’. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau hyfforddi ac adnoddau ar gael i ysgolion a sefydliadau addysg bellach i’w helpu i ddod yn ymwybodol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac yn ystyriol o drawma. Gellir dod o hyd iddynt ar Hwb ac ar Hyb ACE Cymru (hybacecymru.com).

Yn ogystal â bod yn ystyriol o drawma, dylai dulliau gweithredu fod yn groestoriadol, gan gydnabod y bydd gan wahanol garfanau wahanol brofiadau, ymatebion ac anghenion. Mae angen ystyried aflonyddu rhywiol fel rhan o gyfres ehangach o bryderon cymdeithasol ac ymddygiadol, y mae angen dull gweithredu cyfannol ar eu cyfer er mwyn sicrhau y caiff plant a phobl ifanc eu cefnogi’n llawn fel aelodau o’u cymunedau.

Y camau gweithredu yn y cynllun hwn yw’r blaenoriaethau presennol, ond bwriedir i’r ddogfen hon fod yn ddogfen ‘fyw’ a fydd yn datblygu i ymateb i heriau a blaenoriaethau newydd a gwahanol yn y maes hwn. Fel y cyfryw, caiff y camau gweithredu eu hadolygu’n barhaus, gan gynnwys drwy drafodaethau parhaus â phobl ifanc, er mwyn sicrhau gwerth ac effaith barhaus wrth ddiwallu anghenion. Caiff adroddiad ei gyflwyno o leiaf unwaith y flwyddyn ar gynnydd yn erbyn y cynllun, gyda’r Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, drwy’r Ffrwd Waith Plant a Phobl Ifanc, gan sicrhau dull system gyfan o graffu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu yn y cynllun gweithredu hwn.

Aflonyddu rhywiol

Y diffiniad y cytunodd Llywodraeth Cymru arno ar gyfer aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysgol yw fel a ganlyn.

Unrhyw ymddygiad digroeso o natur rywiol gan ddysgwr tuag at ddysgwr arall a all ddigwydd ar-lein ac all-lein. Mae aflonyddu rhywiol yn debygol o amharu ar urddas dysgwr, a/neu wneud iddo deimlo dan fygythiad, yn israddol neu wedi’i fychanu a/neu greu amgylchedd gelyniaethus, tramgwyddus neu rywioledig.

Gall gweithwyr addysg proffesiynol gael gwybod (o’r tu mewn neu o du allan i’w lleoliadau) am ymddygiadau fel:

  • sylwadau rhywiol, fel adrodd straeon rhywiol, gwneud sylwadau anweddus, gwneud sylwadau rhywiol am ddillad ac ymddangosiad, a galw rhywun yn enwau rhywioledig 
  • ‘jôcs’ neu gellwair rhywiol 
  • ymddygiad corfforol, fel brwsio’n fwriadol yn erbyn rhywun, ymyrryd â dillad rhywun (dylai ysgolion a cholegau fod yn ystyried a yw unrhyw achos yn croesi llinell at drais rhywiol – mae’n bwysig siarad â’r dioddefwr ac ystyried ei brofiad)
  • arddangos lluniau, ffotograffau neu ddarluniau o natur rywiol
  • tynnu lluniau i fyny sgertiau (sy’n drosedd) 
  • aflonyddu rhywiol ar-lein

Gall aflonyddu rhywiol ar-lein fod yn achos unigol, neu’n rhan o batrwm ehangach o aflonyddu rhywiol neu drais rhywiol. Gall gynnwys:

  • rhannu delweddau neu fideos noeth a hanner noeth, boed hynny â chydsyniad neu heb gydsyniad (mae tynnu ffotograffau noeth o bobl ifanc o dan 18 oed a’u rhannu yn drosedd; mae Sharing nudes and semi-nudes: advice for education settings working with children and young people (www.gov.uk) (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor manwl i ysgolion a cholegau)
  • rhannu cynnwys cignoeth digroeso 
  • achosion o fwlio rhywioledig ar-lein neu sylwadau a negeseuon rhywiol digroeso, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol 
  • camfanteisio rhywiol, gorfodaeth a bygythiadau 
  • gorfodi eraill i rannu delweddau ohonynt eu hunain neu i gyflawni gweithredoedd nad ydynt yn gyfforddus â nhw ar-lein

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (www.legislation.gov.uk) yn diffinio trais rhywiol fel camfanteisio’n rhywiol, aflonyddu rhywiol, neu fygythiadau o drais o natur rywiol.

Diben

Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fater cymdeithasol ac mae’r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu’r camau y bydd Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda’i phartneriaid, yn eu cymryd i atal achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ac ymddygiad rhywiol niweidiol (diogelu.cymru) mewn lleoliadau addysg ac i ymateb iddynt. Mae tystiolaeth yn dangos mai merched a menywod ifanc yw prif darged achosion o aflonyddu rhywiol a bod dysgwyr LHDTC+ a dysgwyr sydd ag ADY hefyd yn wynebu risg uchel. Er nad oes cymaint o dystiolaeth ar gael am sut mae’r nodweddion gwarchodedig eraill yn effeithio ar brofiadau o aflonyddu rhywiol, rydym yn gwybod bod materion sy’n gysylltiedig â rhywiaeth yn aml yn croestorri â materion sy’n gysylltiedig â hiliaeth, ableddiaeth a mathau eraill o wahaniaethu. Nod y cynllun gweithredu hwn yw adlewyrchu natur aflonyddu rhywiol fel mater croestoriadol a, thrwy wneud hynny, ddiwallu anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr, fel dysgwyr Du ac ethnig lleiafrifol, LHDTC+, niwroamrywiol ac anabl. Bydd llais pobl ifanc hefyd wrth wraidd y broses o ddylunio’r ymateb i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

Mae’r cynllun gweithredu hwn yn cynnwys camau gweithredu sy’n cael eu cymryd i ymdrin â’r canlynol:

Cwmpas y cynllun gweithredu

Mae’r cynllun gweithredu hwn yn canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol (fel y diffinnir o dan ‘Aflonyddu rhywiol’), nid cam-drin rhywiol. Rydym yn cydnabod bod cysylltiad cadarn rhwng y 2 fater, ac mae’n bwysig nodi mai continwwm o ymddygiad yw aflonyddu rhywiol, a all arwain at drais a cham-drin rhywiol oni chaiff ei herio. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau cynnil. Mae ystyr gwahanol iawn i gam-drin rhywiol ac aflonyddu rhywiol o safbwynt cyfreithiol. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn ceisio ategu gwaith i atal achosion o gam-drin plant yn rhywiol ac ymateb iddynt, gan gynnwys ymddygiad rhywiol niweidiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Wrth ystyried achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, mae’n bwysig nodi ai achos unigol oedd yr ymddygiad neu a yw’n rhan o batrwm sy’n ailadrodd. Er y gellid ystyried bod digwyddiadau unigol yn amhriodol, gallai patrwm aflonyddu rhywiol sy’n ailadrodd fod yn arwydd o ymddygiad problemus sy’n croesi’r llinell tuag at ymddygiad rhywiol niweidiol.

