Rhun ap Iorwerth AS, Y Prif Weinidog
Rwy’n falch heddiw o gyhoeddi penodiadau i’r tîm Gweinidogol a’r Darpar Gwnsler Cyffredinol.
Rwy’n cadarnhau Sioned Williams yn rôl y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Fel Dirprwy Brif Weinidog, bydd Sioned yn fy nghefnogi yn fy rôl fel Prif Weinidog ac yn gweithio ochr yn ochr â mi i gyflawni dros bobl Cymru.
Rwyf hefyd heddiw wedi dynodi Elfyn Llwyd o dan adran 49(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i arfer swyddogaethau’r Cwnsler Cyffredinol. Roedd Elfyn yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy a thros Dwyfor Meirionnydd yn ddiweddarach rhwng 1992 a 2015.
Dyma’r penodiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw:
- Sioned Williams – Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
- Elin Jones - Gweinidog Cabinet dros Gyllid
- Heledd Fychan - Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
- Dafydd Trystan Davies – Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
- Mabon ap Gwynfor –Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
- Adam Price - Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
- Anna Brychan - Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
- Llyr Gruffydd – Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
- Siân Gwenllian – Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
- Nerys Evans - Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
- Delyth Jewell - Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
- Mark Hooper -Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
- Cefin Campbell - Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
- Elfyn Llwyd – Darpar Gwnsler Cyffredinol
Rwy’n hyderus y bydd y Cabinet hwn yn dod ag egni newydd, syniadau newydd a chyfeiriad newydd i arweinyddiaeth ein cenedl. Bydd y Cabinet yn dechrau ar unwaith ar y dasg o greu Cymru decach, gwyrddach a mwy llewyrchus i bawb sy’n byw yma, beth bynnag fo’u hamgylchiadau.
