Diweddariadau fframwaith.
Llogi cerbydau IV
Bellach mae gan gwsmeriaid fynediad i'n fframwaith llogi cerbydau IV newydd. Mae'r fframwaith newydd yn ehangu ar y cytundeb blaenorol, gyda mynediad pellach at ystod o gerbydau a dewisiadau trydan amgen i helpu sefydliadau cwsmeriaid i gyflawni eu huchelgeisiau sero net.
Mae'r lotiau o dan y fframwaith hwn yn cynnwys:
Lot 1 – Ceir
Gan gynnwys ceir bach, canolig, mawr, cerbydau amlbwrpas a cherbydau cyfatebol sy’n gwbl drydanol.
Lot 2: Cerbydau Masnachol Ysgafn
Gan gynnwys cerbydau Peiriannau Tanio Mewnol a faniau trydan (Peiriannau Tanio Mewnol hyd at 3.5T / Cerbydau Trydan hyd at 4.2T), cerbydau picyp, bysiau mini (hyd at 17 sedd), lorïau codi, cerbydau Luton ac amrywiadau arbenigol.
Lot 3: Cerbydau Arbenigol
Yn cynnwys naw categori arbenigol gan gynnwys cerbydau sbwriel, lorïau ysgubo, lorïau codi, lorïau gwacáu cwteru, cerbydau cynnal a chadw’r gaeaf, tractorau, unedau lles, unedau cludo a cherbydau fflyd trwm eraill.
Bydd y ddogfennau canllaw i gwsmeriaid ar GwerthwchiGymru yn fuan. Fel arall, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.Fflyd@llyw.cymru.
