Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y gofynion statudol ar gyfer hyfforddiant ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau arbenigol y trydydd sector.

Mae'r Fframwaith yn cynnwys chwe grŵp. Mae pob proffesiwn o fewn y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei gynnwys yn un o'r grwpiau hyn ac amlinellir pa hyfforddiant sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer pob grŵp.

Grŵp 1 - E-ddysgu

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys yr holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd yr hyfforddiant yn darparu:

  • dealltwriaeth sylfaenol o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 
  • sut i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr.

Mae'r cwrs ar gael ar wefan y GIG.

Grŵp 2 - Gofyn a Gweithredu

Mae'r grŵp hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n debygol o ddal swyddi lle bo posibilrwydd bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblem i'w cleientiaid, a'u bod yn gallu 'Gofyn a Gweithredu'. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n asesu neu roi triniaeth i rywun o ganlyniad i drais a cham-drin, neu'n gweithio gyda nhw.

Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol fel doctoriaid, nyrsys, y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y rhai sy'n cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, a swyddogion digartrefedd. 

Bydd yr hyfforddiant yn sicrhau y gall unigolion wneud yn canlynol:

  • adnabod yr arwyddion bod rhywun yn cael ei gam-drin
  • siarad yn sensitif â'r person hwnnw (os yw hynny'n briodol)
  • cynnig opsiynau a gwasanaethau iddynt yn gyflym ac yn effeithiol.

Canllawiau ynghylch sut mae 'Gofyn a Gweithredu'.

Grŵp 3 - Hyrwyddwyr Gofyn a Gweithredu

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys unigolion mewn swyddi sy'n gofyn iddynt wneud mwy na 'Gofyn a Gweithredu' a'r rhai sydd yn perfformio fel 'Hyrwyddwyr'.

Bydd yr hyfforddiant yn eu galluogi i wneud y canlynol:

  • cefnogi cydweithwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â'r pynciau hyn, helpu i gynnig gwasanaethau i bob aelod o'r teulu y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael effaith arnynt
  • chwarae rhan hyrwyddwr o fewn eu sefydliad.

Os hoffech wybod rhagor am hyfforddiant ar gyfer grŵp 3, anfonwch e-bost i dîm Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig Llywodraeth Cymru yn VAWDASV@llyw.cymru neu cysylltwch â'ch cydgysylltydd VAWDASV lleol. 

Grŵp 4 - Y sector arbenigol

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sy'n ymdrin â cleientiaid sydd wedi'u heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn unig.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol sefydlu'r canlynol ar gyfer unrhyw un sydd â chleientiaid sy'n dod ar draws trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol, boed yn ddioddefwyr neu'n blant i ddioddefwyr, neu unrhyw un sy'n cyflawni cam-drin domestig:

  • mynediad i hyfforddiant priodol yn fuan ar ôl eu recriwtio
  • cymwysterau priodol 
  • cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Eich cyflogwr sy'n trefnu ichi gwblhau'r hyfforddiant hwn gan amlaf.

Mae hyfforddiant lleol yn parhau i fod yn ffordd bwysig o sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol y sgiliau priodol i weithio gyda'r rheini sy'n dod ar draws trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn amlinellu'r gofynion sylfaenol ar gyfer hyfforddiant a ddarperir yn lleol (gan wasanaethau lleol, drwy Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol neu o fewn Awdurdodau Lleol neu Fyrddau Iechyd).

Deall Cam-drin Domestig, Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) a Risg

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Marchnata Pobl a Chaethwasiaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Profiadau Plant a Phobl Ifanc o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Cam-drin Domestig

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Trais Rhywiol

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Trais yn erbyn Menywod a Merched

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall VAWDASV a Gweithio gydag Unigolion ag Anghenion Cefnogaeth Amryfal eisoes

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall ac Ymateb i Farchnata Pobl a Chaethwasiaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Priodas Dan Orfod

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Trais ar Sail Anrhydedd

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall dim mynediad at arian cyhoeddus (NRPF)

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Trais Rhywiol yn erbyn Dynion

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Trais Rhywiol yn erbyn Menywod

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Masnachu Pobl a Chaethwasiaeth ac Ymateb iddynt

Mae rhagor o wybodaeth ar yr uned hon ar gael ar wefan Agored.

Gallwch drefnu hyfforddiant ar yr uned hon drwy un o'r darparwyr isod:

Deall Trais Rhywiol yn erbyn Menywod Grŵp 5 - Rheolwyr y sector arbenigol

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys rheolwyr gwasanaethau sy'n gweithio yn y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae pynciau allweddol yn yr adran hyfforddiant hon yn cynnwys:

  • llywodraethu effeithiol a diogel
  • adnoddau dynol a chefnogaeth i staff
  • cynaliadwyedd
  • y fframwaith comisiynu
  • cydweithio amlasiantaethol

Mae mynediad i'r cwrs ar gael ar wefan Safelives.

Grŵp 6 - Arweinwyr yn y Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys pobl mewn rolau arweiniol.

Cyfres o ffilmiau byrion yw Cyfres Cryfhau Arweinyddiaeth. Mae pob un ohonynt yn ymdrin â mater pwysig sy'n berthnasol i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r ffilmiau yn cynnig pytiau o wybodaeth y gellir eu defnyddio i lywio'r trywydd strategol, neu eu rhannu o fewn timau i gynyddu gwybodaeth.

Gwyliwch gyfres Cryfhau Arweinyddiaeth ar YouTube.