Siân Gwenllian AS Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Materion yn ymwneud â pherfformiad, llywodraethiant a chyfansoddiad Llywodraeth Leol, trefniadau craffu, cabinetau, meiri etholedig, rôl cynghorwyr, eu hamrywiaeth, eu hymddygiad a'u tâl cydnabyddiaeth
- Diwygio Awdurdodau Lleol yn strwythurol, yn ddemocrataidd, yn ariannol ac yn gyfansoddiadol, gan gynnwys cydgysylltu modelau cydweithredu rhanbarthol
- Y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
- Gwasanaethau Tân ac Achub gan gynnwys diogelwch tân cymunedol
- Trefniadau etholiadol Llywodraeth Leol, noddi Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ac amseriad etholiadau Awdurdodau Lleol
- Rhoi cyllid heb ei neilltuo i Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy setliadau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol
- Llywodraethiant ariannol, ariannu a chyfrifyddu mewn perthynas â Llywodraeth Leol
- Materion yn ymwneud â gweithlu Llywodraeth Leol
- Gweithgareddau Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
- Cyflenwad ac ansawdd tai'r farchnad, tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
- Yr Is-adran Tir
- Ail Gartrefi
- Digartrefedd a chyngor ar dai
- Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat
- Rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Cymhorthion ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a Grantiau Addasu Ffisegol
- Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu'r Budd-dal Tai)
- Y Cynllun Cartrefi Cynnes
- Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn
- Goruchwylio a gweithredu'r Deddfau Cynllunio a phob agwedd ar bolisi cynllunio a phenderfynu ar geisiadau cynllunio a elwir i mewn ac apeliadau
- Lles cynllunio – y Cytundebau Adran 106 sydd yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
- Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol: penderfynu ar geisiadau cynllunio a chydsyniadau cysylltiedig
- Rheoliadau adeiladu
- Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040
- Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; Trawsnewid Canol Trefi a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio
- Polisi claddu ac amlosgi