Gellir diffinio ymddygiad rhywiol niweidiol fel ymddygiad rhywiol a fynegir gan blant a phobl ifanc dan 18 oed sy’n amhriodol yn ddatblygiadol, a allai fod yn niweidiol tuag at eu hunain neu i eraill, neu fod yn sarhaus tuag at blentyn, person ifanc neu oedolyn. Mae’r diffiniad hwn o ymddygiad rhywiol niweidiol yn cynnwys ymddygiadau â chyswllt ac ymddygiadau digyswllt (rhagbaratoi, arddangosiaeth, llygadu a thecstio rhywiol neu recordio delweddau o weithredoedd rhywiol drwy ffonau clyfar neu apiau cyfryngau cymdeithasol).

Bydd y cynllun gweithredu hwn yn canolbwyntio ar leoliadau addysg gynradd ac uwchradd (a gynhelir ac annibynnol) ac ar sefydliadau addysg bellach. Mae’r gwaith yn gyson â’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a’r dull gweithredu yn y Glasbrint. Y gweithgor Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar blant a phobl ifanc fydd yn gyfrifol am lywodraethu’r cynllun gweithredu hwn.

Er bod y cynllun gweithredu hwn yn canolbwyntio ar ysgolion a sefydliadau addysg bellach, rydym yn cydnabod bod trais, aflonyddu a cham-drin yn broblemau yn ein cymdeithas ehangach a’u bod yn effeithio ar fyfyrwyr a staff ym maes addysg uwch. Gan mai oedolion yw myfyrwyr addysg uwch, a’u bod yn aml yn byw ac yn astudio’n annibynnol oddi cartref, mae addysg uwch yn ystyried ffactorau tebyg a ffactorau gwahanol wrth gefnogi myfyrwyr sy’n profi trais, aflonyddu a cham-drin. Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i godi’r mater o aflonyddu a cham-drin rhywiol â’r sector addysg uwch fel mater brys. Yn 2020, cyhoeddodd CCAUC, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, ganllawiau i’r sector, sef ‘Tackling violence against women, domestic abuse and sexual violence in HE’ (www.hefcw.ac.uk) (Saesneg yn unig). Mae cyfres o ganllawiau i’r DU gyfan hefyd ar gael i brifysgolion yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Universities UK rhwng 2016 a 2022, o’r enw ‘Changing the Culture: our work on tackling harassment’ (www.universitiesuk.ac.uk) (Saesneg yn unig).

Mae gan bob prifysgol yng Nghymru strategaethau lles ac iechyd, gan gynnwys strategaethau iechyd meddwl a strategaethau diogelu rhag hunanladdiad a gaiff eu monitro gan CCAUC. Drwy fonitro’r strategaethau, caiff CCAUC sicrwydd fod strategaethau a chynlluniau prifysgolion yn parhau’n addas at y diben, eu bod yn ddigon uchelgeisiol a’u bod yn ymateb yn effeithiol i anghenion staff a myfyrwyr. 

Byddwn yn parhau i gydweithio gyda rhanddeiliaid a CCAUC, yn ogystal â’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil unwaith y caiff ei sefydlu, i sicrhau dull gweithredu cydlynus mewn perthynas â datblygiadau pellach yn y sector ôl-16.

Nid yw cwmpas y cynllun gweithredu hwn yn ymestyn i achosion o gamddefnyddio pŵer gan gyflogeion mewn lleoliadau addysgol. Ond, mae’r Glasbrint VAWDASV yn gynllun gweithredu sy’n dod â gwahanol sefydliadau ynghyd i roi dull system gyfan ar waith ar y cyd i ymdrin ag amcanion allweddol, gan gynnwys ffocws ar aflonyddu yn y gweithle. Bydd ffrydiau gwaith eraill yn canolbwyntio ar aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus a chomisiynu cynaliadwy. Mae comisiynu cynaliadwy yn golygu ystyried:

  • dull system gyfan 
  • atal a mynd i’r afael â chyflawni trais
  • anghenion pobl hŷn
  • anghenion plant a phobl ifanc

O fewn y strwythur llywodraethiant, bydd y tîm yn ymwybodol o’r gwersi i’w dysgu o feysydd eraill fel y Glasbrintiau a luniwyd eisoes ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a Chyfiawnder Menywod ynghyd â pholisïau eraill trawsbynciol.

Gweledigaeth

  • Gall plant a phobl ifanc adnabod nodweddion cydberthnasau iach a diogel a deall sut mae cydberthnasau iach yn hanfodol er mwyn cynnal corff a meddwl iach.
  • Mae plant a phobl ifanc yn datblygu’r sgiliau i greu, meithrin a chynnal cydberthnasau iach yn seiliedig ar ymreolaeth, tegwch a pharch.
  • Mae plant a phobl ifanc yn adnabod eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill i gael eu trin â thegwch, caredigrwydd, tosturi ac empathi a chaiff yr hawliau hynny eu parchu.
  • Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn tyfu heb syniadau niweidiol a chyfyngol ynghylch rolau, pŵer a rheolaeth o ran rhywedd ac ymddygiad gorfodaethol ac yn meddu ar y sgiliau i’w grymuso i dynnu sylw at ymddygiad annerbyniol pan fo’n ddiogel iddynt wneud hynny.
  • Mae pob plentyn a pherson ifanc yn deall y neges y caiff ei lais, ei farn a’i brofiadau eu gwerthfawrogi a’u cymryd o ddifrif gan oedolion a bod croeso iddynt roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys ar-lein.
  • Mae oedolion yn modelu ymddygiad priodol ac wedi’u grymuso i gefnogi hawliau plant a phobl ifanc i gydraddoldeb, gwybodaeth a diogelwch.
  • Mae lleoliadau addysg yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau wrth sicrhau bod amgylchedd dysgu diogel ar gael i bob plentyn a pherson ifanc lle mae’n teimlo’n gyfforddus a lle caiff achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion eu herio ac yr ymdrinnir â nhw. 

