Neidio i'r prif gynnwy

Mater

  1. Mae'r papur yn nodi cynnwys trafodaeth a chanfyddiadau'r Is-grŵp Gwaith Teg a gafodd ei greu gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i archwilio cynigion ar gyfer ymyriadau gwaith teg mewn grantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau.

Cefndir

  1. Ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ystyried papur undeb llafur yn gwneud cynigion eang ynghylch defnyddio cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaith teg. Yn y cyfarfod canlynol ym mis Medi, cytunodd y Cyngor yn fwy penodol i greu is-grŵp i ystyried gwaith teg mewn grantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau. 
     
  2. Cafodd yr is-grŵp ei gynnull ar sail grŵp gorchwyl a gorffen a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr undebau llafur a sefydliadau cynrychioliadol busnes gyda threfniadau cadeirio ar y cyd o bob grŵp. Penderfynwyd mai swyddogaeth yr is-grŵp oedd gweithio ar y cyd i:
  • adolygu'r dull presennol o ymdrin â gwaith teg yng ngrantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau, fel y'i cyflawnir drwy'r Contract Economaidd
  • ystyried dull ystyrlon ac effeithiol o hyrwyddo gwaith teg yng ngrantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau sy'n rhesymol ac yn gymesur, sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, amodoldeb, ac sy'n ystyriol o'r amgylchedd polisi a rheoleiddio ehangach
  • gwneud argymhellion i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol eu hystyried wrth roi cyngor i Weinidogion Cymru 
  1. Mae'r adroddiad yn cyflawni’r swyddogaeth fel y’i pennwyd gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac y’i nodwyd yn y cylch gorchwyl.  

Argymhelliad

  1. Gwahoddir yr aelodau i gytuno ar yr adroddiad.

Y camau nesaf

  1. Ar ôl cael cytundeb, bydd Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn rhoi cyngor ffurfiol i Weinidogion Cymru.

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion EDI arwyddocaol.