Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Tal Davies, Community House Youth Project

Ymunodd Tal â Phrosiect Ieuenctid Community House yng Nghasnewydd ar leoliad gwaith ond mae wedi parhau i gefnogi’r prosiect fel gwirfoddolwr. Mae hi wedi dod yn aelod amhrisiadwy o’r tîm, gan fynd y filltir ychwanegol i greu cyfleoedd cynhwysol a diddorol i bawb a dod ag egni, empathi a phroffesiynoldeb i bopeth y mae’n ei wneud. 

Mae cynllunio meddylgar Tal yn golygu ei bod yn ymateb yn effeithiol i anghenion esblygol pobl ifanc. Ymhlith yr uchafbwyntiau y mae ei gwaith ar ysbrydoli hyder trwy ddawns yng Ngŵyl Maindee, cyd-gyflwyno sesiynau ysgol ar bwysau gan gyfoedion i dros 250 o bobl ifanc a datblygu podlediad a arweinir gan bobl ifanc i roi mwy o lais iddynt. 

Roedd y beirniaid yn teimlo bod Tal yn wirfoddolwr ysbrydoledig ac yn fodel rôl a oedd wedi creu mannau diogel a chroesawgar lle’r oedd pobl ifanc yn gallu archwilio eu diddordebau a theimlo’n hyderus i roi cynnig ar bethau newydd. Mae ei chyfraniad eisoes wedi arwain at newid mawr yn hyder y bobl ifanc sy’n mynychu’r ganolfan. 

Dywedodd un o’r bobl ifanc sy’n mynychu’n rheolaidd:

“Mae Tal yn sylwi pan fydd pobl ar eu pennau eu hunain neu’n edrych yn anghyfforddus. Bydd hi bob amser yn mynd at bobl i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn a’u bod nhw’n teimlo bod croeso iddyn nhw.”