Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyfrifoldebau

  • Materion yn ymwneud â pherfformiad, llywodraethiant a chyfansoddiad Llywodraeth Leol, trefniadau craffu, cabinetau, meiri etholedig, rôl cynghorwyr, eu hamrywiaeth, eu hymddygiad a'u tâl cydnabyddiaeth
  • Diwygio Awdurdodau Lleol yn strwythurol, yn ddemocrataidd, yn ariannol ac yn gyfansoddiadol, gan gynnwys cydgysylltu modelau cydweithredu rhanbarthol
  • Y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
  • Gwasanaethau Tân ac Achub gan gynnwys diogelwch tân cymunedol
  • Trefniadau etholiadol Llywodraeth Leol, noddi Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ac amseriad etholiadau Awdurdodau Lleol
  • Rhoi cyllid heb ei neilltuo i Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy setliadau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol
  • Llywodraethiant ariannol, ariannu a chyfrifyddu mewn perthynas â Llywodraeth Leol
  • Materion yn ymwneud â gweithlu Llywodraeth Leol
  • Gweithgareddau Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
  • Cyflenwad ac ansawdd tai'r farchnad, tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
  • Yr Is-adran Tir
  • Ail Gartrefi
  • Digartrefedd a chyngor ar dai
  • Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat
  • Rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Cymhorthion ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a Grantiau Addasu Ffisegol
  • Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu'r Budd-dal Tai)
  • Y Cynllun Cartrefi Cynnes
  • Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn
  • Goruchwylio a gweithredu'r Deddfau Cynllunio a phob agwedd ar bolisi cynllunio a phenderfynu ar geisiadau cynllunio a elwir i mewn ac apeliadau
  • Lles cynllunio – y Cytundebau Adran 106 sydd yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol: penderfynu ar geisiadau cynllunio a chydsyniadau cysylltiedig
  • Rheoliadau adeiladu
  • Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040
  • Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; Trawsnewid Canol Trefi a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio
  • Polisi claddu ac amlosgi

Ysgrifennu at Siân Gwenllian