Caethwasiaeth fodern: gwasanaethau ac adnoddau iechyd a lles
Cyngor i helpu gweithwyr proffesiynol i ddarparu cymorth i bobl sydd â phrofiad bywyd o gaethwasiaeth fodern a chamfanteisio yng Nghymru gyda'u hanghenion iechyd a lles.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nod
Mae'r adnoddau hyn yn darparu gwybodaeth ar sut i gael gafael ar gymorth iechyd a lles mewn perthynas â dioddefwyr a goroeswyr camfanteisio.
Cefndir
Ystyr caethwasiaeth fodern yw camfanteisio ar bobl er budd personol neu fasnachol. Mae'n cael effaith ddifrifol ar iechyd a lles dioddefwyr a goroeswyr. Mae'n hanfodol bod pobl sydd â phrofiad bywyd o gamfanteisio yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd a lles. Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, gan gynnwys masnachu pobl, llafur gorfodol a chamfanteisio.
Gall pobl o bob cefndir brofi caethwasiaeth modern a chamfanteisio. Dinasyddion Prydeinig yw’r mwyafrif o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yng Nghymru, ynghyd â phobl o lawer o wahanol wledydd. Yng Nghymru, fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2024) sydd ar ei newydd wedd, rydym wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa. Man lle mae pobl sydd wedi profi trawma, gan gynnwys goroeswyr caethwasiaeth fodern, yn cael eu trin ag urddas a'u cefnogi i ailadeiladu eu bywydau.
Mae ymchwil a gomisiynwyd gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth ar Gaethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol (‘Placing Survivor Wellbeing on the Policy and Evidence Map’) yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymorth seicolegol i oroeswyr caethwasiaeth fodern. Mae pobl sydd â phrofiad bywyd o gamfanteisio yn dibynnu'n helaeth ar strategaethau ymdopi unigol a gwytnwch personol i ymdopi â sbardunau a gofid cyffredinol. Felly, gall mynediad at gymorth a chefnogaeth chwarae rôl allweddol ac mae ystod o sefydliadau ac adnoddau cymunedol yn bwysig ar gyfer lles meddyliol goroeswyr.
Yng Nghymru, mae sefydliadau amrywiol yn darparu cymorth arbenigol i oroeswyr caethwasiaeth fodern. Mae oedolion sy'n dioddef caethwasiaeth fodern yn cael eu cefnogi'n bennaf trwy Gontract Gofal a Chydlynu Dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern (MSVCC). Dyma gontract y Swyddfa Gartref, sydd wedi'i is-gontractio yng Nghymru gan Fyddin yr Iachawdwriaeth i Bawso. Elusen gofrestredig yw Bawso sy'n darparu cymorth i oedolion sy'n dioddef caethwasiaeth fodern a'u dibynyddion. Mae'r MSVCC yn darparu cymorth, gan gynnwys cymorth meddygol a chymorth seicolegol, i bobl sydd wedi cael eu cyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern. Mae cymorth hefyd yn cael ei ddarparu i oroeswyr ar ôl iddynt adael yr NRM, a elwir yn Reach-in Support. Gallwch gael gwybodaeth fanylach am hyn yn y Canllawiau Statudol ar Gaethwasiaeth Fodern ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae'r cymorth a ddarperir yn cynnwys:
- llety diogel (lle bo angen)
- cymorth ymarferol a chyngor
- gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
- cymorth ariannol
- gofal iechyd i ddiwallu anghenion iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol.
- cyngor cyfreithiol arbenigol
- addysg i blant dibynnol oedran ysgol
- cludiant i apwyntiadau pwysig
- cymorth i gynllunio'r dyfodol
Mae cymorth i blant sy'n dioddef caethwasiaeth fodern yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol. Mae hyn yn ychwanegol at wasanaeth arbenigol y Warcheidiaeth Masnachu Plant Annibynnol (ICTG) a ddarperir gan Ganolfan Gwrth-Fasnachu Genedlaethol Barnardo’s.
Gwasanaethau ac adnoddau sy'n canolbwyntio ar gefnogi dioddefwyr a goroeswyr caethwasiaeth fodern
Llwybr Diogelu Caethwasiaeth Fodern Cymru
Mae Llwybr Diogelu Caethwasiaeth Fodern Cymru yn disgrifio beth i'w wneud os byddwch yn dod ar draws dioddefwr caethwasiaeth fodern posibl. Mae dilyn y Llwybr hwn yn sicrhau bod y cymorth priodol yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar anghenion unigol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau awdurdodau lleol, a gwasanaethau arbenigol yn ôl yr angen.
