Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Young Persons Advisory Group, National Youth Advocacy Service (NYAS) Cymru

Mae Grŵp Cynghori Pobl Ifanc NYAS Cymru yn grymuso pobl ifanc â phrofiad o ofal ledled Cymru i lunio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Gyda chefnogaeth gweithwyr ieuenctid NYAS, mae’r bobl ifanc yn y grŵp wedi dylanwadu ar drafodaethau polisi gyda Llywodraeth Cymru, wedi cyfrannu at sgyrsiau am gyfiawnder ieuenctid a diwygio gofal, ac wedi herio’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion fel cydnabod profiad mewn gofal fel nodwedd warchodedig. 

Mae’r grŵp yn cael effaith ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae eu lleisiau wedi cael eu clywed mewn digwyddiadau proffil uchel, gan gynnwys hystings cenedlaethol ac ymgysylltu rhyngwladol yng Ngenefa, lle gwnaethant archwilio fframweithiau hawliau dynol a chryfhau eu heiriolaeth.

Mae’r grŵp hefyd wedi arwain newid ymarferol – creu mannau newydd ar gyfer ieuenctid i bobl ifanc digwmni sy’n ceisio lloches, datblygu partneriaethau â gwasanaethau lleol, a dathlu cyflawni trwy wobrau dan arweiniad pobl ifanc. 

Roedd y beirniaid o’r farn bod y Grŵp wedi helpu i gynyddu ymwybyddiaeth, herio gwahaniaethu a chyfrannu at system gofal fwy teg yng Nghymru, sef un lle mae profiadau pobl ifanc â phrofiad o ofal yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi.