Neidio i'r prif gynnwy

Pwrpas

Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu datblygu i helpu awdurdodau lleol i fabwysiadu arferion cyson, teg a thryloyw wrth weinyddu, casglu a gorfodi’r Dreth Gyngor. Maent yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Dreth Gyngor yn decach, ac i helpu pobl pan fydd ganddynt ôl-ddyledion.

Mae talu’r Dreth Gyngor yn rhwymedigaeth. Mae’r canllawiau hyn yn cydnabod yr unigolyn sydd y tu ôl i’r atebolrwydd i dalu’r Dreth Gyngor, a’r amgylchiadau a allai arwain at bobl yn mynd ar ei hôl hi: colli swydd, enillion yn amrywio, salwch corfforol a salwch meddwl, profedigaeth yn y teulu, a sioc ariannol annisgwyl yn y cartref. Mae llywodraethau, awdurdodau lleol a’r trydydd sector yn darparu pob math o gymorth pan fydd pobl yn wynebu anawsterau. Dylai fframwaith casglu’r Dreth Gyngor ategu’r cymorth ehangach sydd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud yn glir bod y fframwaith yn galluogi awdurdodau lleol i gasglu arian gan bobl sy’n gyson yn peidio â thalu ac y mae'r awdurdodau’n gwybod fel arall eu bod yn gallu fforddio talu eu Treth Gyngor. Yr unig beth y mae hyn yn ei wneud yw cynyddu’r Dreth Gyngor i drethdalwyr eraill er mwyn ariannu gwasanaethau. Mae gwaith diwyd awdurdodau lleol yn golygu bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i elwa o gyfraddau casglu effeithlon ac effeithiol iawn, gan ddiogelu cyllid hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol.

Yn 2019, ymrwymodd pob awdurdod lleol yng Nghymru i Brotocol Treth Gyngor Cymru i hybu’r broses o ymgysylltu â phobl sy’n talu’r Dreth Gyngor, a meithrin gwaith partneriaeth mwy effeithiol gydag asiantaethau cynghori ac asiantaethau gorfodi. Bwriad y canllawiau hyn yw ategu a gwella’r cytundeb hwnnw, yn dilyn gwelliannau a wnaed yn 2025 i Reoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2026.

Amcanion y canllawiau hyn:

  • Hybu tegwch a chysondeb wrth gasglu’r Dreth Gyngor ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol.
  • Annog awdurdodau lleol i ymgysylltu'n gynnar â threthdalwyr er mwyn atal ôl-ddyledion, mynd ati i gael gwybod a ydyn nhw'n gymwys i dderbyn cymorth, a lleihau’r angen am gamau gorfodi.
  • Sicrhau bod arferion gorfodi yn gymesur, yn foesegol, ac yn cyd-fynd ag egwyddorion urddas a pharch.
  • Cefnogi aelwydydd bregus ac incwm isel drwy ddarparu gwybodaeth hygyrch a chymorth wedi’i deilwra, ac atgyfeirio at wasanaethau priodol.
  • Meithrin cydweithrediad a dysg ymysg awdurdodau lleol i rannu arferion gorau a gwella canlyniadau i breswylwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gweithredu o fewn gwahanol gyllidebau, systemau TG, a lefelau staffio, a bod timau’r Dreth Gyngor yn aml yn delio â llwyth gwaith mawr. Mae’r enghreifftiau a amlinellir yn y canllawiau hyn yn deillio o gamau cadarnhaol y mae llawer o awdurdodau eisoes yn eu cymryd. Er nad ydynt yn disodli cyfrifoldebau statudol nac yn diystyru'r deddfwriaethau presennol, mae’r canllawiau hyn yn darparu fframwaith arferion gorau a luniwyd i gefnogi gwelliant parhaus.

Cyflwyniad

Bob blwyddyn, mae’r Dreth Gyngor yn helpu i ariannu ysgolion, gofal cymdeithasol a channoedd o wasanaethau eraill fel plismona, gwasanaethau tân a thrafnidiaeth – pethau y mae pob un ohonom yn elwa’n enfawr ohonynt. Mae casglu’r Dreth Gyngor yn effeithlon ac yn brydlon yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn dal ar gael i bawb yn y gymuned.

Yn 2024-2025, cyhoeddodd awdurdodau lleol yng Nghymru dros 1.4 miliwn o filiau’r Dreth Gyngor, a chasglwyd £2.3 biliwn o refeniw i gefnogi gwasanaethau lleol. I’r rhan fwyaf o aelwydydd, mae’r system yn gweithio’n esmwyth, gyda thaliadau’n cael eu gwneud yn brydlon heb fawr o angen am ymyrraeth.

Ond, mae’n bosibl y bydd rhai preswylwyr yn cael trafferth talu’n brydlon oherwydd heriau personol, ariannol neu iechyd. Yn yr achosion hyn, rhaid i awdurdodau lleol benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio eu pwerau disgresiwn a statudol i adennill ôl-ddyledion.

Nid oes un ateb sy’n addas i bawb. Ond mae gwybodaeth gan awdurdodau lleol yn dangos y gall strategaethau adennill cefnogol a hyblyg arwain at ganlyniadau gwell i breswylwyr yn ogystal ag awdurdodau.

Drwy ganolbwyntio ar gyfathrebu clir a thosturiol, gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cyngor ar ddyledion, a defnyddio camau gorfodi ystyriol, gallai awdurdodau lleol gynyddu’r arian sy’n cael ei gasglu a thrin preswylwyr ag urddas ac yn deg.

Mae’r dull hwn nid yn unig yn cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd ond hefyd yn helpu i atal caledi ariannol hirdymor, gan gefnogi llesiant unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Mae newidiadau i’r fframwaith gorfodi – a ddaw i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2026 – yn cyflwyno system sy’n caniatáu mwy o amser ar gyfer yr arferion ymgysylltu hyn, gan gynnwys amser i berson gael cyngor gan asiantaeth ddyledion yn ogystal ag amser i awdurdodau lleol gynnig cynlluniau ad-dalu ar gyfer ôl-ddyledion. Mae’r rhain yn rhan hanfodol o’r ffordd y mae’r system yn gweithredu. 

Bydd y system yn sicrhau y bydd pob aelwyd a fydd wedi methu taliad yn cael nodyn atgoffa a hysbysiad terfynol cyn y gellir cymryd unrhyw gamau gorfodi, fel bod y camau’n glir. Bydd hefyd yn golygu y bydd rhaid i'r awdurdod lleol aros o leiaf 63 diwrnod, o’r dyddiad y bydd yr aelwyd yn methu taliad, nes y gall wneud cais i lys am orchymyn atebolrwydd ar gyfer unrhyw falans blynyddol sydd heb ei dalu.

Casglu’r Dreth Gyngor mewn ffordd gefnogol

Mae’r broses o gasglu’r Dreth Gyngor mewn ffordd effeithiol yn dechrau ymhell cyn i filiau gael eu cyhoeddi. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio systemau sydd nid yn unig yn sicrhau refeniw ond hefyd yn cefnogi’r preswylwyr, yn enwedig y rheini sy’n wynebu caledi ariannol.

Cyngor Dinas Abertawe

Mae Cyngor Abertawe yn darparu’r "daflen Poeni am Arian?" i breswylwyr sydd mewn sefyllfa fregus neu sy’n wynebu anawsterau ariannol, fel adnodd ychwanegol i’w helpu i ddeall eu hopsiynau. Mae’r daflen yn cynnig arweiniad cyflym ar gymorth ariannol brys, gwneud yn fawr o'r incwm, a chyngor ar ddyledion a materion budd-daliadau. Mae hefyd yn cyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol a chenedlaethol cyfrinachol sy’n darparu cymorth ymarferol am ddim.

Creu system filio deg a hygyrch

Mae system filio deg a hygyrch yn helpu preswylwyr i ddeall eu hatebolrwydd i dalu’r Dreth Gyngor, i gael gafael ar y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, ac i osgoi mynd i ôl-ddyledion yn ddiangen. Gall awdurdodau gryfhau eu dull gweithredu drwy ymwreiddio’r egwyddorion arferion da canlynol:

  • Canfod yn gynnar pwy sy’n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor: dylai awdurdodau lleol fynd ati’n frwd i ganfod cyn gynted â phosibl pwy allai fod yn gymwys i dderbyn cymorth ar gyfer aelwydydd incwm isel drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Gallai hyn gynnwys defnyddio offer paru data, adolygu'r wybodaeth a ddarperir drwy wasanaethau eraill y cyngor, neu atgoffa preswylwyr yn ystod prosesau creu cyfrifon neu newid cyfeiriad. Mae canfod yn gynnar pwy sy’n gymwys yn lleihau’r risg o filiau anghywir, yn lliniaru caledi, ac yn helpu i sicrhau nad yw trigolion incwm isel yn cronni ôl-ddyledion yn ddiangen. Mae’r rheoliadau’n galluogi awdurdodau lleol i drin cais am Gredyd Cynhwysol fel man cychwyn cais ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae llawer o awdurdodau lleol yn defnyddio awtomatiaeth pan dderbynnir gwybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn y ffeiliau data a ddarperir.
  • Prosesau cyson ar gyfer disgowntiau, diystyriadau ac esemptiadau: os yw awdurdodau lleol yn gwybod y gallai rhywun fod yn gymwys i dderbyn unrhyw ddisgownt, diystyriad neu esemptiad, dylent annog preswylwyr i ystyried gwneud cais. Unwaith eto, gallai awdurdodau fod yn rhagweithiol mewn achosion lle mae ffynonellau data eraill, neu hanes cyfrif, yn dangos y gallai rhywun fod yn gymwys. 
  • Annog a chefnogi ceisiadau: Mae allgymorth rhagweithiol yn hanfodol er mwyn cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cymorth sydd ar gael. Gall awdurdodau lleol gynyddu ymwybyddiaeth drwy gynnal ymgyrchoedd aml-sianel, gweithio gyda phartneriaid cymunedol, a symleiddio llwybrau ymgeisio. Mae cyfathrebu mewn ffordd wedi’i theilwra, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy’n llai tebygol o hawlio – fel aelwydydd incwm isel sy’n gweithio, neu bobl nad ydynt wedi’u cysylltu â’r byd digidol – yn gallu gwella mynediad yn sylweddol. Mae annog preswylwyr i wneud cais yn brydlon yn eu helpu i gael y lefel gywir o gymorth o’r cychwyn cyntaf.
  • Hyfforddiant i’r staff: Dylai fod gan staff rheng flaen – gan gynnwys timau gwasanaeth cwsmeriaid a swyddogion refeniw – wybodaeth glir a chyfredol am ddisgowntiau, diystyriadau, esemptiadau, a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae hyfforddiant rheolaidd yn sicrhau bod staff yn gallu adnabod yn hyderus pwy allai fod yn gymwys, rhoi cyngor cywir, ac adnabod arwyddion y gallai preswylydd fod mewn trafferthion ariannol neu nad yw’n ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael. Mae hyn yn cyfrannu at ganlyniadau gwell, ac yn lleihau’r galw sy’n deillio o gamgymeriadau y gellir eu hosgoi neu gyswllt dro ar ôl tro.
  • Cyfathrebu a bilio'n glir ac yn hygyrch: Dylid ysgrifennu biliau, llythyrau a gohebiaeth ddigidol mewn iaith glir, gan egluro rhwymedigaethau’n glir, a chyfeirio preswylwyr at y cymorth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys egluro sut i wneud cais ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor neu ddisgowntiau, sut i roi gwybod bod amgylchiadau wedi newid, a ble i gael cyngor annibynnol. Dylai nodweddion hygyrchedd fel cyfieithiadau, fersiynau print bras, fformatau Hawdd eu Darllen, a chymorth dros y ffôn fod ar gael pan fydd angen.
  • Dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a hygyrchedd digidol: Dylai awdurdodau ddylunio systemau bilio a systemau ymgeisio ar sail anghenion preswylwyr. Mae hyn yn cynnwys ffurflenni symlach, cynlluniau greddfol, rhyngwynebau hawdd eu defnyddio ar ddyfeisiau symudol, negeseuon clir i atgoffa am hawliau posibl, a’r opsiwn i gadw ceisiadau a dychwelyd atynt. Mae cynnig llwybrau digidol, yn ogystal â llwybrau nad ydynt yn ddigidol, yn helpu i sicrhau nad oes unrhyw aelwyd yn cael ei heithrio.

Un Ffurflen Gais Ddigidol

Mae adroddiad Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru ar gyflawni Cam Un wedi dangos ei bod yn bosibl dylunio ffurflenni cais digidol, deallus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy’n dwyn ynghyd nifer o fudd-daliadau a weinyddir yn lleol. Drwy ddefnyddio data sydd eisoes yn bodoli a theilwra cwestiynau i amgylchiadau pob ymgeisydd, dim ond yr wybodaeth sydd wir ei hangen ar gyfer yr unigolyn dan sylw y mae’r ffurflenni hyn yn gofyn amdani.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae un ffurflen gais ddigidol enghreifftiol wedi cael ei datblygu i gynnwys nifer o fudd-daliadau allweddol: Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, y Grant Hanfodion Ysgol, a Phrydau Ysgol am Ddim, gyda’r posibilrwydd o gynnwys Budd-dal Tai hefyd. Yn 2026 bydd y ffurflen hon yn cael ei threialu gydag un awdurdod lleol ac, os bydd yn llwyddiannus, gallai ddangos potensial dull symlach ac integredig sy’n lleihau dyblygu i breswylwyr yn ogystal ag awdurdodau lleol.

Gwaith cydgysylltiedig ar draws gwasanaethau

Mae rhai awdurdodau lleol yn cysylltu’r broses o weinyddu’r Dreth Gyngor â systemau cymorth eraill, fel:

  • gwasanaethau budd-dal tai a lles
  • timau cyngor ar ddyledion a chynhwysiant ariannol
  • systemau TG integredig sy’n ei gwneud yn bosibl i weld yr holl ddyledion yn yr un lle

Mae’r dull cydgysylltiedig hwn yn galluogi awdurdodau i wneud y canlynol:

  • Cyfuno mwy nag un ddyled mewn un cynllun hawdd ei reoli: Gall cynllun ad-dalu cydgysylltiedig sy’n cynnwys mwy nag un ddyled i’r cyngor leihau dryswch i breswylwyr, lleihau beichiau gweinyddol, a gwella’r broses gasglu drwy osod symiau realistig sy’n seiliedig ar amgylchiadau aelwydydd.
  • Delio â gwahanol fathau o ôl-ddyledion mewn ffordd gyson: Mae dod â gwasanaethau at ei gilydd yn cefnogi dull adennill unedig sy’n cyd-fynd â pholisïau dyledion corfforaethol ac egwyddorion tegwch. Mae hyn yn sicrhau bod preswylwyr yn cael profiad cyson beth bynnag fo’r math o ddyled dan sylw.
  • Cael dealltwriaeth ddyfnach o amgylchiadau ariannol preswylwyr: Mae cyfuno gwybodaeth o wahanol wasanaethau gyda mesurau diogelu data priodol yn galluogi awdurdodau i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyflawn o incwm preswylwyr, y pwysau ariannol maent yn eu hwynebu, a’u bregusrwydd. Mae’r sylfaen dystiolaeth well hon yn cefnogi ymyrraeth gynnar, cymorth wedi’i deilwra, a chanlyniadau hirdymor mwy cynaliadwy.

Polisïau ffurfiol ar gyfer adennill a gorfodi

Mae rhai awdurdodau lleol wedi datblygu polisïau ffurfiol sy’n arwain eu dull gorfodi, yn enwedig mewn achosion sy’n ymwneud â phreswylwyr sydd mewn sefyllfa fregus. Gall y rhain gynnwys:

  • ymrwymiad i lwybrau gorfodi amgen ar gyfer y rheini sy’n wynebu caledi
  • cynlluniau ad-dalu hyblyg dros gyfnodau hwy
  • defnyddio pwerau Adran 13A o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i leihau’r Dreth Gyngor mewn achosion o anhawster ariannol eithriadol

Mae polisïau o’r fath yn sicrhau bod y broses adennill yn un effeithiol yn ogystal â thosturiol.

Cyngor Sir Powys

Fframwaith Bilio, Casglu ac Adennill (Ionawr 2022):

  • Mae’n pwysleisio bod yn deg, yn dryloyw, ac yn gymesur wrth adennill dyledion.
  • Mae’n cydnabod gwahanol resymau dros beidio â thalu, gan gynnwys caledi ariannol a chamgymeriadau gweinyddol.
  • Mae’n annog ymgysylltu’n gynnar a manteisio ar fudd-daliadau.
  • Mae'n cyd-fynd â Phrotocol Treth Gyngor Cymru a Gweledigaeth Gorfforaethol 2025 y Cyngor.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Polisi Rhyddhad yn ôl Disgresiwn y Dreth Gyngor (Mawrth 2023):

Mae’r polisi hwn – sy’n rhoi rhyddhad yn ôl disgresiwn – yn helpu trethdalwyr y cyngor a allai fod yn wynebu caledi ariannol neu drallod, pan fydd tystiolaeth glir bod gan yr unigolion hynny amgylchiadau eithriadol, a bod yr holl ddisgowntiau ac esemptiadau statudol wedi cael eu defnyddio.

Drwy weithredu’r polisi hwn, mae’r Cyngor yn ceisio: 

  • lleihau anghyfiawnder cymdeithasol 
  • atal digartrefedd 
  • cadw teuluoedd gyda’i gilydd 
  • helpu pobl sydd mewn sefyllfa fregus yn eu cartrefi yn y gymuned 
  • helpu preswylwyr drwy argyfyngau personol a digwyddiadau anodd

Cydweithio

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod preswylwyr yn cael cymorth clir ac amserol drwy gydol y broses o gasglu’r Dreth Gyngor. Gall partneriaethau cryf â sefydliadau annibynnol sy’n rhoi cyngor ar ddyledion arwain at gasglu dyledion yn gyflymach, llai o ôl-ddyledion mynych, a chanlyniadau gwell i breswylwyr, yn enwedig y rheini sy’n wynebu caledi ariannol neu heriau iechyd meddwl. Mae’r cydweithio hwn hefyd yn arwain at arbedion hirdymor i awdurdodau lleol.