Cefndir

Mewn ymateb i’r dystiolaeth a gyflwynwyd ar blatfform Everyone’s Invited (Saesneg yn unig), comisiynodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Estyn i gynnal adolygiad thematig i’r diwylliant a’r prosesau mewn ysgolion uwchradd (www.estyn.llyw.cymr) sy’n helpu i amddiffyn a chefnogi pobl ifanc yn well. Roedd y prif ganfyddiadau a ddaeth i’r amlwg fel a ganlyn:

  • dywed tua hanner yr holl ddisgyblion fod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a dywed tri chwarter o’r holl ddisgyblion eu bod wedi gweld disgyblion eraill yn profi hyn 
  • mae bron pob un o’r disgyblion yn deall sut gall aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion gael effaith negyddol ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc 
  • dywed mwyafrif o ddisgyblion benywaidd (61%) eu bod wedi cael profiad personol o aflonyddu rhwng cyfoedion ac mae llawer (82%) yn adrodd eu bod wedi gweld pobl eraill yn ei brofi, o gymharu â chyfran is o ddisgyblion gwrywaidd (29% a 71% yn y drefn honno)
  • yn ôl disgyblion, dim ond ychydig o ysgolion uwchradd sydd bob amser yn delio’n dda ag achosion o agweddau negyddol neu rywiaethol pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohonynt

Yn dilyn hynny, cafodd Estyn ei chomisiynu i gynnal adolygiad thematig arall, yn canolbwyntio ar achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn colegau addysg bellach. Roedd y prif ganfyddiadau fel a ganlyn:

  • mae gan golegau bolisïau a phrosesau sefydledig ar gyfer disgyblu dysgwyr ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ymdrin yn effeithiol â’r achosion mwyaf difrifol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion y rhoddir gwybod amdanynt 
  • er bod sesiynau hyfforddiant penodol ar fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a gynhaliwyd gan rai colegau wedi helpu staff i nodi achosion a mynd i’r afael â nhw’n briodol, nid yw llawer o staff dal yn hyderus ynghylch delio ag achosion ac maent yn teimlo bod angen mwy o ddatblygiad proffesiynol, yn ogystal ag adnoddau penodol ar gyfer addysg bellach i’w cefnogi
  • gallai dysgwyr sy’n ystyried eu hunain yn fenywod, LHDTC+ neu sydd ag ADY fod yn fwy tebygol o gael profiad o aflonyddu rhywiol, a all gynnwys cymysgedd o faterion wyneb-yn-wyneb ac ar-lein

Ym mis Rhagfyr 2021, dechreuodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei ymchwiliad i achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion (busnes.senedd.cymru).

Ffocws yr ymchwiliad oedd achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr mewn ysgolion a cholegau. Roedd ei brif ffocws ar y lleoliadau addysg eu hunain a pha gymorth yr oedd ei angen ar leoliadau addysg, colegau, sefydliadau perthnasol eraill a theuluoedd i amddiffyn plant.

Cyhoeddwyd adroddiad yr ymchwiliad ar dudalen we y Senedd ar 13 Gorffennaf.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 24 o argymhellion sy’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion, rhai ohonynt yn eang a rhai ohonynt yn benodol i Lywodraeth Cymru, Estyn a chyrff eraill eu rhoi ar waith.

Mae argymhellion adolygiadau Estyn ac ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi llywio’r cynllun gweithredu hwn.

Cyd-destun

Cwricwlwm i Gymru

Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn rhan greiddiol o Gwricwlwm i Gymru ac mae’n anelu at sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael addysg a chymorth mewn perthynas â materion fel iechyd corfforol, iechyd meddwl ac iechyd emosiynol.

Un o bedwar diben Cwricwlwm i Gymru yw helpu dysgwyr i ddod yn ‘unigolion iach a hyderus’. Mae nodweddion hyn yn cynnwys dysgwyr yn gallu meithrin cydberthnasau yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch ynghyd â datblygu eu lles meddwl a’u lles emosiynol drwy wella eu gwydnwch a’u hempathi. Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu cyfleoedd a heriau bywyd a’u helpu i ddeall a gwerthfawrogi sut gall y teimladau o berthyn a chysylltiad a ddaw yn sgil cydberthnasau iach gael effaith bwerus ar iechyd a lles. 

Datblygwyd fframwaith Cwricwlwm i Gymru i gynnwys pob dysgwr ac mae’n cynnwys cod ymarfer addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol.

Mae’n hanfodol ein bod yn diogelu ein holl bobl ifanc ac yn eu cefnogi i fynd i’r afael â maes cymhleth addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae gan ysgolion a lleoliadau ran bwysig i’w chwarae yn creu amgylcheddau diogel a grymusol a bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau iach a diogel sy’n gwireddu eu dyheadau drwy gydol eu hoes.

Mae’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn nodi dysgu sy’n briodol yn ddatblygiadol sy’n anelu at fynd i’r afael â materion fel bwlio, aflonyddu rhywiol a gwahaniaethu. Mae diogelwch ar-lein yn nodwedd allweddol penodol yn y cod ac mae addysgu pobl ifanc sut i ymgysylltu’n ddiogel â’r cyfryngau cymdeithasol yn fater trawsgwricwlaidd. Mae’n anelu at helpu dysgwyr i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau, gan gynnwys: 

  • dealltwriaeth o’r angen i gadw’n ddiogel ar-lein, y gallu i gymryd camau i amddiffyn eu hunain a’r gallu i roi gwybod i oedolion dibynadwy pan fyddant wedi gweld rhywbeth na ddylent fod wedi ei weld, neu rywbeth sy’n peri loes iddynt neu’n gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus
  • ymwybyddiaeth o wahanol fathau o ymddygiad niweidiol neu gamdriniol (fel camdriniaeth ac esgeulustod corfforol, rhywiol ac emosiynol, aflonyddu a bwlio rhwng cyfoedion) a’r rôl y gall technoleg ei chwarae

Mae ein canllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb yn nodi’n glir y dylid helpu dysgwyr hefyd i:

  • adnabod pob math o wahaniaethu, trais, camdriniaeth ac esgeulustod, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • cael help a chyngor lle y bo’n briodol

Mae’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cynnwys dysgu gorfodol ar nifer o faterion pwysig iawn sy’n ymwneud â mynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol a gwahaniaethol, gan gynnwys:

  • datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb personol a chyfrifoldeb cymdeithasol tuag at eraill, gan gynnwys ystyried y ffordd rydym yn ymateb i ymddygiadau gwahaniaethol, amharchus a niweidiol, all-lein ac ar-lein
  • ymwybyddiaeth bod deddfau ar waith i amddiffyn pobl rhag gwahanol fathau o wahaniaethu, trais, camdriniaeth, esgeulustod ac aflonyddwch

Gwella cadernid digidol mewn addysg: Cynllun gweithredu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein

Cyhoeddwyd y cynllun gweithredu hwn yn wreiddiol fel y cynllun gweithredu diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2018, ac roedd yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner ledled Cymru i wella’r ddarpariaeth diogelwch ar-lein a’r polisïau a’r arferion cysylltiedig ledled Cymru.

