Neidio i'r prif gynnwy

Ffurflen gais am wneud cais am drwydded benodol i gynnal crynhoad adar sy'n cynnwys Anseriformes yng Nghymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Crynoadau adar: ffurflen gais trwydded benodol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 269 KB

PDF
269 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Cyn i chi wneud cais am y drwydded hon, dylech wneud y canlynol: 

  • edrychwch ar y cyfyngiadau presennol yng Nghymru i wirio a oes angen i chi wneud cais am y drwydded benodol hon neu os yw eich crynhoad wedi'i ganiatáu o dan drwydded gyffredinol
  • darllenwch y canllawiau o ran 'Sut i lenwi'r ffurflen gais am drwydded benodol ar gyfer crynoadau adar'
  • gwiriwch y byddwch yn gallu bodloni amodau'r drwydded yn eich digwyddiad

I wneud cais am drwydded benodol i gynnal crynhoad yng Nghymru: 

  1. Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais am drwydded.
  2. O leiaf 20 diwrnod cyn eich digwyddiad, e-bostiwch eich ffurflen gais i APHA yn CSCOneHealthAGO@apha.gov.uk. Cynhwyswch gopi o'ch cynllun wrth gefn, y mae'n rhaid iddo fod wedi'i lofnodi gan filfeddyg.
  3. Bydd APHA yn ystyried eich cais ac unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â'r crynhoad arfaethedig yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn eich cais am drwydded. Byddant yn cysylltu â chi drwy e-bost os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt.
  4. Bydd APHA yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais.  

Os gellir lliniaru'r risgiau, mae'n bosibl y bydd APHA yn rhoi ‘cytundeb mewn egwyddor’ i chi. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch chi'n gallu cynnal eich crynhoad, ond nid yw'n gwarantu hynny.

Bydd APHA yn ailasesu'r risgiau 7 diwrnod cyn eich digwyddiad ac yn rhoi'r drwydded i chi os gellir lliniaru'r risgiau o hyd. Bydd APHA yn rhoi'r drwydded i chi ddim mwy na 7 diwrnod cyn i'r crynhoad gael ei gynnal.

Os na ellir lliniaru'r risgiau yn ddigonol, bydd APHA yn gwrthod eich cais.

Cael gafael ar gymorth

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen, cysylltwch â thîm Gorchmynion Crynoadau Anifeiliaid APHA gan e-bostio: CSCOneHealthAGO@apha.gov.uk