Y Gwir Anrh Rhun ap Iorwerth AS Prif Weinidog Cymru
Cynnwys
Prif Weinidog Cymru
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau
- Disgwyliadau, goruchwyliaeth a chymorth ar gyfer gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r Ysgrifennydd Parhaol
- Datblygu, gweithredu a chyflwyno'r Rhaglen Lywodraethu a pholisïau Llywodraeth Cymru
- Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (gyda chymorth y Gweinidog dros Effeithiolrwydd Llywodraeth)
- Hyrwyddo a chynrychioli Cymru gartref a thramor
- Cysylltiadau Rhynglywodraethol
- Cysylltiadau Rhyngwladol gan gynnwys y rhwydwaith tramor a chysylltiadau â'r UE
- Argyfyngau Sifil Posibl a Chadeirio Fforwm Gwydnwch Cymru
- Diogelwch gwladol gan gynnwys gwrthderfysgaeth a seiberddiogelwch
- Cod y Gweinidogion
- Llywodraeth Agored a rheoli gwybodaeth, gan gynnwys diogelu data
- Cyrff Hyd Braich – llywodraethiant cyffredinol
- Ymchwiliad Cyhoeddus Llywodraeth y DU i Covid-19
- Arwain y Cabinet
- Cyfathrebu Strategol
- Penodiadau Cyhoeddus
- System etholiadol y Senedd
Bywgraffiad
Hanes personol
Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol gyntaf yn aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad ym mis Awst 2013. Wedi ei eni yng nghymoedd y de, treuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Meirionnydd cyn symud i’r ynys. Cafodd ei addysgu yn Ysgol David Hughes a Phrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg. Mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.
Cefndir proffesiynol
Bu’n newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd cyn cael ei ethol. Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, gan dreulio cyfnod yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru wedi pleidlais datganoli 1997. Bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd i Newyddion Rhwydwaith y BBC, a chyflwynodd ystod eang o raglenni teledu a radio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hanes gwleidyddol
Ers ei ethol gyntaf, mae wedi treulio cyfnodau yn Weinidog Cysgodol dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid, ac yn aelod o’r pwyllgorau cyfatebol yn y Cynulliad a’r Senedd. Bu hefyd yn aelod ar wahanol adegau o’r Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau, yn ogystal ag yn un o Gomisiynwyr y Senedd, ac yn un o Ddirprwy Arweinwyr Grŵp Plaid Cymru yn ystod y Bumed Senedd. Gwasanaethodd fel Cadeirydd cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad am ddau dymor Seneddol.
Ar 12 Mai 2026 penodwyd Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru.
