Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

My Things Matter, National Youth Advocacy Service (NYAS) Cymru

Mae NYAS Cymru, mewn partneriaeth â phob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, wedi cyflawni newid go iawn ym mhrofiad pobl ifanc mewn gofal o symud cartref ledled Cymru. 

Cafodd y prosiect My Things Matter ei gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a’i nod oedd rhoi terfyn ar y defnydd o fagiau bin wrth symud eiddo – arfer sy’n tanseilio urddas a hunan-werth. Mae’r fenter wedi ysgogi newid go iawn, gan gyfrannu at drawsnewidiad cenedlaethol lle mae’r arfer hon bellach wedi’i gwahardd. 

Trwy gydweithio â phartneriaid fel Madlug, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol ac awdurdodau lleol ledled Cymru, mae miloedd o fagiau teithio wedi’u dosbarthu i bobl ifanc ledled Cymru. Mae’r prosiect wedi cryfhau ymhellach y cydweithio ledled y sector, gan atgyfnerthu lleisiau pobl ifanc ar draws y sector gwaith ieuenctid ac ymgorffori eu profiadau ar lefel genedlaethol. Yn ei hanfod, mae My Things Matter yn seiliedig ar egwyddorion gwaith ieuenctid, gan rymuso pobl ifanc i lunio agendâu, dylanwadu ar benderfyniadau ac ysgogi newid ystyrlon a pharhaol.

Canmolodd y beirniaid y ffordd y cafodd y prosiect ei gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a sut y gwnaeth partneriaethau droi lleisiau yn weithredoedd, gan ysgogi ymrwymiad i urddas, parch a phrofiadau gwell o ofal ledled Cymru.