Ers hynny, mae’r cynllun gweithredu wedi datblygu i adlewyrchu rôl bwysig seiber-gadernid a diogelwch data wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Mae ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar-lein bellach wedi’u cyfleu yn ein cynllun gweithredu cadernid digidol mewn addysg i blant a phobl ifanc. Mae’r cynllun gweithredu yn nodi’r camau gweithredu rydym yn eu cymryd er mwyn helpu plant a phobl ifanc, a’u teuluoedd a’u cymunedau ysgol, i aros yn ddiogel ar-lein.

Bydd trefniadau cydweithredu yn hanfodol er mwyn rhoi ein cynllun gweithredu ar waith. Rydym yn ymrwymedig i weithio ym mhob rhan o’r llywodraeth a chyda phartneriaid arbenigol gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd, UK Council for Internet Safety (UKCIS), NSPCC, Internet Matters a Childnet.

Un o elfennau craidd y cynllun gweithredu hwn yw rhoi cyngor a chymorth. Mae ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ yn ardal benodedig ar Hwb sy’n cynnig yr adnoddau, yr wybodaeth, y canllawiau a’r hyfforddiant diweddaraf i ddysgwyr, teuluoedd, ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol a llywodraethwyr er mwyn gwella eu cadernid digidol. Mae’n cynnwys ardal benodedig sy’n helpu i ymdrin ag aflonyddu rhywiol ar-lein.

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Cyhoeddwyd y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mis Mai 2022 a dyma’r ail strategaeth a gyflwynwyd o dan y ddeddfwriaeth arloesol, Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae’r strategaeth yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gan osod yr agenda i Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau y mae’n rhoi cyfarwyddyd iddynt ac yn eu cyllido, mae hefyd yn cynnig strategaeth i Gymru gyfan, ym mhob rhan o’r llywodraeth, gan gynnwys cyrff heb eu datganoli, y sector cyhoeddus a’r sector preifat a chymdeithas gyfan Cymru.

Mae cysylltiad agos rhwng ail amcan y strategaeth a gwaith y cynllun gweithredu hwn:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a’u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol

Caiff y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ei rhoi ar waith drwy ddull Glasbrint sy’n dod â sefydliadau datganoledig a sefydliadau heb eu datganoli ynghyd i gryfhau’r bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector arbenigol. Bydd nifer o ffrydiau gwaith yn rhan o’r Glasbrint a’r Ffrwd Waith Plant a Phobl Ifanc fydd yn gyfrifol am roi’r cynllun gweithredu hwn ar waith ac am sicrhau bod partneriaid cyflenwi yn atebol am eu gweithredoedd. Tynnir sylw at gyfleoedd i integreiddio ac at enghreifftiau o ryngddibyniaeth ym mhob ffrwd waith er mwyn sicrhau bod camau gweithredu cydgysylltiedig yn cael eu cymryd i gyflawni’r amcanion.

Mae’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cynnig canllawiau ar y gofynion hyfforddi statudol ym mhob rhan o’r gwasanaeth cyhoeddus ac yn y trydydd sector arbenigol. Mae’r fframwaith yn cynnwys 6 grŵp. Bydd pob proffesiwn yn y gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys addysg, yn perthyn i un o’r grwpiau hyn a chaiff gofyniad hyfforddi sylfaenol ei nodi ar gyfer pob grŵp.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn nodi’r camau gweithredu y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal cam-drin plant yn rhywiol ac i gefnogi plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Daeth y cynllun gweithredu 3 blynedd hwn i ben ar 30 Mehefin 2022. Cafodd adroddiad cyflenwi am yr hyn a gyflawnwyd o dan y cynllun gweithredu ei gyhoeddi ar ddiwedd mis Tachwedd 2022. Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r hyn a gyflawnwyd o dan y cynllun gweithredu, yn ystyried argymhellion diweddar yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022) ac yn comisiynu digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol er mwyn llywio cam nesaf y gwaith. Mae byrddau diogelu rhanbarthol yn bwrw ati â gwaith sy’n gysylltiedig â’r mater hwn o hyd.

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru a Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan yn esbonio sut y dylai ymarferwyr gymhwyso’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau diogelu. Maent yn hyrwyddo ymarfer diogelu cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn asiantaethau a ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae canllaw ymarfer Cymru gyfan ar ddiogelu plant rhag cam-drin rhywiol yn cael ei ystyried gan Fwrdd Prosiect Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Wedi hynny, bydd y bwrdd yn cyhoeddi’r canllaw – mae’r dyddiad i’w gadarnhau ond disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2024.

Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid

Mae Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019, yn nodi’r weledigaeth ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru, yn seiliedig ar ddull hawliau ‘plant yn gyntaf’. Mae hyn yn golygu sicrhau bod ein hymdrechion yn canolbwyntio ar y plentyn yn hytrach nag ar y gwasanaeth, gan ymateb mewn ffordd sy’n cydnabod budd pennaf y plentyn er mwyn diwallu anghenion yr unigolyn yn y ffordd orau.

Drwy Ffrwd Waith Atal y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid, caiff fframwaith ymarferol ar gyfer darparu gwasanaethau ataliol yng Nghymru ei ddatblygu ar y cyd â gwasanaethau troseddwyr ifanc a rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd yn adeiladu ar yr ymarfer da sy’n bodoli eisoes ac ar y sail dystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio. Nod lefel uchel y Ffrwd Waith Atal y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid yw parhau i roi model ymarfer cyson ar waith ledled Cymru sy’n galluogi gwasanaethau i gydweithio, gan ar yr un pryd gefnogi ymarfer arloesol a chaniatáu hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau lleol.