Bawso
Mae Bawso yn cyflawni’r contract Gofal a Chydlynu Dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern yng Nghymru fel y disgrifir uchod. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys tai diogel i ddynion a menywod yn ogystal â gwasanaeth allgymorth Cymru gyfan sy'n gweithio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae Bawso yn cefnogi goroeswyr sydd wedi cael eu cyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol. Mae Bawso yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, asiantaethau iechyd ac asiantaethau partner eraill i gefnogi a diogelu goroeswyr. Mae gweithwyr cymorth Bawso yn gweithio gyda goroeswyr i greu cynlluniau cymorth unigol. Mae Bawso hefyd yn Ymatebwr Cyntaf ac yn cyflwyno ceisiadau Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol pan fyddant yn nodi dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern.
Barnardo's: Gwasanaeth Gwarcheidiaeth Masnachu Plant Annibynnol
Mae Canolfan Gwrth-Fasnachu Genedlaethol Barnardo's yn darparu cymorth i blant sydd wedi cael eu masnachu. Bydd plant sydd â phrofiad bywyd o gamfanteisio yn cael gweithiwr cymorth sydd wedi'i hyfforddi ac sy'n deall bod plant sy'n ddioddefwyr masnachu yn arbennig o agored i niwed a bod angen cymorth arnynt sy’n benodol i'w hanghenion.
Mae Barnardo's yn rhedeg y gwasanaeth Gwarcheidiaeth Masnachu Plant Annibynnol (ICTG) yng Nghymru a Lloegr o dan gontract y Swyddfa Gartref. Mae'r gwasanaethau yn ceisio:
- meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth gyda phlant sydd wedi eu masnachu i'w helpu i adeiladu dyfodol cadarnhaol
- helpu plant i lywio'r systemau cyfiawnder troseddol, mewnfudo a gofal cymdeithasol
- rhoi cymorth ymarferol, megis help gyda thai, anghenion meddygol ac addysg
- rhoi cymorth emosiynol a seicolegol
- hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant fel y gallant adnabod arwyddion masnachu a gwybod sut i gefnogi plant sydd wedi eu masnachu
Yng Nghymru a Lloegr, mae'r Gwarcheidiaeth Masnachu Plant Annibynnol (ICTG) yn ffynhonnell gyngor annibynnol i blant sydd wedi eu masnachu. Rhywun sy'n gallu siarad ar eu rhan a gweithredu er budd gorau'r plentyn.
Mae Gwarcheidiaid yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant nad oes ganddynt rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant drostynt yn y DU. Maen nhw’n cwrdd â phlant wyneb yn wyneb i feithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth i'w cefnogi trwy'r systemau a'r prosesau cymhleth sy’n eu hwynebu, gan helpu plant i adeiladu dyfodol cadarnhaol a diogel.
Mae Gwarcheidiaid Masnachu Plant Annibynnol yn gweithio'n anuniongyrchol gyda phlant sydd â rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant drostynt yn y DU. Mewn rhai achosion, mae'r Gwarcheidiaid hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r plant hyn. Mae Gwarcheidiaid Masnachu Plant Annibynnol yn cefnogi'r gweithwyr proffesiynol sy'n gwneud penderfyniadau am eu bywydau trwy ddarparu cyngor, arweiniad a her broffesiynol i sicrhau bod pob gweithred ar gyfer y plant er eu budd gorau bob amser.
Mae'r gwasanaeth yn teilwra cymorth i anghenion plant, ac yn gwrando ar yr hyn y mae plant yn ei ddweud, gan weithredu ar eu barn a'u safbwyntiau.
Bwriad cyfranogiad Gwarcheidiaid Masnachu Plant Annibynnol drwy gydol y broses o wneud penderfyniadau yw sicrhau bod y plentyn yn cael ei amddiffyn rhag niwed pellach, atal erledigaeth ailadroddus, ail-fasnachu neu fynd ar goll pellach, a hyrwyddo adferiad y plentyn.
Mae'r Gwarcheidiaid yn annibynnol ar awdurdodau sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau am y plentyn. Os yw'r ymatebwr cyntaf yn ystyried bod plentyn yn ddioddefwr posibl caethwasiaeth fodern, dylent eu cyfeirio at y gwasanaeth Gwarcheidiaid Masnachu Plant Annibynnol trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio Gwarcheidiaeth Masnachu Plant Annibynnol ar-lein.
Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio
Mae'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio ar waith 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'n rhad ac am ddim i'w defnyddio, ar gael mewn 200 a mwy o ieithoedd, ac yn gyfrinachol. Mae Cynghorwyr y Llinell Gymorth yno i gynnig cymorth a chyngor, nid yn unig i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern, ond i'r cyhoedd, busnesau ac asiantaethau statudol fel yr heddlu, y GIG a llywodraeth leol. Mae'r Llinell Gymorth yn cael ei darparu gan yr elusen gwrth-gaethwasiaeth Unseen. Os oes angen help arnoch, os oes gennych bryderon, neu os oes angen cyngor arnoch, ffoniwch 08000 121 700.
Gwasanaethau ac adnoddau sy'n darparu cymorth iechyd a lles cyffredinol
Llinell gymorth Byw Heb Ofn
Mae'r llinell gymorth hon yn darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hefyd yn darparu cymorth a chefnogaeth i'r rhai sy'n profi neu'n adnabod rhywun sy'n profi caethwasiaeth fodern. Gellir cysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth am ddim neu i drafod opsiynau. Gallwch gysylltu â'r llinell gymorth dros y ffôn a thestun ar 0808 8010800 yn ogystal ag ar-lein.
Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol
Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) yn darparu cymorth cyfrinachol, arbenigol i unrhyw un sydd wedi cael ei dreisio, sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu sydd wedi cael ei gam-drin. Maen nhw’n cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys gofal mewn argyfwng, archwiliadau meddygol a fforensig, atal cenhedlu brys, cymorth emosiynol a phrofion ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Gallant hefyd drefnu mynediad at gynghorydd trais rhywiol annibynnol (ISVA), yn ogystal ag atgyfeiriadau at gymorth iechyd meddwl a gwasanaethau cymorth trais rhywiol yn y sector gwirfoddol. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru wedi datblygu animeiddiad i helpu i esbonio beth sy'n digwydd mewn canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol a'r math o gymorth a chefnogaeth y gall rhywun ei ddisgwyl.
111 Pwyso 2
Os oes angen i rywun siarad â rhywun ar frys am ei iechyd meddwl, neu os yw’n poeni am aelod o'r teulu, gall ffonio 111 a phwyso OPSIWN 2. Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru er mwyn sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno'n gyflym pan fydd ei angen fwyaf.
Bydd 111 Opsiwn 2 yn rhoi pobl mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eu hardal. Gellir ffonio’r rhif yn rhad ac am ddim o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gan rywun gredyd ar ôl ar ei ffôn.
Mae 111 Opsiwn 2 hefyd yn darparu amrywiaeth o gymorth iechyd meddwl a lles.
CALL
CALL (Llinell Gyngor a Gwrando Cymunedol) yw’r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru ac mae ar gael 24 awr y dydd i wrando a darparu cymorth – gan gynnwys unrhyw un sy'n ddioddefwr caethwasiaeth fodern. Mae CALL yn defnyddio'r gwasanaeth cyfieithu Language Line i gefnogi galwyr na allant siarad (neu sy’n well ganddynt beidio â siarad) Cymraeg neu Saesneg. Ffoniwch 0800 132 737 neu e-bostiwch: call@helpline.wales
DAN 247: Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, a elwir hefyd yn DAN yn llinell gymorth ffôn ddwyieithog 24/7 am ddim sy'n darparu un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno rhagor o wybodaeth a/neu help yn ymwneud â chyffuriau a/neu alcohol. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Bydd y llinell gymorth yn cynorthwyo unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr, a gweithwyr cymorth ym maes cyffuriau ac alcohol i gael gafael ar wasanaethau lleol a rhanbarthol priodol.
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion: Anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD)
Mae taflen sydd wedi'i pharatoi gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ar ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig (sy'n cynnwys gwybodaeth i unrhyw un sydd wedi profi digwyddiad trawmatig, neu sy'n adnabod rhywun sydd wedi), a hefyd taflen ar Anhwylder Straen Ôl-drawmatig.
Maent hefyd yn darparu cyngor ynghylch Cyfieithiadau o'u gwybodaeth iechyd meddwl.
