Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau â'i hymrwymiad i gyhoeddi diweddariadau rheolaidd i'r Set Ddata Genedlaethol o Domenni Glo nas Defnyddir (“y Set Ddata Genedlaethol”).Mae'r diweddariadau hyn yn cael eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn, ar ôl cwblhau'r rhaglenni arolygu blynyddol a chwemisol a drefnwyd ar gyfer tomenni glo nas defnyddir categori C a D, yn y drefn honno.

Mae'r diweddariad diweddaraf hwn yn adlewyrchu'r newidiadau a nodwyd yn ystod y rownd ddiweddaraf o arolygiadau a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.

Defnyddir y Set Ddata Genedlaethol i gydlynu gweithgareddau monitro a chynnal a chadw rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, a'n partneriaid cyflawni eraill.

Gallaf gyhoeddi y bydd y diweddariad nesaf o'r Set Ddata Genedlaethol yn cael ei gyhoeddi ar 26 Mawrth 2026 er mwyn adlewyrchu newidiadau a nodwyd i domenni glo nas defnyddir ers yr hydref. Mae'n bwysig bod diweddariadau rheolaidd i statws tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth ategol, ar gael i’r cyhoedd. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol, yn tynnu sylw at le y gallai fod newidiadau nodedig mewn lleoliad tomen, a bod y rhaglen waith sy'n cael ei sbarduno gan ddiogelwch yn parhau.

Mae cyfanswm o 11 newid wedi'u nodi ers hydref 2025, gyda'r mwyafrif yn deillio o'r arolygiadau parhaus o domenni categori A a ddechreuodd yng ngwanwyn 2025. Dyma'r tro cyntaf i’r rhan fwyaf o domenni categori A gael eu harolygu gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae newidiadau i'r Set Ddata Genedlaethol hefyd yn deillio o wybodaeth a gofnodwyd y tu allan i arolygiadau rheolaidd. Er enghraifft, pan fydd awdurdod lleol yn rhoi gwybod am newid i domen, neu os caiff rhywbeth ei weld ar domen gyfagos wrth gynnal arolygiad. Caiff pob newid a awgrymir ei ddilysu gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio cyn cael ei gynnwys yn y Set Ddata Genedlaethol er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gadarn, yn gywir ac yn addas at y diben.

Gellir dod o hyd i grynodeb o'r newidiadau a nodwyd dros y cyfnod arolygu diweddaraf hwn mewn tabl yn Atodiad 1 o'r datganiad hwn.

Yn yr un modd â'r diweddariadau blaenorol, cyflwynir y data gan ddefnyddio'r map ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru a thrwy blatfform MapDataCymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu gwybodaeth gryno am newidiadau ar ei gwefan. Mae llyfryn o fapiau sy'n darparu rhagor o wybodaeth am newidiadau i'r diweddariad ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon.