Neidio i'r prif gynnwy
Pwmp gwres

O wresogi gydag olew i bwmp gwres: Sut llwyddodd cynllun Nyth i helpu un cartref yng Nghymru i gadw’n gynnes am lai o arian.

Pan sylwodd Mr Davies, sy'n byw mewn tŷ pâr gwledig, fod ei gymydog wedi cael uwchraddiad ynni cartref drwy gynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru, aeth ati i ymchwilio.

Beth yw Nyth?

Mae cynllun Nyth yn cynnig cyngor arbed ynni diduedd am ddim i gartrefi Cymru. Pan fydd cartref yn gymwys, gall Nyth hefyd ddarparu cefnogaeth gyda gwelliannau ynni cartref, gan gynnwys systemau gwresogi, inswleiddio a phaneli solar. Ers 2011, mae'r cynllun wedi cynnal dros 60,000 o osodiadau mewn cartrefi.

Proses syml

Ar ôl ymchwilio i'r cynllun ar-lein, roedd Mr Davies yn teimlo’n fodlon bod Nyth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru — rhywbeth a roddodd hyder iddo yn ansawdd y gwaith a phroffesiynoldeb y gwasanaeth.

Yn dilyn galwad ffôn gyda Nyth, disgrifiodd Mr Davies y broses asesu fel un “syml” a “di-ffws”. Aseswyd ei eiddo a chafodd gymeradwyaeth ar gyfer pwmp gwres a phaneli solar newydd.

Y gwahaniaeth mae wedi’i wneud

Ers y gosodiad, mae tymheredd cartref Mr Davies yn gyson ac yn sefydlog — newid sylweddol o'i gymharu â bywyd gyda system wresogi olew, lle roedd y pris yn gallu newid yn sylweddol, oedi wrth gael cyflenwad olew a'r angen parhaus am gynnal a chadw'r tanc.

Heb yr angen i brynu olew a gwell effeithlonrwydd o ran ynni yn ei gartref, mae Mr Davies eisoes yn gweld y manteision.

“Mae'r gwres a'r cynhesrwydd yn ein cartref bellach yn sefydlog. Mae'n braf bod ganddon ni bellach ynni glanach a mwy gwyrdd heb y prisiau olew sy’n amrywio.”

Roedd hefyd yn croesawu’r sicrwydd sy’n dod gyda chefnogaeth gan y llywodraeth:

“Ro’n i’n gallu gweld bod cynllun Nyth yn gysylltiedig â Llywodraeth Cymru ac ro’n i'n meddwl bod hynny'n wych, gan y byddai gennych chi safon uchel o waith.”

Allech chi elwa o gymorth Nyth?

I weld a ydych chi'n gymwys i gael gwelliannau ynni cartref am ddim, ffoniwch Nyth am ddim ar 0808 808 2244, neu ewch i wefan Nyth am ragor o wybodaeth.