Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Crynodeb misol o berfformiad a gweithgarwch GIG Cymru. Mae tueddiadau tymor hir yn cael sylw yn ein hadroddiadau blynyddol, Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG a Thueddiadau yng ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG.

Mae data yn cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ceir rhagor o fanylion ar y data ym mhob maes pwnc ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Gwasanaethau brys (Mawrth)

Ym mis Mawrth, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 909 o alwadau porffor, sef tua 2.6% o'r holl alwadau, a 4,739 o alwadau coch, sef tua 13.5% o'r holl alwadau. 

Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 22.5% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol. 

Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 37 eiliad, a oedd yn hirach nag yn y mis blaenorol. Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau coch oedd 9 munud 25 eiliad, a oedd yn hirach nag yn y mis blaenorol. Y targed ar gyfer amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor a choch yw 6 i 8 munud, sy’n golygu bod y targed ar gyfer galwadau porffor wedi’i fodloni, ond nid y targed ar gyfer galwadau coch.

Ym mis Mawrth, roedd ychydig dros 96,500 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,113 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 190 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol. 

Roedd y perfformiad wedi gwella yn erbyn y targed o bedair awr, ond roedd y perfformiad wedi gwaethygu yn erbyn y targed o ddeuddeg awr o’i gymharu â’r mis blaenorol. 

Roedd yr amser cyfartalog a gafodd ei dreulio mewn adrannau achosion brys yn hwy na’r mis blaenorol – cyfanswm o 2 awr a 52 munud.

Rhestrau aros am driniaeth (Chwefror)

Roedd ychydig llai na 688,000 o lwybrau cleifion rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn aros i ddechrau triniaeth, gostyngiad o tua 25,100 ers mis Ionawr. Dyma’r ffigur isaf ers Rhagfyr 2021, a’r nawfed mis yn olynol lle mae’r ffigur wedi disgyn. Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mlog y prif ystadegydd.

Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 543,400 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau.

Roedd cyfran y llwybrau a oedd yn aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu i 63.6% ym mis Chwefror, sef y ffigur uchaf ers mis Mai 2020. Roedd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng i ychydig o dan 184,500, yr ail ffigur isaf ers mis Medi 2020.

Roedd ychydig dros 4,500 o lwybrau'n aros mwy na dwy flynedd, 93.6% yn is na'r ffigur uchaf a gostyngiad o 691 (13.3%) ers y mis blaenorol. 

Roedd yr amser cyfartalog yr oedd cleifion wedi bod yn aros am driniaeth ar ddiwedd mis Chwefror 1.1 wythnos yn fyrrach na’r mis blaenorol sef 16.7 wythnos, y ffigur isaf ers mis Ebrill 2020.

Mae data dros dro ar gyfer mis Mawrth yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm y llwybrau sy’n aros, a gostyngiad yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd.

Roedd ychydig dros 17,700 o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol, a oedd yn ostyngiad o’r mis blaenorol, a 82.7% yn llai na'r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022. Dyma’r ffigur isaf ers mis Awst 2020.

Diagnosteg a therapïau (Chwefror)

Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, bu gostyngiad yn nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i ychydig o dan 129,200 ym mis Chwefror. Roedd y nifer a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi lleihau i ychydig o dan 38,500.

Ar gyfer therapïau, cynyddodd nifer y llwybrau a oedd yn aros i ychydig dros 57,200 a gostyngodd y nifer a oedd yn aros mwy na phedair wythnos ar ddeg (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) i ychydig o dan 5,200, yr ail ffigur uchaf ers mis Hydref 2024. 

Gwasanaethau canser (Chwefror)

Dechreuodd 1,875 o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Chwefror, sef 199 yn llai na’r mis blaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cleifion a gafodd wybod nad oedd canser arnynt i 13,319. Nid oedd y perfformiad o’i gymharu â’r targed o 62 diwrnod wedi newid ym mis Chwefror, gan aros yn 57%.

Galwadau ambiwlans

Hyd at fis Gorffennaf 2025 roedd galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu categoreiddio fel rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), rhai ambr (difrifol ond nid yw bywyd yn y fantol) neu rai gwyrdd (achosion nad ydynt yn rhai brys). 