Sefydliad Iechyd y Byd
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datblygu canllaw hunangymorth "Doing What Matters in Times of Stress”. Mae hwn wedi'i ddatblygu ar gyfer cymunedau yr effeithir arnynt gan adfyd ac mae wedi'i gyfieithu i sawl iaith. Mae “Doing What Matters in Times of Stress: An Illustrated Guide” yn ganllaw ar reoli straen ar gyfer ymdopi ag adfyd. Nod y canllaw yw arfogi pobl â sgiliau ymarferol i helpu i ymdopi â straen. Mae ychydig funudau bob dydd yn ddigon i ymarfer y technegau hunangymorth. Gellir defnyddio'r canllaw ar ei ben ei hun neu gyda'r ymarferion sain sy'n cyd-fynd â'r canllaw. Wedi'i lywio gan dystiolaeth a phrofion maes helaeth, mae'r canllaw ar gyfer unrhyw un sy'n profi straen, ble bynnag y maen nhw’n byw a beth bynnag fo'u hamgylchiadau.
Hyb ACE Cymru
Mae Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru wedi datblygu nifer o adnoddau sy'n esbonio effeithiau bod yn agored i ddigwyddiadau trallodus. Mae'r adnoddau'n cynnwys canllaw byr i ddeall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac Animeiddiad Llywio'r Storm.
Mae Hwb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru wedi datblygu Fframwaith Cymru sy'n ystyiol o Drawma fel cyd-gynhyrchiad gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru a chaiff ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Fframwaith yn sefydlu sut mae unigolion, teuluoedd/rhwydweithiau cymorth eraill, cymunedau, sefydliadau a systemau'n ystyried adfyd a thrawma, gan gydnabod a chefnogi cryfderau unigolyn i oresgyn y profiad hwn yn ei fywyd. Mae hefyd yn nodi'r cymorth y gallant ddisgwyl ei gael gan y sefydliadau, y sectorau a'r systemau y gallent droi atynt am gymorth. Mae'n cynnwys pobl o bob oedran, o fabanod, plant a phobl ifanc hyd at oedolion hŷn.
Mae ACE Hub Wales wedi datblygu cwrs e-ddysgu ar ACEs ac Ymarfer Sy'n Ystyriol o Drawma yng Nghymru. Wrth gyfeirio at Fframwaith Cenedlaethol Cymru sy'n Ystyriol o Drawma, ystyrir bod y cwrs ar-lein hwn ar lefel "ymwybodol o drawma".
Pecyn cymorth Straen Trawmatig Cymru
Mae pecyn cymorth wedi'i ddatblygu gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) y gellir ei ddefnyddio'n uniongyrchol gan bobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig. Mae hwn ar gael mewn dros 20 o ieithoedd gwahanol ac mae ar gael ar wefan Straen Trawmatig Cymru. Y defnydd delfrydol o hyn fyddai i unigolyn fynd trwy'r ymarferion gydag aelod o staff dibynadwy ac yna cael copi o'r llyfryn i barhau i ymarfer yr ymarferion ar adegau o drallod.
Mind Cymru
Mae Mind yn elusen iechyd meddwl allweddol sy'n cefnogi pobl ledled Cymru, gan gynnig cwnsela, adnoddau ymarferol a chymorth lles arbenigol trwy ei rwydwaith o 15 Mind lleol. Yn fewnol, mae cydweithwyr wedi tynnu sylw at Mind Cymru fel sefydliad pwysig i'w gynnwys mewn deunyddiau lles a diogelu oherwydd hygyrchedd ac ehangder ei wasanaethau.
Noddfa
Crëwyd y wefan hon gan Lywodraeth Cymru i helpu ceiswyr noddfa yng Nghymru i ddeall eu hawliau, a gellir defnyddio'r wefan mewn llawer o ieithoedd gwahanol. Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth am ardaloedd lleol yng Nghymru, tai, addysg, iechyd a lles, swyddi, arian, cadw'n ddiogel, a chyfraith lloches.
Meic
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O ddod o hyd i’r hyn sydd ar y gweill yn eich ardal leol i help i ddatrys sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd neb arall yn gwneud hynny. Fydd Meic ddim yn eich beirniadu a bydd yn eich helpu drwy roi gwybodaeth a chyngor defnyddiol i chi a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud newid.
Ffoniwch 0808 80 23456 neu gallwch gysylltu drwy WhatsApp neu decstio 07943 114 449. Mae llinellau cymorth ar agor 8am-hanner nos.