Meithrin cysylltiadau effeithiol

Dylai awdurdodau lleol barhau i fod yn agored i weithio gyda chynghorwyr dyledion ar unrhyw gam yn y broses gasglu. Gellir meithrin cydweithio effeithiol drwy gynlluniau fel:

  • Pwyntiau cyswllt dynodedig: Mae pennu un cyswllt rhwng yr awdurdod a chyrff cynghori yn gwella’r prosesau cyfathrebu a rheoli achosion.
  • Cydleoli staff: Mae rhai awdurdodau lleol wedi lleoli staff mewn canolfannau cynghori lleol neu ganolfannau ar y cyd, sy’n ei gwneud yn bosibl i roi diweddariadau ar y pryd ac i gynghorwyr dyledion a thimau’r cyngor ymgysylltu’n uniongyrchol â’i gilydd. Roedd ymchwil gymdeithasol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2026 yn pwysleisio bod canolfannau lleol yn gyfleusterau gwerthfawr, yn enwedig i grwpiau ethnig leiafrifol.
  • Cyfarfodydd cyswllt rheolaidd: Mae cyfarfodydd sy’n cael eu trefnu ag asiantaethau cynghori lleol yn helpu’r ddwy ochr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a'r heriau sy’n codi wrth gasglu’r Dreth Gyngor.
  • Sesiynau galw heibio cymunedol: Mae sesiynau a gynhelir ar y cyd â chyrff cynghori yn annog preswylwyr i ofyn am gymorth ac i ymgysylltu â’r awdurdod lleol mewn amgylchedd nad yw’n fygythiol.

Mae’r dulliau hyn yn sicrhau bod sianeli cyfathrebu ar agor, ac yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ad-dalu cynaliadwy.

Gwella’r cymorth mewnol ac allanol

Mae llawer o awdurdodau lleol yn gweithredu gwasanaethau cymorth mewnol ar gyfer dyledion. Mae cryfhau cysylltiadau â darparwyr allanol yn gwella canlyniadau drwy:

  • wella’r broses o rannu gwybodaeth, yn enwedig mewn achosion anodd eu cyrraedd
  • ei gwneud yn bosibl i ymgysylltu'n gynharach â phreswylwyr
  • helpu’r broses o wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am gynlluniau ad-dalu neu gamau gorfodi

Hybiau Caerdydd

Mae Hybiau Caerdydd yn enghraifft gref o sut gall cynghorau ac asiantaethau cynghori arbenigol gydweithio i ddarparu cymorth ariannol cydgysylltiedig. Mae gwasanaethau’r cyngor wedi’u cydleoli â phartneriaid achrededig sy’n rhoi cyngor ar les a dyledion, sy’n galluogi preswylwyr i gael gafael ar sawl math o gymorth mewn un lle.

Mae staff yn defnyddio system atgyfeirio gydgysylltiedig i roi pobl mewn cysylltiad yn gyflym â’r arbenigwr cywir – fel cyngor ar ddyledion, hawliau lles, neu gymorth ar gyfer tai – gan leihau oedi ac atal problemau rhag gwaethygu. Mae partneriaid hefyd yn cynnal sesiynau allgymorth ar y cyd mewn lleoliadau cymunedol, gan gyfuno gwybodaeth leol â chyngor arbenigol i gyrraedd preswylwyr na fyddent yn ymgysylltu drwy lwybrau traddodiadol o bosibl.

Mae’r model cydweithredol hwn yn sicrhau bod preswylwyr yn cael cymorth di-dor a chyfannol, yn cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar hawliau fel Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ac yn helpu i atal dyled ac argyfwng ariannol.

Cyfeirio ac atgyfeirio

Dylai awdurdodau lleol adolygu eu prosesau atgyfeirio’n rheolaidd i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cyfeirio at gyngor hygyrch am ddim ar ddyledion. Yn ogystal â gwasanaethau wyneb yn wyneb, dylai awdurdodau lleol hybu opsiynau dros y ffôn ac ar-lein i ddiwallu anghenion amrywiol.

Ymgysylltu ac ymyrryd yn gynnar

Mae awdurdodau lleol yn rhan hollbwysig o'r gwaith o helpu preswylwyr i dalu’r Dreth Gyngor yn brydlon, ac i gael gafael ar gymorth pan fydd angen. Mae’n allweddol cyfathrebu'n effeithiol, gan annog y rheini sy’n gallu talu i wneud hynny’n brydlon, ac annog y rheini sy’n wynebu anawsterau ariannol i ymgysylltu’n gynnar. 

Mae rheoli biliau’r Dreth Gyngor ar raddfa fawr yn broses gymhleth. Er mwyn gwella canlyniadau, mae llawer o awdurdodau’n ailystyried sut maen nhw’n cyfathrebu â phreswylwyr, yn symleiddio’r iaith, yn defnyddio gwybodaeth am ymddygiad, ac yn cynnig cymorth mwy ymarferol.

Cyfathrebu’n glir ac yn gefnogol

Mae rhai awdurdodau lleol wedi ailgynllunio biliau a llythyrau er mwyn eu gwneud yn gliriach ac yn fwy hygyrch, gan leihau jargon a defnyddio iaith bob dydd.  Gall hyd yn oed newidiadau bach yn y geiriad wneud gwahaniaeth mawr, gan helpu preswylwyr i ddeall eu rhwymedigaethau’n well ac i deimlo’n fwy hyderus wrth ofyn am help pan fydd angen. Mae edrychiad a theimlad amlenni hefyd yn gallu bod yn rhwystr i rywun sy’n wynebu ôl-ddyledion.

Geiriau allweddol

Mae mwy o awdurdodau lleol yng Nghymru bellach yn defnyddio’r pennawd ‘Bil y Dreth Gyngor’ yn hytrach na ‘Hysbysiad Galw am Dalu'r Dreth Gyngor’, sy’n creu naws llai bygythiol a mwy adeiladol.

Cymorth ymarferol

Mae cymorth clir a hygyrch yn helpu preswylwyr i ddeall eu Treth Gyngor, i ymgysylltu’n gynharach, ac i osgoi mynd i ôl-ddyledion. Gall awdurdodau wella cyfraddau ymgysylltu a thalu drwy sicrhau bod preswylwyr yn gwybod pa gymorth sydd ar gael ar gamau cynharach, a sut i gael gafael ar y cymorth hwnnw:

  • Beth mae'r Dreth Gyngor yn talu amdano: Helpwch breswylwyr i ddeall gwerth eu cyfraniad drwy amlinellu’n glir sut mae’r Dreth Gyngor yn helpu i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol fel ysgolion, gofal cymdeithasol, gwastraff ac ailgylchu, diogelwch cymunedol, a seilwaith lleol. Dylid anfon taflenni neu wybodaeth atodol glir gyda biliau’r Dreth Gyngor, a dylai tudalennau gwe’r Dreth Gyngor grynhoi’n fyr beth mae’r Dreth Gyngor yn talu amdano, yn hytrach na dibynnu ar bobl yn dod o hyd i bapurau cyllideb y cyngor ac yn eu deall. 

Ymchwil Llywodraeth Cymru

Mae ymchwil gymdeithasol Llywodraeth Cymru, a gynhaliwyd yn 2022-2025, yn dangos bod agweddau’r cyhoedd at y Dreth Gyngor yn gwella pan fydd pobl yn cael eu hatgoffa o’r holl wasanaethau maent yn talu amdanynt, nid dim ond casglu gwastraff. Yn yr ymchwil ddiweddaraf yn 2025, roedd 62% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg o’r farn bod eu bil Treth Gyngor yn rhy uchel, ond pan gawsant wybodaeth am ba wasanaethau y mae’r Dreth Gyngor yn talu amdanynt, roedd y ffigur hwn yn gostwng i 53%.

Roedd ymchwil grŵp ffocws a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026 hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd cyfranogwyr yn siŵr sut roedd awdurdodau lleol yn gwario’r Dreth Gyngor. Cafwyd awgrym gan rai y byddai dweud yn glir ble a sut mae arian yn cael ei wario yn eu helpu i gydnabod y manteision i gymunedau. Awgrymwyd yn aml gan y cyfranogwyr y dylai hyn fod yn rhan o’r bil blynyddol.

  • Disgowntiau ac esemptiadau: Dylid rhoi gwybodaeth glir a syml i breswylwyr am eu hawl i ddisgowntiau, diystyriadau, esemptiadau, a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Dylai awdurdodau lleol dynnu sylw at yr opsiynau hyn ar adegau allweddol fel biliau, hysbysiadau newid cyfeiriad, neu negeseuon atgoffa a sicrhau bod canllawiau ar-lein yn hawdd eu defnyddio. Mae darparu enghreifftiau neu senarios cyffredin yn ei gwneud yn haws i breswylwyr fynd ati eu hunain i ganfod a ydyn nhw’n gymwys. Dylai awdurdodau lleol ystyried ble arall y gallai’r wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol i berson – ee, gan wasanaethau eraill y cyngor (tai, gwasanaethau cymdeithasol, lles lleol, cynllunio) ac mewn gwasanaethau cymunedol (llyfrgelloedd, canolfannau, canolfannau gwaith, adeiladau’r cyngor).

Cyngor Sir Ddinbych

Disgowntiau ac Esemptiadau’r Dreth Gyngor – Sir Ddinbych

Mae’n cynnig tudalen we gynhwysfawr a threfnus sy’n egluro pob disgownt ac esemptiad sydd ar gael, gan gynnwys disgowntiau i bobl sengl, gostyngiadau i bobl anabl, esemptiadau i fyfyrwyr, gostyngiadau i ofalwyr, ac amrywiaeth eang o ddosbarthiadau o esemptiadau statudol. Mae’r dudalen yn disgrifio cymhwysedd yn glir, yn darparu llwybrau ymgeisio, ac yn defnyddio penawdau ac adrannau y gellir eu hehangu er mwyn i breswylwyr allu defnyddio’r dudalen yn rhwydd.

Mae’r math hwn o gyfathrebu clir, strwythuredig yn helpu preswylwyr i ganfod yn gyflym pa gymorth y gallai fod ganddynt hawl iddo ac yn eu hannog i gyflwyno ceisiadau'n brydlon, gan leihau’r tebygolrwydd o gamgymeriadau bilio ac ôl-ddyledion.

  • Llwybrau hygyrch i gysylltu: Dylai awdurdodau ddarparu nifer o opsiynau cysylltu: dros y ffôn, ffurflenni ar-lein, e-bost a, lle bo’n bosibl, cymorth wyneb yn wyneb. Dylai cynifer o lwybrau â phosibl roi preswylwyr mewn cysylltiad â darparwr cyngor ar ddyledion sydd wedi cael ei achredu. Mae hyn yn sicrhau bod cymorth ar gael i’r rheini sy’n cael trafferth cael mynediad digidol neu sydd ag anghenion cymorth ychwanegol.
  • Canlyniadau peidio â thalu: Er bod angen i breswylwyr ddeall camau'r broses adennill a goblygiadau peidio â thalu, dylai’r holl ohebiaeth fod yn barchus, yn anfygythiol, a chanolbwyntio ar atebion. Mae pwysleisio y gall ymgysylltu'n gynnar atal costau pellach yn annog preswylwyr i ofyn am gymorth cyn i’w sefyllfa waethygu.

Opsiynau talu hyblyg

Gall awdurdodau lleol gynnig trefniadau talu wedi’u teilwra i helpu preswylwyr i reoli eu taliadau Treth Gyngor ac osgoi mynd i ddyled. Nid oes angen i’r trefniadau hyn aros nes bydd gan rywun ôl-ddyledion. Bydd yr opsiynau hyn yn cael eu hystyried fesul achos pan fydd preswylydd yn gofyn am gymorth. Gallai’r addasiadau sydd ar gael gynnwys: 

  • Ailbroffilio cynlluniau talu fel eu bod yn gweddu’n well i amgylchiadau'r unigolyn. Er bod y Dreth Gyngor yn cael ei bilio’n flynyddol, nid oes unrhyw beth yn rhwystro awdurdodau lleol rhag ymestyn proffiliau talu y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Os dim ond un rhandaliad a fethwyd gan drethdalwr sydd wedi bod yn talu'n brydlon fel arall, rhowch opsiynau i’r unigolyn ar gyfer adennill y rhandaliad hwnnw heb i hyn gael unrhyw effaith ar ei gyfrif yn y tymor hwy. 
  • Newid i 12 rhandaliad misol i rannu taliadau’n fwy cyfartal ar draws y flwyddyn.
  • Addasu dyddiadau talu i gyd-fynd ag amserlenni talu cyflog neu fudd-daliadau.  Gall hyn gynnwys darparu cynlluniau rhandaliadau wythnosol neu bythefnosol. Nid oes unrhyw rwystrau deddfwriaethol sy’n atal awdurdodau lleol rhag cynnig dewis o ddyddiad talu. Dylid moderneiddio systemau meddalwedd er mwyn gallu cynnig dewis.
  • Cydlynu rhandaliadau â thaliadau pensiwn y wladwriaeth, y gellir eu derbyn bob pedair wythnos yn hytrach na bob mis.
  • Lleihau symiau ad-dalu pan fydd tystiolaeth glir nad yw’r preswylydd yn gallu bodloni rhwymedigaethau taliadau llawn.
  • Cynnig nifer o ddulliau talu, gan gynnwys ar-lein, dros y ffôn, a dulliau hygyrch eraill.

Ar gyfer preswylwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, dylai gohebiaeth wedi’i hargraffu gynnwys awgrymiadau ymarferol, fel addasu dyddiadau talu neu amlder taliadau i gyd-fynd â’u cyllideb.

Debyd Uniongyrchol

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn na ddylai awdurdodau lleol gynyddu taliad Debyd Uniongyrchol awtomatig unigolyn yn sylweddol heb roi gwybod i’r unigolyn ymlaen llaw. Gall cynyddu Debyd Uniongyrchol yn sylweddol achosi niwed ariannol difrifol diangen, yn enwedig os na fydd unigolyn yn gallu cyflawni ymrwymiadau hanfodol fel taliadau rhent neu forgais. 

Felly dylai awdurdodau sicrhau bod unrhyw newid i swm Debyd Uniongyrchol yn cael ei gyfleu’n glir ac mewn da bryd, a fydd yn rhoi cyfle i breswylwyr gynllunio a rheoli eu harian yn briodol. Pan fydd person wedi cofrestru ar gyfer e-filio, dylai system e-filio’r awdurdod lleol roi gwybod i'r person bod ei fil wedi newid, neu fel arall dylai awdurdodau lleol ystyried cysylltu drwy ddulliau eraill neu drwy’r post. Byddai’n afresymol disgwyl i drethdalwyr edrych ar byrth ar-lein yn rheolaidd fel mater o drefn, er enghraifft, i weld a oes biliau newydd neu a yw’r symiau talu wedi newid. Cyfrifoldeb yr awdurdod yw sicrhau bod preswylwyr yn derbyn yr wybodaeth briodol.

Ymgysylltu drwy sianeli gwahanol

Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio negeseuon testun, e-bost, a phyrth ar-lein i anfon negeseuon atgoffa. Mae’r rhain yn aml yn cael eu teilwra ar sail hanes talu – ee, tynnu sylw at daliadau a fethwyd am y tro cyntaf er mwyn cymryd camau dilynol mwy personol.

Er mwyn annog pobl i fanteisio ar ddebyd uniongyrchol, mae rhai awdurdodau lleol yn caniatáu taliadau ar unrhyw ddiwrnod o’r mis, sy’n cyd-fynd ag amserlenni talu preswylwyr.

Sicrhau bod data’n gweithio i breswylwyr ac awdurdodau lleol

Mae defnyddio data mewn ffordd fwy clyfar yn golygu mwy na gwella cyfraddau casglu – mae’n golygu deall beth sydd wrth wraidd yr ôl-ddyledion, trin pobl yn deg, a’u helpu i aros ar y trywydd iawn. Pan fydd awdurdodau lleol yn teilwra eu dull gweithredu ar sail amgylchiadau preswylydd, rydym yn disgwyl gweld canlyniadau gwell i bawb. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng person sy’n wynebu anhawster ariannol dros dro, a pherson sy’n gallu fforddio talu’r Dreth Gyngor ond nad yw’n gwneud hynny. Dylai data hefyd ddangos a yw rhywun yn colli cyfle i dderbyn cymorth ar gyfer y Dreth Gyngor.

Deall y darlun cyfan

Mae gan lawer o awdurdodau lleol eisoes wybodaeth werthfawr sy’n gallu eu helpu i ddeall pam y gallai rhywun fod ar ei hôl hi gyda’r Dreth Gyngor. Mae hyn yn cynnwys:

  • ymddygiad talu yn y gorffennol
  • a yw bil y Dreth Gyngor wedi newid yn ddiweddar
  • cymhwysedd i dderbyn cymorth neu ddisgowntiau ar gyfer y Dreth Gyngor
  • derbyn cymorth arall (fel darpariaeth les yr Adran Gwaith a Phensiynau, cynlluniau lles lleol)
  • ffactorau bregusrwydd y mae’r awdurdod yn gwybod amdanynt (fel amhariad gwybyddol sylweddol, a gadael gofal).

Drwy edrych ar y pwyntiau data hyn gyda’i gilydd, gall awdurdodau lleol wneud penderfyniadau doethach, dewis y ffordd briodol o ymgysylltu, cynnig cymorth pan fydd angen, ac osgoi camau gorfodi diangen.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ffurfio partneriaeth â Policy in Practice i weithredu’r Traciwr Teuluoedd Incwm Isel (LIFT), sy’n golygu bod modd cael darlun cliriach – sy’n seiliedig ar ddata – o ba aelwydydd sy’n debygol o fod yn gymwys i gael cymorth ond nad ydynt yn ei hawlio ar hyn o bryd.

Mae LIFT yn dadansoddi gwybodaeth am yr hawl i dderbyn budd-daliadau ar lefel yr aelwyd, sy’n helpu’r cyngor i wybod pa breswylwyr sydd â budd-daliadau heb eu hawlio ac i dargedu gohebiaeth ac ymyriadau’n fwy effeithiol. Mae hyn yn symud y cyngor oddi wrth ddibynnu ar hunanatgyfeiriadau neu negeseuon cyffredinol, heb eu targedu. Yn hytrach na hynny, gall y cyngor fynd ati i gysylltu â’r aelwydydd sydd fwyaf tebygol o elwa o gymorth ychwanegol.

Rhwng mis Ionawr 2024 a mis Rhagfyr 2025, dangosodd adroddiad y Cyngor fod y dull hwn wedi helpu i sicrhau dros £1 miliwn o Gredyd Pensiwn blynyddol i breswylwyr lleol. Hefyd, mae’r rheini sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn cael hawl awtomatig i dderbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, gan sicrhau bod aelwydydd yn derbyn y cymorth ariannol ehangach sydd ar gael iddynt.

