Matt Mullender, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy
Teilyngwr
Mae effaith Matt Mullender ar draws de Conwy yn bellgyrhaeddol, yn enwedig i bobl ifanc sy’n wynebu ynysu gwledig, mynediad cyfyngedig at wasanaethau, a heriau o ran llesiant. Trwy allgymorth hyblyg, mae Matt yn sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai na fyddent fel arall yn ymwneud â gwaith ieuenctid.
Aeth Matt ymlaen o fod yn brentis i fod yn ffigwr allweddol yn y gwasanaeth ieuenctid. Mae ei ffordd gydweithredol o weithio wrth galon yr effaith a gaiff. Mae’n gweithio gydag ysgolion, Urdd Gobaith Cymru, y Clwb Ffermwyr Ifanc lleol ac asiantaethau lleol eraill i ddarparu cyfleoedd hygyrch, cyfrwng Cymraeg a diwylliannol berthnasol, gan ddod â phobl ifanc at ei gilydd a chryfhau cysylltiadau cymunedol.
Mae ei raglenni hefyd yn cyflawni canlyniadau diriaethol. Mae prosiectau fel “Games and Grub” a “Field to Fork Project” wedi helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd ymarferol fel coginio, maetheg a thyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, tra hefyd yn cefnogi teuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw.
Roedd y beirniaid yn teimlo bod gallu Matt i feithrin perthynas dda a chreu cyfleoedd lle mae eu hangen fwyaf yn ei wneud yn deilwng o gyrraedd y rownd derfynol.
Rhannodd gweithiwr ieuenctid ei brofiadau o weithio gyda Matt:
“Mae ei waith, ei gynllunio a’i ymroddiad diflino i Wasanaeth Ieuenctid Conwy wir yn haeddu canmoliaeth ac yn dangos yn yr effaith gadarnhaol a’r berthynas sydd ganddo gyda’r bobl ifanc. Mae ei ymrwymiad a’i angerdd dros y gwasanaeth ieuenctid yn ysbrydoliaeth go iawn.”