Yn ein gwaith i ddatblygu Fframwaith Atal Cyfiawnder Ieuenctid, byddwn yn ystyried aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ogystal â mathau eraill o ymddygiad troseddol.

Y Ddyletswydd Trais Difrifol

Cafodd Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 Gydsyniad Brenhinol ym mis Cymru 2022 (Senedd y DU). Mae’n creu Dyletswydd Trais Difrifol newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, asiantaethau cyfiawnder troseddol penodedig a byrddau iechyd lleol gydweithio er mwyn:

  • llunio dadansoddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o’r problemau sy’n gysylltiedig â thrais difrifol mewn ardal leol 
  • cynhyrchu strategaeth sy’n nodi sut y byddant yn ymateb i’r materion penodol hynny a’i rhoi ar waith

Mae trais difrifol yn cael effaith ddinistriol ar fywydau dioddefwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau, ac mae’n gostus iawn i gymdeithas. Mae’r Ddyletswydd yn rhan allweddol o raglen Llywodraeth y DU i atal a lleihau achosion o drais difrifol. Mae’n gweithredu mewn modd amlasiantaeth a chanolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, ar sail tystiolaeth. Mae Llywodraeth Cymru o blaid y bwriad polisi hwn gan y bydd o fudd i bobl a chymunedau yng Nghymru drwy wella eu diogelwch.

Ym mis Cymru 2022, cyhoeddwyd canllawiau statudol Dyletswydd Trais Difrifol (www.gov.uk) (Saesneg yn unig) a oedd yn cynnwys pennod benodol i Gymru er mwyn adlewyrchu’r gwahanol strwythurau deddfwriaethol a phartneriaethol yng Nghymru. Datblygwyd y bennod hon mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ac Uned Atal Trais Cymru.

Cyhoeddwyd Canllawiau ar Asesiadau o Anghenion Strategol y Ddyletswydd Trais Difrifol yng Nghymru (www.violencepreventionwales.co.uk) ym mis Cymru 2023. Ar hyn o bryd, disgwylir i bartneriaethau gyhoeddi eu strategaeth trais difrifol gyntaf o fewn blwyddyn i’r dyddiad y caiff y Ddyletswydd ei rhoi ar waith.

Er mwyn helpu partneriaethau i ddatblygu eu strategaeth ar gyfer ymateb i drais difrifol, mae Uned Atal Trais Cymru wedi cyd-ddylunio Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc (www.violencepreventionwales.co.uk), ar y cyd â Peer Action Collective Cymru. Fel rhan o’r broses o ddatblygu’r fframwaith hwn, ymgynghorwyd yn helaeth â gweithwyr proffesiynol ledled Cymru gan gynnwys gweithdai, cyfweliadau ac ymgynghoriad ar-lein, ac â phlant a phobl ifanc drwy weithdai, siop dros dro ac ymgynghoriad ar-lein.

Mae’r fframwaith, sy’n canolbwyntio ar gamau atal sylfaenol, yn cynnwys diffiniad o drais ymhlith plant a phobl ifanc a ddatblygwyd gan blant a phobl ifanc, gwybodaeth am y risg a’r ffactorau amddiffynnol sy’n gysylltiedig â thrais ymhlith plant a phobl ifanc, a manylion strategaethau sy’n gweithio i atal y trais hwn. Mae hefyd yn rhoi canllawiau i bartneriaid ar sut i gynnal gwerthusiadau effeithiol o ymyriadau i atal trais.

Dysgu o bell o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19)

Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio’n uniongyrchol ar bob un ohonom, yn enwedig ein dysgwyr, a dreuliodd fwy a mwy o amser ar lwyfannau ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud dilynol. Er nad oedd y pandemig mewn unrhyw ffordd yn gatalydd ar gyfer achosion o gam-drin ac aflonyddu ar-lein, gwelwyd cynnydd yn nifer yr achosion, gyda Childline yn nodi cynnydd o 11% yn nifer y cysylltiadau am gam-drin rhywiol ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud.

Nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC) fod y pandemig wedi annog gweithgarwch ar-lein o ran dysgu, chwarae gemau ac adloniant. Roedd angen i staff addysg sicrhau eu bod yn deall llwyfannau ar-lein, yn enwedig TikTok, a’r ffordd orau o reoli unrhyw ddigwyddiadau ar y llwyfannau hynny o ran rhoi gwybod amdanynt, cyfeirio a chefnogi plant a phobl ifanc.

Cawsom ein hatgoffa hefyd gan adolygiadau thematig Estyn fod llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol yn gyfrwng ar gyfer aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae rhywfaint o aflonyddu rhywiol yn digwydd ar lwyfannau rhwydweithio cymdeithasol na fyddai o bosibl yn digwydd fel arall. Dywedodd yr Undeb Addysg Genedlaethol wrthym fod y pandemig wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn lefelau gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft defnyddio camerâu a lanlwytho fideos i TikTok.

Dywedodd ColegauCymru, CLlLC a CCAC wrthym y bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o lwyfannau fel TikTok yn ystod y cyfyngiadau symud, gan ei gwneud hi’n haws rhannu delweddau rhywiol. Nododd un coleg nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud ag aflonyddu a oedd yn gysylltiedig ag apiau negeseua fel Snapchat a WhatsApp. Ychwanegodd “wrth siarad â dysgwyr sydd wedi anfon negeseuon neu ddelweddau o’r fath, mae’n cymryd cryn dipyn o amser i drafod effaith derbyn negeseuon o’r fath ar berson â nhw”.

Rydym yn gwerthfawrogi y gallai’r pandemig fod wedi cael effaith ar faint o addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) o ansawdd da sydd ar gael i ddysgwyr. Fodd bynnag, rydym yn hyderus bod ysgolion bellach yn gwneud cynnydd da wrth roi addysg cydberthynas a rhywioldeb ar waith fel rhan o Gwricwlwm i Gymru. P’un a fydd dysgwyr yn dilyn y cwricwlwm ABCh presennol neu’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd yn ffurfiol yn ystod y blynyddoedd nesaf, rydym yn hyderus y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd a’r canllawiau statudol, y cynnig dysgu proffesiynol a’r adnoddau sydd ar gael yn helpu ymarferwyr sy’n addysgu o dan y ddau ddull.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (www.legislation.gov.uk) yn anelu at fynd i’r afael â’r heriau tymor hir sy’n wynebu cymunedau yng Nghymru er mwyn creu Cymru y mae pob un ohonom am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Bydd y 7 nod llesiant a amlinellir ynddi yn cael eu cefnogi gan y cynllun gweithredu hwn, gan sicrhau gweledigaeth a dull gweithredu cydweithredol. 