Mae hyn yn dangos sut mae ymgysylltu ar sail data yn gwella sefydlogrwydd ariannol, yn cynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau, ac yn sicrhau bod preswylwyr yn derbyn y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio modelau sy’n seiliedig ar wybodaeth i ddeall pa fath o gymorth neu gamau gweithredu sydd fwyaf priodol. Os bydd rhywun yn methu taliad, mae’r awdurdod yn gwneud mwy na dim ond anfon nodyn atgoffa safonol – mae’n ceisio deall beth sy’n digwydd, ac yn ymateb yn unol â hynny. Er enghraifft,

  • Os yw’n ymddangos bod preswylydd yn debygol o allu talu, mae'r ohebiaeth yn pwysleisio bod y Dreth Gyngor yn ddyled â blaenoriaeth ac yn egluro canlyniadau peidio â thalu.
  • Os yw’n ymddangos bod rhywun yn gweld pethau’n anodd neu mewn sefyllfa fregus, mae awdurdodau lleol yn ymdrin â’r sefyllfa mewn ffordd fwy personol, gan weithio’n aml gyda chynghorwyr dyledion lleol i gynnig cymorth a dod o hyd i gynllun ad-dalu cynaliadwy.

Mae nifer o awdurdodau wedi ffurfio partneriaeth â sefydliadau allanol er mwyn iddynt allu cydweithio i ddefnyddio data’r awdurdod ei hun mewn ffordd effeithiol i helpu'r broses gasglu.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Wrecsam wedi bod yn defnyddio adnodd Pathway Ascendant Solutions ar draws nifer o ardaloedd ers 2025. Mae Pathway yn helpu’r cyngor i ddeall sefyllfa ariannol pob person, a ydynt yn sefydlog yn ariannol, yn delio â dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth, neu’n dangos arwyddion o galedi neu fregusrwydd. Mae’r wybodaeth hon yn cefnogi dull mwy gwybodus, cyson a chefnogol o ymgysylltu â phreswylwyr, ac yn galluogi’r cyngor i deilwra ei ymyriadau ar sail anghenion yr unigolyn. Yn 2026, mae Llywodraeth Cymru yn treialu defnyddio’r adnodd hwn gyda phob awdurdod lleol.

Mae’n bwysig nodi nad yw bregusrwydd ynddo’i hun yn golygu bod person wedi’i eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor. Dylai’r ffaith bod rhywun mewn sefyllfa fregus lywio’r ffordd mae’r awdurdod lleol yn delio â’r sefyllfa – er enghraifft, caniatáu mwy o amser, defnyddio llwybrau cyswllt meddalach, neu ddarparu mwy o gymorth. Fodd bynnag, os na fydd yr ymdrechion i gefnogi ac ymgysylltu yn llwyddiannus, gall yr awdurdod barhau i ddilyn ei brosesau adennill arferol yn unol â deddfwriaeth ac arferion da.

Methu rhandaliadau

Pan fydd preswylydd yn methu rhandaliad y Dreth Gyngor neu’n peidio ymateb i fil, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn mabwysiadu dull ystyriol a chefnogol cyn cychwyn ar weithdrefnau adennill ffurfiol. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y preswylydd yw cysylltu â’r awdurdod ar unwaith, neu ofyn am gymorth gan unigolyn neu wasanaeth cynghori a all wneud hynny ar ei ran. 

Mae’n rhaid i’r preswylydd ymgysylltu er mwyn i’r awdurdod lleol allu cynnig cymorth, asesu fforddiadwyedd, neu drafod trefniadau talu amgen. Heb y cyswllt hwn, ni all yr awdurdod ddod i wybod am ffactorau bregusrwydd na rhoi mesurau diogelu ar waith cyn bwrw ymlaen â’r broses adennill statudol. Felly, mae’n hollbwysig bod y trethdalwr neu ei gynrychiolydd yn cyfathrebu’n brydlon er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu ac osgoi camau gorfodi, a allai arwain at gostau ychwanegol.

Hysbysiadau Atgoffa

Os bydd unigolyn yn methu rhandaliad, caiff awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad atgoffa. Os yw’r rhandaliad nesaf yn ddyledus o fewn saith diwrnod i gyhoeddi’r nodyn atgoffa, gellir cynnwys y swm hwnnw yn yr hysbysiad hefyd. Rhaid i’r nodyn atgoffa:

  • ddatgan yn glir y swm sy’n orddyledus

Gall awdurdodau lleol gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol maen nhw’n teimlo sy’n ddefnyddiol, gan gynnwys: 

  • gofyn am i’r taliad gael ei wneud cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi camau pellach
  • darparu rhif cyswllt os nad yw’r unigolyn yn gallu talu
  • cyfeirio preswylwyr at y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gwasanaethau cyngor ar ddyledion

Mae rhagor o arweiniad ar y camau nesaf ar gael yn Atodiad 1.

Cyngor Abertawe

Mae Cyngor Abertawe yn cynnwys taflen wybodaeth gyda phob nodyn atgoffa am y Dreth Gyngor i annog preswylwyr a allai fod yn cael trafferth talu i ymgysylltu’n gynnar. Mae’r daflen yn eu hannog i gysylltu’n brydlon â’r cyngor rhag i’r sefyllfa waethygu ac er mwyn osgoi costau ychwanegol. Mae hefyd yn egluro canlyniadau posibl peidio â thalu ac yn tynnu sylw at opsiynau cymorth fel cynlluniau talu estynedig a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ac yn cyfeirio at gyngor diduedd am ddim ar arian a dyledion. Mae hefyd yn hyrwyddo adnoddau fel negeseuon testun i atgoffa ac yn cyfeirio preswylwyr at sefydliadau cymorth annibynnol, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cynnal taliadau a gofyn am help yn gynnar.

Hysbysiadau terfynol

Os na wneir taliadau i ddod â'r cyfrif yn gyfredol ar ôl y nodyn atgoffa, cyn y gall awdurdod bilio wneud cais am orchymyn atebolrwydd yn erbyn y trethdalwr, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad terfynol yn gyntaf. 

Rhaid i’r hysbysiad terfynol hwn:

  • beidio â chael ei gyhoeddi tan o leiaf 41 diwrnod ar ôl y dyddiad yr oedd y rhandaliad a fethwyd yn ddyledus, ac
  • ni ellir ei gyhoeddi am o leiaf 14 diwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad atgoffa diweddaraf
  • dangos y cyfanswm sy’n ddyledus ar y diwrnod y caiff ei gyhoeddi

Mae Atodiad 2 hefyd yn rhoi arweiniad ar y cynnwys a argymhellir i helpu preswylwyr i ddeall canlyniadau posibl peidio â thalu.

Ar ôl i hysbysiad terfynol gael ei gyhoeddi, bydd gan breswylwyr 21 diwrnod i dalu’r swm llawn a nodwyd ynddo. Os na dderbynnir y taliad o fewn y cyfnod hwn, bydd y Dreth Gyngor sy’n weddill ar gyfer y flwyddyn lawn yn ddyledus ar y diwrnod canlynol.

Cefnogaeth cyn cymryd camau ffurfiol

Cyn cymryd camau o’r fath, mae llawer o awdurdodau’n defnyddio dulliau “meddal” o atgoffa, fel:

  • negeseuon testun gyda dolenni talu a chysylltiadau cymorth
  • galwadau ffôn uniongyrchol i grwpiau sydd mewn sefyllfa fregus (ee, y rheini sy’n cael disgownt Amhariad Gwybyddol Sylweddol neu’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu)

Gwasanaeth negeseuon testun

Yn 2026, mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol yng Nghymru i weithio mewn partneriaeth â Telsolutions i ddefnyddio gwell gwasanaethau negeseua i ymgysylltu â chwsmeriaid. Mae’r negeseuon hyn yn gam cynnar meddal i ysgogi trethdalwyr i dalu, ac nid ydynt yn cymryd lle hysbysiadau atgoffa statudol y mae’n rhaid parhau i’w cyhoeddi yn unol â gofynion deddfwriaethol. Bydd y swyddogaethau adrodd yn y gwasanaethau digidol hyn yn helpu awdurdodau i ddod o hyd i drethdalwyr a allai fod mewn sefyllfa fregus, drwy lwyfan cyfathrebu unedig. Mae hyn yn galluogi awdurdodau i deilwra eu dull adennill, ac i sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei gynnig cyn gynted â phosibl.

Nod yr ymdrechion hyn yw atal camau gorfodi a lleihau costau i breswylwyr. Dylai awdurdodau lleol bob amser weithio gyda phreswylwyr i ddod o hyd i atebion cynaliadwy; gall hyn gynnwys cynnig opsiynau talu hyblyg fel:

  • ailbroffilio cynlluniau talu fel eu bod yn gweddu’n well i amgylchiadau'r unigolyn Mewn rhai achosion, gall cynlluniau ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol
  • addasu dyddiadau talu i gyd-fynd ag amserlenni talu cyflog neu fudd-daliadau
  • newid i 12 rhandaliad misol i rannu taliadau’n fwy cyfartal ar draws y flwyddyn
  • cydlynu rhandaliadau â thaliadau pensiwn y wladwriaeth, y gellir eu derbyn bob pedair wythnos yn hytrach na bob mis

Dylai awdurdodau lleol hefyd asesu’n barhaus a yw preswylwyr yn gymwys i gael disgowntiau, diystyriadau, esemptiadau, a chymorth o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Ôl-ddyddio dyfarniadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Os oes gan awdurdod lleol dystiolaeth y byddai unigolyn wedi bod yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ond heb ei hawlio ac wedi mynd i ôl-ddyledion ers hynny, dylai’r awdurdod gymryd camau i unioni’r sefyllfa. Gall hyn gynnwys ôl-ddyddio dyfarniad Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor neu gymhwyso gostyngiad yn ôl disgresiwn o dan adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i sicrhau bod atebolrwydd yr unigolyn yn adlewyrchu’r hyn y dylid yn rhesymol fod wedi disgwyl iddo ei dalu.

