Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r erthygl ystadegol hon yn cyflwyno canfyddiadau arolwg byr ar anghenion data defnyddwyr ynghylch y Gymraeg y tu allan i Gymru. Ar hyn o bryd, nid oes ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am allu pobl yn y Gymraeg y tu allan i Gymru.

Prif ganfyddiadau

Noder mai arolwg gwirfoddol ymysg rhanddeiliaid a defnyddwyr data oedd hwn. Nid yw’r canlyniadau o reidrwydd yn gynrychioladwy o’r holl rhanddeiliaid perthnasol, ac mae hyn yn cael ei ystyried ymhellach yn yr adran ar ansawdd y data.

Y prif flaenoriaeth data a nodwyd gan ymatebwyr oedd gwybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru, gyda 89% yn mynegi diddordeb penodol yn y ffigur hwn. Yn ogystal, roedd dosbarthiad daearyddol y siaradwyr yn cael ei ystyried yn hanfodol gan lawer, gan adlewyrchu’r angen i ddeall lleoliad y gymuned Gymraeg tu hwnt i Gymru.

Roedd galw cryf am ddadansoddiadau yn ôl oedran ac ardal ddaearyddol, gan awgrymu bod defnyddwyr data yn awyddus i ddeall patrymau iaith mewn cyd-destunau cymdeithasol a thiriogaethol penodol. Mewn cyferbyniad, roedd llai o alw am ddata yn ôl rhyw, galwedigaeth ac ethnigrwydd, er bod rhai yn gweld gwerth yn y dimensiynau hyn.

Roedd bron hanner yr ymatebwyr o’r farn y dylid casglu data ar siaradwyr Cymraeg tu allan i Gymru unwaith pob pum mlynedd, gyda 40% yn awgrymu’r angen am ddata blynyddol. Mae hyn yn adlewyrchu’r angen am ddata cyfredol heb orlwytho adnoddau nac ymatebwyr.

Y defnydd mwyaf cyffredin o’r data, yn ôl yr ymatebwyr, fyddai i gefnogi datblygiad polisïau neu strategaethau iaith. Yn ogystal, nododd dros hanner eu bod yn debygol o ddefnyddio’r data i fonitro effaith rhaglenni neu bolisïau, ac i gynorthwyo rhwydweithiau a digwyddiadau Cymraeg y tu allan i Gymru.

Cefndir a chyd-destun

Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith sy’n amlinellu’r gwaith y mae’r SYG a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i wella ein dealltwriaeth o’r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn, cyhoeddwyd erthygl blog gan y Prif Ystadegydd (Blog Digidol a Data).

Cyhoeddwyd allbwn cyntaf y cynllun gwaith ym mis Hydref 2023. Roedd yr erthygl ystadegol hon yn archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu, sy’n sail i’r ABB. 

Dyma ail allbwn y cynllun gwaith, sef deall anghenion am ddata ar y Gymraeg tu allan i Gymru. Y cwestiwn ymchwil yn y cynllun gwaith ydy: “Pa ddata sydd eisoes yn bodoli er mwyn deall mwy am bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ond sy’n byw y tu allan i Gymru?”

I fynd i’r afael â hyn, cynhaliwyd arolwg byr fel cam cyntaf y prosiect, gyda’r nod o ddogfennu gofynion defnyddwyr ar gyfer y mathau hyn o ddata. Trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnyddwyr data, rydym wedi casglu mewnwelediadau am eu hanghenion, ac mae’r canfyddiadau’n cael eu crynhoi yn yr adroddiad hwn.

Methodoleg

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 1 Mawrth a 5 Mai 2025, gan ddefnyddio holiadur ar-lein drwy’r platfform SmartSurvey. Nod yr arolwg oedd casglu safbwyntiau gan ystod eang o rhanddeiliaid a defnyddwyr data. Cafodd yr arolwg ei rannu drwy e-byst uniongyrchol at rhanddeiliaid perthnasol, yn ogystal â thrwy fforymau iaith ac ystadegol, gan gynnwys paneli defnyddwyr ystadegau a rhwydweithiau polisi.