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, dylai ysgolion a cholegau gynnal pwyslais ar atal, o ran ymyrryd yn gynnar, gyda’r bwriad o leihau’r risgiau sy’n wynebu plant a’r anawsterau dilynol yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a ffynonellau adfyd a thrawma eraill yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd a lles gwaeth gydol oes. Mae nodi, ymyrryd a gweithredu’n gynnar i atal a lliniaru effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn hollbwysig.

Cynlluniau Ysgolion Iach, Rhwydwaith Cymru a dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol

Caiff ysgol sy’n hybu iechyd ei diffinio gan Sefydliad Iechyd y Byd fel ysgol sy’n atgyfnerthu ei chapasiti fel lleoliad iach i fyw, dysgu a gweithio yn gyson. Mae’r cysyniad o ysgolion sy’n hybu iechyd yn cynnwys dull ysgol gyfan o hybu iechyd a chyrhaeddiad mewn cymunedau ysgol drwy ddefnyddio potensial sefydliadol ysgolion i feithrin y cyflyrau cymdeithasol, economaidd-gymdeithasol a seicolegol ar gyfer iechyd ar gyfer canlyniadau addysg cadarnhaol.

Mae Cynlluniau Ysgolion Iach, Rhwydwaith Cymru yn helpu ysgolion i ddatblygu a chynnal dulliau ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles mewn ysgolion yn unol â meini prawf cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys datblygu, sefydlu a chynnal dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol fel canllawiau statudol i gyrff llywodraethu, unedau cyfeirio disgyblion, meithrinfeydd, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion canol, ac ysgolion arbennig a gynhelir, ac i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r fframwaith yn anelu at ddarparu cyfeiriad er mwyn diwallu anghenion lles emosiynol a meddyliol pob dysgwr a’r gymuned ysgol gyfan ehangach. Fel rhan o ddull ysgol gyfan, mae’r fframwaith a’r canllawiau a’r cymorth ategol a ddarperir, yn rhoi’r cyfle i ysgolion, drwy ddull gwella parhaus, hyrwyddo lles emosiynol a meddyliol cadarnhaol, atal salwch meddwl a chymryd camau i helpu unigolion lle bo angen.

Mae’r fframwaith statudol a’r rhaglen ategol Cynlluniau Ysgolion Iach, Rhwydwaith Cymru yn hyrwyddo tegwch fel egwyddor arweiniol ynghyd â gwerthoedd craidd perthyn, cydberthnasau a llais. 

Caiff y pecyn cymorth i ysgolion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy’n cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau arferion gorau i ddarparwyr addysg gynradd, addysg uwchradd ac addysg bellach, ei adolygu drwy Ffrwd Waith Plant a Phobl Ifanc y Glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Camau gweithredu

1. Atal

Mae lleoliadau addysg yn mabwysiadu dull system gyfan er mwyn creu amgylcheddau dysgu diogel, er mwyn atal achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion cyn iddynt ddigwydd. Mae lleoliadau yn helpu dysgwyr i:

  • ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd i nodi beth sy’n ymddygiad rhywiol priodol a beth sy’n amhriodol
  • deall pwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach 
  • darparu amgylcheddau cefnogol a diogel lle gall dysgwyr dyfu a datblygu normau a gwerthoedd rhag-gymdeithasol

1.1 Drwy’r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y caiff plant a phobl ifanc:

  • eu haddysgu am y gwahanol fathau o aflonyddu rhywiol, ei ganlyniadau a’r diwylliant sylfaenol sy’n caniatáu i achosion o aflonyddu rhywiol gael eu normaleiddio
  • y sgiliau i ddatblygu a chynnal cydberthnasau iach, ac i adnabod ymddygiad rhywiol niweidiol ac ymateb iddo

Mae hyn yn cynnwys rôl grwpiau cyfoedion yn ogystal â chydberthnasau agos â phartner, er mwyn ystyried yr amrywiaeth o ffyrdd y gall pobl ifanc wynebu aflonyddu rhywiol.

1.2 Bydd Llywodraeth Cymru yn helpu ysgolion i ddatblygu polisïau clir ar atal aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ac ymateb i achosion ohono. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio dyfeisiau electronig mewn ffordd ddiogel.

1.3 Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi yn cyhoeddi canllawiau traws cenedlaethol i leoliadau addysg er mwyn helpu ysgolion i gefnogi myfyrwyr traws. Bydd y canllawiau yn nodi sut y gall arweinwyr ac ymarferwyr sicrhau bod dysgwyr traws yn teimlo’n ddiogel, a’u bod yn cael eu cynnwys a’u croesawu yn eu hamgylchedd addysg.

1.4 Bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei chanllawiau gwrthfwlio statudol ‘Hawliau, parch, cydraddoldeb’ i nodi gwybodaeth fwy penodol am sut i atal achosion o fwlio yn seiliedig ar ragfarn ac achosion o aflonyddu dysgwyr, a sut i ymateb i achosion o’r fath. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaethau penodol mewn perthynas ag amddiffyn hawliau dysgwyr â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys dysgwyr LHDTC+, mewn ffordd gyfannol.

1.5 Gydag arian gan Lywodraeth Cymru yn 2023 i 2024, mae colegau addysg bellach yn gweithio gyda’i gilydd ar brosiect cydweithredol. Drwy waith ymchwil, mae’r prosiect yn anelu at feithrin gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd. Bydd yr ymchwil hon yn arwain at well cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff er mwyn iddynt allu adnabod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a gwybod a rheoli digwyddiadau.

2. Ymyrryd yn gynnar

Er mwyn nodi plant a phobl ifanc sy’n profi aflonyddu rhywiol, sy’n dyst iddo ac sy’n ei gyflawni cyn gynted â phosibl a rhoi cymorth diogel, hygyrch ac effeithiol iddynt, bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud y canlynol.

2.1 Byddwn yn parhau i gefnogi llinellau cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn benodol Childline Cymru, Byw Heb Ofn a Meic.

2.2 Gan weithio gyda phartneriaid, byddwn yn cydweithio â phlant a phobl ifanc i gefnogi ymyriadau cynnar o dan arweiniad dysgwyr, yn enwedig gan y rhai hynny sydd â phrofiadau uniongyrchol.