Ar 1 Gorffennaf cafodd model ymateb newydd ei roi ar waith, gan gyflwyno dau gategori ymateb newydd yn lle'r categori coch blaenorol. Y categorïau newydd yw porffor: Ataliad, ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol, a choch: Argyfwng, ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae cleifion mewn risg sylweddol o ataliad y galon neu ataliad anadlol os na fyddant yn cael ymateb cyflym. 

Ar 2 Rhagfyr 2025, disodlwyd y categorïau ambr a gwyrdd blaenorol gan dri chategori newydd. Sef, oren: Nawr, ar gyfer cyflyrau difrifol, melyn: Yn fuan, ar gyfer pobl y mae angen eu hasesu gyntaf, a gwyrdd: Wedi'i gynllunio, ar gyfer galwadau llai brys. 

Bydd data hyd at fis Mehefin 2025 yn seiliedig ar y model ymateb blaenorol yn dal ar gael ar StatsCymru, fodd bynnag, ni fydd modd eu cymharu â'r mesurau newydd. Bydd ystod ehangach o ddangosyddion ansawdd yn cael eu cyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Mae’r diweddariad hwn gan y Prif Ystadegydd  yn rhoi rhagor o wybodaeth am gefndir y mesurau perfformiad ambiwlansys newydd. 

Gweithgarwch

Ffigur 1: nifer y galwadau ambiwlans brys porffor a choch, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod nifer y galwadau porffor yn gymharol sefydlog ond mae nifer y galwadau coch wedi bod yn fwy cyfnewidiol yn ddiweddar. 

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 909 o alwadau porffor (tua 2.6% o'r holl alwadau), sy’n gynnydd o'i gymharu â mis Chwefror. Cafwyd 4,739 o alwadau coch (tua 13.5% o'r holl alwadau), sy'n gynnydd o'i gymharu â mis Chwefror.

Cafwyd 13,705 o alwadau oren, 4,992 o alwadau melyn, a 1,823 o alwadau gwyrdd.

Perfformiad

Targedau

  • Ar gyfer galwadau porffor a choch, targedau’r amser ymateb canolrifol a'r 90ain ganradd yw 6-8 munud ac o dan 20 munud yn y drefn honno.
Ffigur 2: cyfradd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC), fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod y cyfraddau cylchrediad digymell wedi amrywio rhwng 20% a 30%.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yng nghyswllt cleifion ag ataliad y galon y rhoddwyd cynnig ar eu dadebru, roedd cylchrediad digymell wedi dychwelyd (ROSC) i 22.5% ohonynt erbyn iddynt gyrraedd yr ysbyty, sy’n gynnydd o’i gymharu â’r mis blaenorol. 

Ffigur 3: amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain ganradd ar gyfer galwadau ambiwlans brys porffor a choch (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart linell sy'n dangos bod yr amseroedd ymateb canolrifol a’r 90ain ganradd yn fyrrach ar gyfer galwadau porffor na galwadau coch, ac mae pob un yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yr amseroedd ymateb canolrifol ar gyfer galwadau porffor oedd 7 munud 37 eiliad, a oedd yn hirach nag ym mis Chwefror. Roedd y 90ain ganradd (y pwynt lle’r oedd 90% o’r ymatebion yn gyflymach a 10% yn arafach) yn 16 munud 57 eiliad, sy’n hirach nag ym mis Chwefror. Mae’r amseroedd ymateb i alwadau porffor wedi’u bodloni.

Ar gyfer galwadau coch, cynyddodd y canolrif i 9 munud 25 eiliad a chynyddodd y 90ain ganradd hefyd, i 22 munud 23 eiliad. Mae hyn yn golygu nad oedd targedau amseroedd ymateb galwadau coch wedi’u bodloni.

