Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Gabalfa Youth and Community Centre, Cardiff Youth Service

Gan weithio’n agos gyda busnesau, ysgolion a phartneriaid cymunedol y trydydd sector lleol, mae Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Gabalfa wedi trawsnewid darpariaeth gwaith ieuenctid yng ngogledd Caerdydd. 

Crëwyd mannau arloesol fel stiwdio gerddoriaeth, ystafell ddigidol a gardd les, yn ogystal â chyfleoedd menter dan arweiniad pobl ifanc, gan gynnwys y prosiect ‘Unify Gabalfa Interchange’, a aeth ati i ailgynllunio ac ailwampio llwybr tanffordd lleol, gan ei droi’n ofod diogel a bywiog sy’n meithrin balchder cymunedol. 

Mae dull partneriaeth y Ganolfan nid yn unig wedi arwain at welliannau i gyfleusterau, ond hefyd wedi cryfhau balchder cymunedol, cynhwysiant a chynaliadwyedd hirdymor.

Roedd y beirniaid yn teimlo bod y prosiect hwn yn dangos sut y gall cynllunio partneriaethau yn fwriadol gael effaith hirdymor ac ystyrlon i bobl ifanc a chymunedau fel ei gilydd.

Mae Prif Swyddog Ieuenctid, James Healan, wedi myfyrio:

Mae Canolfan Ieuenctid Gabalfa wedi gosod ei hun yng nghanol y gymuned, gan ei galluogi i ddod yn ofod diogel i bobl ifanc. Mae cydweithio yn rhan greiddiol o’n dull o weithredu. Mae hyn wedi rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a galluoedd sydd wedi gwella eu dealltwriaeth o'r byd gwaith.