Shout
Mae Shout yn wasanaeth testun 24/7, am ddim ar bob rhwydwaith symudol mawr, i unrhyw un sydd mewn argyfwng, unrhyw bryd, unrhyw le. Mae’n fan y gallwch fynd os ydych chi’n cael trafferth ymdopi ac angen cymorth ar unwaith. Tecstiwch 85258 am gymorth ar unwaith.
Y Samariaid
Gallwch gael mynediad at gefnogaeth emosiynol gyfrinachol ar unrhyw adeg gan y Samariaid naill ai drwy e-bostio neu drwy ffonio 116 123.
Childline
Mae Childline yn wasanaeth rhad ac am ddim, preifat a chyfrinachol y gallwch ei ddefnyddio ar-lein ac ar y ffôn. Gallant ddarparu cymorth a chefnogaeth i bobl hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed.
Sefydliadau lleol a rhanbarthol ychwanegol
Mae nifer o sefydliadau ac elusennau trydydd sector lleol a chenedlaethol sy'n darparu gwasanaethau cymorth rheng flaen i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern. Yn aml gellir darparu’r cymorth mewn sawl iaith gymunedol.
Dewis Cymru
Cronfa ddata ar-lein o wasanaethau iechyd a lles ledled Cymru yw Dewis Cymru. Gallwch chwilio'r gronfa ddata am sefydliadau cymunedol a all gynnig cymorth a chefnogaeth.
Mae rhai enghreifftiau o sefydliadau lleol wedi'u cynnwys isod.
EYST
Sefydlwyd EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru) yn 2005 gan grŵp o bobl ifanc ethnig leiafrifol yn Abertawe. Mae EYST yn darparu gwasanaeth cymorth wedi'i dargedu, diwylliannol sensitif a chyfannol i ddiwallu anghenion pobl ifanc BME 11 i 25 oed. Ers hynny, mae EYST wedi ehangu ei genhadaeth a'i weledigaeth i ddiwallu anghenion pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion BME gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghymru. Mae'n gwneud hyn trwy ddarparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys addysg, cyflogaeth, iechyd, cymorth i deuluoedd a diogelwch cymunedol.
Gwasanaeth Gofal a Lles Cymunedol (Caerdydd)
Mae CCAWS yn elusen iechyd meddwl leol yng Nghaerdydd sy'n cefnogi cymunedau amrywiol Caerdydd a De-ddwyrain Cymru. Nod CCAWS yw helpu i wella lles meddyliol pawb sy'n cael mynediad at ei wasanaethau.
Hwb Iechyd Meddwl a Lles Diverse Cymru
Mae Diverse Cymru yn cynnig cefnogaeth, gwasanaeth a chyngor i bobl Ddu Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ledled Cymru sy'n cael eu heffeithio gan salwch meddwl.
Cymorth Iechyd Meddwl Du Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Mae BMHS yn sefydliad nid-er-elw sy'n canolbwyntio ar addysg ac eiriolaeth i ysbrydoli cymuned Ethnig Leiafrifol iach yn feddyliol trwy ddarparu cymorth sy'n briodol i'w hiechyd meddwl a'u lles.
New Pathways
New Pathways yw'r darparwr cymorth trais rhywiol mwyaf yng Nghymru. Maen nhw’n darparu cymorth therapiwtig arbenigol i oedolion a phlant yr effeithir arnynt gan drawma treisio, ymosodiad rhywiol neu gam-drin rhywiol.
Cymdeithas y Plant
Mae Cymdeithas y Plant wedi neilltuo 100 mlynedd a mwy i amddiffyn gobeithion plant sydd dan fygythiad camdriniaeth, camfanteisio ac esgeulustod. O'i ddechreuadau cynnar, mae'r sefydliad wedi parhau i fod yn ymrwymedig i'w genhadaeth o drawsnewid bywydau pobl ifanc ledled y wlad. Mae ei waith yn parhau i ymdrechu tuag at greu cymdeithas sy'n cefnogi ac yn grymuso pob plentyn.
St Giles
Mae St Giles yn helpu pobl sy'n cael eu dal yn ôl gan dlodi, diweithdra, y system cyfiawnder troseddol, digartrefedd, camfanteisio a cham-drin i adeiladu dyfodol cadarnhaol.
Mae St Giles yn elusen genedlaethol sy'n defnyddio profiadau bywyd go iawn yn y gorffennol i ddarparu cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth i bobl sy'n wynebu heriau heddiw.
Action for Children
Mae Action for Children yn elusen ledled y DU sy'n ymroddedig i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed.