Mae llawer o bobl yn methu hawlio Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor oherwydd bregusrwydd, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, neu oherwydd bod eu hamgylchiadau wedi newid. Pan all yr awdurdod ddod i’r casgliad rhesymol y dylai’r person fod wedi cael cymorth, mae’n deg ac yn gymesur addasu’r atebolrwydd yn hytrach na mynd ar ôl ôl-ddyledion na ddylent erioed fod wedi codi.

Colli dyfarniadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad yw’n gymesur nac yn effeithiol mynd ar ôl dyled Treth Gyngor gan rywun a ddylai fod wedi bod yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ac sydd felly’n cael ei ystyried yn rhywun sydd angen cymorth. Felly disgwylir i awdurdodau lleol ddod o hyd i achosion o’r fath, ac ar ôl dod o hyd iddynt, y byddant yn cywiro’r atebolrwydd i osgoi camau gorfodi diangen.  Hefyd, efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno defnyddio eu disgresiwn lleol i fynd ymhellach na’r rheolau ôl-ddyddio statudol ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi mabwysiadu dull rhagweithiol a chefnogol i ymdrin â dyfarniadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gollwyd. Gan ddefnyddio ei bwerau disgresiwn, mae’r cyngor yn ôl-ddyddio dyfarniadau Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor am hyd at chwe mis – sy’n ddwbl y cyfnod statudol o dri mis – pan fydd tystiolaeth yn awgrymu y byddai preswylydd wedi bod â hawl i dderbyn cymorth yn gynharach.

Mae’r polisi ôl-ddyddio hwn, sy’n mynd ymhellach na’r rheolau statudol, yn galluogi’r cyngor i leihau ôl-ddyledion diangen, i osgoi camau gorfodi diangen, ac i sicrhau bod preswylwyr yn derbyn y lefel o gymorth y dylent fod wedi bod â hawl i’w gael. Mae hefyd yn cefnogi’r nod ehangach o hybu gwydnwch ariannol a lleihau baich dyled y Dreth Gyngor ar aelwydydd sy’n wynebu caledi.

Gorchmynion atebolrwydd a pharhau i ymgysylltu

Pan nad yw ymdrechion i ymgysylltu â thalwyr biliau wedi bod yn llwyddiannus, a phan fydd ôl-ddyledion yn dal heb eu talu, gall awdurdodau wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn atebolrwydd. Codir gwŷs ar gyfer yr aelwyd, sy’n nodi’r swm sy’n ddyledus ac yn enwi’r person sy’n atebol. Ni ddylid cymryd y cam hwn nes y bydd ymdrechion i ddatrys y mater drwy ymgysylltu’n gynharach wedi methu.

Dylai gohebiaeth gan awdurdodau ar y cam hwn:

  • Amlinellu’r camau a’r canlyniadau nesaf yn glir: esbonio pwrpas y wŷs, beth yw gorchymyn atebolrwydd, a’r canlyniadau posibl fel costau llys ychwanegol, camau gorfodi, neu ddidyniadau o enillion neu fudd-daliadau. Dylid ysgrifennu esboniadau mewn iaith syml a chefnogol er mwyn helpu preswylwyr i ddeall y broses a'u hannog i gysylltu.
  • Darparu pwyntiau cyswllt uniongyrchol ar gyfer trafodaethau ad-dalu: Dylai pob gohebiaeth dynnu sylw at y ffyrdd y gall preswylwyr gyrraedd y tîm priodol yn yr awdurdod i drafod opsiynau ad-dalu neu gael gwybodaeth ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost, ffurflenni ar-lein a, phan fyddant ar gael, opsiynau cymorth wyneb yn wyneb. Mae gwneud y llwybrau cyswllt yn glir yn helpu preswylwyr i deimlo’n hyderus wrth ofyn am help, ac yn atal y sefyllfa rhag gwaethygu pan fydd modd.
  • Cynnwys manylion ffioedd llys a chamau gorfodi, gyda chyfarwyddiadau talu syml: Dylai awdurdodau sicrhau bod yr holl ffioedd yn dryloyw ac yn hawdd eu deall. Mae cyfarwyddiadau clir ar sut i wneud taliadau, gan gynnwys opsiynau i dalu drwy randaliadau, dolenni i dalu ar-lein, a therfynau amser, yn helpu preswylwyr i gymryd camau ar unwaith i reoli eu hôl-ddyledion.
  • Tynnu sylw at opsiynau cyngor ar ddyledion: Dylai pob gohebiaeth gyfeirio preswylwyr yn glir at sefydliadau annibynnol sy’n rhoi cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim. Mae cael cyngor yn gynnar yn y broses yn gallu helpu preswylwyr i sefydlogi eu sefyllfa ariannol ac i weld pa gymorth sydd ar gael, fel budd-daliadau, cymorth i gyllidebu, neu fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Arferion cefnogol ychwanegol

Mae rhai awdurdodau’n cryfhau tegwch ac ymgysylltiad drwy gynnig cymorth ychwanegol ar ôl i wŷs gael ei chodi:

  • Cytuno ar gynlluniau ad-dalu: wrth gytuno ar gynllun ad-dalu, dylai awdurdodau gynnal asesiad cymesur o holl sefyllfa ariannol y preswylydd. Dylai’r asesiad hwn ystyried cyfanswm lefel y ddyled (gan gynnwys unrhyw ddyledion eraill i’r cyngor o bosibl), costau byw hanfodol fel rhent, cyfleustodau, bwyd a theithio, yn ogystal ag unrhyw gyfrifoldebau gofalu neu ddibynyddion.  Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno ystyried defnyddio’r Gyfriflen Ariannol Safonol sy’n darparu un fformat ar gyfer cyfriflenni ariannol.

Cyngor Caerdydd

Mae ffurflen trefniant talu ar-lein Cyngor Caerdydd yn cynnig ffordd syml i breswylwyr sydd wedi cael gwŷs treth gyngor neu orchymyn atebolrwydd i gymryd rheolaeth o’u sefyllfa. Drwy lenwi’r ffurflen, gall trethdalwyr:

  • Wneud cais am gynllun ad-dalu y gallant gadw ato: rhoi manylion yr hyn y gallant ei fforddio’n realistig, sy'n helpu’r cyngor i gytuno ar gynllun strwythuredig sy’n ategu proses ad-dalu gynaliadwy   
  • Dangos ymgysylltiad brwd: mae dangos i’r cyngor eu bod yn fodlon talu'r ddyled yn lleihau’n sylweddol y tebygolrwydd y bydd camau adennill pellach yn cael eu cymryd 
  • Osgoi camau gorfodi: gall ymgysylltu'n amserol drwy’r ffurflen atal yr achos rhag symud ymlaen i ddefnyddio beilïaid neu ddulliau eraill o adennill yr arian, sy'n helpu preswylwyr i osgoi'r straen a’r effaith ariannol a ddaw yn sgil camau gorfodi

Mae’r adnodd hwn yn helpu preswylwyr yn ogystal â’r cyngor drwy hyrwyddo cyfathrebu’n gynnar, annog trefniant ad-dalu cyfrifol, a lleihau’r angen am brosesau adennill pellach

  • Sesiwn gymorth cyn gwrandawiad: Mae rhai awdurdodau’n cynnal sesiynau cymorth cyn y llys lle gall preswylwyr siarad yn uniongyrchol â swyddogion y cyngor cyn y gwrandawiad llys. Mae hyn yn gyfle i egluro’r broses, i adolygu'r amgylchiadau, i drafod trefniadau ad-dalu realistig, ac i nodi unrhyw ddisgowntiau neu gymorth sydd heb gael eu hawlio.

Ymgysylltu'n barhaus

Ar bob cam ym mhroses y gorchymyn atebolrwydd, bydd awdurdodau lleol yn parhau’n agored i drafod trefniadau ad-dalu hyblyg gyda phreswylwyr. Os bydd preswylydd yn cysylltu ar unrhyw adeg, cyn neu ar ôl y gwrandawiad llys, bydd yr awdurdod yn ystyried ei amgylchiadau, a yw’n gallu fforddio’r taliadau, ac unrhyw arwyddion o fregusrwydd, a bydd yn addasu’r dull adennill yn briodol.

Gall ymrwymiad parhaus i gyfathrebu'n agored ac ymyrryd yn gynnar atal y sefyllfa rhag gwaethygu, lleihau costau diangen, a helpu i sicrhau trefniadau talu hirdymor sy'n fwy cynaliadwy.

Adennill a gorfodi

Cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi, bydd awdurdodau lleol yn gwneud ymdrechion rhesymol i gysylltu â phreswylwyr ac i gynnig cymorth. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y preswylydd ydyw o hyd i ymateb. Os nad yw preswylydd yn ymgysylltu, ni all yr awdurdod asesu ei amgylchiadau, gweld pa mor fregus yw ei sefyllfa, na chytuno ar gynllun talu y gall y preswylydd gadw ato. Mewn achosion o’r fath, mae’n bosibl na fydd gan yr awdurdod ddewis ond bwrw ymlaen â chamau gorfodi rhesymol yn unol â deddfwriaeth.

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i awdurdodau lleol wrth ddelio ag ôl-ddyledion y Dreth Gyngor, a dylai camau gorfodi bob amser gael eu harwain gan egwyddorion cymesuredd, tryloywder, a sensitifrwydd i amgylchiadau’r unigolyn.