Derbyniwyd cyfanswm o 121 o ymatebion, gan gynnwys 37 ymateb cyflawn a 84 ymateb rhannol. Er bod yr ymatebion rhannol yn cynnig rhywfaint o fewnwelediad, mae’r dadansoddiad yn seiliedig yn bennaf ar yr ymatebion cyflawn, er mwyn sicrhau cysondeb, dyfnder ac ansawdd y data.

Cwblhawyd 59% o’r ymatebion drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oedd yn orfodol i’r ymatebwyr ddatgelu eu swydd na’r sefydliad y maent yn gweithio iddo, ond nodwyd cynrychiolaeth gan gynghorau lleol, sefydliadau sy’n gweithio’n benodol ar y Gymraeg, sefydliadau ystadegol, ac unigolion â diddordeb personol mewn hybu’r iaith.

Mae’r dull hwn wedi galluogi casglu safbwyntiau amrywiol, gan gynnwys rhai o rhanddeiliaid sefydliadol a defnyddwyr unigol, ac wedi darparu sylfaen gychwynnol ar gyfer deall anghenion data yn ymwneud â siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru.

Ansawdd y data

Bylchau data

Cyrhaeddodd yr arolwg ystod eang o rhanddeiliaid, gan gynnwys Comisiwn Cymunedau, Comisiynydd y Gymraeg, Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd, Panel Defnyddwyr Ystadegau'r Trydydd Sector, Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod bylchau yn y sampl. Yn benodol, roedd diffyg cynrychiolaeth o unigolion sydd â diddordeb mewn data am Gymraeg y tu allan i Gymru os nad ydynt yn gysylltiedig â rhwydweithiau sefydledig nac yn bartneriaid i Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, mae’n bosibl nad yw safbwyntiau defnyddwyr llai gweledol neu anffurfiol wedi’u cynrychioli’n llawn.

Yn ogystal, gan fod yr arolwg yn seiliedig ar gyfranogiad gwirfoddol, mae risg o ragfarn hunanddewis (self-selection bias), lle mae’r ymatebwyr yn fwy tebygol o fod â diddordeb cryf neu gysylltiad agos â’r Gymraeg. Dylid ystyried y cyfyngiadau hyn wrth ddehongli’r canfyddiadau.

Cyfyngiadau’r data sydd ar gael ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd, nid oes data swyddogol ar gael am siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru. Ni ofynnwyd y cwestiwn am y gallu i siarad Cymraeg yn Lloegr yng Nghyfrifiad 2021, ond roedd cwestiwn am brif iaith. Yn 2021 dywedodd 7,000 o bobl yn Lloegr (llai na 0.1%) mai Cymraeg oedd eu prif iaith. Mae hyn yn ostyngiad o’r 8,200 yn 2011. Noder nad yw hyn wedi cofnodi pawb yn Lloegr sy'n gallu siarad Cymraeg, dim ond y rhai oedd yn ystyried mai'r Gymraeg oedd eu prif iaith.

Nid yw’n bosibl defnyddio nodweddion megis man geni, cenedligrwydd neu brif iaith i amcangyfrif nifer y siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru. Er enghraifft, mae'n bosib bod rhieni o Gymru sy'n gallu siarad Cymraeg wedi geni a magu eu plant yn Lloegr a throsglwyddo'r iaith iddynt, ac nid ydynt o reidrwydd yn arddel cenedligrwydd Cymreig. Yn ogystal, mae’n debygol na fyddai llawer o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr nodi’r Gymraeg fel eu prif iaith gan eu bod i gyd yn rhugl yn Saesneg.

Felly does dim ffynhonnell ddata gynhwysfawr yn bodoli ar hyn o bryd sy’n rhoi’r nifer o siaradwyr Cymraeg tu allan i Gymru i ni.

Blaenoriaethau data

Y prif flaenoriaeth data a nodwyd gan ymatebwyr oedd gwybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru, gyda 89% yn mynegi diddordeb penodol yn y ffigur hwn. Yn ogystal, roedd dosbarthiad daearyddol y siaradwyr yn cael ei ystyried yn hanfodol gan lawer, gan adlewyrchu’r angen i ddeall lleoliad y gymuned Gymraeg ar draws y byd.

