Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i nodi unrhyw risgiau i ddiogelwch y cyhoedd o tomenni glo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae’r diwydiant mwyngloddio wedi siapio Cymru. Mae wedi mowldio ein cymunedau a phweru ein heconomi am genedlaethau. Mae hefyd wedi gadael ei ôl ar ein tirwedd. 

Roedd tirlithriadau yn nhomenni glo nas defnyddir yn Tylorstown yn 2020 a Chwmtyleri yn 2024 wedi cyrraedd y penawdau a chynyddu pryderon mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'r rhan fwyaf o domenni glo nas defnyddir yng nghymoedd de Cymru, ond mae'r mater hwn hefyd yn effeithio ar rannau eraill o'r wlad hefyd.

Wrth i effaith newid hinsawdd wneud digwyddiadau tywydd eithafol yn fwy pwerus ac yn amlach, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Rhaglen waith

Rydym eisoes yn gweithio'n galed i gadw tomenni glo nas defnyddir yn ddiogel. Mae gan Lywodraeth Cymru raglen genedlaethol o reoli tomenni, sy'n cynnwys: 

  • Arolygu, monitro a chynnal a chadw tomenni nas defnyddir ledled Cymru yn rheolaidd.  Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i wneud hyn. 
  • Ariannu awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith pwysig i gadw tomenni’n ddiogel – gan gynnwys tomenni preifat. 
  • Cyhoeddi gwybodaeth a mapiau o domenni glo, fel y gall pobl weld ble maen nhw a pha mor aml maen nhw'n cael eu harchwilio.

Perchnogion y tomenni sy’n gyfrifol amdanynt o hyd, ond mae Llywodraeth Cymru yn helpu.

Daeth Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yn gyfraith ym mis Medi 2025. 

Bydd y ddeddfwriaeth hon sydd wedi’i moderneiddio yn sicrhau bod tomenni nas defnyddir yn cael eu rheoli’n effeithiol yn y tymor hir ac yn lleihau risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Categorïau tomenni glo

Mae tomenni glo nas defnyddir wedi cael categorïau dros dro. Mae’r categorïau’n dangos pa domenni y gallai fod angen eu harchwilio'n amlach er mwyn asesu draenio a sefydlogrwydd.
Mae’r categorïau’n ystyried llawer o wahanol ffactorau sy’n cael eu hasesu gan arbenigwyr technegol. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys:

  • Maint a geometreg
  • Peryglon posibl
  • Derbynleoedd posibl
  • Hanes y safle
  • Unrhyw seilwaith cysylltiedig
  • Gofynion archwilio a monitro

Categori D

Tomen â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd – i’w harchwilio o leiaf ddwywaith y flwyddyn

Categori C

Tomen â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd – i’w harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn

Categori B    

Tomen nad yw’n debygol o effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd

Categori A

Tomen y mae’n annhebygol iawn y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd

Categori R    

Tomen y mae’n annhebygol iawn y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd. Mae’n bosibl ei fod wedi cael ei symud neu fod rhywbeth wedi’i adeiladu drosti

Cyllid

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol, yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio a Cyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd a gwaith ar domenni nas defnyddir, drwy’r cynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo.

Ym mis Ionawr 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y buddsoddiad uchaf erioed mewn diogelwch tomenni glo drwy gynllun grant Tomenni Glo amlflwyddyn newydd. Bydd Cam 1 y grant yn dyrannu dros £80m o gyllid i 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru o 2026-27, tan 2028-29. Bydd yn galluogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ar dros 400 o domenni rhwng nawr a 2029 a bydd yn galluogi partneriaid cyhoeddus i gynllunio, datblygu a chyflwyno cynlluniau mwy cymhleth. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £100 miliwn mewn diogelwch tomenni glo ers 2020. Gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, bydd cyfanswm buddsoddiad o £230 miliwn nid yn unig yn cefnogi'r rhai sy'n byw yng nghysgod y tomenni ond hefyd yn dod â chyfleoedd cyflogaeth a'r potensial ar gyfer defnydd hamdden cymunedol ar gyfer safleoedd.

Archwiliadau a gwaith cynnal a chadw

Mae llawer o waith wedi cael ei wneud ers mis Chwefror 2020 i nodi statws pob tomen a gwneud gwaith cynnal a chadw.