Ffigur 4: amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd, i ddechrau cyfarwyddyd CPR, ac i adnabod ataliad y galon (munudau ac eiliadau), fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod yr amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd wedi amrywio, a’r amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR ac i adnabod ataliad y galon wedi bod yn fwy sefydlog.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

[Nodyn 1]: Mae diffiniadau manwl o’r mesurau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mesurau gweithgaredd a pherfformiad ambiwlansys, ar StatsCymru

Yr amser canolrifol i’r diffibriliwr gyrraedd oedd 5 munud a 10 eiliad. Yr amser canolrifol i ddechrau cyfarwyddyd CPR oedd 4 munud a 32 eiliad, a'r amser canolrifol i adnabod ataliad y galon oedd 2 funud a 51 eiliad. 

Adrannau achosion brys

Gweithgarwch

Ffigur 5: cyfartaledd yr ymweliadau ag adrannau achosion brys, a derbyniadau i ysbytai o ganlyniad i ymweld ag adrannau achosion brys mawr y dydd, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart linell yn dangos tuedd gynyddol yn gyffredinol o ran ymweliadau ag adrannau achosion brys.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Adrannau achosion brys: ymweliadau yn ôl oedran a rhyw, mis Ebrill 2016 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae’r siart yn dangos nifer yr ymweliadau ag adrannau achosion brys mawr ac unedau mân anafiadau, a nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar ôl mynd i adrannau achosion brys mawr yn unig.

Ym mis Mawrth, roedd ychydig dros 96,500 o ymweliadau â’r holl adrannau brys, sef 3,113 o ymweliadau ar gyfartaledd bob dydd; roedd hyn 190 yn fwy bob dydd ar gyfartaledd nag yn y mis blaenorol. 

Derbyniwyd ychydig o dan 14,700 o gleifion i’r ysbyty ar ôl bod mewn adrannau achosion brys mawr. Roedd hyn 12.4% yn uwch na’r mis blaenorol.

Perfformiad

Targedau

  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
  • Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
Ffigur 6: canran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart linell yn dangos bod canran y cleifion a gafodd eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf, rhwng 60 a 70%.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Adrannau achosion brys: perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, roedd 64.2% o gleifion wedi treulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Roedd hyn yn uwch na’r mis blaenorol, ond mae’n dal yn isel wrth gymharu ag ystadegau hanesyddol. 

Yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 52 munud, sef 1 munud yn fwy na’r mis blaenorol. Mae’r amseroedd aros yn amrywio yn ôl oedran, yr amser o’r dydd a diwrnod yr wythnos. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys a gofal mewn argyfwng y GIG.

Ffigur 7: cleifion sy'n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o adrannau achosion brys y GIG, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau mewn adrannau achosion brys wedi bod yn gymharol sefydlog yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Set ddata adrannau achosion brys, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Adrannau achosion brys: perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Mawrth, roedd 10,939 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy. Roedd hyn 1,126 (11.5%) yn fwy na’r mis blaenorol.  

Apwyntiadau cleifion allanol

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyhoeddi dangosfwrdd gofal eilaidd sy’n darparu data ar apwyntiadau cleifion allanol, derbyniadau cleifion mewnol a gweithgarwch achosion dydd yng Nghymru.

Gweithgarwch

Ffigur 8: atgyfeiriadau dyddiol cyfartalog ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol, fesul mis

Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart linell yn dangos atgyfeiriadau cleifion allanol, sydd wedi bod yn amrywio gyda’r duedd am i fyny. 

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Atgyfeiriadau cleifion allanol, mis Ebrill 2012 ymlaen, ar StatsCymru

Ar gyfartaledd, cafwyd 4,796 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol bob dydd ym mis Chwefror. Mae hyn yn gynnydd o 5.7% (260 yn fwy o atgyfeiriadau bob dydd ar gyfartaledd) o’i gymharu â mis Ionawr. 

Perfformiad

Targedau

Ffigur 9: llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos bod y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn wedi gostwng yn sylweddol yn ddiweddar. 

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau yn aros i ddechrau triniaeth, tabl crynodeb, mis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, gostyngodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol 20.7% o’i gymharu â’r mis blaenorol, i ychydig dros 17,700. Roedd hyn 82.7% yn is na’r cyfnod prysuraf ym mis Awst 2022, a’r ffigur isaf ers mis Awst 2020.

