Neidio i'r prif gynnwys

Crynodeb Gweithredol

Mae'r adroddiad hwn, wedi’i gomisiynu a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac a gynhyrchwyd gan yr Awdurdod Adfer Mwynau yn darparu dadansoddiad o addasu i’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, gyda chanolbwynt ar y goblygiadau ar gyfer tomenni glo nas defnyddir.

Mae'n amlinellu sail wyddonol newid yn yr hinsawdd, gan wahaniaethu rhwng lliniaru ac addasu, ac yn pwysleisio pwysigrwydd arferion rheoli rhagweithiol. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith deddfwriaethol a pholisi cadarn, gan gynnwys Deddf Newid Hinsawdd 2008, strategaethau Sero Net, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i fynd i'r afael â’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd.

Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at amlder a dwyster cynyddol peryglon hinsawdd, megis glaw eithafol, sychderau, a thonnau gwres, a'u potensial i effeithio ar sefydlogrwydd llethrau tomenni glo a goblygiadau eu rheoli yn y dyfodol. Mae'n cyflwyno data meteorolegol, amcanestyniadau hinsawdd (UKCP18), ac asesiadau risg (CCRA3), sy'n dangos bod Cymru'n arbennig o agored i niwed oherwydd ei daearyddiaeth a'i seilwaith cloddio am lo etifeddol.

Mae archwiliad o berchnogaeth, rheoli a monitro tomenni glo yn datgelu absenoldeb posibl o ystyriaethau newid yn yr hinsawdd ac anghysondebau mewn caffael data sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, yn enwedig ymhlith safleoedd sy’n eiddo preifat. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 a sefydlu Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru i ganoli llywodraethiant a sicrhau safonau diogelwch unffurf. Mae hefyd yn archwilio rôl defnydd tir, offeryniaeth, a gallu addasu wrth wella diogelwch llethrau.

Mae'r adroddiad yn cloi gyda chyfres o argymhellion ymarferol, gan gynnwys gwell casglu data, protocolau arolygu sy'n sensitif i'r hinsawdd, ac integreiddio ystyriaethau hinsawdd mewn ceisiadau am gyllid a chynlluniau rheoli. Mae'n hyrwyddo dull cynllunio deuol - paratoi ar gyfer cynnydd 2°C wrth ystyried y posibilrwydd o gynnydd 4°C - ac yn annog mabwysiadu mesurau addasu meddal a chaled. Nodir hefyd cyfleoedd am fuddion ar y cyd megis gwella bioamrywiaeth a defnydd tir cynaliadwy.

1.0 Cyflwyniad i newid yn yr hinsawdd ac addasu i'r hinsawdd

Mae newid hinsawdd a achosir gan bobl yn cyfeirio at newid hirdymor patrymau hinsawdd byd-eang neu ranbarthol a achosir gan weithgareddau dynol, yn bennaf allyriadau nwyon tŷ gwydr megis carbon deuocsid, methan, ac ocsid nitrus. Mae'r allyriadau hyn yn deillio o losgi tanwyddau ffosil, datgoedwigo, prosesau diwydiannol, ac amaethyddiaeth. Yn y DU, mae lliniaru sy'n cynnwys lleihau allyriadau i gyfyngu ar gynhesu yn y dyfodol, ac addasu, sy'n canolbwyntio ar addasu i'r effeithiau sydd eisoes yn digwydd yn hanfodol[1]. Mae'r DU yn wynebu cynnydd yn lefel y môr, digwyddiadau tywydd eithafol mwy aml, a bygythiadau i fioamrywiaeth a seilwaith. Mae strategaethau lliniaru ac addasu effeithiol yn hanfodol i ddiogelu cymunedau, sicrhau diogeledd bwyd a dŵr, ac adeiladu economi wydn yn wyneb hinsawdd sy'n newid[2].

Mae angen addasu i newid yn yr hinsawdd, gan fod ei effeithiau eisoes yn cael eu teimlo a rhagamcenir y byddant yn dwysáu, hyd yn oed pe welith gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae buddsoddi rhagweithiol mewn gwydnwch rhag yr hinsawdd felly yn hanfodol. Mae addasu yn aml yn gofyn am gostau ymlaen llaw, ond mae'r rhain yn sylweddol is na chostau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hirdymor diffyg gweithredu[3].

Disgwylir i newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder tirlithriadau yn y DU oherwydd mwy o lawiad dwys a chyfnodau estynedig o dywydd gwlyb[4]. Mae tirlithriadau, a ddiffinnir fel math o fàs-symudiad sy'n cynnwys dadleoli deunydd tuag i lawr ac allan mewn perthynas â'r llethr, yn digwydd o dan rym disgyrchiant a gall amryw fecanweithiau sbarduno hyn[4] ac ymhlith y rhain y mae methiant tomenni glo o waith dyn. 

Gall y digwyddiadau hyn gael canlyniadau difrifol, gan gynnwys anafiadau corfforol a marwolaethau, effeithiau negyddol ar lesiant meddyliol, costau economaidd sy'n gysylltiedig ag atgyweirio ac adfer, ac amharu ar fynediad at wasanaethau hanfodol[5]. Mae asesiad 2024 o fethiannau tomenni gwastraff glo yn amlygu ymhellach y gall dyodiad undydd eithafol a glawiad cronnus weithredu fel sbardunau ar gyfer tirlithriadau[6].  

Mae gan Gymru nifer sylweddol o domenni glo nas defnyddir, yn enwedig yng Nghymoedd y De, lle mae gwaddol cloddio am lo wedi gadael heriau cymhleth ar ei ôl o ran rheoli’r tir. Gall tomenni glo fod yn gysylltiedig ag ansefydlogrwydd, yn enwedig mewn cyfnod o law trwm. Dangosodd adolygiad o fethiannau tomenni glo hanesyddol gysylltiad cryf rhwng digwyddiadau a glawiad cyfartalog[4].  Mae'r safleoedd hyn, sydd yn aml wedi'u lleoli'n agos at gymunedau preswyl, wedi dod dan graffu o'r newydd oherwydd y risgiau cynyddol a achosir gan newid yn yr hinsawdd. Roedd y tirlithriadau yn Nhylorstown[7] a Wattstown yn 2020, a sbardunwyd gan law trwm, yn ein hatgoffa’n glir o'r peryglon posibl sy'n gysylltiedig â'r tomenni hyn ac yn tynnu sylw at yr angen am ddull mwy rhagweithiol a chydgysylltiedig o’u rheoli. Yn y digwyddiad yn Nhylorstown, llithrodd 60,000 o dunelli o falurion i Afon Rhondda Fach ar ôl sawl diwrnod o law trwm cysylltiedig â Storm Dennis.

2.0 Cyflwyniad i domenni glo nas defnyddir

Mae tomenni glo nas defnyddir yn fryniau neu bentyrrau o waith dyn wedi’u ffurfio o'r deunydd gwastraff, a elwir weithiau yn sborion, sy'n weddill ar ôl gweithrediadau cloddio am lo. Mae'r tomenni hyn fel arfer yn cynnwys creigiau, siâl, a deunyddiau eraill nad ydynt yn lo a wahanwyd oddi wrth y glo wrth ei brosesu. Gall rhai tomenni gynnwys swm sylweddol o lo. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi sefydledig i roi terfyn ar gloddio a defnyddio tanwyddau ffosil mewn modd rheoledig. Mae ganddo ragdybiaeth gref yn erbyn rhoi trwyddedau ar gyfer unrhyw gloddio newydd gan gynnwys hynny o domenni glo nas defnyddir[8].

Pan fydd pyllau glo yn cau, yn aml caiff y tomenni eu gadael yn segur, sy’n esbonio’r term 'nas defnyddir'. Maent i'w gweld ger hen byllau glo, yn enwedig mewn rhanbarthau hanesyddol cyfoethog eu glo megis De Cymru, gogledd Lloegr, a rhannau o'r Unol Daleithiau ac Ewrop. Maent yn gallu amrywio o ran eu maint a’u hymddangosiad. Mae rhai tomenni yn cynnwys sawl miliwn metr ciwbig o sborion ac maent yn amlwg iawn yn y dirwedd, ac mae eraill prin yn weladwy. Mae llawer o domenni wedi cael eu hail-broffilio ers eu creu’n wreiddiol ac ongl eu llethr wedi’i haddasu a nodweddion peirianneg wedi'u hychwanegu i gynorthwyo eu sefydlogrwydd. Mae'n gyffredin i domenni gynnwys cyfres o ysgafellau a goleddfau - llethrau a gwastadeddau. Defnyddir sawl term ar gyfer tomenni sydd wedi'u haddasu ers eu ffurfio gan gynnwys tomenni wedi’u hadennill, wedi’u hadfer ac a reolir.

Tan yn ddiweddar, y brif ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â sefydlogrwydd a diogelwch tomenni glo yn y DU yw Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969 a Rheoliadau (Tomenni) 1971 a weithredwyd yn dilyn trychineb Aberfan yn 1966. Diwygiwyd y rhain gan Reoliadau Chwareli 1999 a Rheoliadau Mwyngloddiau 2014. Mae'r ddeddfwriaeth yn ymwneud yn bennaf â thomenni mewn pyllau glo gweithredol ac nid yw'n gosod darpariaethau statudol penodol ar gyfer arolygiadau rheolaidd o domenni nas defnyddir. Fodd bynnag, mae'n rhoi pwerau caniataol i awdurdodau lleol arolygu a chymryd camau ar safleoedd tomenni nas defnyddir i atal perygl i'r cyhoedd. 

2.1 Perchnogaeth a rheoli tomenni

Mae dros 2500 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru[9] ac mae llawer ohonynt wedi'u lleoli yn agos at eiddo preswyl, adeiladau eraill a seilwaith. Mae poblogaethau preswyl wedi’u lleoli’n agos atynt o ganlyniad i ddatblygiad hanesyddol cymunedau cloddio am lo yn agos iawn at byllau glo gweithredol. Ar ôl i'r pyllau glo roi'r gorau i gynhyrchu glo, ailddatblygwyd llawer o hen safleoedd diwydiannol i ddarparu stoc tai ychwanegol. 

Mae perchnogaeth a defnydd tir tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru yn amrywiol iawn, gan gyfrannu at anghysondebau yn eu rheoli a'u cynnal a chadw. Er bod cyfran sylweddol o'r safleoedd hyn yn gyfrifoldeb awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae sawl cant yn parhau i fod mewn perchnogaeth breifat, a/neu amlberchnogaeth. Mae'r amrywiaeth hon mewn perchnogaeth wedi arwain at ystod eang o ddefnyddiau tir, o brysgwydd coetir heb ei reoli a datblygu hamdden i barhad defnydd diwydiannol neu ddefnydd amaethyddol. Cyn tirlithriad Tylorstown yn 2020 roedd y berchnogaeth dameidiog yn arwain at wahaniaethau mewn safonau cynnal a chadw, gyda thomenni ym mherchnogaeth y cyhoedd yn gyffredinol yn destun monitro a chynnal a chadw mwy systematig, a diffyg goruchwylio cyson yn nodweddiadol o safleoedd dan berchnogaeth breifat. 

Roedd yr amrywiadau hyn yn creu heriau o ran gweithredu protocolau diogelwch unffurf ac yn tynnu sylw at yr angen am fframwaith rheoleiddio canolog i sicrhau bod pob tomen nas defnyddir, waeth beth fo'i pherchnogaeth, yn cael ei rheoli i safon gyson a diogel.

2.2 Tomenni glo nas defnyddir a Llywodraeth Cymru

Mae monitro a rheoli tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru wedi dod yn elfen bwysig o agenda gwydnwch rhag yr hinsawdd a diogelwch y cyhoedd ehangach Llywodraeth Cymru. Yn 2024, cyhoeddwyd Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd ar gyfer Cymru, sy'n amlinellu dros 240 o gamau gweithredu trawslywodraethol[10]. Yn dilyn y digwyddiad yn Nhylorstown, mae goruchwylio diogelwch tomenni glo wedi'i gryfhau'n sylweddol[11]. O 2025 ymlaen, rhennir y cyfrifoldeb hwn gyda sawl corff allweddol arall, gan gynnwys awdurdodau lleol, CNC a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyfeiriad strategol a’r cyllid. Mae tomenni glo wedi’u grwpio i gategorïau risg D i A, gyda safleoedd â sgôr uwch (Categori D) yn destun arolygiadau bob dwy flynedd, a safleoedd categori is yn cael eu monitro yn llai aml. Cynhelir yr arolygiadau hyn gan weithwyr cymwys Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig sefydlu Awdurdod Tomenni nas Defnyddir pwrpasol i Gymru o dan Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)[12]. Bydd y corff newydd hwn yn canoli goruchwylio, yn cynnal cofrestr genedlaethol o domenni, ac yn sicrhau safonau diogelwch cyson ar draws rhanbarthau. Mae'r datblygiadau hyn yn adlewyrchu dull rhagweithiol ac esblygol o reoli seilwaith mwyngloddio etifeddol yng nghyd-destun heriau amgylcheddol cyfoes, ac yn dilyn argymhellion o adroddiad Comisiwn y Gyfraith 2022 ar ddiogelwch tomenni glo yng Nghymru[13].

Mae crynodeb o'r ddeddfwriaeth berthnasol ar newid yn yr hinsawdd ar gyfer Cymru a'r DU i'w weld yn Atodiad A.

3.0 Hinsawdd Cymru

Mae Swyddfa Dywydd y DU yn cynhyrchu adroddiad blynyddol ar gyflwr hinsawdd y DU. Cyhoeddir yr adroddiad hwn fel arfer ym mis Gorffennaf sy'n cwmpasu'r data o'r flwyddyn flaenorol. Mae'r adroddiad diweddaraf ar gyfer 2024 yn tynnu sylw at sut mae llinellau sylfaen yn newid ac mae eithafion tymheredd a glawiad yn dod yn norm[14]. 

Mae De Cymru, lle mae'r mwyafrif o domenni glo nas defnyddir wedi'u lleoli, yn profi hinsawdd forol dymherus. Mae wedi’i dylanwadu'n gryf gan ei hagosrwydd at y Cefnfor Iwerydd a'r prifwyntoedd de-orllewinol. Mae hyn yn arwain at dymheredd mwyn drwy gydol y flwyddyn, gyda hafau oeraidd a gaeafau cymharol fwyn. Un o'r nodweddion tywydd mwyaf diffiniol yw'r lefel uchel o lawiad, yn enwedig yn yr ardaloedd tir uchel megis Bannau Brycheiniog, oherwydd ymgodiad orograffig, lle mae aer llaith yn cael ei orfodi i godi dros y bryniau a'r mynyddoedd, gan oeri a chyddwyso i ffurfio dyodiad. 

Mae presenoldeb dyffrynnoedd ag ochrau serth a bryniau garw yn creu microhinsoddau lleol, lle gall pocedi rhew a niwl gael eu dal mewn dyffrynnoedd cul. Yn yr haf, gall stormydd mellt a tharanau lleol ffurfio o ganlyniad i wresogi wyneb y tir ac aer yn codi. Gall y stormydd hyn fod yn nerthol ond effeithio ar ardal fach yn unig, gan arwain at wahaniaethau mawr mewn glawiad dros bellteroedd byr.

