Cafcass Cymru: rhestr termau sy’n gyfeillgar i blant
Yn egluro ystyr geiriau a ddefnyddir mewn dogfennau Cafcass Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhestr termau
Adborth
Sylwadau neu syniadau gan blant, teuluoedd, neu weithwyr proffesiynol sy'n ein helpu i wella'r hyn a wnawn.
Adolygiad o Achos
Pan fyddwn yn edrych yn ôl ar achos er mwyn gweld beth aeth yn dda a beth y gallem ei wneud yn well y tro nesaf.
Adolygiad o Ymarfer
Pan fyddwn yn edrych yn agos ar ein gwaith er mwyn gwneud yn siŵr bod lleisiau plant, eu hanghenion, a'u diogelwch yn rhan greiddiol o'r gwaith hwnnw.
Amrywiaeth
Y gwahaniaethau rhwng pobl – fel diwylliant, iaith, cefndir, neu hunaniaeth.
Archwiliad
Gwiriad rydym yn ei gynnal er mwyn gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn ddiogel, yn deg, ac o ansawdd uchel.
Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield
Grŵp sy'n gwneud gwaith ymchwil er mwyn helpu i wella'r system cyfiawnder teuluol.
Atebolrwydd
Cymryd cyfrifoldeb dros yr hyn a wnawn a gallu esbonio pam ein bod wedi gwneud penderfyniad.
Awdurdodau Lleol
Sefydliadu fel cynghorau sy'n darparu gwasanaethau fel gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, a thai.
Cafcass Cymru
Y sefydliad yng Nghymru sy'n helpu plant a phobl ifanc pan fydd eu teulu yn y llys.
CCUHP
Rhestr o hawliau i bob plentyn.
Cyd-ddylunio
Gweithio gyda phlant, pobl ifanc, a theuluoedd er mwyn helpu i wella ein gwasanaethau.
Cydweithio
Rhannu syniadau a chefnogi ein gilydd er mwyn i blant gael yr help gorau.
Datblygu Arweinyddiaeth
Hyfforddiant i helpu rheolwyr i gefnogi eu timau a gwneud penderfyniadau da.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyfleoedd dysgu a hyfforddiant sy'n helpu ein staff i wella'n barhaus wrth wneud eu swyddi.
Diduedd
Peidio â chymryd ochr – gwneud penderfyniadau sy'n gytbwys ac sy'n canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i'r plentyn.
Diogelu
Cadw plant yn ddiogel rhag niwed.
Diogelu Data
Rheolau sy'n cadw gwybodaeth bersonol pobl yn ddiogel.
Fframwaith Iaith Gymraeg
Ein cynllun ar gyfer sicrhau y gall pobl ddefnyddio'r Gymraeg pan fyddant am wneud hynny.
Fframwaith Ymarfer
Canllaw sy'n esbonio sut rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd.
Gonest
Dweud y gwir a bod yn glir ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud a pham.
Gwerthoedd
Y pethau sydd bwysicaf i ni ac sy'n tywys ein hymddygiad.
Llais y Plentyn
Yr hyn y mae plentyn yn ei feddwl, yn ei deimlo, ac am ei gael. Rydym yn gwneud yn siŵr y caiff hyn ei glywed yn y llys.
Lles / Llesiant
Teimlo'n iach, yn hapus, ac wedi'ch cefnogi.
Llys Teulu
Llys arbennig sy'n helpu i wneud penderfyniadau i gadw plant yn ddiogel.
Myfyrio
Meddwl am ein gwaith a beth y gallem ei wneud yn well y tro nesaf.
Partneriaethau Cymdeithasol
Pan fydd oedolion mewn sefydliad yn cydweithio, yn gwrando ar ei gilydd, ac yn gwneud cynlluniau i helpu pawb i wneud eu swyddi yn dda ac i gael eu trin yn deg.
Parch
Trin pawb yn garedig ac yn deg, hyd yn oed pan fydd eu bywydau neu eu profiadau yn wahanol i'n rhai ni.
Proffesiynol
Gwneud ein gwaith yn iawn, bod yn onest, a gwneud ein gorau i helpu plant a theuluoedd.
Pwyllgor Cynghori
Grŵp o bobl sy'n rhoi cyngor i ni i'n helpu i wneud penderfyniadau da.
Rhanddeiliaid
Pobl neu grwpiau rydym yn gweithio gyda nhw, fel y llysoedd, awdurdodau lleol, neu bobl ifanc.
Rhwydwaith / Byrddau / Cyngor Cyfiawnder Teuluol
Grŵp o weithwyr proffesiynol sy'n cydweithio i wella'r system cyfiawnder teuluol.
Sesiwn Goruchwylio Fyfyriol
Man diogel i ymarferwyr sôn am eu gwaith, dysgu, a chael cymorth.
Sgiliau
Y pethau rydym yn gwybod sut i'w gwneud yn dda yn ein swydd.
Systemau Digidol
Y dechnoleg rydym yn ei defnyddio i'n helpu i weithio, fel cyfrifiaduron, apiau, ac adnoddau ar-lein.
Tryloywder
Bod yn agored ac yn glir er mwyn i bobl ddeall sut a pham mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.
Uchelgeisiau
Y pethau pwysig rydym am wneud iddynt ddigwydd dros amser er mwyn gwella pethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Unigryw / Unigrywiaeth
Y pethau arbennig sy'n gwneud pob person yn nhw.
Urddas
Siarad yn garedig â phobl, gwrando arnynt, a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn bwysig.
Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc (FJYPB)
Grŵp o bobl ifanc sy'n ein helpu i ddeall beth sy'n bwysig i blant a phobl ifanc sy'n mynd drwy'r llys teulu.
Y Farnwriaeth
Barnwyr ac ynadon sy'n gweithio yn y llysoedd.
Y Trydydd Sector
Grwpiau elusennol a chymunedol sy'n llefaru ar ran plant a theuluoedd.
Yn seiliedig ar dystiolaeth
Defnyddio gwybodaeth, ffeithiau, a gwybodaeth broffesiynol i wneud penderfyniadau.
