Rhaid i'r DU gyhoeddi faint o arian a dderbynnir gan fuddiolwyr taliadau amaethyddol.
Dogfennau
Cyhoeddi taliadau amaethyddol , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 2 MB
Manylion
Cyflwyniad
Rhaid i'r DU gyhoeddi faint o arian a dderbynnir gan fuddiolwyr taliadau amaethyddol. Rhaid i ni wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn ariannol yr UE (16 Hydref i 15 Hydref). Mae hyn yn unol â:
- Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd (UE) (Rheoliad yr UE 1306/2013)
- Rheoliad y Comisiwn 908/2014
- Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018
Y data a gyhoeddwyd
Gallwch weld y symiau a dderbyniwyd gan fuddiolwyr o Gymru ar gyfer 16 Hydref 2024 i 15 Hydref 2025. Gwnaed y taliadau hyn o dan y canlynol:
- Polisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd (PAC)
- Taliadau amaethyddol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru o dan y gyfraith a gymathwyd. E.e. Cynllun y Taliad Sylfaenol
Nid yw buddiolwyr sy'n derbyn llai na'r hyn sy'n cyfateb i gyfanswm o €1,250 yn ystod y flwyddyn yn cael eu henwi.
Ar gyfer y buddiolwyr hyn:
- rydym yn cyhoeddi'r symiau a dalwyd
- rydym yn dileu enw'r buddiolwr er preifatrwydd
At ddibenion cyhoeddi, rydym wedi trosi €1,250 i £1,114 Sterling.
Mae gwybodaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 yr UE ar Daliadau PAC y DU i'w gweld (ar gov.uk).