Mae ardaloedd arfordirol megis Caerdydd ac Abertawe yn tueddu i fod yn fwynach ac ychydig yn sychach, er dal yn destun cawodydd aml ac awyr gymylog. Mae amodau gwyntog yn gyffredin, yn enwedig yn ystod yr hydref a'r gaeaf, pan all stormydd yr Iwerydd ddwyn gwyntoedd cryf a glaw trwm. Yn anaml ceir eira ar uchderau is ond mae’n fwy aml yn y bryniau yn ystod y gaeaf. Ar y cyfan, mae'r tywydd yn Ne Cymru yn gyfnewidiol ac yn aml yn gymylog, gyda dylanwad morol cryf yn llunio ei amrywioldeb o ddydd i ddydd[15].

Mae astudiaethau wedi dangos y cysylltiad rhwng dosbarthiad methiannau tomenni glo a glawiad blynyddol cyfartalog[16]. Ymhlith holl baramedrau’r hinsawdd, glawiad yn y dyfodol yw'r pwysicaf wrth asesu risgiau a rheoli tomenni glo nas defnyddir. Am fwy o wybodaeth am y ddau brif fath o lawiad a'u perthnasedd i Gymru, gweler Atodiad B.

3.1 Data Meteorolegol yng Nghymru

Mae'r Swyddfa Dywydd a CNC yn casglu data meteorolegol oddi wrth nifer o orsafoedd tywydd yng Nghymru. Mae'r data diweddar o'r gorsafoedd hyn ar gael o'r gwefannau priodol ac mae modd asesu gwerthoedd hanesyddol trwy edrych ar gatalog y Ganolfan ar gyfer Dadansoddi Data Amgylcheddol (CEDA). Mae catalog CEDA yn blatfform ar-lein sy'n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio, archwilio a chael mynediad at archif o ddata amgylcheddol[17].  

Image
Map sy'n dangos lleoliadau medryddion glaw CNC yn Ne Cymru19
Map sy'n dangos lleoliadau medryddion glaw CNC yn Ne Cymru[18]

Mae'r tabl isod yn tynnu sylw at sut y gall mesuriadau glawiad a gofnodwyd gan fedryddion CNC amrywio'n sylweddol dros bellteroedd cymharol fyr. Mae'r darlleniadau hyn yn dod o'r diwrnod yn 2020 pan ddigwyddodd y tirlithriad yn Nhylorstown. Yn wahanol i dymheredd, sy'n tueddu i fod yn fwy unffurf, gall glawiad fod yn lleol iawn - hyd yn oed o fewn pellter o 15 milltir yn unig.

LleoliadPellter o Dylorstown (milltiroedd)Glawiad ar 16/02/2020 (mm)
Maerdy3132
Nant yr Isfa1.5125
Blaenogwr4.568
Sain Ffagan Caerdydd1428

Mae rhai tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru yn cynnwys medryddion glaw, fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes asesu cynhwysfawr o'r data a gesglir na dadansoddi o berfformiad tomenni mewn perthynas â digwyddiadau glaw.

1. Argymhelliad

Cydweithio â sefydliadau allanol i gael a rhannu data medryddion glaw lleol at ddibenion asesu risgiau ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Diben

Mae llawer o sefydliadau yn gweithredu eu medryddion glaw eu hunain, sy'n arbennig o werthfawr ar gyfer monitro ac adolygu digwyddiadau tywydd eithafol, yn enwedig pan gyfunir hyn â delweddau radar o lawiad.

Cam Gweithredu

Tasglu / Asiant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru.

4.0 Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd yng Nghymru

Mae Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd 3 (CCRA3), a gyhoeddwyd yn 2021, yn asesiad statudol o dan Ddeddf Newid Hinsawdd y DU 2008, a gynhelir bob pum mlynedd i werthuso risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd. Mae'n nodi 61 o risgiau allweddol ar draws sectorau megis seilwaith, iechyd, amaethyddiaeth, bioamrywiaeth a'r amgylchedd adeiledig. Mae'r asesiad yn sylfaen dystiolaeth hanfodol ar gyfer llunio Rhaglen Addasu Genedlaethol y DU a llywio ymdrechion polisi, buddsoddi a gwydnwch. Mae CCRA3 yn pwysleisio brys cynyddol addasu i'r hinsawdd, gan rybuddio bod llawer o risgiau wedi dwysáu ac y gallai oedi cymryd camau arwain at gynnydd mewn costau ac effeithiau na ellir eu gwrthdroi.

Nid yw tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru wedi'u rhestru fel risg sy’n sefyll ar ei ben ei hun ymhlith y 61 o risgiau a chyfleoedd hinsawdd a nodwyd. Fodd bynnag, cyfeirir atynt yn benodol o dan gategorïau ehangach sy'n ymwneud â sefydlogrwydd tir, seilwaith a'r amgylchedd naturiol. Mae hwn yn newid o'r ddogfen flaenorol, CCRA2, nad oedd yn cynnwys cyfeirio penodol at domenni. Mae pob un o'r categorïau sy'n sôn am domenni glo wedi cael sgôr brys sy'n gofyn am naill ai 'ymchwiliad pellach' neu 'fwy o gamau gweithredu' [19],[20]. Mae'r adrannau perthnasol yn yr Adroddiad Technegol yn edrych ar y lefelau risg presennol ac yn y dyfodol ar draws gwahanol sectorau ac yn cyfeirio at ymchwil cysylltiedig a chynnydd addasu. 

Rhif Adnabod Risg CCRA3DerbynnyddDisgrifiad
Seilwaith I5Rhwydweithiau TrafnidiaethMethiant llethrau ac argloddiau
Seilwaith I7Seilwaith tanddaearol ac ar yr wynebYmsuddiant
Amgylchedd Naturiol N4Priddoedd

Amodau hinsoddol sy'n newid, gan gynnwys 

sychder a gwlypter tymhorol

Iechyd, Cymunedau a'r Amgylchedd Adeiledig H5Adeiladwaith adeiladauLleithder, gwynt a glaw trwm

Mae'r tabl uchod yn dangos y pedwar maes lle mae sôn penodol am domenni. 

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi bod yn feirniadol o'r cynnydd addasu a wnaed gan y mwyafrif o sectorau'r DU ers 2021. Mewn datganiad yn 2025, dywedodd cadeirydd ei bwyllgor addasu, y Farwnes Brown, "Rhaid i'r CCRA nesaf sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth yn parhau i esblygu i wasanaethu anghenion newidiol polisi addasu, gan gynnwys y newid hanfodol tuag at ganolbwyntio ar gyflawni a gweithredu addasu"[21]. 

Bydd yr adroddiad CCRA nesaf, i'w gyhoeddi yn 2026, yn rhesymoli'r 61 o risgiau i lawr i 45 a bydd yn symud i ffwrdd o risgiau ar gyfer sectorau penodol, gan ganolbwyntio mwy ar lai o ganlyniadau ond sydd â blaenoriaeth[22].

5.0 Hinsawdd Cymru yn y dyfodol

Mae'r gymuned wyddonol yn gyffredinol yn cytuno, hyd yn oed gyda mesurau lliniaru ar waith, y bydd hinsawdd y DU yn newid. Credir y bydd hafau yn troi’n boethach ac yn sychach ac y bydd gaeafau yn fwynach ac yn wlypach. Daw’r tabl canlynol, sy’n dangos crynodeb ar gyfer Cymru, o ddata a gafwyd gan ddefnyddio model hinsawdd Amcanestyniadau Hinsawdd y DU 2018 (UKCP18)[23] ac mae'n dangos tymheredd, glawiad a chynnydd yn lefel y môr o dan wahanol senarios allyriadau.

 

2050au

RCP2.6 (50fed canradd)

2050au

RCP6.0 (50fed canradd)

2080au

RCP2.6 (50fed canradd)

2080au

RCP6.0 (50fed canradd)

Tymheredd Blynyddol+1.2˚C+1.1˚C+1.3˚C+2.3˚C
Glawiad yr Haf-15%-15%-18%-26%
Glawiad y Gaeaf+6%+5%+7%+13%
Cynnydd yn lefel y môr (Caerdydd)22cm28cm*43cm76cm*

Mae UKCP18 yn darparu amcanestyniadau hinsawdd cydraniad uchel ar gyfer y DU, gan helpu cynllunwyr i asesu paramedrau hinsawdd yn y dyfodol. Mae'n cefnogi strategaethau addasu ac fe'i defnyddir gan y llywodraeth ac ymchwilwyr. Am fwy o fanylion am UKCP18, gan gynnwys rhai cyfyngiadau ei gymhwyso, gweler Atodiad CH.

Gan mai un o effeithiau disgwyliedig newid yn yr hinsawdd yw dirywiad cyflwr llethrau4, mae'n bwysig deall y newidiadau posibl i'r hinsawdd yn y gwahanol ardaloedd o Gymru sy'n cynnwys tomenni glo nas defnyddir. Mae’r Archwiliwr Hinsawdd Awdurdodau Lleol yn cynnig un o'r llwyfannau mwyaf hygyrch i archwilio amcanestyniadau hinsawdd yn y dyfodol ar gyfer Cymru. Mae'r gwasanaeth hwn yn defnyddio data UKCP18 y Swyddfa Dywydd wedi’i gyflwyno ar ffurf dangosfwrdd ar gyfer pob Awdurdod Lleol yn y DU ac mae'n rhan o gyfres o gynhyrchion sydd ar gael trwy’r Gwasanaeth Hinsawdd Awdurdodau Lleol (LACS) [24]. 

Gan fod awdurdodau lleol Cymru yn eithaf bach (ac eithrio Powys) ac yn aml yn dilyn y nodweddion tirwedd naturiol a all ddylanwadu ar y tywydd, mae'r dangosfyrddau hyn yn cynhyrchu amcanestyniadau defnyddiol iawn. Ar hyn o bryd, nid yw tab pwrpasol sy'n darparu amcanestyniadau o eithafion glawiad yn y dyfodol ar lefel yr Awdurdod Lleol ar gael. Mae cais wedi'i gyflwyno i'r Swyddfa Dywydd, sy'n argymell cynnwys y nodwedd hon mewn diweddariadau yn y dyfodol.  Os dewisir ardal beilot, dylid blaenoriaethu dyffrynnoedd canolog a dwyreiniol meysydd glo De Cymru, oherwydd mae gan y rhanbarth hwn y cysylltiad hanesyddol cryfaf â methiannau tomenni glo[15]. Fodd bynnag, dylid nodi bod yr astudiaeth sy'n sail i'r cysylltiad hwn wedi'i dyddio ac yn canolbwyntio ar domenni gweithredol, yn hytrach na rhai nas defnyddir.

Yn ogystal â darparu amcanestyniadau at y dyfodol yn berthynol i linell sylfaen ar gyfer gwahanol baramedrau hinsawdd, mae'n cynnwys cyfleuster i gynhyrchu 'Adroddiad Hinsawdd' sy'n creu crynodeb defnyddiol o bob ardal Awdurdod Lleol. Offeryn defnyddiol arall, nad yw ar gael eto ar gyfer pob cytref yw'r 'Pecyn Dinas', sy'n darparu crynodeb ardderchog o amcanestyniadau newid yn yr hinsawdd a data llinell sylfaen ar gyfer rhai dinasoedd y DU, gan gynnwys Caerdydd[23].      

Image
Graffigyn yn dangos dangosfwrdd yr Archwiliwr Hinsawdd Lleol
Graffigyn yn dangos dangosfwrdd yr Archwiliwr Hinsawdd Lleol

5.1 Glawiad yn y dyfodol

Gyda newid yn yr hinsawdd, disgwylir i lawiad darfudol gynyddu'n fwy sylweddol na mathau eraill o ddyodiad. Mae hyn oherwydd bod tymereddau cynhesach yn cynyddu anweddiad a gallu'r atmosffer i ddal lleithder, gan arwain at stormydd darfudol mwy aml a dwys.  Am bob cynnydd o 1°C yn nhymheredd yr aer, gall yr atmosffer ddal 7% yn fwy o ddŵr[26]. Gall glawiad ffrynt hefyd ddwysáu, yn enwedig mewn ardaloedd lledred canol, sy'n cynnwys Cymru gyfan. 

Mae'r tabl isod yn dangos yr amrywioldeb llinell sylfaen ar draws ardaloedd Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a'r cynnydd a ragamcenir o dan senarios cynhesu 2°C a 4°C. Mae'r celloedd wedi’u huwcholeuo yn dangos yr amrywiad rhwng dyodiad llinell sylfaen Awdurdodau Lleol Cymru a'r cynnydd a ragamcenir mewn senario cynhesu 4°C. Y gwerth dyodiad llinell sylfaen isaf am y gaeaf ar hyn o bryd yw 2.33mm yn Sir y Fflint, a rhagamcenir y bydd hyn mor uchel â 21mm mewn byd sydd 4°C yn gynhesach. Yn yr un modd, gallai llinell sylfaen 6.84mm Rhondda Cynon Taf gynyddu i gyfartaledd dyddiol o 37mm mewn byd cynhesach.  Mae'r ffigurau hyn yn dangos ffigurau cyfartalog. Mae'n bwysig cydnabod mai digwyddiadau 'nad ydynt yn unol â’r cyfartaledd' sy'n debygol o gael effaith ar ymddygiad tomenni nas defnyddir. Am fwy o wybodaeth am amcanestyniadau eithafol gweler Atodiad CH.

Tabl sy'n dangos ardaloedd Awdurdodau Lleol a chynnydd posibl mewn glawiad yn y dyfodol

 

Awdurdod Lleol sy'n cynnwys tomen lo nas defnyddir gofrestredig

Llinell sylfaen dyodiad y gaeaf 1981-2000 mm (cyfartaledd dyddiol)

 

2°C Senario cynhesu byd-eang % cynnydd canolrifol

 

2°C Senario cynhesu byd-eang % cynnydd uchaf

 

4°C Senario cynhesu byd-eang % cynnydd canolrifol

 

4°C Senario cynhesu byd-eang % cynnydd uchaf

Blaenau Gwent5.639141925
Pen-y-bont ar Ogwr5.4312162636
Caerffili5.3212152530
Caerdydd4.199152537
Sir Gaerfyrddin 5.2310152230
Sir y Fflint2.335121421
Ynys Môn3.246121629
Merthyr Tudful6.4810162029
Sir Fynwy3.5611152228
Castell-nedd Port Talbot6.0111172531
Sir Benfro4.189152133
Powys4.997111418
Rhondda Cynon Taf6.8412162531
Abertawe4.4510162737
Torfaen4.7111152428
Wrecsam2.77141718
Cyfartaledd4.79.414.621.428.8

5.2 Gwasgedd isel datgysylltiedig

Mae gwasgedd isel datgysylltiedig yn fath o system dywydd sy'n ffurfio pan fydd ardal gwasgedd isel yn datgysylltu o'r brif jetlif yn yr atmosffer uchaf. Mae'r datgysylltu hwn yn ynysu'r system, gan ganiatáu iddi ddrifftio'n araf neu hyd yn oed dod i stop dros ranbarth. Mae gwasgedd isel datgysylltiedig yn system tywydd craidd oer fel arfer ac mae’n fwyaf cyffredin yn y lledredau canol, gan gynnwys rhannau o Ewrop a'r DU[27]. 

Pan fydd gwasgedd isel datgysylltiedig yn aros dros ardal, gall greu sawl diwrnod o law trwm, stormydd mellt a tharanau, llifogydd, a thymheredd oerach na'r cyfartaledd. Achoswyd y llifogydd marwol a darodd Valencia, Sbaen yn 2024 gan y math hwn o system dywydd. Disgwylir iddynt ddod yn fwy cyffredin mewn byd sy'n cynhesu[28].

Mae'n anodd rhagfynegi gwasgedd isel datgysylltiedig yn enwedig yn y tymor hwy. Nid yw modelau hinsawdd yn gallu dangos ble y gallai'r rhain ddigwydd ac argymhellir defnyddio datblygiadau mewn rhagolygon tywydd mwy byrdymor (‘nowcasting’)[29].

2. Argymhelliad

Argymhellir comisiynu'r Swyddfa Dywydd i ddadansoddi data glawiad brig dyddiol gan Awdurdod Lleol Cymru sy’n ddaearyddol fach. Byddai'r dadansoddi hwn yn cynnwys adolygu cofnodion presennol a chymhwyso ffactor ymgodi i amcangyfrif maint posibl glawiad dyddiol eithafol o dan senarios hinsawdd yn y dyfodol.

Diben

Byddai hyn yn creu tab 'glawiad eithafol' i bob pwrpas o fewn dangosfwrdd LCAS, gan alluogi defnyddwyr i gymharu digwyddiadau glawiad eithafol hanesyddol ag amcanestyniadau o dan senarios hinsawdd yn y dyfodol. Gallai'r treial fod yn beilot i asesu gwerth ehangu'r dull hwn i awdurdodau lleol eraill.

Cam Gweithredu

Tasglu / Asiant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru

6.0 Peryglon newid yn yr hinsawdd

Yng nghyd-destun risg hinsawdd, mae'r cysyniadau o berygl, aramlygiad, a bregusrwydd yn sylfaenol i ddeall effeithiau posibl. Mae perygl yn cyfeirio at ddigwyddiad ffisegol neu duedd a allai fod yn niweidiol, megis ton wres, llifogydd, neu sychder. Mae aramlygiad yn disgrifio presenoldeb pobl, seilwaith, ecosystemau, neu asedau mewn ardaloedd a allai gael eu heffeithio'n andwyol gan y peryglon hyn. Bregusrwydd yw'r graddau y mae'r elfennau hynny a aramlygir yn agored i niwed, wedi'u dylanwadu gan ffactorau megis sensitifrwydd, gallu i addasu, ac amodau economaidd-gymdeithasol.

Gyda'i gilydd, mae'r tair elfen hyn yn pennu'r risg gyffredinol: gall hyd yn oed perygl cymedrol gael canlyniadau difrifol os yw aramlygiad a bregusrwydd yn sylweddol.

Ystyrir bod peryglon naill ai'n gronig neu'n acíwt. Mae peryglon newid hinsawdd cronig yn newidiadau hirdymor, graddol mewn patrymau hinsawdd a all achosi straen parhaus ar systemau naturiol a dynol. Mae peryglon cronig yn datblygu'n araf dros amser a gallant fod yn niweidiol, yn enwedig os nad eir i'r afael â nhw. Mae perygl newid hinsawdd acíwt yn cyfeirio at ddigwyddiad sydyn, difrifol, ac yn aml tymor byr a achosir neu a waethygir gan newid yn yr hinsawdd. Gall y risgiau hyn arwain at effeithiau di-oed a sylweddol ar bobl, seilwaith, ecosystemau ac economïau. Mae'r tabl isod yn dangos y prif beryglon hinsawdd sy'n ymwneud â thomenni nas defnyddir yng Nghymru.

Math o BeryglPeryglDisgrifiad
CronigTymereddau yn CodiTueddiadau cynhesu hirdymor
CronigPatrymau glawiad sy'n newidSychder parhaus neu newidiadau mewn glawiad tymhorol
AcíwtTonnau gwresCynnydd sydyn yn y tymheredd
AcíwtLlifogyddGlaw trwm neu ymchwyddiadau storm sy'n gorlethu systemau draenio ac afonydd
AcíwtCorwyntoedd a seiclonauSystemau stormydd pwerus sy'n ffurfio dros gefnforoedd cynnes
AcíwtTanau gwylltTanau sy'n lledaenu'n gyflym wedi'u hachosi gan wres a sychder

Creodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) y diagram canlynol i ddangos sut mae'r newidynnau risg yn gysylltiedig a sut y gall ffactorau ychwanegol ddylanwadu ar y canlyniadau[30]. Mae'n bwysig cydnabod, fel y mae tomenni nas defnyddir yn amrywio, bydd y cyd-destun lle maent wedi'u lleoli hefyd yn amrywio, sy'n golygu na fydd unrhyw ddau safle yn wynebu'r un cyfuniad o risgiau. 

Image
Cynrychiolaeth risg hinsawdd

6.1 Peryglon mewn perthynas â sefydlogrwydd llethrau

Caiff newidiadau a ragamcenir mewn peryglon hinsawdd o dan senarios allyriadau yn y dyfodol eu gwerthuso mewn perthynas â'r elfennau penodol a asesir yn ystod arolygiadau rheolaidd o domenni glo nas defnyddir.

Mae'r tabl isod yn amlinellu pa elfennau adeileddol neu amgylcheddol o’r domen y gall pob newidyn hinsawdd effeithio arnynt. Caiff pob perygl a nodwyd sy’n gysylltiedig â'r hinsawdd ei ddadansoddi wedyn mewn perthynas â'i ddylanwad posibl ar reoli tomenni nas defnyddir.

Perygl HinsawddGeodechnegolDefnydd TirSeilwaith peiriannegDraenioOfferyniaeth a MonitroMynediad ac eraill
Gaeafau gwlypach****  
Digwyddiadau glaw eithafol* ****
Sychderau / glawiad isel**    
Gwyntoedd uchel******
Tonnau gwres*** * 
Cynnydd yn Lefel y Môr      
Hafau poethach***** 
Tymereddau Isel*     
Mellt / stormydd trydan *  * 

6.1.1 Gaeafau gwlypach 

Awgrymodd astudiaethau y gall dyodiad un diwrnod eithafol a dyodiad cronnus sbarduno tirlithriadau ar domenni gwastraff pyllau glo[6].  Gall glaw estynedig gynyddu'n sylweddol risg ansefydlogrwydd llethrau trwy sawl proses ryng-gysylltiedig. Wrth i ddŵr glaw ymdreiddio i'r tir, daw’n ddirlawn, gan godi pwysedd dŵr mandyllau a lleihau'r ffrithiant sy'n dal gronynnau ynghyd, gan ei gwneud hi'n haws i'r deunydd lithro. Mewn tomenni gwastraff sy'n llawn clai, megis tomenni nas defnyddir sy'n cynnwys cerrig llaid, mae amsugno dŵr yn achosi gronynnau i chwyddo a cholli cydlyniad, gan wanhau'r adeiledd. Yn ogystal, mae pwysau ychwanegol dŵr yn cynyddu'r grym disgyrchiant ar lethrau, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn ansefydlog. Gall llystyfiant, sydd fel arfer yn sefydlogi llethrau, hefyd gael ei beryglu wrth i wreiddiau wanhau neu bydru o dan amodau gwlyb parhaus. Yn ystod misoedd oerach, mae cylchoedd rhewi-dadmer yn gwaethygu ansefydlogrwydd ymhellach trwy ehangu craciau yn y domen yn ystod rhewi, ac yna llacio deunydd wrth ddadmer - sy’n arbennig o beryglus pan fydd y tir eisoes yn ddirlawn. Mae'r effeithiau cyfunol hyn yn gwneud llethrau yn fwy agored i fethiant yn ystod ac ar ôl glaw trwm. 

Gall glaw ddisgyn yn uniongyrchol ar y domen neu lifo tuag ati o dir cyfagos. Mae'n bwysig ystyried dŵr ffo o ardaloedd cyfagos neu ardaloedd llethrau gorifyny, oherwydd gall newidiadau mewn rheoli tir gynyddu’n sylweddol cyfaint y dŵr sy'n cyrraedd y domen[31].

Os yw'r lefel trwythiad yn codi uwchben wyneb y tir mewn lleoliad newydd, neu os yw erydu, adeiladu neu weithgaredd seismig yn agor llwybrau newydd, gall tarddellau newydd ffurfio. Gall y rhain fod dros dro neu'n barhaol os yw'r cyflenwad dŵr daear yn aros yn sefydlog. Er bod y DU yn profi gweithgaredd seismig isel i gymedrol, mae ardaloedd megis gogledd-orllewin a de Cymru wedi cofnodi rhai o'r daeargrynfeydd mwyaf ym Mhrydain, gyda meintiau dros 5ML33. Er nad yw'r digwyddiadau hyn yn gyffredinol yn cael eu hystyried yn arwyddocaol mewn perthynas â risg tirlithriad, ni ddylid eu hanwybyddu'n llwyr gan fod lleoliadau tomenni nas defnyddir yn cyd-daro â seismigedd uwch yn y DU. 

Gall tarddellau newydd, neu darddellau hanesyddol wedi'u hail-actifadu, greu ansefydlogrwydd llethrau, yn enwedig mewn tir yr ucheldir, oherwydd sawl mecanwaith sy'n rhyngweithio. Pan fydd dŵr daear yn dod i'r wyneb fel tarddell, mae'n dirlenwi'r pridd sydd o’i hamgylch, gan gynyddu pwysedd dŵr mandyllau a lleihau cryfder croeswasgu deunyddiau llethrau, gan eu gwneud yn fwy agored i lithro. Yn ogystal, gall y dŵr sy'n llifo erydu deunydd, yn enwedig os yw wedi’i grynodi mewn un ardal, a allai dandorri'r llethr a sbarduno methiannau lleol neu dirlithriadau mwy o faint [4]. Mae'r dŵr ychwanegol hefyd yn cynyddu pwysau’r llethr o ben i ben, gan gynyddu grymoedd disgyrchiant tuag i lawr llethrau a all oresgyn grymoedd gwrthiant gwan megis ffrithiant a chydlyniad. Ar ben hynny, gall amodau gwlyb parhaus o darddellau newydd newid gorchudd llystyfiant, a gall colli planhigion gwreiddiau dwfn oherwydd bod y pridd yn ddwrlawn leihau atgyfnerthu gwreiddiau, gan ansefydlogi'r llethr ymhellach. Mae'r effeithiau cyfunol hyn yn golygu bod presenoldeb tarddellau yn ffactor wrth asesu sefydlogrwydd llethrau.

Image
    Llun sy'n dangos erydu arwyneb a achoswyd gan law ar domen lo nas defnyddir
 Llun sy'n dangos erydu arwyneb a achoswyd gan law ar domen lo nas defnyddir

        

6.1.2 Digwyddiadau glaw eithafol

Yn debyg i law estynedig, mae digwyddiadau glaw eithafol yn cynyddu'n sylweddol y risg o symudiad trwy gyfuniad o brosesau ffisegol. Bydd tir yn dirlenwi’n gyflym pan fydd glaw trwm yn llenwi'r mandyllau yn gyflym, gan godi pwysedd dŵr y mandyllau a lleihau'r ffrithiant sy'n dal gronynnau ynghyd. Mae hyn yn arwain at golli cryfder croeswasgu yn neunydd y domen, gan ei gwneud hi'n haws i ddisgyrchiant sbarduno symudiad. Yn ogystal, mae'r dŵr ychwanegol yn cynyddu pwysau’r llethr o ben i ben, gan gynyddu grym disgyrchiant tuag i lawr y llethr. Gall llystyfiant, sydd fel arfer yn sefydlogi llethrau, gael ei ddadwreiddio neu ei wanhau gan dir dirlawn, yn enwedig mewn ardaloedd sydd eisoes wedi'u heffeithio gan ddatgoedwigo neu dân. Ar ben hynny, gall dŵr wyneb sy'n symud yn gyflym erydu gwaelod llethrau neu lannau afonydd, gan dandorri eu cynhaliad a chychwyn methiant oddi tanynt. Mae tynnu deunydd o droed tomen, neu 'ddad-fwtresu' wedi'i ddisgrifio fel prif achos ansefydlogrwydd tomenni y gellir ei atal[31].  Gall glaw trwm orlethu systemau draenio llethrau gan arwain at lif allan o sianeli, erydu arwyneb a thirlithriadau.

Image
Llun sy'n dangos cwrs dŵr wrth droed tomen lo nas defnyddir
Llun sy'n dangos cwrs dŵr wrth droed tomen lo nas defnyddir

Arolwg Daearegol Prydain (BGS) yw prif awdurdod y DU ar dirlithriadau, gan gynnig offer ymchwil, monitro ac asesu risg helaeth. Mae eu gwaith yn cynnwys cynnal y Gronfa Ddata Tirlithriadau Cenedlaethol, dadansoddi trothwyon glawiad a allai sbarduno tirlithriadau, a datblygu modelau rhagdueddiad i nodi ardaloedd mewn perygl. Mae'r llun canlynol yn dangos tirlithriadau'r DU wedi'u plotio yn erbyn glawiad am y 10 mlynedd diwethaf[33] ac mae'n dangos arsylwadau tirlithriadau sy'n gysylltiedig â glawiad.

Image
Plot yn dangos tirlithriadau yn erbyn glawiad y DU ers 2014
Plot yn dangos tirlithriadau yn erbyn glawiad y DU ers 2014 

6.1.3 Sychder 

Gall sychder neu lawiad isel estynedig waethygu sefydlogrwydd tomenni yn anuniongyrchol, yn enwedig pan ddilynir hyn gan law trwm. Yn ystod cyfnodau sych, gall tomenni gwastraff sy’n uchel eu cynnwys clai grebachu a chracio, gan greu agennau dwfn sy'n caniatáu i ddŵr glaw ymdreiddio'n gyflym unwaith y bydd dyodiad yn dychwelyd, gan ansefydlogi haenau gwastraff dyfnach. Gall deunydd y domen ei hun ddirywio, gan golli cydlyniad a throi’n agored i chwyddo neu feddalu anwastad pan gaiff ei ail-wlychu. Yn ogystal, gall glawiad ar ôl sychder redeg oddi ar arwynebau caled, hydroffobig i ddechrau, gan achosi erydu arwyneb a chreu corffrydiau, neu gall ymdreiddio'n gyflym trwy graciau gan ddirlenwi haenau dyfnach. Mae llethrau noeth, sych hefyd yn fwy agored i erydu gan wynt a dŵr, a all eu tandorri a'u hansefydlogi yn raddol dros amser. 

Mae sychder estynedig yn gwanhau'r llystyfiant sy'n tyfu ar domenni nas defnyddir, gan ei wneud yn fwy agored i blâu, clefydau, tân a straenachoswyr amgylcheddol eraill. Mewn rhywogaethau iau neu wreiddiau bas, gall sychder hyd yn oed achosi gwywo neu farwolaeth.

6.1.4 Gwyntoedd uchel 

Nid yw'r gymuned wyddonol wedi dod i gonsensws ynghylch a yw newid yn yr hinsawdd yn debygol o arwain at gynnydd yn amlder neu ddwyster stormydd a gwyntoedd uchel[34]. 

Gall gwyntoedd uchel gynyddu ansefydlogrwydd llethrau, yn enwedig pan gyfunir hyn â straenachoswyr amgylcheddol eraill megis priddoedd dirlawn neu sychder[35]. Un ffactor mawr yw dadwreiddio coed lle gall gwyntoedd cryfion ddymchwel coed, yn enwedig pan fydd y tir yn ddwrlawn neu wedi’i wanhau, gan aflonyddu ar y pridd a thynnu systemau gwreiddiau sydd fel arfer yn helpu i sefydlogi llethrau. Yng nghyd-destun tomenni nas defnyddir, gallai'r gwagle a grëwyd gan goeden wedi'i dadwreiddio wasanaethu fel cwndid i law ymdreiddio ac anifeiliaid dresmasu, gan waethygu diraddiad adeileddol o bosibl. Yn ogystal, gall difrod gwynt dynnu llystyfiant neu dorri canghennau, gan leihau'r canopi amddiffynnol a'r atgyfnerthu gwreiddiau sy'n helpu i atal erydu ac ymdreiddio dŵr. 