Gofynnwyd i'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio archwilio tomenni glo categori C unwaith y flwyddyn a chategori D ddwywaith y flwyddyn. Yn 2024, cwblhaodd yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yr archwiliadau o bob tomen categori B. Yn 2025, yn ogystal â'r archwiliadau rheolaidd o domenni categori C a D, dechreuodd raglen o archwiliadau ar bob tomen categori A. 

Disgwylir iddi gymryd tua dwy flynedd i gwblhau'r rhaglen hon. Mae archwiliadau yn helpu i nodi unrhyw waith cynnal a chadw sydd angen ei wneud. 

Awdurdodau lleol sy'n gwneud y gwaith cynnal a chadw a nodir gan yr archwiliadau. 

Treialon technoleg

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu treialon technoleg mewn tomenni glo gradd uwch addas. Nod y rhain yw nodi technolegau a allai gyfrannu at reoli tomenni glo nas defnyddir yn ddiogel ac yn effeithiol. 

Mae'r treialon yn ymdrin â mwy na 100 o safleoedd yng Nghymru. Bydd canlyniadau'r treialon yn cael eu hadolygu wrth iddynt gael eu cwblhau.

Data tomenni glo

Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fapiau a oedd yn cynnwys lleoliad tomenni glo nas defnyddir categori C a D. Yna, cyhoeddwyd mapiau a oedd yn cynnwys lleoliad tomenni glo categori A, B ac R ym mis Mawrth 2024. Unwyd y mapiau hyn ym mis Mai 2025 i greu un map sy'n dangos yr holl domenni glo nas defnyddir o bob categori ledled Cymru. 

Gweld lleoliadau tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru

Tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru,  gwanwyn 2026
Awdurdod lleolCategori
D
Categori
C
Categori
B
Categori
A
Categori
R
Cyfanswm
Blaenau Gwent61540599129
Pen-y-bont ar Ogwr639361026189
Caerffili74669798209
Caerdydd12148025
Sir Gaerfyrddin01585853170
Sir y Fflint001940665
Ynys Môn0037010
Merthyr Tudful154530301121
Sir Fynwy21078027
Castell-nedd Port Talbot132916338530620
Sir Benfro01655062
Powys01207331
Rhondda Cynon Taf29561108948332
Abertawe053812342208
Torfaen629814910175
Wrecsam042010785216
Cyfanswm y categori8528371412063012589
  1. Nid oes unrhyw domenni glo nas defnyddir wedi'u cofnodi yng Ngheredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Casnewydd na Bro Morgannwg.
  2. Gall ffigurau newid o ganlyniad i archwiliadau a gwaith asesu parhaus.

Diweddariadau i ddata tomenni glo

Mae angen cyhoeddi gwybodaeth wedi'i diweddaru er mwyn adlewyrchu newidiadau a nodir gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio pan fydd yn archwilio unrhyw domenni glo nas defnyddir. Gall gwybodaeth wedi'i diweddaru cynnwys: 

  • tomenni glo nas defnyddir sydd wedi'u cofnodi am y tro cyntaf
  • diwygiadau i ffiniau rhai tomenni sydd eisoes wedi'u cofnodi
  • rhai tomenni y mae eu sgôr categori wedi newid
  • rhai tomenni y nodwyd nad ydynt yn bodoli mwyach neu a ddosbarthwyd yn anghywir fel tomenni glo nas defnyddir.

Caiff diweddariadau o'r set ddata tomenni glo nas defnyddir eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Cyhoeddir diweddariad y gwanwyn ar ôl i'r rhaglen o archwiliadau a gynhelir yn ystod y gaeaf (tomenni categori C a D) gael ei chwblhau a chyhoeddir diweddariad yr hydref ar ôl i archwiliadau a gynhelir yn ystod yr haf (tomenni categori D) gael eu cwblhau.

Rhoddir manylion y tomenni lle mae newidiadau wedi'u nodi yn y llyfryn o ddiweddariadau.

Mae'r tabl isod yn rhoi crynodeb o'r newidiadau a nodwyd yn ystod cyfnod archwiliadau'r gaeaf 2025/26. Dylid nodi bod y tabl yn cynnwys newidiadau a nodwyd o raglen yr archwiliadau categori A a ddechreuodd yn wanwyn 2025.

