Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Anglesey Youth Service and Cardiff Youth Service

Mae gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol Ynys Môn a Caerdydd wedi defnyddio ‘Penderfyniadau Rhithwir’ – profiadau realiti rhithwir ymdrochol a hynod ddiddorol – i helpu pobl ifanc ac oedolion i ddeall sut mae trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn siapio ymddygiad, ac i gefnogi pobl ifanc i archwilio canlyniadau ymddygiadau mewn amgylchedd diogel a chefnogol. 

Yn y ddau achos, mae’r dechnoleg hefyd wedi cael ei defnyddio i roi’r wybodaeth, yr empathi a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gydweithwyr ym meysydd addysg, iechyd a phlismona i nodi ac ymateb yn fwy effeithiol i ymddygiad sy’n gysylltiedig â thrawma. 

Canmolodd y beirniaid y ddau brosiect fel enghreifftiau pwerus o arloesi digidol ym maes gwaith ieuenctid sy’n helpu pobl ifanc ledled Caerdydd ac Ynys Môn i wneud penderfyniadau am eu dyfodol gyda hyder ac ar sail gwybodaeth.