Gall nodweddion draenio ar domenni nas defnyddir megis sianeli a chwlferi gael eu rhwystro gyda malurion storm sy'n lleihau eu heffeithiolrwydd, gan arwain at lif allan o sianeli os cyfunir gwyntoedd uchel â glawiad.

Image
Gril cwlfert ar domen nas defnyddir wedi'i rwystro gan falurion storm
Gril cwlfert ar domen nas defnyddir wedi'i rwystro gan falurion storm

6.1.5 Hafau poethach a thonnau gwres 

Gall hafau poethach a chynnydd mewn amlder tonnau gwres gynyddu risg ansefydlogrwydd tomenni yn anuniongyrchol trwy sychu a chracio pridd, sy'n caniatáu i ddŵr glaw ymdreiddio yn gyflym ac ansefydlogi haenau dyfnach. Maent hefyd yn gwanhau neu'n lladd llystyfiant, gan leihau cryfder gwreiddiau a chydlyniad pridd, a gwneud llethrau yn fwy agored i erydu a methu pan fydd glaw trwm yn dilyn. 

Mewn tomenni sydd â nodweddion draenio neu gynnal ffurfiol, gall aramlygiad i wres eithafol ddifrodi concrit, gan arwain at gracio, asglodi a chyflymu heneiddio[36]. 

Gall tonnau gwres arwain at orboethi mewn offer monitro, yn enwedig pan nad yw dyfeisiau wedi'u hadeiladu ar gyfer tymereddau eithafol neu pan nad oes ganddynt oeri ac awyru priodol. Gall tymereddau amgylchol uwch achosi synwyryddion i gamweithio neu roi darlleniadau anghywir, a bydd cydrannau electronig megis batris, prosesyddion a chyflenwadau pŵer mewn mwy o berygl o fethu. Mae'n bwysig cynnal a graddnodi dyfeisiau a ddefnyddir i fonitro tomenni yn briodol er mwyn sicrhau modd dibynadwy o gasglu data[37]. Mae'n werth nodi bod astudiaethau wedi dangos cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod tywydd cynhesach[37]. Mae hyn yn cynnwys mwy o achosion o danau bwriadol a fandaliaeth, a allai gyflwyno heriau ychwanegol ar gyfer rheoli tomenni yn effeithiol.  

6.1.5.1 Tanau gwyllt

Daeth y Swyddfa Dywydd i'r casgliad bod tanau yn fygythiad sy'n dod i'r amlwg yn y DU[38].  Gall tanau gwyllt gynyddu problemau sefydlogrwydd tomenni trwy ddinistrio llystyfiant sy'n sefydlogi llethrau ac yn cyfyngu ar ymdreiddio[39]. Gallant hefyd greu priddoedd hydroffobig sy'n gwrthyrru dŵr gan arwain at ddŵr ffo cyflym mewn digwyddiadau glaw dilynol[4].  Gall llygredd cwrs dŵr ddigwydd yn dilyn tân gwyllt ar domen lo nas defnyddir, oherwydd gall glaw sy'n llifo dros neu drwy wastraff agored gludo gronynnau a halogyddion i gyrff dŵr cyfagos[40].

Mae hylosgi digymell yn ffenomen arall sy'n gysylltiedig â thomenni glo nas defnyddir. Er na ddeallir yn llawn y prosesau hunan-gynhesu a thanio[40], mae'r amodau sy'n ofynnol i sbarduno digwyddiadau o'r fath yn debygol o ddigwydd yn fwy aml mewn hinsawdd gynhesach, a disgwylir iddynt ddigwydd yn fwy aml[41].

Image
Llun sy'n dangos tir llosg ar safle tomen yn dilyn tân gwyllt a ledaenodd yn gyflym ym mis Mawrth 2025.
Llun sy'n dangos tir llosg ar safle tomen yn dilyn tân gwyllt a ledaenodd yn gyflym ym mis Mawrth 2025. Fe wnaeth y tân glirio rhedyn y flwyddyn flaenorol yn gyflym a gadael y llwyni eithin a'r coed heb eu cyffwrdd i raddau helaeth

6.1.6 Cynnydd yn lefel y môr 

Er bod lefel y môr yn debygol o gael effaith ddofn ar dirweddau arfordirol, ni chredir y bydd hyn yn effeithio ar y portffolio o domenni nas defnyddir yng Nghymru. 

6.1.7 Gaeafau Oerach

Mae rhai ymchwilwyr hinsawdd sy'n astudio’r Cylchrediad Gwrthdroadol Meridianaidd Iwerydd (AMOC) a'r Cylchgerrynt Is-begynol yn awgrymu y gallai newidiadau yn y systemau cefnforol hyn arwain at hinsawdd oerach mewn rhannau o Ewrop, gan gynnwys y DU[44],[45]. Mae hwn yn safbwynt diddorol ond mae'r adroddiad hwn yn cyd-fynd â chonsensws gwyddonol ehangach bod disgwyl i'r DU weld dyfodol cynhesach yn gyffredinol.

6.1.8 Stormydd Mellt

Disgwylir i newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder digwyddiadau mellt[46]. Er y gallai’r rhain effeithio ar gyflenwadau pŵer ac offeryniaeth safleoedd, nid yw mellt yn cael ei ystyried yn brif berygl hinsawdd sy'n peri pryder mewn perthynas â thomenni glo nas defnyddir yng Nghymru. Mewn cyferbyniad, mae'r glawiad cynyddol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau stormydd, a ddisgrifir uchod, yn peri risg sylweddol uwch.

6.2 Risgiau Cyfansawdd

Mae risgiau cyfansawdd yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd yn cyfeirio at sefyllfaoedd lle mae peryglon neu straenachoswyr lluosog sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn digwydd ar yr un pryd, un ar ôl y llall, neu'n rhyngweithio mewn ffyrdd sy'n cynyddu eu heffaith gyffredinol. Mae'r risgiau hyn yn fwy cymhleth a pheryglus na pheryglon unigol oherwydd gallant orlethu systemau a lleihau effeithiolrwydd ymatebion safonol. Mae'r rhain yn cynnwys peryglon sy’n digwydd ar yr un pryd, megis ton wres a sychder sy'n digwydd gyda'i gilydd.  Effeithiau rhaeadru, lle mae un digwyddiad yn sbarduno un arall, megis glaw trwm yn achosi tirlithriad sy'n rhwystro afon ac yn arwain at lifogydd i lawr yr afon; digwyddiadau dilyniannol, lle mae peryglon yn digwydd yn gyflym un ar ôl y llall, megis un storm ar ôl y llall sy'n gadael prin amser i adfer. 

Mae'r risgiau cyfansawdd hyn yn bwysig i'w hystyried yng nghyd-destun rheoli tomenni, oherwydd mae’n bosibl na fydd y digwyddiadau tywydd sy'n sbarduno ansefydlogrwydd yn digwydd ar wahân. O dan senarios hinsawdd yn y dyfodol, gallai storm sy'n symud yn araf ac sy'n cynnwys glaw trwm effeithio ar domen sydd eisoes wedi'i gwanhau gan lystyfiant sydd wedi gwywo ac arwyneb wedi’i dysychu yn dilyn haf sych estynedig. Gall y cyfuniad hwn o ffactorau arwain at systemau draenio wedi'u rhwystro neu eu gorlethu, llifogydd lleoledig, erydu wrth droed y domen gan gyrsiau dŵr cyfagos, a mynediad cyfyngedig i'r safle - a gallai pob un o’r rhain beryglu sefydlogrwydd a diogelwch y domen yn sylweddol.

Mewn llawer o achosion, mae'r ffactorau sy'n cyfrannu at ba mor agored i niwed y mae tomen i ddigwyddiadau tywydd presennol a newid yn yr hinsawdd wedi’u hadlewyrchu yn y categori a neilltuir iddi. Fodd bynnag, gwnaed y dosbarthiad cychwynnol trwy ymarfer pen desg ac ni ystyriwyd yn benodol paramedrau sy'n gysylltiedig â'r tywydd.

7.0 Asesu bregusrwydd tomenni yng Nghymru

Wrth asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, mae dull cyffredin yn ymwneud ag archwilio digwyddiadau o'r gorffennol a nodi'r amodau hinsawdd a'u sbardunodd. Er enghraifft, gellid dadansoddi swm y cwymp eira a arweiniodd at gau ysgolion ac yna gwerthuso pa mor debygol yw amodau o'r fath o dan senarios hinsawdd yn y dyfodol. 

Mae'r dull hwn yn fwyaf effeithiol pan fydd cofnodion gweithredol manwl ar gael. Mewn sectorau megis trafnidiaeth, mae'n gymharol syml meintioli’r effeithiau - megis nifer y teithiau bws a ganslwyd yn sgil cau pontydd oherwydd y gwynt neu wasanaethau rheilffordd y tarfwyd arnynt gan law trwm. Mae'r cofnodion hyn yn helpu i gysylltu digwyddiadau tywydd penodol â chanlyniadau gweithredol. Fodd bynnag, yn achos tomenni glo nas defnyddir, mae data o'r fath yn llawer anoddach ddod o hyd iddo. Er bod cofnodion o arolygiadau adweithiol yn dilyn glaw trwm, mae'r effaith lawn wedi'i dogfennu'n wael. Nododd un Awdurdod Lleol fod 50 o ymweliadau ychwanegol wedi'u cynnal yn dilyn Storm Bert ym mis Tachwedd 2024 (cyfathrebu personol).  Mae’n bosibl bod galwadau i awdurdodau lleol gan y cyhoedd ynglŷn â thomenni glo yn cael eu cofnodi, ond nid ydynt fel arfer wedi’u cysylltu â digwyddiadau tywydd penodol. Yn yr un modd, nid yw ymweliadau safle gan staff gweithredol yn cael eu cofnodi’n rheolaidd fel ymatebion i'r tywydd, na natur unrhyw effaith a arsylwyd.

Mae'r diffyg hwn, o ran data manwl sy'n gysylltiedig â'r tywydd, yn ei gwneud hi'n anodd canfod y trothwyon pan nodir problemau, ac yn cymhlethu ymdrechion i ragfynegi sut y gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar y safleoedd hyn yn y dyfodol. Am fwy o wybodaeth am fethodoleg asesu newid yn yr hinsawdd, gweler Atodiad D.

3. Argymhelliad

Cofnodi pob tasg cynnal a chadw adweithiol sy'n gysylltiedig â'r tywydd ac adrodd am unrhyw achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Cyhoeddi holiadur blynyddol i berchnogion tomenni i ganfod math a maint unrhyw weithgaredd. Er nad oes disgwyl cyfradd ymateb lawn, byddai hyd yn oed nifer cyfyngedig o atebion yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr.

Diben

Nodi patrymau a thueddiadau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau tywydd garw, a hwyluso rhannu gwersi a ddysgwyd ar draws y sector, gan gefnogi gwelliant parhaus.

Cam Gweithredu

Tasglu neu Asiant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru i gydgysylltu â pherchnogion tomenni

Bu tri achos yn ystod y blynyddoedd diwethaf lle mae digwyddiad tywydd hysbys wedi sbarduno methiant llethr tomen lo.  Y rhain oedd Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, glaw trwm ym mis Rhagfyr 2020 a Storm Bert ym mis Tachwedd 2024 a achosodd dirlithriadau mewn tomenni glo yn Nhylorstown, Wattstown a Chwmtyleri yn y drefn honno.

Tabl sy'n dangos lleoliadau ansefydlogrwydd tomenni glo a symiau glawiad hysbys [47].
LleoliadDigwyddiad TywyddGlawiad a Gofnodwyd gan fedrydd agosaf CNC mewn 24 awrEffaith
TylorstownStorm Dennis132 mm (medrydd Maerdy)Llif malurion 
WattstownDim enw36 mm (medrydd Nant yr Ysfa)Llithriad malurion
CwmtyleriStorm Bert59 mm (medrydd Cwmtyleri)Llithriad malurion

Mae medrydd glaw CNC yng Nghwmtyleri wedi'i leoli lai na milltir o safle tirlithriad y domen ym mhentref Cwmtyleri. Adroddodd llygad-dystion lawiad trwm yn y pentref, gan awgrymu y gallai lefelau gwirioneddol y glawiad wedi bod yn uwch na’r rhai a gofnodwyd gan y medrydd gerllaw.

Oherwydd y data gweithredol cyfyngedig sydd ar gael ar draws y portffolio tomenni, mae'n heriol rhagfynegi pa safleoedd a allai wynebu problemau sefydlogrwydd o dan senarios hinsawdd yn y dyfodol. Mae unrhyw fethiant posibl yn debygol o fod o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau’n rhyngweithio a'r nodweddion gwahanol sy'n unigryw i bob safle.

Ar gyfer y mwyafrif o domenni glo nas defnyddir, nid yw trothwy dwysedd y glawiad a allai achosi ansefydlogrwydd llethr yn hysbys. Yn ymarferol, yr hyn sy’n achosi methiant llethr fel arfer yw rhyngweithio cymhleth ffactorau hydrolegol, geodechnegol a morffolegol. Gall nodweddion geomorffolegol ac adeileddol penodol y tomenni megis ongl y llethr, cyfansoddiad y deunyddiau, cywasgu, ac amodau draenio, gynyddu'n sylweddol eu rhagdueddiad i fethiannau mecanweithiau a achosir gan y tywydd. Gall presenoldeb nodweddion etifeddol megis twneli a siambrau hefyd achosi problemau, oherwydd efallai na fydd y gwagleoedd hyn yn y domen yn weladwy i'w harolygu a gallant ddirywio dros amser.

4. Argymhelliad

Datblygu templed rhestr wirio i gofnodi pob nodwedd tomen a allai gael ei dylanwadu gan newid yn yr hinsawdd. Defnyddio’r rhestr wirio hon i asesu pob tomen a arolygir, gan nodi'r rhai sy'n dangos nodweddion lluosog sy'n sensitif i'r hinsawdd.

Diben

Er mwyn cefnogi gwerthusiadau cyson, dylid tynnu sylw at safleoedd sydd â gwendidau cyfansawdd, ymgorffori effeithiau newid yn yr hinsawdd wrth reoli tomenni nas defnyddir a llywio blaenoriaethu ar gyfer ymchwilio neu ymyrraeth bellach.

Cam Gweithredu

Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru / Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru gyda’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio

7.1 Llystyfiant a thomenni glo nas defnyddir

Gall gorchudd llystyfiant, gan gynnwys coedwigoedd, chwarae rôl wrth wella sefydlogrwydd llethrau, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n agored i erydu neu dirlithriadau megis tomenni glo. Mae gwreiddiau planhigion yn atgyfnerthu adeiledd y domen trwy gynyddu ei gryfder croeswasgu a'i angori i haenau dyfnach, mwy sefydlog. Mae canopïau coed a llwyni hefyd yn dal glawiad, gan leihau cyfanswm a chyflymder y dŵr sy'n cyrraedd arwyneb y domen, ac mae anwedd-drydarthiad yn helpu i reoleiddio lefelau lleithder y gwastraff. Mae'r effeithiau cyfunol hyn yn lleihau'r tebygolrwydd o dirlawnder llethr a dŵr ffo wyneb, y ddau ohonynt yn sbardunau allweddol methiant llethrau[4]. 

Fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd yn cyflwyno sawl risg a allai danseilio'r manteision sefydlogi hyn. Gall cynnydd mewn dwyster ac amlder glawiad fod yn fwy na gallu clustogi llethrau sydd wedi’u gorchuddio â llystyfiant, gan arwain at y tir yn dirlenwi’n gyflym a chynnydd mewn pwysau dŵr mandyllau. Ar yr un pryd, gall sychderau estynedig wanhau neu ladd llystyfiant, gan leihau cydlyniad gwreiddiau a’u gwneud yn fwy agored i danau ac erydu. Yn ogystal, gall newidiadau mewn cyfansoddiad rhywogaethau, achosion o blâu, a risgiau tanau gwyllt, sy'n cael eu gyrru gan yr hinsawdd, i gyd ddiraddio iechyd llystyfiant a lleihau eu heffeithiolrwydd wrth sefydlogi llethrau[48].

Dylid nodi hefyd bod safleoedd nad ydynt wedi’u rheoli yn debygol o fod yn destun newidiadau graddol mewn ymateb i batrymau hinsawdd sy'n newid. Er enghraifft, gall llethr sy’n ddwrlawn yn fwy aml arwain at dyfiant sypwelltau gwellt y gweunydd, planhigion sy'n ffynnu mewn amodau llaith, neu lystyfiant hydroffilig arall, sy'n arwydd bod amodau’r tir wedi newid dros amser. Mae'n bwysig nodi a chofnodi’r newidiadau cynnil hyn yn ystod arolygiadau safleoedd4. 

Yn gryno, er bod gorchudd llystyfiant yn offeryn naturiol gwerthfawr i sefydlogi llethrau, mae ei effeithiolrwydd yn cael ei fygwth fwyfwy gan effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd strategaethau rheoli addasol sy'n ystyried amodau hinsoddol sy'n newid ac yn hyrwyddo gorchudd llystyfiant gwydn yn hanfodol i gynnal sefydlogrwydd llethrau yn y dyfodol[49]. Yr her fydd sut i ddewis y system blannu gywir sy'n gweddu i'r lleoliad a'r swyddogaeth ac sy'n dal i ganiatáu arolygiadau diogelwch trylwyr.

7.2 Y gallu i ymaddasu

Mae’r gallu i ymaddasu yn cyfeirio at allu unigolion, cymunedau neu systemau i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a lleihau difrod posibl. Mae ei elfennau allweddol yn cynnwys gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, megis deall risgiau hinsawdd lleol a chael mynediad at ragolygon ac addysg. Mae adnoddau, gan gynnwys rhai ariannol, technolegol a dynol yn hanfodol ar gyfer gweithredu mesurau ymaddasu megis amddiffynfeydd rhag llifogydd neu systemau rhybuddio cynnar. Mae sefydliadau a llywodraethiant yn chwarae rôl hanfodol trwy bolisïau hyblyg a chynllunio effeithiol. Mae cyfalaf cymdeithasol, gan gynnwys ymddiriedolaethau a rhwydweithiau cymunedol, yn cynyddu gwydnwch ar y cyd yn ystod argyfwng. Yn olaf, gall seilwaith sy'n gadarn ac yn wydn rhag yr hinsawdd - megis adeiladau, trafnidiaeth a chyfleustodau helpu i leihau bregusrwydd a chefnogi ymaddasu hirdymor[8].

5. Argymhelliad

Datblygu canllaw cynhwysfawr i berchnogion tomenni sy'n amlinellu ystyriaethau allweddol, annog arferion gorau, tynnu sylw at oblygiadau newid yn yr hinsawdd, ac yn egluro cyfrifoldebau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â pherchnogaeth tomenni. Argymhellir bod y ddogfen yn cynnwys cyfeiriadau at sefydliadau priodol sy'n gallu darparu cyngor a chymorth proffesiynol.

Diben

Gwella ymwybyddiaeth, hyrwyddo gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, a chodi safonau rheoli ar draws y portffolio tomenni sy’n eiddo preifat trwy gynyddu gwybodaeth a mabwysiadu arfer da.

Cam Gweithredu

Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio neu Dasglu / Asiant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru / Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru

Yn aml nid oes gan dirfeddianwyr preifat bach y gallu ymaddasu i ymdopi â newid yn yr hinsawdd oherwydd cyfuniad o gyfyngiadau ariannol, technegol a sefydliadol. Gall adnoddau ariannol cyfyngedig eu hatal rhag buddsoddi mewn seilwaith angenrheidiol neu fesurau adfer, a gall diffyg gwybodaeth dechnegol a mynediad at gyngor arbenigol rwystro eu gallu i weithredu strategaethau ymaddasu effeithiol. Mae cymhlethdod rheoleiddiol ac anhawster cael mynediad at gymorth gan y llywodraeth yn lleihau ymhellach eu gallu i ymateb. Yn ogystal, gall graddfa fach a natur ddarniog tirddaliadau gyfyngu ar ddichonoldeb ymyriadau ar raddfa tirwedd, a gall ffactorau cymdeithasol, megis oedran, ynysigrwydd neu gymhelliant leihau ymgysylltu â mentrau gwydnwch rhag yr hinsawdd[50]. Mae'r heriau hyn gyda'i gilydd yn ei gwneud hi'n anoddach i dirfeddianwyr bach ragweld risgiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, paratoi ar eu cyfer ac ymateb iddynt.

6. Argymhelliad

Storio holl ddata tomenni mewn un lle, yn ddelfrydol mewn System Gwybodaeth Ddaearyddol sy'n galluogi holi dwys gofodol o’r data ochr yn ochr â setiau data eraill. Byddai angen sefydliad lletya a diweddariadau rheolaidd ar y system hon.

Diben

Er hwylustod dadansoddi a dehongli, byddai'n cynnwys mynediad at y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (NUAR).

Cam Gweithredu

Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru - Tîm Data

7. Argymhelliad

Adolygu'r templed arolygu tomenni i gynnwys meysydd ar gyfer cofnodi dimensiynau a galluoedd adeileddau. Yn ogystal, ymgorffori promptiau i ddogfennu nodweddion a allai waethygu ansefydlogrwydd llethrau o dan amodau hinsawdd sy'n newid.

Diben

Er mwyn sicrhau cofnodi ac asesu effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd yn systematig yn ystod arolygiadau.

Cam Gweithredu

Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru ac arolygwyr yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio
 

7.3 Cynllunio ar gyfer cynnydd tymheredd 2°C, ystyried 4°C 

Mae cynllunio ar gyfer cynnydd tymheredd 2°C wrth ystyried y posibilrwydd o gynnydd 4°C yn hanfodol oherwydd yr ansicrwydd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â thrywyddau newid yn yr hinsawdd. Er mai bwriad cytundebau rhyngwladol megis Cytundeb Paris yw cyfyngu cynhesu byd-eang ymhell o dan 2°C, mae tueddiadau allyriadau byd-eang presennol yn awgrymu bod cynnydd o 4°C yn dal i fod yn bosibl os bydd ymdrechion lliniaru yn methu. Mae paratoi ar gyfer 2°C yn sicrhau cyd-fynd â nodau polisi ac effeithiau tymor byr ond mae cynllunio ar gyfer 4°C yn meithrin gwydnwch rhag canlyniadau mwy eithafol.

Mae'r LACS a gyflwynwyd yn Adran 5.0 yn ymgorffori'r dull hwn yn ei ryngwyneb defnyddiwr, gan ganiatáu cymharu’n hawdd yr amcanestyniadau 2°C a 4°C.

7.5 Gorwelion amser

Wrth ystyried addasu, mae'n bwysig ystyried y raddfa amser. Ar gyfer prosiectau tymor byr megis y rhai sy'n para llai na 10 mlynedd, diangen yn gyffredinol yw edrych ymlaen tuag at ddiwedd y ganrif. Fodd bynnag, ar gyfer asedau a datblygiadau y disgwylir iddynt gael rhychwant oes hir, mae'n hanfodol ystyried gorwel amser hirach er mwyn sicrhau gwydnwch a chynaliadwyedd dros amser. Yn achos tomenni glo nas defnyddir, lle gall cyfrifoldeb parhau am byth, mae'n bwysig ystyried senarios hinsawdd hirdymor.

8.0 Mesurau addasu ar gyfer tomenni nas defnyddir

Pennir risg gan gyfuniad o berygl, aramlygiad, a bregusrwydd. Yn aml nid yw'n ddichonadwy lleihau maint neu ddwyster perygl, ac eithrio mewn achosion prin megis ffrwydradau afalans a reolir, neu hau cymylau i helpu i leddfu sychder. Yn yr achosion hyn gellir ystyried unrhyw leihad mewn dwysedd perygl yn fath o liniaru. Fodd bynnag, gellir dylanwadu’n sylweddol ar fregusrwydd safle, a thrwy hynny leihau'r risg gyffredinol a berir gan y perygl. Addasu yw'r broses o newid i ymdopi yn well â chanlyniadau hinsawdd a ragfynegir. Mae 'Partneriaethau Lleol' wedi datblygu canllaw i sefydliadau'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys pecyn cymorth cynhwysfawr ac ystod o adnoddau ar-lein i gefnogi cynllunio addasu i'r hinsawdd[51].

8.1 Mesurau addasu meddal a chaled

Mae opsiynau meddal addasu i newid yn yr hinsawdd yn strategaethau anstrwythurol, hyblyg sy'n helpu cymunedau i addasu i effeithiau hinsawdd heb ddibynnu ar seilwaith mawr. Yn wahanol i atebion "caled" megis waliau môr, mae dulliau meddal yn canolbwyntio ar addysg, polisi, adfer ecosystemau, a chyfranogiad y gymuned. Mae'r dulliau hyn yn aml yn gost isel, yn gyflym i'w gweithredu, ac yn hyrwyddo gwydnwch lleol wrth hefyd bod o fudd i fioamrywiaeth ac iechyd ecosystemau.

8.2 Heb anfanteision, anfanteision isel, anfanteision uchel

Gellir categoreiddio strategaethau addasu yn fras i gamau gweithredu heb anfanteision, anfanteision isel, ac anfanteision uchel. Mae strategaethau 'heb anfanteision' yn fuddiol yn gyffredinol, gan gynnig manteision megis gwell iechyd, bioamrywiaeth ac ansawdd bywyd, waeth sut mae newid yn yr hinsawdd yn datblygu. Mae enghreifftiau o ‘heb anfanteision’ yn cynnwys gwyrddu trefol ac adfer ecosystemau. Mae strategaethau 'anfanteision isel' yn gosteffeithiol ac yn hyblyg, gan ddarparu manteision hyd yn oed os yw effeithiau hinsawdd yn llai difrifol na'r disgwyl, megis cadwraeth dŵr a chnydau sy'n gwrthsefyll sychder. Mewn cyferbyniad, mae strategaethau 'anfanteision uchel' yn cynnwys buddsoddiad sylweddol ac ymrwymiadau hirdymor, gyda risgiau uchel os goramcangyfrifir amcanestyniadau hinsawdd. Mae enghreifftiau o opsiynau anfanteision uchel yn cynnwys prosiectau seilwaith mawr megis argaeau neu waliau môr mewn ardaloedd risg isel.

8.3 Ailgodi’n gryfach

Mae'r dull 'Ailgodi’n Gryfach' yn hyrwyddo adfer gwydn, cynhwysol a chynaliadwy yn dilyn digwyddiadau neu fethiannau. Yn hytrach na dim ond adfer yr hyn a gollwyd, mae'r dull hwn yn ceisio gwella seilwaith, systemau a chymunedau i wrthsefyll heriau yn y dyfodol yn well. Mae ei egwyddorion craidd yn cynnwys gwella gwydnwch trwy seilwaith a pharodrwydd cryfach ac ymddiriedaeth gryfach gan y gymuned.  Yng nghyd-destun tomenni nas defnyddir, mae'n synhwyrol adfer seilwaith sydd wedi'i ddifrodi gan stormydd trwy gynyddu capasiti’r system a/neu wella ei chadernid o bosibl.

8. Argymhelliad

Cynnal profion maes i adolygu dulliau er mwyn canfod pa safleoedd sy'n agos at drothwyon diogelwch. Nodi pa safleoedd sy'n agos at gapasiti nawr a pha rai sy'n gweithredu ymhell o fewn ffiniau. Gallai hyn gynnwys offer i fesur uchafswm lefel llifogydd sianeli yn ystod storm a chamerâu.

Diben

Sefydlu pa dechnegau sydd fwyaf addas i asesu trothwyon safleoedd.

Cam Gweithredu

Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i dreialu hyn ar eu safleoedd
 

8.4 Enghreifftiau o opsiynau addasu ar domenni glo nas defnyddir

Cydnabyddir bod llawer o domenni eisoes wedi'u rheoli'n dda, ac y gallai rhai neu bob un o'r arferion hyn eisoes fod ar waith. Fodd bynnag, mae'r diffyg gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r tywydd sydd wedi'u cofnodi yn ei gwneud hi'n anodd asesu ehangder llawn arfer da. Am restr estynedig o opsiynau addasu posibl, cyfeiriwch at yr atodiad, lle ystyrir paramedrau hinsawdd ar wahân yn erbyn nodweddion tomen. 

Gan nad oes dyluniad safonol ar gyfer tomenni ac mae pob safle yn cyflwyno cyfuniad unigryw o nodweddion, dylid asesu mesurau addasu fesul safle. Efallai y bydd angen rhoi sylw arbennig i rai ffactorau safle-benodol, megis anghenion mynediad neu ddynodiadau ecolegol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod y gallai fod angen ar rai mesurau addasu fwy o waith cynnal a chadw parhaus nag eraill, sy'n ffactor allweddol i'w ystyried wrth gynllunio.

8.4.1 Sianeli draenio – anfanteision isel, addasu meddal 

Mae sefydlu coridor clir, glaswellt yn unig o amgylch sianeli draenio ffurfiol yn cynnig sawl mantais. Mae tynnu llwyni a choed yn atal ymwthiad gwreiddiau, sy’n gallu peryglu cadernid adeileddol y system ddraenio. Mae coridor agored hefyd yn hwyluso mynediad haws ar gyfer arolygiadau rheolaidd, boed ar droed neu’n defnyddio peiriannau bach. Yn ogystal, mae absenoldeb coed yn lleihau deiliach marw a changhennau sy'n cwympo, a thrwy hynny mae’n lleihau malurion rhag cronni y tu mewn i’r sianel ac yn cefnogi llif dŵr mwy effeithlon. Mewn cyd-destun coetir mwy o faint, gall sefydlu coridor sy’n glir o lystyfiant hefyd weithredu fel ardal atal tân ac annog bioamrywiaeth trwy wasanaethu fel llwybr fforio neu deithio i fywyd gwyllt megis ystlumod ac adar - yn enwedig os ychwanegir ymylon sgolop i gynyddu cyfleoedd ar gyfer bwydo.

Image
Nodwedd draenio siâp trapesoid gyda choed yn agos at ymyl y sianel
Nodwedd draenio siâp trapesoid gyda choed yn agos at ymyl y sianel. Sylwch ar y canghennau sy’n bargodi a’r deiliach marw.

