Cynllun cymorthdaliadau ffi trwydded gocos Llywodraeth Cymru 2026/2027
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11484 - cymhorthdal cyfran o gost y drwydded, gan ei gwneud yn fwy fforddiadwy i bysgotwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Cynllun Cymorthdaliadau Ffi Trwydded Gocos Llywodraeth Cymru 2026/27
3. Y sail gyfreithiol
Adrannau 58A a 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Nod y cynllun yw cefnogi deiliaid trwyddedau trwy leihau cost trwydded y bysgodfa, gan helpu i wrthbwyso'r cynnydd diweddar mewn ffioedd trwyddedau. Ei nod yw cadw mynediad i'r bysgodfa ac annog cydymffurfedd â rheoliadau rheoli gan leihau'r effaith ariannol ar bysgotwyr unigol.
5. Diben y cynllun
Diben y cynllun yw lleihau'r effaith ariannol ar ddeiliaid trwyddedau, gan sicrhau mynediad parhaus i'r bysgodfa a chefnogi cydymffurfedd â rheoliadau rheoli. Mae'n cyflawni hyn trwy roi cymhorthdal tuag at gyfran o gost y drwydded, gan wneud y drwydded yn fwy fforddiadwy i bysgotwyr.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categorïau o fentrau cymwys
Bydd trwydded â chymhorthdal yn cael ei dyroddi i unrhyw un sydd wedi bodloni'r holl feini prawf cymhwystra ac wedi talu'r ffi. Yna gellir defnyddio'r drwydded i gael mynediad i bysgodfeydd cocos cyhoeddus a reolir gan Lywodraeth Cymru o fewn ardal benodedig Gorchymyn Cocos 2024.
8. Sectorau i’w cefnogi
Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
9. Hyd cyfnod y cynllun
Rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mai 2027
10. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun
£52,998
11. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau uniongyrchol.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Bydd trwydded â chymhorthdal yn cael ei dyroddi i unrhyw un sydd wedi llenwi'r ffurflen gais yn gywir, wedi bodloni'r holl feini prawf cymhwystra ac wedi talu'r ffi.
Caiff person wneud cais am drwydded:
- os yw’n 16 oed neu’n hŷn
- os yw’n meddu ar dystysgrif cwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol a ddyroddwyd o fewn y cyfnod blaenorol o 3 blynedd, ac
- os nad yw wedi ei euogfarnu o fewn y cyfnod blaenorol o 12 mis, neu’r cyfnod blaenorol o 6 mis os oedd o dan 18 oed ar ddyddiad ei euogfarnu, o drosedd berthnasol.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Cyfrifwyd ffi'r drwydded yn £842 i adennill costau rheoli'r bysgodfa. Yna gosodwyd ffi â chymhorthdal o £600, yr ystyriwyd ei bod yn rhesymol, yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:
- Mae trwydded gocos yn darparu mynediad i bysgodfeydd gwerthfawr o fewn yr ardal benodedig. O'i chymharu â'r incwm tymhorol posibl y gallech ei hennill, mae'r ffi newydd yn gyfran fach o'r enillion economaidd.
- Bydd ffi'r drwydded â chymhorthdal yn sicrhau bod swm priodol (71%) o'r costau sy'n gysylltiedig â rheoli'r bysgodfa yn cael eu hadennill.
Mae cyfanswm y gyllideb yn amcangyfrif sy'n seiliedig ar ffigurau deiliaid trwyddedau'r tymor blaenorol.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£250
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: pysgodfeydd@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