Ffigur 1: canran yr ymatebwyr a nododd y byddai’r meysydd o ddiddordeb canlynol yn ddefnyddiol iddynt

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart bar yn dangos canran yr ymatebwyr sy'n gweld budd yn y chwe blaenoriaeth a nodwyd yn yr arolwg. Mae rhain yn amrywio o 89% ar gyfer y gallu i siarad Cymraeg i 16% ar gyfer y categori "arall". Mae’r siart yn seiliedig ar 37 ymateb.

Ffynhonnell: Arolwg Data am y Gymraeg tu allan i Gymru, Llywodraeth Cymru

Roedd galw cryf am ddadansoddiadau yn ôl oedran ac ardal ddaearyddol, gan awgrymu bod defnyddwyr data yn awyddus i ddeall patrymau iaith mewn cyd-destunau cymdeithasol a rhanbarthol penodol. Mewn cyferbyniad, roedd llai o alw am ddata yn ôl rhyw, galwedigaeth ac ethnigrwydd, er bod rhai yn gweld gwerth yn y dimensiynau hyn.

Ffigur 2: canran yr ymatebwyr a nododd y byddai’r demograffeg canlynol yn ddefnyddiol iddynt

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart bar yn dangos canran yr ymatebwyr sy'n gweld budd yn y chwe demograffeg a nodwyd yn yr arolwg. Mae'n amrywio o 94% ar gyfer lleoliad daearyddol i 8% ar gyfer y categori "arall". Mae’r siart yn seiliedig ar 36 ymateb.

Ffynhonnell: Arolwg Data am y Gymraeg tu allan i Gymru, Llywodraeth Cymru

Sylwadau agored: anghenion data ychwanegol

Yn yr arolwg, nododd nifer o ymatebwyr feysydd data ychwanegol a fyddai’n ddefnyddiol i wella dealltwriaeth o siaradwyr Cymraeg sy’n byw y tu allan i Gymru. Gellir grwpio’r awgrymiadau hyn yn 4 thema allweddol.

1. Cefndir personol ac iaith

Roedd galw am ddata mwy manwl am gefndir unigolion, gan gynnwys:

  • man geni a man magu
  • ble a sut y dysgwyd Cymraeg
  • cenedligrwydd
  • manylion am addysg, gan gynnwys lle addysgwyd
  • angen adnabod y grŵp o siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u geni a’u magu y tu allan i Gymru – gan nodi nad yw pawb yn mudo

Mae’r pwyntiau hyn yn adlewyrchu’r amrywiaeth o brofiadau iaith sy’n bodoli ac yn pwysleisio’r angen i wahaniaethu rhwng siaradwyr Cymraeg a fagwyd yng Nghymru a’r rhai a fagwyd y tu allan i Gymru.

2. Defnydd ac ymgysylltiad â’r iaith

Roedd nifer o ymatebwyr yn pwysleisio’r angen am ddata sy’n adlewyrchu sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio y tu allan i Gymru.  Mae’r sylwadau hyn yn awgrymu pwysigrwydd deall nid yn unig pwy sy’n siarad Cymraeg, ond sut, ble a phryd y mae’r iaith yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd.

3. Ffactorau cymdeithasol ac economaidd

Nodwyd bod dangosyddion cymdeithasol-economaidd yn berthnasol i ddeall cyd-destunau byw siaradwyr Cymraeg, a sut y gall y ffactorau hyn ddylanwadu ar ddefnydd iaith.

4. Cysylltiad â Chymru

Cododd un pwynt yn benodol am y potensial i ddefnyddio data i ddeall sut i ddenu pobl yn ôl i Gymru. Mae hyn yn awgrymu diddordeb mewn deall y cysylltiadau parhaus rhwng siaradwyr Cymraeg a Chymru, gan gynnwys y posibilrwydd o ddychwelyd neu gyfrannu o bell.

