Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Nazrul Islam

Mae Nazrul Islam yn weithiwr ieuenctid rhagorol sydd wedi trawsnewid bywydau pobl ifanc ar draws Casnewydd. Trwy ei waith gydag EYST Cymru a sefydliad Bengal Dragons, mae Nazrul yn creu mannau diogel a chroesawgar lle gall pobl ifanc gael mynediad at gymorth, arweiniad a chyfleoedd cadarnhaol. O sesiynau galw heibio a mentora i brosiectau chwaraeon ac ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, mae ei waith yn mynd i’r afael â materion fel gwahardd o’r ysgol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a diffyg cyfleoedd – gan helpu pobl ifanc i feithrin eu hyder, sgiliau a dyheadau.

Mae effaith Nazrul yng Nghasnewydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau traddodiadol ei rôl. Mae ei waith nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd yn bersonol iawn, wedi’i wreiddio yn ei ymrwymiad i’r bobl ifanc, y teuluoedd a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae pobl ifanc, rhieni, ysgolion a gwasanaethau statudol yn ymddiried yn eang yn Nazrul, sy’n gweithredu fel cyswllt hanfodol rhwng cymunedau a systemau cymorth, gan bontio bylchau na all eraill eu llenwi. Mae llawer o deuluoedd yn ei ystyried fel rhywun y gallant ddibynnu arno pan fyddant mewn angen. Mae’n fwy na gweithiwr ieuenctid – mae’n fentor, yn gyfryngwr, yn eiriolwr ac yn fodel rôl. 
Trwy ymroddiad, tosturi, dealltwriaeth ddiwylliannol, ac ymrwymiad diwyro i’r bobl ifanc, mae effaith Nazrul yn uniongyrchol ac yn hirhoedlog; mae’n adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn trwy rymuso’r genhedlaeth nesaf gyda sgiliau, hyder a dyheadau.

Fel y rhannodd un person ifanc:

“Wnaeth Nazrul ddim fy meirniadu na gwneud imi deimlo’n wael, fe wnaeth wrando a rhoi o’i amser. Bob wythnos byddai’n cwrdd â mi, weithiau drwy bêl-droed, weithiau dim ond i siarad. Yn araf, fe wnaeth imi sylweddoli nad oeddwn i angen gangiau i berthyn, ac y gallwn i wneud rhywbeth cadarnhaol gyda fy mywyd. Oni bai am Naz, dwi ddim yn meddwl y byddwn i lle rydw i heddiw.”