Diagnosteg a therapïau

Gweithgarwch

Ffigur 10: llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos tuedd am i fyny o ran nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am wasanaethau diagnosteg a thuedd sefydlog ar gyfer gwasanaethau therapi.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Gwasanaethau diagnostig: amseroedd aros llwybrau, grwpiau o wythnosau aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau therapi: amseroedd aros llwybrau, grwpiau o wythnosau aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru 

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach.

Ym mis Chwefror, roedd ychydig o dan 129,200 o lwybrau cleifion yn aros am wasanaethau diagnostig, sef gostyngiad o 4.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Ym mis Chwefror, roedd ychydig dros 57,200 o lwybrau cleifion yn aros am therapïau, sef cynnydd o 2.8% o’i gymharu â’r mis blaenorol. 

Perfformiad

Targedau

  • Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos.
  • Yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos.
  • Fe wnaeth y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio osod gwanwyn 2024 fel dyddiad targed ar gyfer cyflawni'r targedau hyn.
Ffigur 11: llwybrau cleifion sy’n aros yn hirach na’r amser targed am wasanaethau diagnostig a therapi, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos tuedd amrywiol mewn llwybrau diagnostig sy'n aros mwy nag 8 wythnos, gyda llwybrau therapïau sy'n aros mwy na 14 wythnos yn dangos tuedd sefydlog yn ddiweddar.

Ffynhonnell: Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Gwasanaethau diagnostig: amseroedd aros llwybrau, grwpiau o wythnosau aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

Gwasanaethau therapi: amseroedd aros llwybrau, grwpiau o wythnosau aros, mis Hydref 2009 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024. 

Ym mis Chwefror, roedd ychydig o dan 38,500 o lwybrau'n aros yn hirach na'r amser targed am wasanaethau diagnostig, gostyngiad o 20.4% o'i gymharu â mis Ionawr. 

Roedd ychydig o dan 5,200 o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na'r amser targed, sef gostyngiad o 2.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol, ond dyma yn dal yr ail ffigur uchaf ers mis Hydref 2024.

Roedd canolrif yr amser aros ar gyfer profion diagnostig yn 4.6 wythnos, 0.8 wythnos yn fyrrach nag ym mis Ionawr, ac ar gyfer gwasanaethau therapi roedd yn 4 wythnos, 0.1 mis yn hirach nag ym mis Ionawr.

Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn cynnwys llwybrau sydd ar agor ac wedi cau ar ôl derbyn atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty am driniaeth. Llwybrau agored yw’r rhai sy’n aros ar y rhestr aros am driniaeth, a llwybrau wedi cau yw’r rhai sydd wedi cael eu tynnu.

Caiff gweithgarwch ei fesur yn ôl llwybrau cleifion, sy’n wahanol i nifer y cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth hwn ar gael ym mlog prif ystadegydd Llywodraeth Cymru

Mae gwybodaeth reoli wedi cael ei chyhoeddi hefyd, am nifer y cleifion unigol sydd ar restrau aros am driniaethau (StatsCymru).

Perfformiad

Targedau

  • Dim cleifion yn aros mwy na dwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023, a dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025 (targedau wedi'u sefydlu yn y cynllun adfer gofal wedi'i gynllunio).
  • 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeiriad.
  • Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeiriad.
Ffigur 12: llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth, fesul mis [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos gostyngiadau diweddar yn y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn. Mae’r niferoedd sy’n aros dwy flynedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau yn aros i ddechrau triniaeth, tabl crynodeb, mis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae'r ffigurau yn yr ardal dywyll ar gyfer y mis diweddaraf yn y siart hwn yn rhai dros dro a gallent newid. Daw'r gyfres ddata swyddogol i ben yn y mis blaenorol.

Ym mis Chwefror, roedd ychydig o dan 688,000 o lwybrau cleifion yn aros i ddechrau triniaeth, gostyngiad o fis Ionawr (713,000). Roedd ychydig o dan 105,600 o lwybrau yn aros dros flwyddyn ym mis Chwefror, gostyngiad o 8.8% o’r mis diwethaf, a’r isaf ers mis Tachwedd 2020. Roedd ychydig dros 4,500 yn aros mwy na dwy flynedd, 13.3% yn is na’r mis diwethaf a 93.6% yn is na’r lefel uchaf ym mis Mawrth 2022.

Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn cael eu cyhoeddi gydag oedi o tua saith wythnos o ddiwedd y cyfnod cyfeirio. Fodd bynnag, o ystyried y diddordeb mewn rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau'r amseroedd aros hiraf, mae gwerth cyhoeddus mewn sicrhau bod data ar y pwnc hwn ar gael yn gynharach. Rydym felly'n darparu amcangyfrifon dros dro ar gyfer y mis i ddod. 

Mae data dros dro yn dangos bod tua 666,700 o lwybrau'n aros ddiwedd mis Mawrth, ac roedd 95,900 ohonynt yn aros mwy na blwyddyn a 2,600 yn aros mwy na dwy flynedd. Mae’n bosib i’r amcangyfrifon dros dro hyn newid cyn i'r ffigurau swyddogol ar gyfer mis Mawrth gael eu rhyddhau ym mis Mai.

Nid oes modd cymharu’r prif fesurau ar gyfer llwybrau agored ledled y Deyrnas Unedig. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ystadegau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sy’n golygu na ddylid eu cymharu o gwbl. Yn Lloegr, mae modd cynhyrchu nifer cymharol debyg ar gyfer Cymru drwy ddileu rhai llwybrau hysbys nad ydynt yn cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol, nad ydynt yn cael eu cyfrif yn Lloegr. 

Ar y sail honno, mae tua 610,300 o lwybrau agored ar lwybrau sy’n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yng Nghymru, sy’n cyfateb i 19 o lwybrau am bob 100 o bobl. Yn Lloegr, roedd y ffigur ym mis Chwefror yn 12 llwybr ar gyfer pob 100 o bobl. Mae’r cymariaethau hyn yn cael eu harchwilio ymhellach yn y blog hwn gan y Prif Ystadegydd

Nid yw nifer y llwybrau cleifion yr un fath â nifer y cleifion unigol, oherwydd mae gan rai pobl sawl llwybr ar agor. Mae gwybodaeth reoli yn awgrymu bod tua 543,400 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaethau yng Nghymru. Mae amcangyfrifon ar gyfer nifer y cleifion unigol sy’n aros i ddechrau triniaeth fesul bwrdd iechyd ar gael yn set ddata Rhestrau aros y GIG: amcangyfrif o gleifion unigryw ar StatsCymru.

Ffigur 13: canran y llwybrau cleifion sy’n aros llai na 26 wythnos, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 13: siart linell yn dangos bod y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos wedi cynyddu yn ddiweddar. 

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau yn aros i ddechrau triniaeth, tabl crynodeb, mis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

O blith ychydig o dan 688,000 o lwybrau cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd mis Chwefror, roedd 63.6% wedi bod yn aros llai na 26 wythnos. Roedd hyn yn uwch nag yn y mis blaenorol, a’r uchaf ers mis Mai 2020.

Ffigur 14: llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos, fesul mis  
Image

Disgrifiad o ffigur 14: siart linell yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng yn ddiweddar. 

Ffynhonnell: Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Rhestrau aros y GIG: rhwng atgyfeirio a thriniaeth: llwybrau yn aros i ddechrau triniaeth, tabl crynodeb, mis Medi 2011 ymlaen, ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, roedd ychydig o dan 184,500 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd hyn tua 18,200 yn is nag yn y mis blaenorol, a’r ffigur isaf ers mis Medi 2020. Mae’r ffigur hwn yn cynrychioli 26.8% o’r holl lwybrau sy’n aros i ddechrau triniaeth. 

Roedd yr amser canolrifol yn aros i ddechrau triniaeth ym mis Ionawr yn 16.7 wythnos, sef 1.1 wythnos yn fyrrach nag yn y mis blaenorol a’r ffigur isaf ers mis Ebrill 2020.