Amlder casglu data

Bron hanner yr ymatebwyr oedd o’r farn y dylid casglu’r data ar siaradwyr Cymraeg tu allan i Gymru unwaith pob pum mlynedd, gyda 40% yn awgrymu’r angen am ddata blynyddol. Mae hyn yn adlewyrchu’r angen am ddata cyfredol heb orlwytho adnoddau nac ymatebwyr.

Ffigur 3: pa mor aml dylid casglu ac adrodd ar ddata siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart cylch yn dangos dosbarthiad yr ymatebion pan ofynnwyd pa mor aml dylid casglu ac adrodd ar ddata siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru. Mae'n amrywio o 46% yn dweud bob 5 mlynedd, i 3% yn dweud mwy nag unwaith y flwyddyn. Mae’r siart yn seiliedig ar 37 ymateb.

Ffynhonnell: Arolwg Data am y Gymraeg tu allan i Gymru, Llywodraeth Cymru

Defnydd arfaethedig o’r data

Y defnydd mwyaf cyffredin o’r data, yn ôl yr ymatebwyr, fyddai i gefnogi datblygiad polisïau neu strategaethau iaith. Yn ogystal, nododd dros hanner eu bod yn debygol o ddefnyddio’r data i fonitro effaith rhaglenni neu bolisïau, ac i gynorthwyo rhwydweithiau a digwyddiadau Cymraeg y tu allan i Gymru.

Ffigur 4: defnydd o ddata am y Gymraeg tu allan i Gymru

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart bar llorweddol yn dangos canran yr ymatebwyr byddai'n defnyddio'r data am y Gymraeg tu allan i Gymru yn ôl mathau o ddefnydd a nodwyd yn yr arolwg. Mae'n amrywio o 65% ar gyfer polisïau iaith i 16% ar gyfer y categori "arall". Mae’r siart yn seiliedig ar 37 ymateb.

Ffynhonnell: Arolwg Data am y Gymraeg tu allan i Gymru, Llywodraeth Cymru

Angen am ddata: rhesymau a nodwyd gan ymatebwyr

Yn yr arolwg, nododd ymatebwyr amrywiaeth o resymau pam y byddai data am siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru yn ddefnyddiol. Gellir grwpio’r rhesymau hyn yn 5 thema allweddol:

1. Cydnabyddiaeth a gwelededd

Roedd y pwyntiau a nodwyd yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru yn cael eu cynnwys yn y darlun ystadegol ac yn cael eu cydnabod fel rhan o’r gymuned Gymraeg ehangach. Ymysg y sylwadau a wnaed:

Cydnabod bodolaeth y grŵp hwn yn ffurfiol ac ystadegol.

Os nad yw’r data’n bodoli, mae’n anodd i’r grŵp gael ei ystyried o fewn polisïau cyhoeddus.

Tan gyfrifo yn tanseilio hyder yn y Gymraeg a’i pharhad.

Mae diffyg data yn gwneud ymchwil gan fudiadau yn anodd.

2. Cynllunio ac ymyrraeth polisi

Nododd ymatebwyr sawl ffordd y gallai data am siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru gefnogi gwaith polisi. Roedd galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda:

  • chynllunio recriwtio
  • marchnata swyddi
  • datblygu ymgyrchoedd sy’n apelio at bobl i ddychwelyd i Gymru

Yn ogystal, pwysleisiodd ymatebwyr werth y data ar gyfer:

  • cynllunio ymyriadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg y tu hwnt i Gymru
  • llunio polisïau sydd â chyrhaeddiad ehangach na ffiniau Cymru

Nodwyd hefyd y byddai’r data’n ddefnyddiol ar draws sawl maes polisi, gan gynnwys:

  • addysg
  • economi
  • tai a mudo

Mae’r themâu hyn yn awgrymu  y gall data o’r fath gefnogi penderfyniadau strategol a chynllunio gwasanaethau sy’n berthnasol i’r Gymraeg tu hwnt i Gymru.

