Cynllun Profi, Menter Gorllewin Sir Gâr
Teilyngwr
Mae cynllun Profi Menter Gorllewin Sir Gâr yn defnyddio platfform digidol dwyieithog i ddarparu addysg anffurfiol, grymuso pobl ifanc, a’u cefnogi i fynd ati i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a’u llwybrau ar gyfer y dyfodol. Mae’r prosiect yn cefnogi pobl ifanc sy’n dechrau yn y byd gwaith ac yn eu hannog i gydnabod gwerth defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Y brif uchelgais yw hyrwyddo’r Gymraeg fel sgìl pwerus, bob dydd, gan rymuso pobl ifanc i gydnabod gwerth eu sgiliau Cymraeg i ddatgloi cyfleoedd lleol a chreu gyrfaoedd yn y dyfodol mewn cymunedau dwyieithog ffyniannus.
Roedd y beirniaid o’r farn bod y platfform yn annog cyfrifoldeb personol ac yn meithrin sgiliau hunanreoli, a bod y dull digidol yn galluogi cyfranogiad eang, gan chwalu rhwystrau daearyddol a chymdeithasol.