Ffigur 15: nifer y llwybrau cleifion sydd wedi cau, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 15: siart linell yn dangos bod y patrwm o ran nifer y llwybrau cleifion sy'n cau wedi mwy na dyblu yn y pum mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Rhestrau aros y GIG: llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth sydd wedi cau, mis Medi 2011 ymlaen

Cafodd ychydig dros 133,600 o lwybrau cleifion eu cau ym mis Ionawr. Felly caewyd 6,682 o lwybrau cleifion ar gyfartaledd fesul diwrnod gwaith, sef gostyngiad o’r 211 o lwybrau cleifion (neu 3.1%) a gaewyd fesul diwrnod gwaith yn y mis blaenorol. 

Oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty

Mae oedi wrth ryddhau cleifion o ysbyty yn digwydd pan fydd claf sy’n barod i’w ryddhau’n glinigol yn methu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw’r gofal a’r cymorth parhaus angenrheidiol na’r llety addas ar ei gyfer ar gael yn rhwydd. Mae'r ffigurau'n cynrychioli nifer yr oedolion a oedd yn barod i ddychwelyd adref neu symud ymlaen i gam nesaf eu gofal, a gafodd dros 48 awr o oedi cyn trosglwyddo. Mae'r data yn gipolwg ar oedi ar ddiwrnod penodol bob mis, sy'n golygu nad yw’n rhoi cyfanswm yr oedi dros y mis. Mae ffigurau ar gael ar gyfer nifer yr achosion unigol o oedi a chyfanswm cyfatebol nifer y diwrnodau o oedi a brofwyd gan y cleifion hynny. 

Ffigur 16: nifer yr achosion o oedi mewn llwybrau gofal a chyfanswm y diwrnodau o oedi, fesul mis [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 16: siartiau llinell sy'n dangos bod nifer yr achosion o oedi a chyfanswm y diwrnodau o oedi yn gostwng.

Ffynhonnell: Oedi yn achos llwybrau gofal, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Oedi cyn rhyddhau o’r ysbyty: cyfanswm yr oedi mewn llwybrau gofal a chyfanswm y diwrnodau o oedi, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae echelinau fertigol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol.

Ym mis Mawrth, roedd ychydig o dan 1,400 o ddigwyddiadau oedi yn achos llwybrau gofal ar y diwrnod y casglwyd y data, gostyngiad o’i gymharu â’r ffigur ym mis Chwefror. Roedd cyfanswm y diwrnodau cronnol o oedi ar gyfer y cleifion hynny ychydig dros 57,500, sy'n ostyngiad o'i gymharu â'r ffigur ym mis Chwefror.

Gwasanaethau canser

Mae nifer o fesurau ehangach o’r llwybr amheuaeth o ganser yn cael eu cynhyrchu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Gweithgarwch

Ffigur 17: llwybrau amheuaeth o ganser a gaewyd yn y mis, fesul mis a chanlyniad

Image

Disgrifiad o ffigur 17: siart linell yn dangos nifer y llwybrau cleifion a gafodd wybod nad oes canser arnynt, sy’n amrywio, a’r nifer sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, sy’n gymharol sefydlog.

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd aros canser: cleifion sy'n dechrau triniaeth a chleifion sy'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser, ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, fe wnaeth 1,875 o lwybrau ddechrau triniaeth canser, 199 yn llai nag ym mis Ionawr. Cafodd 13,319 o lwybrau eu cau, ar ôl i gleifion gael gwybod nad oedd ganddynt ganser, gostyngiad o 6.3%. Roedd 16,178 o lwybrau newydd lle’r amheuir canser, gostyngiad o 343 (2.1%) ers mis Ionawr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y llwybrau newydd a agorwyd wedi bod yn gymharol sefydlog.

Perfformiad 

Targed

  • Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. 
Ffigur 18: canran y llwybrau lle dechreuodd y claf ei driniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, fesul mis
Image

Disgrifiad o ffigur 18: siart linell yn dangos bod canran y cleifion sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth o ganser wedi bod rhwng 50% a 65% yn ystod y blynyddoedd diwethaf, heb unrhyw duedd amlwg i'w weld. 