3. Dealltwriaeth o brofiadau ac anghenion

Nododd ymatebwyr fod angen data i helpu deall profiadau siaradwyr Cymraeg sy’n byw y tu allan i Gymru, gan gynnwys sut mae eu nodweddion personol, er enghraifft, cefndir, addysg, neu amgylchiadau cymdeithasol, yn dylanwadu ar eu defnydd o’r iaith. Pwysleisiwyd bod y grŵp hwn yn debygol o gael profiadau gwahanol i’r rhai sy’n byw yng Nghymru, ac felly mae’n bwysig peidio â thrin y ddau grŵp fel un. Heb ddata penodol, nodwyd ei bod yn  anodd cynllunio polisïau neu ddarparu gwasanaethau sy’n ymateb i’w hanghenion. Mae’r sylwadau hyn yn awgrymu’r angen i sicrhau bod y gwasanaethau a’r polisïau sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn berthnasol, yn gynhwysol ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth o amrywiaeth profiadau’r siaradwyr.

4. Cymuned, diwylliant a dysgu

Roedd y sylwadau am y maes hwn yn canolbwyntio ar rôl y Gymraeg o fewn cymunedau amrywiol, ac yn nodi sut y gall data gefnogi ymdrechion i gryfhau diwylliant a dysgu, er enghraifft:

  • helpu sefydlu cyfleoedd i ddysgwyr
  • hyrwyddo’r Gymraeg o fewn grwpiau amrywiol
  • helpu deall sut mae siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru yn cynnal a dylanwadu ar ddiwylliant Cymraeg

Mae’r themâu hyn yn awgrymu bod data yn bwysig wrth:

  • gefnogi dysgu
  • hyrwyddo’r iaith
  • gynnal cysylltiadau diwylliannol

5. Mudo a symudedd

Mae’r maes hwn yn archwilio rôl data wrth ddeall patrymau mudo a symudedd, a’r ffyrdd y gall wybodaeth o’r fath lywio profiadau unigolion a’u penderfyniadau i symud. Ymysg yr enghreifftiau a nodwyd oedd:

  • helpu’r rhai sy’n bwriadu symud i ddod o hyd i gymunedau Cymraeg
  • deall yr heriau sy’n atal pobl rhag byw yng Nghymru
  • dangos nad oes anfantais mewn addysg cyfrwng Cymraeg

Mae’r pwyntiau hyn yn awgrymu sut y gall data gefnogi unigolion wrth wneud penderfyniadau am symud, ac wrth asesu effaith polisïau ar fudo a dychwelyd.

Camau nesaf

Man cychwyn y prosiect o ddeall anghenion am ddata tu allan i Gymru yw’r adroddiad hwn. Fel rhan o’r cynllun gwaith ar y cyd â’r SYG byddwn parhau i gyd-weithio i gryfhau’r sail dystiolaeth bresennol ac i ystyried opsiynau ar gyfer casglu’r math hyn o ddata.

Yn ogystal, byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r SYG ar ystod ehangach o ddata sy’n ymwneud â’r Gymraeg, gan gynnwys gwaith cynllunio ar gyfer Cyfrifiad 2031 a’r newidiadau arfaethedig i’r Arolwg o’r Llafurlu.

Iaith genedlaethol yw’r Gymraeg, sy’n perthyn i bawb yng Nghymru ac i’w siaradwyr ledled y byd. Gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sydd yn Gomisiwn annibynnol, yw gwneud argymhellion er mwyn cryfhau polisi cyhoeddus o ran cynaliadwyedd ieithyddol mewn cymunedau, a defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol/gymdeithasol. Yn ail gam ei waith, mae’r Comisiwn yn ystyried presenoldeb y Gymraeg y tu allan i Gymru, yn ogystal â’r rôl y gall siaradwyr yr iaith yn y cyd-destun hwnnw ei chwarae wrth gryfhau’r iaith yn gyffredinol. Fel rhan o’i gylch gorchwyl, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi, maes o law, adroddiad ar y Gymraeg y tu allan i Gymru, gan adlewyrchu’r uchelgais i sicrhau bod y Gymraeg yn cyrraedd pob cymuned.

Manylion cyswllt

Tîm Ystadegau’r Iaith Gymraeg
E-bost: DataIaithGymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099