Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y map hwn i ddod o hyd i domenni glo segur a'u categoreiddio diogelwch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Map

Mae'r map hwn yn dangos lleoliad a ffiniau yr holl domenni glo segur categori C a D yng Nghymru. 

Fe'i cyhoeddwyd fel bod aelodau'r cyhoedd yn ymwybodol o ble mae tomenni glo segur, a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn ei wneud mewn perthynas â diogelwch tomenni glo. 

Gellir gweld map yn dangos lleoliad a ffiniau’r holl domenni glo nas defnyddir yng Nghategorïau A, B ac R yng Nghymru ar Map Data Cymru.

Allwedd

Categorïau Tomenni Glo Segur

Image
Tomenni glo segur categori C

Categori C

 

Image
Tomenni glo segur categori D

Categori D

 

Mae manylion y categorïau ar gael yma.

Mae'r Map Lleoliad Tomenni Glo segur yn adlewyrchu'r wybodaeth sydd ar gael ar 14 Tachwedd 2023. Bydd y map hwn yn cael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd i adlewyrchu unrhyw newidiadau.

Mae pob tomen lo wedi cael rhif adnabod unigryw (UID) er hwylustod cyfeirio. Mae tomenni yn cael eu lliwio yn wahanol yn ôl sgôr categori y domen (gweler y geiriad o dan y map).

Mae ffiniau tomen i'w gweld ar raddfa o 1:25,000. Ystyrir mai hon yw'r raddfa fwyaf priodol i ddangos lleoliad tomenni yng nghyd-destun eu hardal leol o fewn cyfyngiadau hawlfraint presennol.

Crëwyd graddau'r tomenni o sawl ffynhonnell gan gynnwys mapio uchder, awyrluniau a mapiau hanesyddol.

Mae'r data hwn yn cynnwys gwybodaeth sydd o dan hawlfraint ac sydd at ddefnydd personol yn unig. Ni ellir ei ddefnyddio at ddibenion masnachol.

Llywio

Cliciwch a llusgo yn ffrâm y map i symud y map o gwmpas. 

Defnyddiwch y botymau +- i chwyddo i mewn neu allan.

Cliciwch o fewn ardal tomen i weld manylion ar gyfer y domen honno, gan gynnwys ei rif adnabod unigryw (UID), sgôr categori, a'r awdurdod lleol perthnasol.

Datrys Problemau

Disgwylir i'n mapiau gwe digidol ar-lein o'r tomenni glo nas defnyddir fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Os nad yw'r map yn gweithio, efallai y byddwch am wirio eich cysylltiad â’r rhyngrwyd a/neu ddefnyddio porwr rhyngrwyd gwahanol. Os yw'r problemau'n parhau, gallai fod oherwydd toriad annisgwyl yn y gwasanaeth neu fod llawer o bobl yn defnyddio'r wefan ar yr un pryd, felly gallech roi cynnig arall arni yn nes ymlaen.  Os yw'r problemau'n parhau, cysylltwch â ni.