8.4.2 Lleoli hen darddellau neu darddellau anweithredol – dim anfanteision, addasu meddal

Gan ddefnyddio mapiau hanesyddol, nodi lleoliadau lle sefydlwyd tomenni glo ar darddellau naturiol neu’n agos atynt. Oherwydd newidiadau yn y lefel trwythiad yn ystod gweithgareddau cloddio am lo, mae’n bosibl y byddai’r tarddellau hyn wedi bod yn anweithredol, neu wedi'u dargyfeirio, am gyfnodau estynedig. Fodd bynnag, wrth i batrymau glawiad newid neu adfer hydrolegol naturiol ddigwydd, gallai tarddellau ymddangos o’r newydd a gallai hyn ddylanwadu ar sefydlogrwydd y domen[30]. Mae mapio'r berthynas rhwng tomenni glo nas defnyddir a lleoliadau tarddellau yn caniatáu arolygiadau wedi'u targedu mwy a gall dynnu sylw at ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer gosod offer monitro newydd. Mae gan Lyfrgell Genedlaethol yr Alban archif ar-lein o fapiau a chynlluniau hanesyddol sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac mae'n cynnwys dalennau’r Arolwg Ordnans o'r 1800au hyd heddiw. Mae'n werth nodi nad yw nodweddion tarddellau, y mae rhai mapiau hŷn yn eu dangos, yn bresennol yn gyson ar draws pob cynllun ar gyfer yr un lleoliadau, gan dynnu sylw at bwysigrwydd adolygu dogfennau lluosog. Efallai y bydd cyfle i ddefnyddio potensial deallusrwydd artiffisial (AI) i gynorthwyo gyda'r dasg hon.

9. Argymhelliad

Cynnal adolygiad o fapiau a chynlluniau hanesyddol i nodi tomenni sydd wedi'u hadeiladu ar hen darddellau neu safleoedd ffynhonnau naturiol neu’n agos atynt.

Diben

Bydd hyn yn galluogi monitro wedi’i dargedu o'r tomenni hynny ar gyfer newidiadau posibl sy'n gysylltiedig â gweithgaredd tarddellau o’r newydd.

Cam Gweithredu

Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru / Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio fel estyniad i arolygiadau

8.4.3 Deunyddiau adeiladu – anfanteision isel, addasu caled

Wrth uwchraddio neu osod systemau draenio newydd ar safleoedd tomenni, mae'n bwysig ymgorffori mwy o gapasiti a defnyddio deunyddiau mwy cadarn. Dylid dewis dulliau a deunyddiau adeiladu gan ystyried tymereddau sy’n codi a chynnydd mewn amlder sychder a digwyddiadau glaw trwm. Mae'r dull hwn yn cyd-fynd â'r egwyddor Ailgodi’n Gryfach ac yn helpu i sicrhau bod y system yn wydn ac wedi’i diogelu at y dyfodol. Mae CNC wedi cynhyrchu canllawiau ar gynllunio ar gyfer digwyddiadau glaw eithafol yng Nghymru, a dylid ymgynghori â’r rhain wrth lunio'r cynllun[52]. Mae Cymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu (CIRIA) yn cyhoeddi ystod o ganllawiau, llawlyfrau a chodau ymarfer a all lywio penderfyniadau dylunio a gofynion deunyddiau[53],[54].

8.4.4 Offeryniaeth – anfanteision isel, addasu caled

Pan fydd sawl gwendid wedi'i nodi gyda thomen yn dilyn ymweliadau safle a / neu astudiaethau pen desg, efallai y byddai’n ddoeth gosod offer monitro. Gallai hyn gynnwys offerynnau megis mesuryddion goleddf a phiesomedrau. Dylid monitro’r dyfeisiau hyn ochr yn ochr â data glawiad lleol i ganfod a yw unrhyw newidiadau a arsylwyd mewn amodau'r tir yn cydberthyn â phatrymau dyodiad. Mae'n hanfodol cynnal y monitro ar y cyd â chynllun gweithredu a ddiffiniwyd ymlaen llaw, gan sicrhau bod ymateb priodol ac amserol i unrhyw gyfradd newid sylweddol. 

Image
Llun yn dangos monitro glawiad mewn tomen lo nas defnyddir yng Nghymru
Llun yn dangos monitro glawiad mewn tomen lo nas defnyddir yng Nghymru

Mae datblygiadau diweddar mewn deallusrwydd artiffisial (AI) wedi'u cymhwyso yng Nghaerdydd i arbrofi gyda defnyddio monitro teledu cylch cyfyng ar gyfer cwlferi priffyrdd, gan alluogi rhybuddion amser real i staff pan gaiff sgriniau eu rhwystro[55]. Gellid defnyddio'r dechnoleg hon i fonitro sgriniau allweddol ar domenni glo nas defnyddir a blaenoriaethu ymweld â’r safle. 

8.4.5 Cydbwysedd dŵr safle – anfanteision isel, addasu meddal

Pan fydd tomen nas defnyddir wedi’i dominyddu gan orchudd coed ungnwd, rhaid ystyried rheoli hydrolegol tymor canolig a hirdymor y safle. Gall conwydd aeddfed, er enghraifft, ddefnyddio dros 500 litr o ddŵr mewn anwedd-drydarthiad, gan ddylanwadu'n sylweddol ar y cydbwysedd dŵr lleol[56]. Pan ddaw'r amser i gynaeafu'r cnwd, bydd y cydbwysedd hwn yn newid yn ddramatig. Ar ôl cwympo’r coed, gall ymateb hydrolegol y domen fod yn wahanol iawn i'r amodau cyn y cynaeafu, gan gynyddu'r risg o erydu, llifogydd a llygredd[57]. Dylid cymryd mesurau rhagweithiol felly i liniaru'r risgiau hyn a sicrhau bod y safle yn parhau i fod yn sefydlog ac yn amgylcheddol ddiogel.

Image
Llun yn dangos tomen lo nas defnyddir wedi'i gorchuddio â chonwydd aeddfed.
Llun yn dangos tomen lo nas defnyddir wedi'i gorchuddio â chonwydd aeddfed. Sylwch ar yr ‘isdyfiant’ neu’r gorchudd llystyfiant cyfyngedig ar lefel y ddaear.

Pan fydd amodau yn caniatáu, gellid ystyried mabwysiadu coedwig orchudd barhaus. Mae'r dull hwn yn hyrwyddo defnyddio plannu rhywogaethau cymysg gyda choed sy'n aeddfedu ar gyfraddau gwahanol. Yn hytrach na dibynnu ar lwyrgwympo, mae coedwig orchudd barhaus yn ymwneud â chynaeafu a disodli dethol coed unigol, gan gynnal canopi parhaus. Mae'r dull hwn yn cynnig manteision sylweddol ar gyfer darparu cynefinoedd, cadwraeth bridd, a chynnal cydbwysedd dŵr sefydlog[58][59].

8.4.6 Clirio sgriniau yn rhagweithiol – dim anfanteision, addasu meddal

Pan fyddwch yn derbyn rhybudd am ddigwyddiad glaw trwm sydd ar ei ffordd, mae'n synhwyrol gwirio sgriniau malurion yn rhagweithiol a chael gwared ar unrhyw sbwriel neu falurion ger y seilwaith draenio. Bydd sicrhau bod yr asedau hyn yn glir cyn i'r glaw gyrraedd yn eu helpu i weithio'n effeithiol yn ystod y storm. Dylai perchnogion tomenni fod yn gyfarwydd â rhybuddion yr Asesiad Dyddiol o Beryglon sy'n ymwneud ag amodau tirlithriadau a gyhoeddir gan Arolwg Daearegol Prydain (BGS) fel rhan o'r Partneriaethau Peryglon Naturiol[60]. 

Ar safleoedd gyda morlynnoedd artiffisial, gallai gostwng lefelau dŵr yn rhagweithiol i greu capasiti storio ychwanegol fod yn ffordd effeithiol o gynnal llif llifogydd yn ystod glaw trwm a ragwelir. 

8.4.7 Newidiadau i ymgynghori cynllunio a chategoreiddio tomenni – anfanteision isel, addasu meddal

O dan y fframwaith ymgynghori cynllunio presennol, mae'r Awdurdod Glo sy'n masnachu o dan yr enw Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (MRA) yn ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio penodol o fewn y polygonau meysydd glo diffiniedig. Fodd bynnag, mae ganddo gylch gwaith penodol sy'n canolbwyntio ar risgiau cloddio am lo isarwyneb yn unig a allai effeithio ar sefydlogrwydd y datblygu arfaethedig neu’r defnydd tir. Nid yw hyn yn cynnwys nac yn ystyried datblygu a allai effeithio ar domenni glo nas defnyddir.

Efallai y bydd gan awdurdodau lleol rywfaint o ymwybyddiaeth o'r effaith bosibl y gall datblygu ei chael ar ddiogelwch tomenni glo ond nid oes proses ddiffiniedig gyson ar gyfer ystyried datblygiadau a allai effeithio'n andwyol ar sefydlogrwydd, mynediad neu fonitro safleoedd tomenni cyfagos. Er mwyn osgoi achos mwyaf ataliadwy ansefydlogrwydd llethrau - tynnu deunydd o'r droed[31], mae angen i gynllunwyr fod yn ymwybodol o beryglon datblygu yn agos at domenni glo nas defnyddir.

Ar hyn o bryd dosbarthir tomenni glo nas defnyddir i gategorïau A i D, yn seiliedig ar ystod o ffactorau risg. Os yw datblygu arfaethedig yn cynyddu aramlygiad cymunedau neu seilwaith i domen, dylid adolygu a diweddaru ei dosbarthiad i adlewyrchu'r risg uwch. Yn yr un modd, os yw'r defnydd tir uwchben y domen yn newid yn y fath fodd mae’n cynyddu pa mor agored y mae’r safle i broblemau sefydlogrwydd llethrau, dylid adolygu categori’r safle.

10. Argymhelliad

Pan grëir yr Awdurdod Tomenni nas Defnyddir, dylai fod yn ymgynghorai ar gyfer pob datblygu o fewn ardal ddiffiniedig lle mae tomenni yn bresennol. 

Diben

Byddai hyn yn galluogi'r awdurdod i wneud sylwadau ar gynigion a sicrhau nad yw unrhyw ddatblygu yn y dyfodol yn effeithio ar swyddogaeth, mynediad neu sefydlogrwydd tomen nas defnyddir.

Cam Gweithredu

Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru

8.4.8 Proses ymgeisio am gyllid grant – dim anfanteision, addasu meddal

Rhaid i'r holl ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â cheisiadau am gyllid tomenni glo gyfeirio'n benodol at wydnwch rhag newid yn yr hinsawdd. Fel rhan o'r broses gymeradwyo, dylai pob cynnig gynnwys asesiad o ba mor agored y mae’r safle i newid yn yr hinsawdd nawr ac yn y dyfodol ac amlinellu mesurau posibl i leihau risgiau cysylltiedig. Cofnod wedi’i ddogfennu o'r holl opsiynau lliniaru a ystyriwyd, ynghyd â chrynodeb o'r rhai a ddiystyriwyd a'r sail resymegol dros beidio â’u cynnwys. Hefyd, dylid ond rhoi cyllid os yw’r ymgeisydd yn gallu dangos na fyddai unrhyw faterion diogelwch heb eu datrys o unrhyw adroddiad blaenorol arolygu’r domen.

11. Argymhelliad

Dylai pob tomen sydd wedi'i rhestru ar y gofrestr ar hyn o bryd fod yn destun adolygiad cyfnodol er mwyn sicrhau bod y categori risg a neilltuwyd iddi yn parhau i fod yn gywir ac yn briodol. Fel rhan o'r broses hon, dylai fod mecanwaith ffurfiol i asesu a yw unrhyw newidiadau, megis addasiadau i lethrau gorifyny neu ddatblygu i lawr yr afon, wedi newid pa mor agored i niwed y mae’r domen neu ei haramlygiad. Gellid integreiddio’r asesu hwn i ffurflen arolygu rheolaidd y domen neu ei gynnal fel adolygiad pen desg ar wahân.

Diben

Sicrhau bod pob tomen yn cael ei harolygu yn unol ag amodau presennol y safle a'r risgiau cysylltiedig.

Cam Gweithredu

Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru / Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru

12. Argymhelliad

Dylid newid y ffurflen safonol i ymgeiswyr wneud cais am gyllid grant i gynnwys ystyriaeth o newid yn yr hinsawdd a chydymffurfio ag argymhellion arolygu mandadol. Dylai hyn gynnwys trosolwg o unrhyw fesurau addasu sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a gynigir ac amlinellu pa rai eraill a ystyriwyd ac a ddiystyriwyd.

Diben

Sicrhau bod ystyriaethau newid yn yr hinsawdd yn cael eu cofnodi a'u gwerthuso a bod mynd i’r afael â materion diogelwch heb eu datrys.

Cam Gweithredu

Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru
 

8.4.9 Amserlennu arolygiadau Categori C – dim anfanteision, addasu meddal

O dan y trefniant arolygu presennol, mae tomenni Categori D, y rhai sydd â'r sgôr risg uchaf, yn cael eu harolygu ddwywaith y flwyddyn. Mae hyn yn galluogi gweithwyr profiadol i asesu'r safle yn ystod dau dymor gwahanol, gan helpu i nodi newidiadau sy'n cael eu dylanwadu gan dywydd tymhorol. Mae arolygiad yn ystod y gaeaf neu’n gynnar yn y gwanwyn yn caniatáu gwell gwelededd oherwydd llai o lystyfiant ac yn cofnodi amodau yn dilyn glawiad sydd fel arfer yn uwch ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Gall ymweliad yn ystod yr haf neu ar ddechrau'r hydref ddatgelu arwyddion o dysychu, effeithiau tywydd cynhesach megis ymddygiad gwrthgymdeithasol, a llifoedd dŵr sy'n gysylltiedig â tharddellau a allai fod wedi'u cuddio yn ystod misoedd gwlypach. 

Yn ogystal ag arsylwi safle’r domen nas defnyddir ar draws tymhorau gwahanol, mae arolygiadau hefyd yn rhoi cyfle i asesu llethrau gorifyny, llethrau goriwaered a'r tir cyfagos am ffactorau a allai ddylanwadu ar reoli neu ddiogelwch tomen. Gall y rhain gynnwys newid defnydd tir megis plannu neu gwympo neu gyfleoedd ecolegol neu gymdeithasol sy’n dod i’r amlwg y gellid manteisio arnynt i gefnogi gwydnwch y safle a darparu buddion lleol, megis gwell bioamrywiaeth, mynediad i'r gymuned, neu ddefnydd addysgol. 

Arolygir tomenni categori C unwaith y flwyddyn. Os bydd yr arolygiad blynyddol hwn yn digwydd ar yr un adeg bob blwyddyn, efallai y bydd yn colli cyfnodau pan fydd y safle yn fwyaf agored i effeithiau sy'n gysylltiedig â'r tywydd. Gallai hyn hefyd gyfyngu ar gyfleoedd i nodi manteision neu welliannau lleol posibl.

13. Argymhelliad

Trefnu arolygiadau tomenni Categori C ar wahanol adegau bob blwyddyn i gynnwys misoedd gwahanol. Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod arolygiadau yn cofnodi amrywiadau tymhorol, megis cyfnodau sych a gwlyb a chyfnodau pan fydd llai o orchudd llystyfiant.

Diben

Lleihau'r risg o golli gwendidau neu gyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r tywydd er budd lleol.

