Neidio i'r prif gynnwys
Anna Brychan AS

Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb yn y Cabinet am addysg, y Gymraeg, sgiliau ac addysg drydyddol.

  • Safonau ysgolion, gwella a chyrhaeddiad disgyblion
  • Llywodraethiant ysgolion, trefniadaeth ysgolion a derbyniadau i ysgolion
  • Polisi cyllido ysgolion gan gynnwys Grant Addysg Awdurdodau Lleol
  • Trefniadau ar gyfer y cwricwlwm ac asesu
  • Dysgu digidol gan gynnwys Hwb a diogelwch ar-lein
  • Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
  • Addysg plentyndod cynnar (ar wahân i hyfforddi’r gweithlu)
  • Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anghenion disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol, disgyblion anabl
  • Cymorth i bobl â Dyslecsia
  • Tegwch mewn Addysg gan gynnwys y dull 'ysgol gyfan' o ymdrin ag iechyd meddwl, presenoldeb a diogelu, ymddygiad a chynhwysiant ac ysgolion bro
  • Bwyd a diod mewn ysgolion gan gynnwys Prydau Ysgol, Brecwast a Llaeth am Ddim a Bwyta'n Iach
  • Cwynion ynghylch Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion
  • Cyflawni a rheoli'r rhaglen gyfalaf Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
  • Cymwysterau Cymru
  • Cymwysterau TGAU
  • Cymwysterau Safon Uwch (ar y cyd â’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol)
  • Rhaglen, cylch gwaith a chyllid Estyn
  • Adnodd
  • Llwybrau gyrfa ymarferwyr ysgolion, safonau proffesiynol, cymorth dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, gan gynnwys addysg gychwynnol i athrawon a Dysgu
  • Ymgysylltu â’r gweithlu addysg gan gynnwys recriwtio a chadw staff, cyflog ac amodau, Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, llwyth gwaith a llesiant, a Chyngor y Gweithlu Addysg
  • Llwybrau Dysgwyr 14-19 (ar y cyd â’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol)
  • Cymraeg 2050 – gan gynnwys targedau a data, deddfwriaeth a safonau, cydymffurfiaeth sefydliadau â Safonau’r Gymraeg
  • Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys trochi a throsglwyddo iaith
  • Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg
  • Diogelu mewn lleoliadau addysg

Bywgraffiad

Hanes personol

Un o Geredigion yw Anna Brychan, ond mae’n byw yn Grangetown, Caerdydd ers dros 25 mlynedd. Ei thad oedd yr hanesydd John Davies, awdur Hanes Cymru. Mae hi’n briod a chanddi dri mab.

Cefndir proffesiynol

Mae hi wedi gweithio mewn nifer o swyddi yn y byd addysg, gan wasanaethu am 10 mlynedd fel Cyfarwyddwr NAHT Cymru (undeb llafur a chymdeithas broffesiynol ar gyfer penaethiaid yng Nghymru) cyn ei rôl fwyaf diweddar fel Deon Cynorthwyol Addysg a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Hanes gwleidyddol

Roedd ganddi amryw o rolau o fewn Plaid Cymru ym mlynyddoedd cynnar datganoli (2000-2004), gan gynnwys gwasanaethu fel arweinydd cyfathrebu a chyfnod yn Brif Weithredwr y blaid.

Ym mis Mehefin 2025, cafodd ei dewis i sefyll yn etholaeth Caerdydd Penarth yn etholiad y Senedd yn 2026, yn gyntaf ar restr y blaid.

Ar 13 Mai 2026, penodwyd Anna Brychan yn Weinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg.

Ysgrifennu at Anna Brychan