Annette Harrison, Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg
Teilyngwr
Mae Annette Harrison yn uwch weithiwr ymgysylltu â ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg. Mae hi’n arweinydd rhagorol ac mae ei gweledigaeth a’i hymroddiad wedi trawsnewid gwaith ieuenctid awyr agored ar draws yr awdurdod lleol. Mae Annette yn fwriadol yn codi lleisiau pobl ifanc a staff, gan greu diwylliant lle mae pobl yn gwrando ar syniadau a’u rhoi ar waith. Mae’r dull cyfranogol hwn yn adeiladu hyder, perchnogaeth ac arloesedd ar draws ei thîm a’i rhaglenni.
Mae Annette yn batrwm o broffesiynoldeb a gwydnwch, gan ysbrydoli cydweithwyr a phobl ifanc a chreu amgylchedd lle mae arloesedd yn ffynnu. Mae’r arddull arweinyddiaeth hwn sy’n grymuso eraill wedi adfywio morâl y tîm ac wedi gwella canlyniadau ar draws y gwasanaeth. Mae ei harweinyddiaeth wedi arwain at ehangu mentrau fel Gwobr Dug Caeredin, y rhaglen gymunedol ‘gofod cynnes’ a phrosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau fel rhaglen ‘Hive Guys’ yr awdurdod lleol sydd wedi helpu i feithrin cyfeillgarwch rhwng cenedlaethau ac wedi grymuso pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithgar a chyfranwyr cadarnhaol i’w cymunedau.
Trwy arweinyddiaeth gynhwysol, tosturiol a strategol, mae Annette yn parhau i ysbrydoli timau, helpu pobl ifanc i ddeall eu cyfrifoldebau o fewn cymdeithas ac i wireddu eu potensial.