Cam Gweithredu

Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru / Awdurdod Tomenni nas Defnyddir

9. Gweithredu, cyfathrebu, gwerthuso ac adrodd ar fesurau

Mae gwerthuso a monitro addasu i newid yn yr hinsawdd yn hanfodol i sicrhau bod ymdrechion addasu yn effeithiol, yn ymatebol ac yn gynaliadwy dros amser. Maent yn helpu i fesur a yw camau gweithredu'n cyflawni eu nodau arfaethedig, megis lleihau bregusrwydd neu gynyddu gwydnwch, ac yn darparu data hanfodol i lywio gwneud penderfyniadau ac addasu strategaethau wrth i amodau esblygu. Mae monitro hefyd yn sicrhau atebolrwydd, yn cefnogi dysgu o brofiadau'r gorffennol, ac yn caniatáu ymatebion hyblyg i risgiau hinsawdd sy'n dod i'r amlwg. Mae'r camau allweddol yn y broses hon yn cynnwys diffinio amcanion clir a dangosyddion mesuradwy, sefydlu data llinell sylfaen, datblygu cynllun monitro strwythuredig, casglu a dadansoddi data perthnasol, gwerthuso canlyniadau, cyfathrebu canfyddiadau i randdeiliaid, a defnyddio'r mewnwelediadau a gafwyd i fireinio a gwella strategaethau addasu. Mae'r cylch parhaus hwn o asesu ac addasu yn hanfodol i feithrin gwydnwch hirdymor rhag yr hinsawdd.

Dylid annog yn weithredol rhannu llwyddiannau a heriau mesurau addasu ymhlith perchnogion tomenni ac awdurdodau arolygu. Mae cofnodi gwersi a ddysgwyd yn hanfodol i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu hadolygu, eu diweddaru a'u rhannu yn rheolaidd.

O ystyried y bu cyfeirio penodol at domenni glo nas defnyddir yn CCRA3, mae'n debygol y bydd gofyn am adroddiadau cynnydd i lywio a diweddaru'r broses ar gyfer iteriadau o’r asesu yn y dyfodol.

10. Cyfleoedd

Disgwylir i newid yn yr hinsawdd gynyddu cymhlethdod rheoli tomenni glo, ond mae hefyd yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer defnydd tir mwy cynaliadwy a gwydn. Gall strategaethau lliniaru ac addasu weithio law yn llaw, er enghraifft, gall gwlyptiroedd newydd storio carbon a lleihau'r risg o lifogydd, a gall coed a phlanhigion eraill helpu i sefydlogi llethrau ac amsugno carbon deuocsid. Mae tir a reolir er gwydnwch rhag yr hinsawdd yn aml yn cyflwyno manteision ar y cyd lluosog, gan gyd-fynd â nodau megis gwelliannau bioamrywiaeth, dad-ddofi tir, adfer natur, a mynediad at fannau gwyrdd i’r cyhoedd. Gallai'r dulliau hyn gefnogi adfer cynefinoedd, gwella gwasanaethau ecosystemau, a gwella iechyd a llesiant y cyhoedd. Gallai gosod systemau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cynhyrchu ffotofoltaidd hefyd fod yn briodol mewn rhai achosion wrth ystyried y defnydd tir yn y dyfodol.

Yn ddiweddar, mae'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (MRA) wedi comisiynu arolygon ecolegol ar draws ei bortffolio o domenni nas defnyddir i sefydlu llinell sylfaen ar gyfer darpariaeth natur. Bydd cynlluniau rheoli safle yn cael eu datblygu i gynyddu gwerth ecolegol yn weithredol, gydag arolygon dilynol wedi'u trefnu i fonitro cynnydd yn erbyn targedau diffiniedig.

Un o'r heriau allweddol wrth gyflwyno manteision ehangach yn ystod gwaith ar domenni glo nas defnyddir yw'r lle cyfyngedig sydd ar gael fel arfer. Mewn llawer o achosion, mae perchnogaeth tir yn ymestyn dim ond ychydig y tu hwnt i'r domen ei hun, gan adael ond ychydig o le i weithredu gwelliannau a ddymunir. Er enghraifft, er bod pyllau gwanhau yn cynnig sawl mantais, megis creu cynefinoedd ecolegol, storio dŵr llifogydd dros dro, a gwella’r dirwedd, yn aml nid oes digon o le iddynt o fewn ffiniau presennol y safle.

Weithiau, gall ymdrechion i reoli dŵr glaw yn effeithlon ar domenni nas defnyddir fod yn groes i bolisïau’r dalgylch ehangach, megis systemau draenio cynaliadwy (SDCau). Nod yr ymdrechion hyn yw arafu llif y dŵr i leihau'r risg o lifogydd trefol yn ystod glaw eithafol. Yng Nghymru, rhaid i ddatblygiadau penodol gydymffurfio â gofynion Corff Cymeradwyo SDCau (SAB), sy'n goruchwylio safonau draenio.  

14. Argymhelliad

Dylid cynnal trafodaethau gyda phenderfynwyr SAB i archwilio a oes modd lleoli nodweddion cadw llifogydd y tu allan i ffin llinell goch cynlluniau gwella tomenni, ar yr amod eu bod yn aros o fewn yr un dalgylch ac ymhellach i fyny o ardaloedd perygl llifogydd hysbys.

Diben

Pe ganiateir y dull hwn yn rheolaidd, gallai alluogi darpariaeth oddi ar y safle sy'n cefnogi defnydd tir aml-fudd—o bosibl yn cyflawni rhai o'r canlyniadau iechyd, llesiant ac amgylcheddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Byddai hyn yn arbennig o effeithiol os gellid defnyddio cyllid o sawl ffynhonnell, gan gynnwys cronfa diogelwch tomenni glo.

Cam Gweithredu

Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru

Gall cydweithio amlasiantaeth sy'n cynnwys awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau preifat, a'r sector elusennol ddatgloi manteision trawsbynciol. Gydag ymdrech gydgysylltiedig, gellid ailbwrpasu parseli o dir nas defnyddir ar hyn o bryd neu dir rhwymedigaeth a'u hintegreiddio i ddarparu'r storio llifogydd oddi ar y safle sy'n ofynnol i wrthbwyso'r gwelliannau draenio a wnaed o fewn ffin y domen. Gyda digon o dir, gallai fod yn bosibl sefydlu coetir gwlyb, creu mannau gwyrdd cymunedol cysylltiedig, a datblygu coridorau bywyd gwyllt. Gallai'r dull hwn hefyd fod yn addas ar gyfer gwireddu'r manteision bioamrywiaeth sy’n ofynnol wrth ymgymryd â gwaith datblygu[62]. 

Mae tystiolaeth gref bod mynediad at fannau gwyrdd o safon yn gwella canlyniadau iechyd a llesiant65, ac mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru raglenni a phartneriaethau i hyrwyddo gwell darpariaeth yn enwedig ar gyfer cymunedau trefol sydd dan anfantais 

Oherwydd bod hen gymunedau meysydd glo yng Nghymru yn aml wedi'u lleoli mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol[63], mae potensial sylweddol i ddarparu manteision ehangach drwy wella tomenni glo nas defnyddir. Mae sefydliadau sefydledig eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau cyllid a chyflwyno gwelliannau sy'n cefnogi canlyniadau amgylcheddol ac i’r gymuned[64],[65]. Mae ymgysylltu cynnar a chyson â chymunedau yn hanfodol i gyflawni buddion ystyrlon a pharhaol. Mae cynnwys pobl leol o'r cychwyn cyntaf yn helpu i feithrin ymddiriedaeth, yn sicrhau perthnasedd, ac yn meithrin perchnogaeth a chynaliadwyedd hirdymor prosiectau[66].

11. Casgliadau

Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yng Nghymru yn dwysáu, gyda chynnydd mewn amlder a difrifoldeb digwyddiadau tywydd eithafol yn creu heriau ychwanegol wrth reoli tomenni glo nas defnyddir. Mae'r adeileddau etifeddol hyn yn gofyn am strategaethau addasu wedi'u targedu oherwydd eu perchnogaeth amrywiol, arferion rheoli, ac aramlygiad i beryglon hinsawdd. Fodd bynnag, mae ymdrechion i gynyddu gwydnwch yn cael eu rhwystro gan fylchau data parhaus ac anghysondebau wrth fonitro, yn enwedig ar draws safleoedd sy’n eiddo preifat. Er bod fframweithiau polisi a llywodraethiant yn esblygu, yn fwyaf nodedig trwy'r Awdurdod Tomenni nas Defnyddir arfaethedig, mae integreiddio ystyriaethau hinsawdd ymhellach wrth reoli tomenni nas defnyddir, cynllunio a goruchwylio yn y dyfodol yn hanfodol. O ystyried nodweddion topograffig a daearegol unigryw pob tomen, rhaid i fesurau addasu fod yn safle-benodol, gan gyfuno dulliau meddal a chaled. Yn bwysig, mae addasu i'r hinsawdd hefyd yn cyflwyno cyfleoedd am fanteision ar y cyd, gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, defnydd tir cynaliadwy, a gwell ymgysylltu â'r cyhoedd.

12. Camau Nesaf

Mae'r camau nesaf yn cynnwys cyfrifoldeb deuol. Mae'n hanfodol i’r awdurdodau perthnasol ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r bygythiadau cyfansawdd sy'n wynebu tomenni glo nas defnyddir o newid yn yr hinsawdd trwy gyflawni'r argymhellion ysgrifenedig a chymharu risgiau sy'n dod i'r amlwg yn systematig yn erbyn amodau llinell sylfaen sefydledig. Bydd hyn yn helpu i nodi lle mae newid yn yr hinsawdd yn newid amlder, dwyster neu natur peryglon.

Ar yr un pryd, anogir perchnogion tomenni i adolygu ac uwchraddio eu hasedau yn rhagweithiol trwy asesu'r opsiynau addasu a gyflwynir yn y tabl cysylltiedig. Bydd y mesurau hyn yn cefnogi rheoli mwy gwydn o safleoedd ac yn sicrhau bod polisi ac ymarfer yn esblygu yn unol â'r dirwedd hinsawdd sy'n newid.

13. Atodiadau

Atodiad A – Polisi a deddfwriaeth

Mae tirwedd polisi newid hinsawdd a chraffu’r DU yn cynnwys ystod o gyfranogwyr allweddol, ac mae gan bob un ohonynt rôl benodol wrth lunio, gweithredu a gwerthuso gweithredu ar newid hinsawdd. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) wrth wraidd y fframwaith hwn, corff statudol annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008. Mae'r CCC yn cynghori Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar dargedau allyriadau ac yn adrodd i Senedd y Deyrnas Unedig ar gynnydd o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae'n cynnwys yr Is-bwyllgor Addasu, sy'n craffu'n benodol ar strategaethau addasu'r llywodraeth. Mae'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) yn arwain ar bolisi lliniaru rhag yr hinsawdd, ac mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn goruchwylio ymdrechion addasu. Mae Senedd y Deyrnas Unedig hefyd yn chwarae rôl hanfodol trwy bwyllgorau dethol, sy'n archwilio perfformiad y llywodraeth ac yn ei dal yn atebol. 

Mae Cymru wedi datblygu set benodol o bolisïau a deddfwriaeth newid hinsawdd o fewn fframwaith ymrwymiadau ehangach y DU, yn enwedig ers Deddf Newid Hinsawdd 2008. Mae’r polisïau a'r camau deddfwriaethol allweddol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd ac sy'n benodol i Gymru fel a ganlyn:

  1. Deddf Newid Hinsawdd 2008 (y DU gyfan, ac yn berthnasol i Gymru)

    •    Mae Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol targed sero net y DU erbyn 2050.
    •    Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol pennu cyllidebau carbon ac adrodd yn rheolaidd, ac mae Cymru'n cyfrannu at hyn drwy bwerau datganoledig 
     
  2. Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

    •    Conglfaen deddfwriaeth newid hinsawdd Cymru.
    •    Cyflwynodd ddyletswydd gyfreithiol i Weinidogion Cymru leihau allyriadau 80% o leiaf erbyn 2050 (o lefelau 1990).
    •    Galluogodd bennu cyllidebau carbon a thargedau interim.
    •    Sefydlodd y Polisi Adnoddau Naturiol ac egwyddor rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR) 
     
  3. Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2 (2021–2025)

    •    Mae’n nodi sut y bydd Cymru yn bodloni ei hail gyllideb garbon.
    •    Mae’n canolbwyntio ar y canlynol:
          •    Datgarboneiddio trafnidiaeth a thai
          •    Hybu ynni adnewyddadwy
          •    Atebion sy'n seiliedig ar natur
          •    Sgiliau a swyddi gwyrdd
     
  4. Cynllun Ymaddasu Cymru i Newid yn yr Hinsawdd

    •    Yn seiliedig ar Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd y DU.
    •    Ei nod yw meithrin gwydnwch mewn sectorau megis iechyd, seilwaith, amaethyddiaeth, a bioamrywiaeth.
     
  5. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

    •    Nid yw'n benodol i'r hinsawdd ond mae’n hynod ddylanwadol.
    •    Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried cynaliadwyedd hirdymor a gwydnwch rhag yr hinsawdd wrth wneud penderfyniadau.
    •    Cyflwynodd rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
     
  6. Gweithredu ar Newid Hinsawdd (2023–2025)

    •    Platfform polisi ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
    •    Mae’n hyrwyddo gweithredu cymunedol, addysg, a newid ymddygiad i gefnogi nodau sero net 

Polisi Newid Hinsawdd yn y DU

  1. Deddf Newid Hinsawdd 2008 (Diwygiwyd yn 2019)

    •    Gosododd darged cyfreithiol rwymol yn wreiddiol i leihau allyriadau 80% erbyn 2050 (o lefelau 1990).
    •    Diwygiwyd yn 2019 i ymrwymo'r DU i allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050 - yr economi fawr gyntaf i wneud hynny
     
  2. Cyllidebau Carbon

    •    Cyflwynodd y Ddeddf gyllidebau carbon pum mlynedd, terfynau cyfreithiol rwymol ar gyfanswm y nwyon tŷ gwydr y gall y DU ei allyrru.
    •    Erbyn 2025, mae'r DU yn ei chweched cyfnod cyllideb garbon (2033–2037), sy'n cynnwys allyriadau o hedfan a morgludiant rhyngwladol am y tro cyntaf 
     
  3. Strategaeth Twf Glân (2017)

    •    Ei nod oedd datgarboneiddio economi'r DU wrth hyrwyddo twf economaidd gan ganolbwyntio ar feysydd megis effeithlonrwydd ynni, cludiant carbon isel, ac ynni adnewyddadwy.
     
  4. Deddf yr Amgylchedd 2021

    •    Cyflwynodd dargedau cyfreithiol rwymol ar ansawdd aer, dŵr, bioamrywiaeth a gwastraff.
    •    Sefydlodd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd (OEP) i ddal y llywodraeth yn atebol ar faterion amgylcheddol.
     
  5. Cynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd (2020) – 

    •    Amlinellodd £12 biliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth mewn meysydd sy’n cynnwys Ynni gwynt alltraeth, Cynhyrchu hydrogen, Cerbydau trydan, Dal a storio carbon a Chyllid gwyrdd.
     
  6. Strategaeth Sero Net: Ail-godi’n Wyrddach (2021)

    •    Roedd yn cynnwys manylion ar sut y byddai'r DU yn cyrraedd ei tharged sero net erbyn 2050 ac yn cynnwys cynlluniau sector-benodol ar gyfer pŵer, adeiladau, trafnidiaeth, diwydiant, ac adnoddau naturiol.
     