2.3 Byddwn yn cydweithio â phartneriaid i ddatblygu adnoddau sy’n helpu lleoliadau addysg i gefnogi dysgwyr sy’n ymddwyn mewn ffordd niweidiol.

2.4 Byddwn yn adolygu’r canllawiau presennol ar gam-drin rhywiol rhwng cyfoedion, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol ac yn ystyried pa gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar leoliadau addysg i ddatblygu cynlluniau diogelwch cadarn, wedi’u hategu gan ddulliau gweithredu adferol.

2.5 Ar y cyd â’r Bwrdd Cynghori ar Bobl Ifanc a’r rhai hynny sydd â phrofiad uniongyrchol, byddwn yn cynnal adolygiad o’r cymorth a ddarperir i bobl ifanc sydd wedi bod yn destun aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, gan anelu at wneud argymhellion i leoliadau addysg, awdurdodau lleol ac eraill fel y bo’n ofynnol i wella ansawdd ac amseroldeb y cymorth hwnnw.

3. Cymorth i ddysgwyr a lles dysgwyr

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod amgylchedd dysgu diogel ar gael i bob dysgwr, sy’n hybu ei les ac yn ei rymuso i allu rhoi gwybod am bob math o aflonyddu a herio achosion o’r fath yn ddiogel, gan gynnig man diogel i ddatgelu gwybodaeth am ymddygiad digroeso er mwyn helpu i’w amddiffyn rhag niwed.

3.1 Byddwn yn sefydlu bwrdd cynghori plant a phobl ifanc, a fydd yn cynnwys sampl gynrychioliadol o bobl ifanc o bob cwr o Gymru, i gyd-ddylunio ymateb Llywodraeth Cymru i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion er mwyn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn rhan greiddiol o’n hymateb.

3.2 Ar y cyd â’r Bwrdd Cynghori ar Bobl Ifanc, byddwn yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi’i thargedu at ddysgwyr ledled Cymru am y ffynonellau cymorth sydd ar gael i’r rhai sydd wedi profi aflonyddu rhywiol.

3.3 Byddwn yn diweddaru canllawiau gwrthfwlio statudol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â sut y gall ysgolion ac awdurdodau lleol ddefnyddio data am aflonyddu rhywiol i nodi tueddiadau a phatrymau, a sut y gellir rhannu’r wybodaeth hon er mwyn sicrhau tryloywder.

3.4 Byddwn yn cydweithio ag ysgolion a’r sector addysg bellach i wella cysondeb ac effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer rhoi gwybod am achosion o fwlio ac aflonyddu a’u dadansoddi, gan gydnabod yr amrywiaeth o faterion diogelu a lles y gallai dysgwyr fod yn eu profi a chan helpu’r sector i atgyfnerthu’r trefniadau ar gyfer cofnodi achosion a rhoi gwybod amdanynt.

3.5 Byddwn yn cefnogi ysgolion i ystyried anghenion eu staff a’u dysgwyr mewn perthynas ag ymdrin ag achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion fel rhan o’u cynlluniau gwella, a hynny’n gysylltiedig â’u trefniadau ar gyfer rhoi Fframwatih Llywodraeth Cymru ar ddull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol a Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma ar waith.

3.6 Trwy weithgarwch arolygu Estyn, byddwn yn ystyried effeithiolrwydd y systemau a’r prosesau a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau i’r staff gofnodi eu pryderon am achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a chamau gweithredu, ac i ba raddau y maent yn defnyddio systemau monitro a safbwyntiau rhanddeiliaid i werthuso ansawdd eu gwaith ac i gynllunio ar gyfer gwelliant.

3.7 Trwy weithgarwch arolygu Estyn, byddwn yn ystyried i ba raddau y mae ysgolion a cholegau yn llwyddo i gofnodi achosion o aflonyddu rhywiol ac yn ymateb iddynt, ac i ba raddau y maent yn llwyddo i reoli’r unigolion hynny sy’n dangos ymddygiad niweidiol.

4. Dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod dysgu proffesiynol o ansawdd yn cael ei ddatblygu, sydd wedi’i gynllunio ar y cyd â phlant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau bod lleoliadau addysg yn teimlo’n hyderus yn trafod ac yn addysgu dysgwyr am bob math o aflonyddu rhywiol, stereoteipiau ar sail rhyw a chasineb at fenywod mewn ffordd ddatblygiadol briodol sy’n ymateb i anghenion dysgwyr, er enghraifft y rhai hynny sy’n arbennig o agored i niwed mewn perthynas â rhagbaratoi a chydberthnasau camfanteisiol.

4.1 Byddwn yn sicrhau bod gwaith ar ddysgu proffesiynol ym mhob lleoliad addysg yn adlewyrchu profiadau ac anghenion penodol dysgwyr sy’n arbennig o agored i niwed mewn perthynas â rhagbaratoi a chydberthnasau camfanteisiol, gan gynnwys y dysgwyr hynny sydd ag ADY a dysgwyr LHDTC+ ymhlith eraill. Dylai dysgu proffesiynol hefyd gydnabod natur aflonyddu rhywiol fel mater croestoriadol a, thrwy wneud hynny, ddiwallu anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr, fel dysgwyr Du ac ethnig lleiafrifol.

4.2 Byddwn yn cefnogi dysgu proffesiynol ym maes addysg bellach er mwyn adnabod achosion o aflonyddu a cham-drin rhywiol, herio ymddygiad amhriodol a chefnogi cydberthnasau iach, wedi’i deilwra at gyd-destun a chwricwla ôl-16.

4.3 Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn cael dysgu proffesiynol ac adnoddau ar gyfer dylunio cwricwlwm sy’n cynnwys unigolion LHDTC+ yn llawn. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb sy’n cynnwys unigolion LHDTC+ i bawb. 

4.4 Byddwn yn datblygu rhaglenni hyfforddi a chanllawiau er mwyn grymuso gweithwyr proffesiynol i roi cymorth digonol i bobl ifanc LHDTC+ ac i fynd i’r afael ag achosion o fwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig drwy weithredu ar sail hawliau. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddod â’r ddau ddarn o waith at ei gilydd, ac i ddefnyddio’r canllawiau dull ysgol gyfan fel sail ar gyfer dysgu proffesiynol.

