Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i gysylltu â’r Prif Weinidog.

Bydd pob gweinidog yn ymdrin ag e-byst a llythyrau ar sail eu cyfrifoldebau.

Os ydych am godi pryderon ynghylch nifer o bortffolios, ysgrifennwch at un gweinidog yn unig. Byddwch yn cael un ymateb gan Lywodraeth Cymru ynghylch pob un o'ch pryderon. Gallwch ysgrifennu at y Prif Weinidog os yw'ch pryderon ar gyfer nifer o bortffolios a byddwch yn cael un ymateb gan Lywodraeth Cymru o swyddog priodol neu Weinidog ar gyfer pob un o'ch pryderon.

Ni fyddwch yn cael ymatebion gwell na chynt drwy gysylltu gyda mwy nag un gweinidog. Bydd eich gohebiaeth yn cael ei gyfuno a'i ateb unwaith ar ran Llywodraeth Cymru. Yn yr un modd, efallai cais gohebiaeth at y Prif Weinidog ei basio i'r Gweinidog dros y portffolio perthnasol neu swyddogion.

Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo hynny’n bosibl (hyd yn oed os byddwch wedi ysgrifennu atom ar ffurf copi caled). Efallai y byddwch am anfon eich gohebiaeth drwy e-bost yn unig.

Dylech hefyd edrych yn eich ffolder e-bost sothach a gwirio eich hidlyddion sbam wrth ddisgwyl ymateb. Efallai y byddwch am ychwanegu’r parth @llyw.cymru i’ch rhestr o barthau diogel er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn ein hymatebion e-bost.

Ein nod yw ymateb o fewn 17 o ddiwrnodau gwaith. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r cynnydd yn yr ohebiaeth yr ydym yn ei derbyn ar hyn o bryd, gallem gymryd mwy o amser na hyn.

Ni allwn ateb gohebiaeth ynghylch materion nad ydynt wedi eu datganoli. Llywodraeth y DU sy’n parhau’n gyfrifol am y materion hyn. Gallwch gael manylion cyswllt adrannau perthnasol y DU yma.

Cael cymorth ar-lein

Gallai fod yn gyflymach ichi gael cymorth ar-lein, yn yr adrannau isod:

Os ydych am gwyno am wasanaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), dylech gysylltu â’r sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth hwnnw yn y lle cyntaf.

Post

Gallwch ysgrifennu at y gweinidog i’r cyfeiriad isod. Peidiwch ag anfon copïau caled o e-byst.

Bydd llythyrau a dderbynnir drwy’r post yn cael eu hateb. ond gallai gymryd mwy o amser inni ateb llythyrau a dderbynnir drwy’r post. Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo’n bosibl, felly efallai yr hoffech ysgrifennu atom drwy e-bost.

Prif Weinidog Cymru
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1NA

E-bost

Gohebiaeth.Mark.Drakeford@llyw.cymru