Ffynhonnell: Llwybr Amheuaeth o Ganser, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Amseroedd aros canser: cleifion sy'n dechrau triniaeth a chleifion sy'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser, ar StatsCymru

Ym mis Chwefror, roedd 57.0% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf. Yr un gyfran oedd hon â’r mis blaenorol.

Sylw i Fyrddau Iechyd Lleol

Mae perfformiad byrddau iechyd lleol yn cael ei drafod yn y datganiad chwarterol ar berfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Ar gyfer y misoedd pan nad yw’r datganiad hwn yn cael ei gynhyrchu, bydd dadansoddiadau cryno yn cael eu darparu yn yr adran hon. Mae’r dadansoddiadau hyn ar sail darparwr bwrdd iechyd, nid bwrdd iechyd y breswylfa. Mae hyn yn golygu bod cleifion sy’n byw mewn un bwrdd iechyd ond sydd ar restrau aros a ddarperir gan fyrddau iechyd eraill yn cael eu cyfrif yn ffigurau’r sefydliadau hynny. Mae hyn yn gyson â’r fframwaith rheoli perfformiad yng Nghymru, gan fod safonau a thargedau’n cael eu hasesu ar sail darparwr.

  • Cafodd amrywiaeth o fetrigau perfformiad ambiwlansys newydd eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Cyhoeddir ffigurau'r byrddau iechyd ar StatsCymru. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl crynhoi'r rhain ar ffurf y mesurau allweddol ar gyfer y pynciau eraill fel y nodir isod. 
  • O'r mesurau sy'n cael sylw yn yr adroddiad hwn; mae gan bob bwrdd iechyd ac eithrio Betsi Cadwaladr naill ai ddim llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd neu lai nag 1%; nid oes gan Abertawe amseroedd aros o flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol ar hyn o bryd, tra bo gan Hywel Dda a Phowys lai nag 1%; nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau therapi sy’n aros dros 14 wythnos ac mae gan Bowys lai nag 1%. 
  • O ran adrannau achosion brys, Hywel Dda sydd â'r perfformiad 4 awr gorau (75.1%) a Betsi Cadwaladr sydd â’r gwaethaf (51.9%).  Aneurin Bevan sydd â'r perfformiad 12 awr gorau (7.2%) a Betsi Cadwaladr sydd â’r gwaethaf (18.7%).
  • Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfran uchaf o lwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd ym mis Chwefror (19.8% a 1.7%). Powys sydd â'r gyfran isaf o ran achosion aros dros flwyddyn (1.2%) ac nid oes ganddo unrhyw lwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd. 
  • O ran amseroedd aros am dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol, Caerdydd a’r Fro sydd â'r gyfran uchaf gyda 12.4% o lwybrau, ac nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros.
  • Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfran uchaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (51.1%) a Phowys sydd â’r gyfran isaf (2.8%).
  • O ran therapïau, Hywel Dda sydd â'r gyfran uchaf dros 14 wythnos (22.5%), nid oes gan Fae Abertawe unrhyw lwybrau sy’n aros dros 14 wythnos.
  • O ran gwasanaethau canser, Cwm Taf Morgannwg sydd â'r gyfran uchaf o gleifion sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod (66.0%), a Bae Abertawe sydd â'r gyfran isaf (46.3%).

Mae data manylach ar gael ar StatsCymru: Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ffigur 19: Crynodeb o berfformiad byrddau iechyd lleol, Chwefror a Mawrth 2026 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 19: cyfres o siartiau yn dangos perfformiad cymharol y byrddau iechyd ar gyfer mesurau dethol ar draws gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif uchod.

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru

[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth edrych ar faint y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae’r holl wybodaeth am ansawdd a methodoleg mewn perthynas â’r datganiad ystadegol hwn ar gael yn adroddiad ansawdd y crynodeb o berfformiad a gweithgarwch y GIG.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).  

Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (OSR) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007. 

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. 

Dibynadwyedd

Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.

Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. 

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Ansawdd

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.

Gwerth

Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.

Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.

Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.

Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy. 

Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Y diweddariad nesaf

21 Mai 2026

Hoffem gael adborth gennych

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegau Ysbyty
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Y Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 32/2026

Image