Cynhaliwyd digwyddiad hyfforddi ar reoli chwyn mewn modd integredig (IWM) yn Canolfan Ymwelwyr a Chwaraeon Dŵr Llandegfedd.
Cynhaliwyd y digwyddiad Rheoli Chwyn mewn modd Integredig (IWM) (on parksforlondon.org.uk) yng Nghanolfan Ymwelwyr a Chwaraeon Dŵr Llandegfedd, a chroesawyd 21 o gynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol:
- Awdurdodau Lleol Cymru
- Trafnidiaeth, a
- Cadw
Llywodraeth Cymru oedd yn cynnal y digwyddiad, mewn partneriaeth â Parks for London. Roedd yn cynnwys cyflwyniadau dan do ac awyr agored, ynghyd ag arddangosiadau o gyfarpar tynnu chwyn.
Agorodd y diwrnod gyda chyflwyniad i IWM a'i fanteision gan Ed Stannard o Parks for London. Disgrifiodd Ed:
- y potensial i leihau costau drwy gael gwared ar chwyn mewn dull wedi'i gynllunio a'i dargedu
- sut y mae defnyddio peiriannau i gael gwared ar chwyn yng nghyfnodau cynnar y twf yn atal achosion o lithro, baglu a chwympo
- sut y mae cael gwared ar chwyn yn gwella canfyddiad y cyhoedd
Dangosodd KerstenUK beiriannau brwsio gwahanol. Fe wnaethant esbonio sut i gael gwared ar chwyn ar arwynebau caled. Er enghraifft, defnyddio brwsys mecanyddol i gael gwared ar chwyn â gwreiddiau bas ar balmentydd a tharmac mewn parciau, yna defnyddio'r malurion a gesglir fel tomwellt.
Ar ôl cinio, esboniodd Parks for London sut i greu Cynllun IWM. Fe wnaethant dynnu sylw at sut y gall amseru'r broses o reoli chwyn yn effeithiol leihau costau. Er enghraifft, tynnu chwyn cyn iddynt niweidio arwynebau. Gall croniad o falurion greu amodau tyfu i chwyn sydd â gwreiddiau hirach. Mae'r rhain yn anoddach i'w tynnu a gallant dreiddio i darmac ac arwynebau eraill, gan:
- achosi peryglon baglu
- cracio tarmac
- creu arwynebau anwastad
Dangosodd KerstenUK sut i ddefnyddio aer poeth, dŵr poeth a thrydan i ddinistrio chwyn penodol. Ysgogodd hyn drafodaeth am yr heriau o fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol. Er enghraifft, weithiau caiff clymog Japan ei drin â cherrynt trydanol wedi'i dargedu.
Rhoddwyd tystysgrifau presenoldeb i'r cynrychiolwyr fel rhan o'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae'r digwyddiad hwn yn cyfrannu at Amcan 1 (annog defnydd o Reolaeth Integredig arr Blâu (IPM)) Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025: Gweithio Tuag At Ddyfodol Mwy Cynaliadwy.
Cysylltwch â ni
Os hoffech i ni eich ychwanegu at ein Rhestr Bostio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP), neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am:
- IWM, neu
- weminarau a digwyddiadau wyneb yn wyneb eraill
Cysylltwch â ni: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru.