  7. Strategaeth Diogeledd Ynni (2022)

    •    Ymateb i anwadalrwydd y farchnad ynni fyd-eang gyda phwyslais ar ynni niwclear, ynni gwynt alltraeth, a bod yn annibynnol o ran ynni

Atodiad B – Mathau o lawiad

Gellir dosbarthu glawiad yn fras i ddau brif fath: glawiad darfudol a glawiad ffrynt (neu seiclonig), gyda’r ddau yn deillio o brosesau atmosfferig gwahanol. Mae glawiad darfudol yn digwydd yn bennaf mewn rhanbarthau trofannol ac yn ystod prynhawniau cynnes yr haf mewn cylchfaoedd tymherus. Mae'n cychwyn gyda gwresogi solar dwys wyneb y Ddaear, sy'n achosi i'r aer uwchben godi'n gyflym. Wrth i'r aer cynnes, llaith hwn godi, mae'n oeri ac yn cyddwyso i ffurfio cymylau cwmwlonimbws, sydd yn aml yn arwain at ddigwyddiadau dyodiad byrhoedlog ond dwys, yn aml ynghyd â stormydd mellt a tharanau. Mewn cyferbyniad, mae glawiad ffrynt yn nodweddiadol o ranbarthau lledredau canol lle mae aergyrff cyferbyniol yn cydgyfeirio. Pan fydd aergorff cynnes yn cwrdd ag un oerach, gorfodir i’r aer cynnes ysgafnach godi dros yr aer oer dwysach, gan arwain at oeri a chyddwyso graddol. Mae'r broses hon yn ffurfio gorchudd cwmwl eang ei wasgariad, o gymylau stratus neu nimbostratus fel arfer, ac yn cynhyrchu dyodiad sy'n fwy estynedig ac yn llai dwys na glawiad darfudol. Mae glawiad ffrynt yn gyffredin yn gysylltiedig â systemau gwasgedd isel a ffryntiau tywydd, a gall effeithio ar ardaloedd daearyddol mawr dros gyfnodau estynedig. Mae deall y mecanweithiau hyn yn hanfodol ar gyfer dehongli patrymau tywydd rhanbarthol a rhagweld effeithiau hydrolegol.
 

Atodiad C - UKCP18

Mae Amcanestyniadau Hinsawdd y DU 2018 (UKCP18) yn darparu set gynhwysfawr a gwyddonol gadarn o amcanestyniadau hinsawdd a ddatblygwyd gan Swyddfa Dywydd y DU i gefnogi cynllunio addasu cenedlaethol a rhanbarthol. Gan adeiladu ar amcanestyniadau UKCP09 cynharach, mae UKCP18 yn ymgorffori data modelu’r hinsawdd ac arsylwadol wedi'i ddiweddaru, gan gynnwys mewnbwn o orsafoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Swyddfa Dywydd ledled Cymru, i gyflwyno amcanestyniadau cydraniad uchel ar gyfer amgylcheddau tir a morol. Mae'r amcanestyniadau hyn yn cwmpasu ystod eang o newidynnau hinsawdd megis tymheredd, glawiad, lleithder, gorchudd cwmwl, a chynnydd yn lefel y môr[67]. Mae UKCP18 yn cynnwys setiau data byd-eang, Ewropeaidd a DU benodol, gyda model cydraniad 2.2 km arbennig o fanwl ar gyfer dadansoddi lleol yn y DU. Mae'r amcanestyniadau yn seiliedig ar sawl senario allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan ganiatáu i ddefnyddwyr archwilio sawl dyfodol gwahanol posibl yn dibynnu ar ymdrechion lliniaru byd-eang. Mae’r amserlenni yn ymestyn trwy gydol yr 21ain ganrif, gydag amcanestyniadau o gynnydd yn lefel y môr yn mynd mor bell â 2300. Defnyddir UKCP18 yn helaeth gan asiantaethau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, cynllunwyr seilwaith, ac ymchwilwyr i asesu risgiau hinsawdd a llywio strategaethau addasu, gan gynnwys Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd y DU (CCRA) a'r Rhaglen Addasu Genedlaethol (NAP). Mae'r data a'r offer ar gael i'r cyhoedd trwy wefan UKCP, gan gynnig mapiau, graffiau a setiau data y gellir eu lawrlwytho i gefnogi gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth[68].

Mae sawl ffordd o gael mynediad at ddata sy'n deillio o amcanestyniadau hinsawdd UKCP18. Er bod gwybodaeth am senarios allyriadau yn y dyfodol ar gael trwy wahanol blatfformau ar-lein, mae'n bwysig nodi bod y rhan fwyaf o'r ffynonellau hyn yn seiliedig ar yr un setiau data UKCP18 sylfaenol. Mae'r platfform UKCP18 ei hun yn cynnig ystod o gynhyrchion y mae modd eu defnyddio i gynhyrchu amcanestyniadau wedi'u teilwra ar gyfer lleoliadau penodol neu ardaloedd o ddiddordeb. Er enghraifft, mae modd creu amcanestyniadau pwrpasol o gynnydd yn lefel y môr ar gyfer lleoliad harbwr penodol. Mae'r model hinsawdd cydraniad uchel 2.2 km yn arbennig o werthfawr ar gyfer asesu amodau hinsawdd yn y dyfodol mewn amgylcheddau trefol. Yn ogystal, mae cynnyrch 'Eithafion' UKCP18 yn darparu amcanestyniadau ar gyfer uchafswm ac isafswm tymheredd a gwerthoedd glawiad eithafol ar draws y pedwar tymor meteorolegol, o dan wahanol senarios allyriadau. Fodd bynnag, dylid nodi bod yr amcanestyniadau hyn yn seiliedig ar sgwariau grid 25 km, a all arwain at werthoedd glawiad sy'n ymddangos yn is o'u cymharu â mesuriadau pwyntiau o fedryddion glaw unigol. Mae'r plot isod yn dangos gwerth canolrifol cymharol isel o 73mm. Bu’r gwerth yn uwch na hyn yn rheolaidd ar fedryddion glaw unigol yn ystod y stormydd diweddar a enwyd.

Image
Graff yn dangos rhagolwg glawiad o UKCP18

Atodiad D - Addasu i newid yn yr hinsawdd ac asesu

Mae ISO 14090:2019 yn safon ryngwladol sy'n sefydlu fframwaith i sefydliadau integreiddio addasu i newid yn yr hinsawdd yn systematig i'w llywodraethiant, strategaethau a'u gweithgareddau gweithredol. Fel y ddogfen sylfaenol mewn cyfres o safonau ISO ar addasu i newid yn yr hinsawdd, mae wedi'i chynllunio i fod yn berthnasol yn gyffredinol, waeth beth yw maint, sector neu leoliad daearyddol sefydliad. Mae'r safon yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin gwydnwch trwy nodi risgiau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a'u hymgorffori mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Mae'n amlinellu dull strwythuredig sy'n cynnwys asesu effeithiau hinsawdd, cynllunio mesurau addasu priodol, a gweithredu mecanweithiau ar gyfer monitro a gwella parhaus. Trwy hyrwyddo strategaethau rhagweithiol a blaengar, mae ISO 14090:2019 yn cefnogi sefydliadau i wella eu gallu i addasu a’u cynaliadwyedd hirdymor yn wyneb amrywioldeb a newid hinsawdd.

ISO14091

  1. Cyn cynllunio
  2. Asesu newid yn yr hinsawdd
  3. Cynllunio ar gyfer addasu
  4. Gweithredu
  5. Monitro a gwerthuso
  6. Adrodd a chyfathrebu

8 cam asesu addasu

  1. Nodi peryglon hinsawdd presennol ac yn y dyfodol
  2. Llunio rhestr sefydliad a asedau
  3. Nodweddu'r risg o newid yn yr hinsawdd ar seilwaith
  4. Datblygu strategaethau addasu cychwynnol
  5. Nodi cyfleoedd ar gyfer cydgysylltu
  6. Cysylltu strategaethau â chylchoedd cyllaf ac adsefydlu
  7. Paratoi a gweithredu cynlluniau addasu
  8. Monitro ac ailasesu

Mae'r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n gysylltiedig â'r Hinsawdd (TCFD) ac ISO 14090 yn defnyddio dulliau cyflenwol ond gwahanol o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd o fewn sefydliadau. Mae TCFD yn canolbwyntio'n bennaf ar helpu cwmnïau i ddatgelu risgiau a chyfleoedd ariannol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd i randdeiliaid, yn enwedig buddsoddwyr a rheoleiddwyr. Mae wedi'i strwythuro o amgylch pedwar piler allweddol - llywodraethiant, strategaeth, rheoli risg, a metrigau a thargedau - ac mae'n pwysleisio defnyddio dadansoddi senarios i asesu gwydnwch ariannol dros orwelion tymor byr, canolig a hirdymor. Mewn cyferbyniad, mae ISO 14090 yn safon ryngwladol sydd wedi'i chynllunio i arwain sefydliadau wrth gynllunio a gweithredu strategaethau addasu i newid yn yr hinsawdd. Mae'n ddull sy’n canolbwyntio mwy ar gamau gweithredu, wedi'i strwythuro o amgylch deall cyd-destun, cynllunio addasu, a rhoi camau gweithredu ar waith i feithrin gwydnwch hirdymor rhag yr hinsawdd. Er bod TCFD yn cael ei yrru gan ddatgelu ac yn fwyfwy mandadol mewn rhai awdurdodaethau, mae ISO 14090 yn fframwaith gwirfoddol sy'n cefnogi addasu gweithredol. Yn y bôn, mae TCFD yn helpu sefydliadau i adrodd sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eu cyllid, ac mae ISO 14090 yn eu helpu i baratoi ar gyfer yr effeithiau hynny ac addasu iddynt.

Cyfeiriadau

1.  What is climate change? - Y Swyddfa Dywydd

2. Living better with a changing climate (publishing.service.gov.uk)

3. Europe is not prepared for rapidly growing climate risks | Tudalen gartref Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd

4. Koe, A, Murphy, W, Parry, S, Daykin, A, Smith, J, Hart, A B, Battye, Natural slopes and landslides – condition, assessment and mitigation S CIRIA C807 © CIRIA 2023

5. D5.7 Landslides and Coal Tips | Iechyd Cyhoeddus Cymru

6. Lingfeng He et al  Modelling the Control of Groundwater on the Development of Colliery Spoil Tip Failures in Wales. 2024

7. Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Ddiogelwch Tomenni glo (11 Chwefror 2021) | LLYW. CYMRU

8. Datganiad polisi glo [HTML] | LLYW. CYMRU

9. Diogelwch tomenni glo | LLYW. CYMRU

10. Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru 2024 | LLYW.CYMRU

11. Deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a achoswyd gan orffennol glofaol Cymru | LLYW. CYMRU

12. Y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) | LLYW. CYMRU

13 Rheoleiddio diogelwch tomenni glo yng Nghymru – Comisiwn y Gyfraith

14. Cyflwr Hinsawdd y DU - Y Swyddfa Dywydd

15. Wales: climate | Met Office

16. Coalfield H. J. Siddle, 1 M. D. Wright, 2 J. N. Hutchinson Rapid failures of colliery spoil heaps in the South Wales 3 Quarterly Journal of Engineering Geology and Hydrogeology, 1996 

17. Archif CEDA

18. Lefelau afonydd, glawiad a data môr

19. TUK Climate Risk Independent Assessment (CCRA3) Technical Report | UKCLIMATERISK.ORG

20. Evidence for the third UK Climate Change Risk Assessment (CCRA3) Summary for Wales | UKCLIMATERISK.ORG

21. Cynnydd o ran addasu i newid yn yr hinsawdd: Adroddiad 2025 i Senedd y DU - Pwyllgor Newid Hinsawdd

22. Adroddiad Technegol Asesiad Annibynnol Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd (CCRA4-IA) - Y Swyddfa Dywydd

23.  UKCLIMATERISK.ORG

24. Archwiliwch Hinsawdd eich Awdurdod Lleol

25. SPF City Pack editable template | METOFFICE.GOV.UK

26. 2023: Pioneering analysis projects extreme rainfall in UK | Cabot Institute for the Environment | Prifysgol Bryste

27. Quasi‐Stationary Intense Rainstorms Spread Across Europe Under Climate Change

28. Storms called Cut-off Lows are a Growing Climate Threat | Global Climate Risks

29. Nowcasting - Y Swyddfa Dywydd

30. IPCC — Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd

31. Practice, G.W, Handbook on the design of tip and related structures, DofE. HMSO 1991

32. RMW Musson. The Seismicity of Wales British Geological Survey  2005 Core.ac.uk

33. Landslides and rainfall | BGS.AC.UK

34. Effeithiau newid yn yr hinsawdd - Y Swyddfa Dywydd

35. Yuan-Chien Lin et al Strong wind is one of the important factors that trigger landslides,. 2025

36. Al-Ameeri, The effect of climate change on durability of existing concrete structures - Prifysgol Brighton, 2019

37. How does climate change affect heatwaves? | Grantham Institute – Climate Change and the Environment | Coleg Imperial Llundain 2023

38. Climate change made severe UK fires in 2022 six times more likely - Y Swyddfa Dywydd

39. Cyfoeth Naturiol Cymru / Canlyniadau dinistriol tanau gwyllt yng Nghymru

40. Parry, D a Chiverrell. Abandoned mine workings manual. CIRIA 2019

41. Rein, Guillermo. Gohebiaeth e-bost bersonol. Coleg Imperial Llundain. 2025

42. Sea level rise and coastal erosion: what’s the real impact? - Arolwg Daearegol Prydain

43. Weather and behaviour | BPS

44. North Atlantic tipping point

45. Could the UK actually get colder with global warming? - Newyddion BBC

46. How does climate change affect thunderstorms? | Y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol

47. Y Swyddfa Dywydd (2024): MIDAS Open: UK daily rainfall data, v202407. NERC EDS Centre for Environmental Data Analysis, 06 Awst 2024.

48. Taflen ffeithiau newid hinsawdd: Newid yn yr hinsawdd a risgiau

49. Climate change in Wales - climatic variability and drought sensitivity - Forest Research

50. Fila.D, Funfgeld.H, Dahlmann.H Climate change adaptation with limited resources: adaptive capacity and action in small- and medium-sized municipalities. Yr Amgylchedd, Datblygu a Chynaliadwyedd. 2023

51. Pecyn cymorth addasu i'r hinsawdd a generadur risg

52. Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru

53. Good practice guide for managing climate change and extreme weather in land development: effective management of geo-based risks (C824D)

54. Cyhoeddiadau CIRIA rhad ac am ddim

55. AI-trained CCTV in rivers can spot blockages and reduce floods

56. Coedwigaeth ac Adnoddau Dŵr - Forest Research

57. Guidance for the use of silvicultural systems to increase woodland diversity

58. Regenerative forestry | SOILASSOCIATION.ORG

59. Addasu coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru i newid yn yr hinsawdd - canfyddiadau ac argymhellion - Forest Research

60. Asesiad Perygl Tirlithriad Dyddiol - Arolwg Daearegol Prydain.

61. Safonau cenedlaethol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy (SuDS) | GOV.WALES

62. Budd Net i Fioamrywiaeth | Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

63. Championing nature for a healthy future – Public Health Wales’ Biodiversity Action Plan 2024-2027

64. Former coal mining communities have less faith in politics than other 'left behind' areas | Prifysgol Caergrawnt

65. Coalfields Regeneration Trust

66. What works: Community engagement and empowerment to address health inequalities  - Health Equity Evidence Centre

67. UK Climate Projections (UKCP18) guidance and reports | Met Office

68. Gwefan UKCP