Mae arferion arloesol ar draws awdurdodau lleol yn dangos gwerth strategaethau gorfodi meddalach:

  • Gweithwyr achos ar gyfer caledi: Mewn rhai ardaloedd, mae swyddogion penodedig yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phreswylwyr sydd ag ôl-ddyledion, gan feithrin ymddiriedaeth ac archwilio heriau ariannol ehangach.
  • Cymorth integredig: Mae’r swyddogion hyn yn asesu a yw preswylwyr yn gymwys ar gyfer budd-daliadau a disgowntiau, a chynlluniau lleol Lle i Anadlu, gan helpu preswylwyr i osgoi ffioedd gorfodi statudol.
  • Camau gorfodi wedi’u teilwra: Gall dull deuol, sy’n defnyddio asiantau ar gyfer achosion risg uchel a thimau mewnol ar gyfer preswylwyr bregus, wella canlyniadau a lleihau niwed.

Mae’r arferion hyn yn dangos, er bod ymgysylltu â’r trethdalwr yn hanfodol er mwyn osgoi camau gorfodi, y gall awdurdodau lleol helpu i sicrhau canlyniadau gwell drwy ofalu bod y broses adennill yn digwydd mewn ffordd deg, gymesur, a thosturiol.

Atafaelu enillion a didynnu arian o fudd-daliadau

Pan fydd yn briodol, gall awdurdodau atafaelu enillion neu ddidynnu arian o fudd-daliadau er mwyn adennill ôl-ddyledion mewn ffordd gynaliadwy a dichonadwy. Gall y dulliau hyn gynnig strwythur ad-dalu mwy rhagweladwy a fforddiadwy i breswylwyr ac, yn gyffredinol, maent yn well nag uwchgyfeirio'r mater drwy asiantau gorfodi. Mae’r camau hyn yn bosibl ar ôl cael gorchymyn atebolrwydd gan lys ynadon.

  • Mesurau diogelu ar gyfer sefyllfa fregus: Ni ddylid defnyddio mwy nag un atafaeliad enillion ar yr un pryd ar gyfer preswylwyr y nodwyd eu bod mewn sefyllfa fregus. Pan fydd amheuaeth o fregusrwydd ond nad yw hynny wedi cael ei gadarnhau, dylai awdurdodau ohirio camau uwchgyfeirio, gwneud ymholiadau pellach, a sicrhau bod yr unigolyn wedi cael cynnig cymorth neu atgyfeiriad priodol cyn bwrw ymlaen. 
  • Cyfathrebu'n glir: Rhaid rhoi gwybod i breswylwyr ymlaen llaw beth yw sail yr atafaeliad, y canrannau statudol neu’r cyfraddau didynnu a fydd yn berthnasol, yr amserlen ddisgwyliedig, a’r effaith bosibl ar eu hincwm. Dylai'r ohebiaeth fod yn hygyrch a chael ei hysgrifennu mewn iaith glir. Pan fydd y preswylydd eisoes yn gweithio gyda sefydliad sy’n rhoi cyngor ar ddyledion, anogir awdurdodau i gysylltu â’r cynghorwyr – pan roddir caniatâd – i sicrhau dull ad-dalu cydgysylltiedig a chynaliadwy.
  • Dulliau adolygu: Dylai awdurdodau egluro’n glir sut gall preswylwyr ofyn am ailasesiad neu ostwng y didyniadau dros dro pan fydd eu hamgylchiadau’n newid – er enghraifft oherwydd eu bod wedi colli swydd, bod eu horiau gwaith wedi lleihau, bod eu hawl i fudd-daliadau wedi newid, neu fod elfennau bregusrwydd yn dod i’r amlwg. Dylai’r prosesau ar gyfer adolygu atafaeliadau fod yn amserol ac yn dryloyw, a lleihau’r baich gweinyddol ar y preswylydd.
  • Didynnu arian o fudd-daliadau: Os yw preswylwyr yn derbyn budd-daliadau cymwys, gall didyniadau o fudd-daliadau fod yn ffordd fforddiadwy a rheolaidd o ad-dalu ôl-ddyledion heb lawer o faich. Mae’r rheolau statudol yn cynnwys mesurau diogelu ynghylch y didyniadau mwyaf posibl o fudd-daliadau er mwyn atal y broses hon rhag rhoi pobl mewn caledi ariannol annerbyniol.  Dylid cyd-drefnu hyn yn brydlon â’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn osgoi oedi diangen.

Rhannu data i gefnogi camau gorfodi

Er mwyn gwella’r broses o ganfod a yw rhywun mewn sefyllfa fregus a symleiddio’r broses o adennill arian, mae rhai awdurdodau wedi dechrau defnyddio modelau sy’n seiliedig ar wybodaeth i roi darlun o sefyllfa ariannol preswylwyr ac i lywio penderfyniadau gorfodi.

Defnyddio data’n fwy doeth

Mae Llywodraeth Cymru yn helpu awdurdodau lleol yng Nghymru i weithio mewn partneriaeth ag Ascendant Solutions i weithredu datrysiad dadansoddi data Pathways, sy’n dod â chofnodion y Dreth Gyngor a setiau data allanol at ei gilydd i helpu i gadarnhau amgylchiadau ariannol unigolyn.  Y nod yw helpu awdurdodau lleol i ganfod pa mor fregus yw sefyllfa ariannol unigolyn, gan dynnu sylw at bobl a allai fod mewn sefyllfa fregus yn ogystal â’r rheini sydd â’r modd i dalu eu Treth Gyngor. Bydd hyn yn galluogi’r awdurdod lleol i deilwra strategaethau casglu a chyfathrebu yn unol ag amgylchiadau’r trethdalwr. Gallai’r strategaethau hyn gynnwys dynodi aelwydydd sydd angen cymorth ychwanegol, a dynodi achosion o osgoi talu’r Dreth Gyngor. 

Cynllun peilot CThEF

Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn cynllun peilot sydd ar waith ar draws y DU i ddefnyddio’r pwerau a nodwyd yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017 i rannu data ar ddyledion a thwyll. Mae’r cynllun peilot yn caniatáu i gynghorau sy’n cymryd rhan rannu â CThEF sampl o ddyledwyr y Dreth Gyngor sydd wedi cael Gorchymyn Atebolrwydd. Ar ôl dod o hyd i gyfatebiad, mae CThEF yn darparu data ar dalu wrth ennill er mwyn i gynghorau allu profi a yw’r wybodaeth hon yn helpu i wella’r broses o adennill Treth Gyngor sydd heb ei thalu.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn aelod o’r Grŵp Llywio ar gyfer y trydydd cynllun peilot cenedlaethol, sy'n gweithio gyda Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU a 54 o awdurdodau bilio ar hyd a lled y DU. Bydd y cam hwn – sy’n cynnwys wyth o gynghorau Cymru – yn rhedeg am 12 mis o haf 2026 ymlaen, ac yn profi dwy fethodoleg cyn dewis y dull sy’n cael ei ffafrio i’w gyflwyno’n genedlaethol. Pan fydd wedi’i rhoi ar waith yn llawn, bydd y fenter yn ei gwneud yn bosibl i rannu data’n rheolaidd â CThEF am y tro cyntaf, a disgwylir iddi leihau’r ddibyniaeth ar asiantau gorfodi mewn achosion lle nad yw aelwydydd yn ymgysylltu neu’n gwneud trefniadau talu.

Defnyddio asiantau gorfodi

Gellir defnyddio asiantau gorfodi pan fydd dulliau adennill eraill yn anaddas neu wedi cael eu defnyddio i’r eithaf. Rhaid rheoli eu cyfraniad yn ofalus er mwyn atal caledi diangen, sicrhau camau cymesur, a lleihau costau ychwanegol i breswylwyr. Mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu timau gorfodi mewnol, ond hefyd mae rhai yn defnyddio asiantau gorfodi allanol.

