Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru: 11 Tachwedd 2025
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru 11 Tachwedd 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Tracey Holdsworth (Chair) NSPCC Cymru
- Mike Clark TGP Cymru
- Lauren Shepherd Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
- Olivia Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
- Shivani Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
- Paul Apreda FNF Both Parents Matter Cymru
- Helen Mary Jones Voices from Care Cymru
- Gareth Jenkins Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
- Sara Kirkpatrick Cymorth i Ferched Cymru
- Sharon Lovell Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)
- Astrid Davis Cadeirydd Panel Teulu Caerdydd ac Ynad
- Nigel Brown Cafcass Cymru
- Matthew Pinnell Cafcass Cymru
- De Litchfield Cafcass Cymru
- Jane Smith Cafcass Cymru
- Suzanne Burgoyne Cafcass Cymru
- Lydia Hall-Mulvaney Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)
1. Croeso ac ymddiheuriadau
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:
- HHJ Jayne Scannell Y Farnwriaeth
- Samantha Williams Anabledd Dysgu Cymru
- Sarah Coldrick Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2025
Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2025 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi.
3. Data / Perfformiad
Darparodd Nigel drosolwg o'r adroddiadau newydd ar ddata a pherfformiad ar gyfer achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat a'r DPAau diwygiedig.
4. Cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
Rhoddodd Olivia a Shivani gyflwyniad diddorol ac addysgiadol yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
- Cynhadledd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ar Lais y Plentyn a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2025 a ddenodd dros 900 o gyfranogwyr ar-lein. Diolchodd Olivia a Shivani i Nigel am gyfrannu at sesiwn y panel a thynnwyd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed. Mae'r gynhadledd ar-lein nesaf wedi'i threfnu ar gyfer 29 Gorffennaf 2026, a bydd Nigel yn mynychu'r gynhadledd yn bersonol unwaith eto.
- Trosolwg addysgiadol o ganllawiau'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ar sicrhau bod plant a phobl ifanc yn rhan ganolog o'u hachosion.
- Yng nghyfarfod y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc ym mis Hydref, trafododd aelodau amrywiaeth o bynciau fel yr effaith y mae'r protestiadau diweddar ar faneri wedi'i chael ar blant a phobl ifanc.
Diolchodd y Cadeirydd, ynghyd ag aelodau'r Pwyllgor, i Olivia a Shivani am eu cyflwyniad trawiadol a oedd yn procio'r meddwl.
5. Cynllun Strategol
Rhoddodd Jane Smith ddiweddariad addysgiadol am y Cynllun Strategol pum mlynedd newydd ar gyfer 2026 i 2031. Dywedodd Jane yr ymgynghorir â staff o bob rhan o'r sefydliad drwy'r gweithdai er mwyn cynnig cyfle iddynt ymgysylltu â'r cynllun. Nododd Jane mai'r bwriad yw cyhoeddi'r cynllun ym mis Ebrill 2026 mewn iaith glir ac y caiff fersiwn hawdd ei deall ei pharatoi hefyd.
Atebodd Jane gwestiynau a ofynnwyd gan aelodau'r Pwyllgor a diolchodd iddynt am eu hawgrymiadau a'u cyfraniadau. Cytunwyd y rhoddir ystyriaeth bellach i drefniadau ymgysylltu â rhanddeiliaid.
6. Yr Adroddiad ar yr Adolygiad o Ymarfer
Rhoddodd Suzanne Burgoyne ddiweddariad manwl ar yr Adroddiad ar yr Adolygiad o Ymarfer ar gyfer mis Hydref 2024 i mis Mawrth 2025. Cydnabuwyd bod cyfleoedd i ddangos cryfderau mewn ymarfer, wedi'u hategu gan drafodaethau myfyriol a dysgu unigol.
Ymatebodd Suzanne i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r Pwyllgor a chafodd ei chanmol am onestrwydd yr adroddiad, maint y sampl a'r manylder.
7. Unrhyw fater arall
Rhoddodd Nigel wybod i'r Pwyllgor fod y llywodraeth yn bwriadu diddymu'r “rhagdybiaeth o ran cyfranogiad rhieni” a chyflwyno deddfwriaeth i gyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant a/neu ei ddileu i rai rhieni sy'n cyflawni troseddau rhywiol yn erbyn plant.
Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben.
Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 24 Mawrth 2026 drwy Teams.