Dyma'r tro cyntaf y bydd y rhan fwyaf o domenni categori A wedi'u harchwilio gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ar ran Llywodraeth Cymru.  Gall arolygiadau ar y safle ddatgelu gwybodaeth newydd a allai olygu bod sgôr neu ffin tomenni glo nas defnyddir yn cael ei adolygu neu nad yw'n cynnwys sborion glo.

Crynodeb o Ddiweddariadau i Ddata
Math o Newid Categori D   Categori C   Categori B Categori A Categori RCyfanswm 
Symudwyd Tomen 001000
Tomen Newydd 000000
Newid Categori005000
Diweddariad i Ffin030200
Newid Categori a Diweddariad i Ffin000000

*O dan y gyfundrefn bresennol o archwiliadau a gwaith cynnal a chadw, ni chaiff sgoriau categori tomenni glo nas defnyddir eu lleihau. Diben hyn yw sicrhau bod pob tomen lo nas defnyddir yn cael ei monitro yn unol â'r sgôr categori gwreiddiol (lle mae'r sgôr wreiddiol honno yn uwch). Er enghraifft, caiff tomen categori C yr ailasesir ei bod yn perthyn i gategori B ei dangos o hyd fel tomen categori C a bydd yn cael archwiliad blynyddol fel y byddai tomen categori C yn ei gael.

Diwygio polisïau a deddfwriaeth

Mae diogelwch tomenni glo wedi’i ddatganoli i Gymru. Y ddeddfwriaeth ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yw Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969. Mae hon yn dyddio’n ôl i’r adeg pan oedd y diwydiant glo yn weithredol.

Yn 2020, gofynnodd Gweinidogion Cymru i Gomisiwn y Gyfraith  adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol ar domenni glo nas defnyddir.

Roedd yn cynnwys ymgynghoriad o fis Mehefin i fis Medi 2021. Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ganlyniadau'r ymgynghoriad a'i argymhellion ym mis Mawrth 2022.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer trefn newydd ar 11 Mai 2022 yn y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru). Mae'r cynigion yn adeiladu ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 4 Awst 2022 a gwnaethom gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ym mis Tachwedd 2022.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb interim i adolygiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Medi 2022, a'i hymateb manwl ym mis Mawrth 2023. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o argymhellion Comisiwn y Gyfraith, neu eu derbyn ar ffurf wedi'u haddasu. Mae'r ymateb yn rhoi trosolwg o ddull arfaethedig Llywodraeth Cymru, a'i hymateb i bob un o'r argymhellion. 

Ym mis Gorffennaf 2025, pasiodd y Senedd Fil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) Llywodraeth Cymru. Cafodd y Bil ei selio yn swyddogol mewn seremoni yn Big Pit Blaenafon ar 11 Medi 2025.

Bydd y gyfraith fodern yma'n sicrhau bod hen domenni glo yn cael eu rheoli yn effeithiol yn y tymor hir, ac yn lleihau'r risg i'r cyhoedd. Bydd y Bil yn sefydlu corff cyhoeddus newydd, Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru, a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir. Bydd yr Awdurdod newydd yma'n cael ei sefydlu ym mis Ebrill dwy fil a dau ddeg saith (2027). Bydd cyfrifoldebau'r Awdurdod yn cael eu hymgorffori yn y gyfraith a byddant yn ffurfioli'r gwaith presennol a wneir gan yr Awdurdod Adfer Mwyngloddio, gan baratoi'r ffordd fel rhan o ymrwymiad cenhedlaeth i ddiogelwch tomenni.

Yn ogystal, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Ddeddf, gan gynnwys ei nodau a'i hamcanion, crynodeb o'i darpariaethau a'r Asesiad Effaith Integredig a gefnogodd ddatblygiad y Bil ar ein tudalen ar y Bil.

Yn y cyfamser, mae rhaglen waith diogelwch tomenni glo Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddi ac yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i drefnu prosesau archwilio a threfn gwaith cynnal a chadw effeithiol ledled Cymru.

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer perchnogion tir

Os ydych yn bod gennych domen glo nas defnyddir darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer perchnogion tir.  

Darllen pellach