Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Gwasanaeth Ieuenctid YEPS, Rhondda Cynon Taf

Mae Gwasanaeth Ieuenctid YEPS Rhondda Cynon Taf, mewn partneriaeth â RealSkillz, wedi cyrraedd y rhestr fer am yr effaith drawsnewidiol mae’n ei chael ar bobl ifanc ledled Rhondda Cynon Taf. 

Datblygodd y partneriaid dri chynllun adfer cymunedol sydd wedi creu llwybrau ystyrlon i gyflogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith ar uned dai gwarchod, adnewyddu gwesty adfeiliedig mewn partneriaeth â rhaglen Homes Under the Hammer y BBC, a gwelliannau i ysgol gynradd leol. Gyda chefnogaeth y gwasanaeth ieuenctid, cafodd pobl ifanc brofiad ymarferol o waith adeiladu wrth wella mannau cymunedol.

Enillodd cyfranogwyr achrediadau a gydnabyddir gan y diwydiant wrth ddysgu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu a chyfrifoldeb trwy heriau bywyd go iawn. Fe wnaeth effaith weladwy eu gwaith mewn cymunedau atgyfnerthu eu gwerth a’u potensial, gan helpu llawer o bobl ifanc i ailgydio mewn cyfleoedd dysgu a gyrfaoedd ar gyfer y dyfodol.

Canmolodd y beirniaid effaith y prosiect o ran codi dyheadau a rhoi hyder, gwydnwch ac uchelgais i bobl ifanc.