Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Fforwm Ieuenctid Spectrwm – y Gwasanaeth Ymgysylltu ag Ieuenctid ac Annog Cyfranogiad (YEPS)

Mae Spectrwm yn fforwm niwroamrywiol dan arweiniad ieuenctid sy’n dod â phobl ifanc niwrowahanol rhwng 12 a 24 oed at ei gilydd i rannu eu profiadau bywyd, hyrwyddo niwrogynhwysiant ac archwilio ffyrdd o wella lles pobl ifanc niwrowahanol. Mae’r fforwm yn cael ei arwain yn gyfan gwbl gan bobl ifanc gyda chefnogaeth tri gweithiwr ieuenctid niwrowahanol. 

Tynnodd y beirniaid sylw at effaith prosiectau diweddar fel yr animeiddiad ‘Just One Thing’ a gyd-gynhyrchwyd gan aelodau o Spectrwm mewn ymateb i’w profiadau bywyd o gael eu hallgáu a’u camddeall. Mae’r animeiddiad yn cael ei ddefnyddio i addysgu gweithwyr proffesiynol, gwella dealltwriaeth o niwrowahaniaeth a sbarduno arferion mwy cynhwysol, seiliedig ar wybodaeth. 

Fel rhan o’r ymdrechion i wneud lleoliadau gwaith ieuenctid yn fwy hygyrch, mae aelodau Spectrwm hefyd wedi datblygu blychau synhwyraidd sy’n darparu adnoddau ymarferol i helpu pobl ifanc i reoleiddio eu hemosiynau, lleihau gorbryder, a gwella canolbwyntio mewn amgylcheddau prysur neu anghyfarwydd. 

Drwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Mental Health Matters, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a gwasanaeth Llyfrgell RhCT, mae Spectrwm yn hyrwyddo dealltwriaeth o niwroamrywiaeth yn y gymuned wrth gryfhau hyder, lles a chysylltiad ymhlith ei aelodau.