4.5 Byddwn yn datblygu pecyn cymorth o adnoddau ar gyfer atal ac ymateb i bob math o wahaniaethu, trais, camdriniaeth ac esgeulustod, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

4.6 Byddwn yn darparu hyfforddiant i rymuso gweithwyr proffesiynol i roi cymorth digonol ac i alluogi dysgwyr sydd â nodweddion niwroamrywiol ac sydd ad ADY eraill i ddeall ac adnabod aflonyddu a cham-drin rhywiol, i herio ymddygiad amhriodol ac i ddatblygu cydberthnasau iach. 

4.7 Byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol i greu a chynnal cronfeydd data o sefydliadau trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau cymorth i leoliadau addysg a cholegau a allai eu helpu wrth ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. 

4.8 Byddwn yn gweithio ochr yn ochr ag Estyn, Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru, academyddion perthnasol a’r Bwrdd Cynghori ar Bobl Ifanc i gasglu a choladu enghreifftiau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, gan anelu at greu cronfa o adnoddau i leoliadau addysg er mwyn hwyluso’r broses o rannu arferion da ledled Cymru.

5. Rhieni, gofalwyr a’r gymuned

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni, gofalwyr a theuluoedd i siarad â’u plant am aflonyddu rhywiol, gan amlinellu pa gamau y gall rhieni a gofalwyr eu cymryd i gyfyngu mynediad eu plant at gynnwys amhriodol a datblygu normau iach yn y gymuned.

5.1 Ar y cyd â’r Bwrdd Cynghori ar Bobl Ifanc, byddwn yn cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi’i thargedu at rieni, gofalwyr a theuluoedd i godi ymwybyddiaeth ac i feithrin dealltwriaeth o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, gan gynnwys sut a phryd y caiff ei gyflawni a’i effaith ar bobl ifanc. 

5.2 Trwy’r wefan ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo’, byddwn yn hyrwyddo dolenni i adnoddau er mwyn helpu teuluoedd sy’n wynebu achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, gan gynnwys teuluoedd pobl ifanc LHDTC+.

5.3 Byddwn yn datblygu adnoddau wedi’u targedu’n benodol at deuluoedd dysgwyr niwroamrywiol i’w helpu i ddeall effaith aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ac i siarad â’u plant a rhoi cymorth iddynt. 

5.4 Fel rhan o’n gwaith i ddatblygu ysgolion bro, byddwn yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol â rhieni a gofalwyr, ac yn rhoi cymorth iddynt drwy ddarparu gwybodaeth ac arweiniad am aflonyddu rhywiol ac ymddygiadau digroeso eraill o natur rywiol.

6. Ymdrin ag achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein

Bydd Llywodraeth Cymru yn helpu lleoliadau addysgu, plant a phobl ifanc a’u teuluoedd i ddeall yn well ystyr aflonyddu rhywiol ar-lein, yr effaith y gall ei chael, sut y gellir ei atal a sut i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau ar-lein yn well. Mae’r rhaglen waith hon yn rhan o ymrwymiad ehangach i gefnogi cadernid digidol mewn addysg (gweler y cynllun gweithredu ‘Gwella cadernid digidol mewn addysg’).

6.1 Byddwn yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn rhan greiddiol o’n gwaith i herio achosion o normaleiddio aflonyddu rhywiol ar-lein. 

6.2 Byddwn yn rhoi cyngor uniongyrchol i blant a phobl ifanc drwy ardal Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb er mwyn iddynt allu adnabod y gwahanol fathau o aflonyddu rhywiol ar-lein a deall beth i’w wneud, sut i roi gwybod am achosion a pha gymorth y gallant ei gael os bydd yn effeithio arnynt. 

6.3 Byddwn yn gweithio gyda phobl ifanc a phartneriaid i ddatblygu ymgyrchoedd sy’n cefnogi sgyrsiau pwysig am ymddygiad annerbyniol ar-lein, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.

6.4 Byddwn yn helpu lleoliadau addysg drwy gynnig hyfforddiant i ddatblygu eu dulliau gweithredu er mwyn atal achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein ac ymateb iddynt yn effeithiol. 

6.5 Byddwn yn darparu canllawiau i helpu lleoliadau addysg i roi diwylliant ar waith lle nad yw aflonyddu rhywiol ar-lein yn dderbyniol ac i sicrhau ymateb cyson a phriodol i ddigwyddiadau, gan wneud yn siŵr y caiff ei drin gan roi’r un pwys arno ag unrhyw bryder diogelu arall. 

6.6 Byddwn yn sicrhau bod adnoddau dwyieithog ar gael ar Hwb i helpu lleoliadau addysg i ymdrin ag aflonyddu rhywiol ar-lein â’u dysgwyr mewn ffordd briodol. 

6.7 Byddwn yn darparu gwybodaeth a chyngor i deuluoedd er mwyn hwyluso’r trefniadau cydweithio a chyfathrebu rhwng lleoliadau addysg, dysgwyr a’u rhieni a gofalwyr wrth ymdrin ag achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein. 

6.8 Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i ddatblygu’r Bil Diogelwch Ar-lein.

7. Ymchwil a gwerthuso

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i archwilio atebion posibl, cynnal gwerthusiad, a dysgu o ymchwil presennol neu arfaethedig i aflonyddu rhywiol.

7.1 Byddwn yn ystyried pa waith ymchwil sydd ei angen i ddeall achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith plant ysgol gynradd, gan fanteisio ar arbenigedd ac arweiniad elusennau plant, academyddion a Chomisiynydd Plant Cymru fel y bo’n briodol.

7.2 Byddwn yn helpu colegau yng Nghymru i ystyried materion sy’n gysylltiedig ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn llawn, i ddarparu hyfforddiant, i werthuso effaith yr hyfforddiant hwnnw, i adolygu canllawiau ac i ddatblygu dulliau priodol i ddysgwyr rhoi gwybod am achosion o gam-drin ac aflonyddu rhywiol. 

7.3 Byddwn yn llunio partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ar C2CHAT, prosiect ymchwil ‘Child2Child Abuse Talk’ a fydd yn nodi sut y gallai dadansoddiadau ieithyddol o sgyrsiau digidol rhwng plant sy’n dangos arwyddion o gam-drin rhywiol feithrin dealltwriaeth ymarferwyr. Caiff canfyddiadau gwaith ymchwil ac argymhellion eu defnyddio fel llwyfan ar gyfer gwaith ymchwil yn y dyfodol ac o bosibl i ddatblygu adnoddau atal yn seiliedig ar y safbwynt newydd y gall dadansoddiadau ieithyddol ei gynnig mewn perthynas â realiti profiadau uniongyrchol plant.