  • Atgyfeirio’n gyfrifol: Ni ddylai awdurdodau atgyfeirio at asiant nes bydd wedi archwilio’n llawn yr holl opsiynau adennill amgen priodol – gan gynnwys ymdrechion ychwanegol i gysylltu, asesiadau fforddiadwyedd, a chyfeirio at gymorth. Dylai preswylwyr gael gohebiaeth glir ac amserol am atgyfeiriad posibl.  Dylai’r ohebiaeth hon gynnwys gwybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau'r preswylydd, a chyfleoedd i ddatrys y ddyled cyn wynebu ffioedd pellach.
  • Safonau contractiol: Rhaid i awdurdodau lleol gynnal trefniadau contractiol cadarn gydag asiantau gorfodi, sy’n cael eu hategu gan lywodraethu cadarn a phrosesau rheolaidd i fonitro perfformiad. Dylai contractau nodi’n glir safonau gwasanaeth, gofynion tryloywder, disgwyliadau o ran ymddygiad parchus, a phrotocolau diffiniedig ar gyfer canfod, cofnodi, ac ymateb i fregusrwydd. Gall asiantau gorfodi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ganfod bregusrwydd posibl sydd heb ddod i'r amlwg yn ystod ymdrechion cynharach i ymgysylltu. 
  • Adborth a rhannu gwybodaeth: Rhaid i asiantau gorfodi roi gwybod yn brydlon am unrhyw arwyddion o fregusrwydd neu galedi ariannol a ddaw i’r amlwg yn ystod eu hymweliadau neu wrth ymwneud â’r preswylwyr. Mae hyn yn galluogi’r awdurdod i oedi cyn gweithredu pan fydd hynny’n briodol, i ailasesu’r achos, ac i benderfynu a allai’r preswylydd fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth lleol neu i dderbyn budd-daliadau, disgowntiau neu esemptiadau nad yw wedi eu hawlio. Mae cyfathrebu dwyffordd effeithiol yn help i wneud penderfyniadau cyson, i atal camau gorfodi amhriodol, ac i wella tegwch yn gyffredinol.
  • Modelau cymysg: Mae rhai awdurdodau lleol yn mabwysiadu dulliau hybrid, gan ddefnyddio swyddogion mewnol sydd wedi'u hyfforddi ar faterion lles ar gyfer achosion maent yn gwybod sy’n cynnwys ffactorau bregusrwydd neu lle mae amheuaeth o ffactorau bregusrwydd, gan gadw asiantau gorfodi ar gyfer pobl sy’n gyson, ac yn fwriadol, yn peidio â thalu. Mae eraill yn gweithredu rheolau eithrio sy’n atal rhai grwpiau, fel preswylwyr sy’n derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, y rheini mewn llety â chymorth, neu unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau cyngor ar ddyledion, rhag cael eu hatgyfeirio at asiantau gorfodi o gwbl.
  • Trothwyon isafswm dyled: Er mwyn osgoi costau anghymesur a lleihau’r risg o uwchgyfeirio achosion sy’n cynnwys dyledion isel eu gwerth, gall awdurdodau lleol weithredu trothwyon isafswm ôl-ddyled cyn atgyfeirio achos at asiantau gorfodi. Mae hyn yn helpu i sicrhau mai opsiwn olaf un yw camau gorfodi o hyd, ac mai dim ond pan fydd lefel y ddyled yn cyfiawnhau’r ffioedd ychwanegol y gellid eu cyflwyno y bydd camau gorfodi yn cael eu defnyddio.
  • Tryloywder, monitro a gwella’n barhaus: Dylai awdurdodau adolygu gweithgarwch gorfodi yn rheolaidd, gan ddadansoddi data ar atgyfeiriadau, canlyniadau, atgyfeiriadau bregusrwydd, cwynion, ac effeithiau ffioedd. Gall adolygiadau achos a gynhelir ar y cyd â phartneriaid gorfodi ganfod elfennau i’w gwella, cryfhau cysondeb, a sicrhau bod arferion gorfodi’n dal yn gyson â gwerthoedd y cyngor, gofynion statudol, ac anghenion preswylwyr.

Pan fydd tystiolaeth o osgoi talu

Er bod y mwyafrif helaeth o aelwydydd yng Nghymru yn talu eu Treth Gyngor yn gyfrifol, bydd awdurdodau lleol weithiau’n dod ar draws ymdrechion amlwg i osgoi talu. Mae’r canllawiau hyn yn cydnabod bod lleiafrif bach o unigolion yn defnyddio tactegau osgoi bwriadol. Mae ymddygiad o’r fath nid yn unig yn tanseilio cyfrifoldeb dinesig yr unigolyn i gyfrannu at wasanaethau lleol, mae hefyd yn cynyddu’r baich treth ar y rheini sydd yn talu.

Rhyddfreiniwr ar y Tir

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn glir nad yw’r fframwaith statudol ar gyfer y Dreth Gyngor yn caniatáu i berson honni nad yw’n atebol i dalu’r Dreth Gyngor oherwydd ei fod yn ‘ddinesydd sofran’ neu’n ‘rhyddfreiniwr ar y tir’, sy’n golygu ei fod o'r farn nad yw wedi cydsynio i’w fil Treth Gyngor. 

Nid oes gan hawliadau o’r fath unrhyw sail gyfreithiol, ac ni ddylent atal awdurdodau lleol rhag bwrw ymlaen â chamau gorfodi.

Atgoffir awdurdodau lleol o’u pwerau i weithredu pan fydd person wedi celu gwybodaeth neu wedi darparu gwybodaeth anwir yn fwriadol wrth ryngweithio â system y Dreth Gyngor. Os oes gan awdurdodau lleol wybodaeth arall i awgrymu y gallai person fforddio talu ei Dreth Gyngor ac nad yw’n wynebu caledi, dylai awdurdodau ddilyn camau’r broses gasglu yn gadarn. Gall y camau hyn gynnwys:

  • Rhoi cosbau ariannol am gelu gwybodaeth neu ddarparu gwybodaeth anwir. 
  • Anfon negeseuon atgoffa a hysbysiadau terfynol yn brydlon pan fydd dyddiadau cau ar gyfer talu wedi mynd heibio. 
  • Gwneud cais am orchymyn atebolrwydd drwy’r llys ynadon cyn gynted â phosibl pan fydd yr unigolyn yn dal yn peidio talu. 
  • Gofyn am wybodaeth ariannol gan yr unigolyn i benderfynu ar gamau adennill priodol. 
  • Didynnu arian o enillion neu fudd-daliadau, pan fydd hynny’n berthnasol, ar ôl cyflwyno gorchymyn atebolrwydd. 
  • Defnyddio asiantau gorfodi i sicrhau taliad pan fydd dulliau eraill wedi methu, a’i bod yn ymddangos bod gan yr unigolyn nwyddau o werth digonol. 
  • Gorchmynion arwystlo pan fydd dyled yn sylweddol a’r dyledwr yn berchen ar fuddiant yn yr eiddo, a phan fydd dulliau adennill eraill yn aneffeithiol neu’n amhriodol.
  • Camau methdaliad mewn achosion lle mae preswylwyr yn peidio talu yn fwriadol ac yn gyson, a hynny ar lefel sylweddol, pan fydd y camau hyn yn gymesur ac yn cyd-fynd â pholisïau adennill lleol.

Atodiad 1: hysbysiadau atgoffa (templed symlach)

1. Gofyniad statudol

Rhaid i bob hysbysiad atgoffa ddatgan y canlynol:

  • Cyfanswm yr holl randaliadau a fethwyd, a bod y swm yn orddyledus.
  • Unrhyw randaliadau a ddaw’n ddyledus yn ystod y saith diwrnod nesaf, a bod swm y rhandaliadau hynny’n ddyledus.
  • Unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol ym marn yr awdurdod lleol.

2. Gwybodaeth arall 

Gall awdurdodau lleol hefyd ychwanegu:

  • Y dulliau sydd ar gael i dalu.
  • Beth fydd yn digwydd os na wneir taliad.
  • Rhif ffôn neu e-bost y Cyngor.
  • Cymorth gyda chynlluniau talu.
  • Gwybodaeth i gyfeirio at wasanaethau cynghori (fel Cyngor ar Bopeth neu StepChange).

3. Templedi 

Gofynion Statudol

Rydych chi wedi methu eich taliad(au) Treth Gyngor.

Mae arnoch chi £ [swm] nawr.

O fewn [ffigur] diwrnod, bydd eich taliad Treth Gyngor nesaf o £ [swm] yn ddyledus 

Gwybodaeth arall 

Gallwch dalu nawr drwy [ffyrdd o dalu]

Os nad ydych chi’n gallu talu, ffoniwch ni ar [rhif ffôn y cyngor]. Mae’n bosibl y gallwn ni ostwng eich bil neu drefnu taliadau llai.

Os na fyddwch chi’n talu, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu bil y flwyddyn gyfan ar unwaith.

I gael cyngor ariannol am ddim, gallwch siarad â:

  • Cyngor ar Bopeth: 0800 702 2020 (Cymru)
  • StepChange, Elusen Dyledion: 0800 138 1111

Atodiad 2: hysbysiadau terfynol (templed symlach)

1. Gofynion Statudol

Rhaid i bob hysbysiad terfynol ddatgan:

  • Y cyfanswm sy’n orddyledus.
  • Bod rhaid talu’r cyfanswm sy’n orddyledus o fewn 21 diwrnod.
  • Os na chaiff y taliad ei wneud o fewn y 21 diwrnod, y bydd bil y flwyddyn gyfan yn daladwy ar y diwrnod canlynol.

2. Gwybodaeth arall a anogir

Gall awdurdodau lleol hefyd ychwanegu:

  • Sut mae talu.
  • Rhif ffôn neu e-bost y Cyngor.
  • Cymorth gyda chynlluniau talu.
  • Gwybodaeth i gyfeirio at wasanaethau cynghori (fel Cyngor ar Bopeth neu StepChange).

3. Templedi 

Gofynion statudol

Dydych chi ddim wedi talu eich Treth Gyngor.

Mae arnoch chi £ [swm] nawr.

Talwch y swm hwn erbyn [y dyddiad ymhen 21 diwrnod] os gwelwch yn dda.

Os na fyddwch yn talu £ [swm] erbyn y dyddiad hwn, bydd rhaid i chi dalu eich balans llawn, sef £ [gweddill y balans blynyddol].

Gwybodaeth arall a anogir

Gallwch dalu nawr drwy [ffyrdd o dalu]

Os nad ydych chi’n gallu talu, ffoniwch ni ar [rhif ffôn y cyngor]. Mae’n bosibl y gallwn ni ostwng eich bil neu drefnu taliadau llai.

Os na fyddwch yn talu, gall y Cyngor gymryd camau cyfreithiol.

Gallai hyn olygu costau ychwanegol i chi.

I gael cyngor ariannol am ddim, gallwch siarad â:

  • Cyngor ar Bopeth: 0800 702 2020 (Cymru)
  • StepChange, Elusen Dyledion: 0800 138 1111