Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mind Our Future Gwent, ProMo Cymru and Mind in Gwent

Mae Mind Our Future Gwent yn gweithio gyda phobl ifanc i gyd-gynhyrchu dulliau o ddarparu cymorth iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan ProMo Cymru a Mind yng Ngwent, gan weithio mewn partneriaeth â GIG Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phum gwasanaeth ieuenctid yr awdurdod lleol yng Ngwent, ond mae hefyd wedi dylanwadu ar arferion ledled y wlad.

Mae’r bobl ifanc a gyflogir gan y prosiect yn cael eu cefnogi gan eu gweithwyr ieuenctid i ddylunio a darparu datrysiadau iechyd meddwl ystyrlon ar gyfer eu cyfoedion, wrth ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth. Mae’r prosiect yn gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl ymatebol perthnasol ac yn creu llwybrau parhaol i bobl ifanc ddylanwadu ar systemau, meithrin gwydnwch ac ysgogi newid cadarnhaol yn eu cymunedau.

Roedd y beirniaid o’r farn bod y prosiect yn esiampl wych sy’n dangos pŵer partneriaeth a lleisiau pobl ifanc, ac sy’n gosod meincnod o ran sut y gall cydweithio ysgogi gwelliannau parhaol mewn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru.

Dywedodd un o’r bobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect:

“Rydw i wedi teimlo fy mod yn cael fy ngrymuso ar bob cam o’r prosiect... y rhan a gafodd fwyaf o effaith oedd cael y cyfrifoldeb a’r asiantaeth i weithredu newid go iawn.”